Neidio i'r prif gynnwy

Mewn llai na mis, ni fydd darparwyr newydd cartrefi plant, gwasanaethau maethu a llety diogel yn gallu gwneud elw yng Nghymru mwyach, gan ei gwneud y genedl gyntaf yn y DU i roi’r cam hollbwysig hwn ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar hyn o bryd, mae rhai cartrefi gofal plant a gwasanaethau maethu yng Nghymru yn cael eu rhedeg gan gwmnïau sy’n gwneud elw. Mae hynny’n golygu y gall arian cyhoeddus ddiweddu yn nwylo cyfranddalwyr yn hytrach na chael ei wario ar y plant y mae arnynt ei angen fwyaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu elw’n raddol o wasanaethau gofal cymdeithasol plant, yn benodol cartrefi plant, gwasanaethau maethu a llety diogel, a hynny yn rhan o’i gwaith diwygio ehangach o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.

O 1 Ebrill ymlaen, bydd rhaid i bob darparwr newydd o’r gwasanaethau hyn yng Nghymru fod yn ddarparwr nid-er-elw. Mae hyn yn golygu y bydd pob punt sy’n cael ei wario ar y gofal y mae darparwyr yn ei ddarparu yn cyfrannu’n uniongyrchol at helpu’r plant hynny.

Mae newidiadau yn cael eu cyflwyno mewn modd graddol a gofalus i sicrhau nad yw'r broses yn amharu ar ofal plant unigol.

Yn y dyfodol, dim ond y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau nid-er-elw a fydd yn darparu gofal i blant sy’n derbyn gofal.

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn goruchwylio cydymffurfiaeth ac mae ganddi’r pŵer i weithredu os caiff rheolau eu torri.

Gall sefydliadau sy’n dymuno trosglwyddo i fodel nid-er-elw gael cymorth wedi’i deilwra ac yn rhad ac am ddim gan Cwmpas, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Plant sy’n derbyn gofal yw rhai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Maen nhw’n haeddu gofal sy’n canolbwyntio'n llwyr ar eu hanghenion.

Mae’r newidiadau rydyn ni’n eu rhoi ar waith yn golygu, pan fyddwn ni’n buddsoddi mewn gofal plant, bod yr arian hwnnw’n aros lle ddylai fod er budd y plant hynny. Rwy’n falch bod Cymru’n arwain y ffordd ar hyn.