Gwerthusiad ffurfiannol o weithrediad ffordd yr A40 a ariennir gan ERDF (crynodeb)
Gwerthusiad ffurfiannol o gyflawniad a chanlyniadau priffordd newydd ar yr A40, a gefnogwyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Sicrhawyd cyllid ERDF gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Weithredol (OP) ERDF Gorllewin Cymru a’r Cymoedd 2014-20) [troednodyn 1] i gyflawni gwelliannau i ddwy ffordd brifwythiennol yng Nghymru: yr A55 a’r A40. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwerthusiad ffurfiannol o briffordd newydd ar yr A40 o Landdewi Felffre i Benblewin a Chroesffordd Maencoch yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru.
Mae’r rhesymeg strategol ar gyfer buddsoddiad ERDF wedi’i nodi yn yr OP. Mae hwn yn cynnwys amcan i fuddsoddi yn y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) [troednodyn 2]. Economaidd yw’r rhesymeg buddsoddi craidd a nodir yn yr OP ac mae’n dweud y dylai buddsoddiadau fod â’r nod o liniaru ymyloldeb a dangos eu bod yn mynd i’r afael â thagfeydd o ran mynediad at gyflogaeth neu ddatgloi cyfleoedd ar gyfer twf economaidd rhanbarthol [troednodyn 3]. Disgwylir i weithrediadau hefyd wneud cyfraniad cadarnhaol at opsiynau teithio cynaliadwy, gan gynnwys trwy ddarparu llwybrau beicio, llwybrau troed ac ati yn ogystal â’r briffordd well.
Mae cynllun Gwelliannau Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch wedi’i leoli rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd. Mae’n cynnwys adeiladu 4.3km o briffordd newydd i’r gogledd o bentref Llanddewi Felffre ac 1.8km o welliannau rhwng Croesffordd Maencoch a Chylchfan Penblewin. Bydd y gweithrediad hwn yn rhoi cyfanswm o 6.1km o briffordd well, gan gynnwys cyfleoedd goddiweddyd ychwanegol i wella dibynadwyedd teithiau a diogelwch ar y ffordd.
Cafodd cyfanswm costau gweithrediad yr A40 Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch eu hailbroffilio rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2023. Cyfanswm costau cymeradwy’r prosiect oedd £52.884m, yn cynnwys £45.462m o gyllid ERDF a £7.421m gan Lywodraeth Cymru. Cyfanswm costau cymwys y prosiect oedd £52.290m, yn cynnwys £45.462m o gyllid ERDF a £6.828m gan Lywodraeth Cymru. Roedd y ffigurau diwygiedig yn cynrychioli cyfradd ymyrraeth o 86.94%.
Diffiniodd y Rhaglen Weithredol gyfres o ddangosyddion canlyniad ac allbwn y disgwylid i weithrediadau a ariennir gan ERDF eu cyflawni. Yn achos gweithrediad Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch, roedd y rhain:
- dangosydd Canlyniad ERDF oedd cynnydd gan 5-10% mewn cyflymder cyfartalog ar hyd yr A40 (o gyfartaledd llinell sylfaen newydd o 41mya yn 2016 [troednodyn 4])
- dangosyddion Allbwn ERDF oedd:
- cyfanswm hyd ffordd wedi’i hailadeiladu neu ei huwchraddio (gan gynnwys TEN-T): 6.1km
- llwybr troed neu lwybr beicio wedi’i greu neu ail-adeiladu: 1km
Rhaid i bob gweithrediad a ariennir drwy ERDF hefyd integreiddio cyfres o Themâu Trawsbynciol (CCT) yn ei ddyluniad a’i gyflawniad, sy’n gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae’r rhain yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, trechu tlodi a chynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd, a’r Gymraeg.
Methodoleg
Defnyddiodd y gwerthusiad ddull cymysg. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad pen desg o ddogfennau polisi a strategaeth, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a dadansoddiad data monitro rhaglenni. Roedd y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy yn cynnwys cynrychiolwyr o’r timau cyflawni prosiect (22), cynrychiolwyr rhanbarthol o Lywodraeth Cymru (6), cynrychiolwyr awdurdod lleol (9), a sefydliadau cymunedol a busnes (11).
Canfyddiadau allweddol
Asesiad o gydweddiad strategol parhaus
Er gwaethaf newidiadau i’r cyd-destun polisi ers datblygu’r cynllun, yn enwedig mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, mae gweithrediad yr A40 Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch yn parhau i gyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd rhanbarthol a’r seilwaith trafnidiaeth presennol drwy fuddsoddiad i gefnogi datblygiad economaidd a lles gwell. Er y bu newid sylweddol, yn genedlaethol ac yn lleol, mewn blaenoriaethau o ran nodau a thargedau carbon isel ac amgylcheddol, roedd ymgyngoreion strategol o Lywodraeth Cymru o’r farn bod y gweithrediad yn dal yn berthnasol ac roedd yn gefnogol i’r nodau hyn. Yn benodol, roedd gan y gweithrediad uchelgais i warchod bioamrywiaeth a hyrwyddo teithio llesol.
Asesiad o drefniadau rheoli a monitro prosiect
Teimlwyd bod y trefniadau rheoli prosiect yn effeithiol ac yn gweithio’n dda. Roedd hyn oherwydd gwybodaeth a phrofiad tîm cyflawni’r prosiect, llif gwybodaeth effeithiol a’r trefniadau partneriaeth gyda rhanddeiliaid lleol.
Roedd y systemau monitro ar lefel cyflawni prosiectau yn gadarn, a rhoddwyd digon o wybodaeth i Lywodraeth Cymru i alluogi rheolaeth a throsolwg effeithiol. Mae adroddiadau monitro i WEFO wedi bod yn gynhwysfawr gyda deialog rheolaidd yn cael ei sefydlu rhwng Is-adran Cyflenwi Seilwaith Llywodraeth Cymru a WEFO a’r tîm cyflawni ehangach.
Ar y cyfan, roedd adborth gan ymgyngoreion lleol yn gadarnhaol o ran lefel y cyfathrebu ac ymgysylltu ar y gweithrediad, yn enwedig yn ymwneud â rôl y Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd.
Themâu Trawsbynciol
Roedd cynnydd da wedi’i wneud yn erbyn y themâu trawsbynciol gan fod yr holl ddangosyddion lefel achos CCT ar gyfer y gweithrediad hwn wedi’u cyflawni. Cymerwyd ystod eang o gamau gweithredu yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, buddion cymunedol a theithio llesol ymhlith eraill, a ragorodd ar y targedau gwreiddiol. Mae hyn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd a roddir i’r CCT yn y Rhaglen Weithredol a’r achos busnes ac ymrwymiad y contractwr a’r tîm prosiect.
O ran gwreiddio’r themâu trawsbynciol mewn prosiectau yn y dyfodol, y prif awgrym oedd sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y dogfennau tendro a chontract er mwyn sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o’r gofynion yn gynnar.
Cynnydd yn erbyn allbynnau a chanlyniadau
Ers i gynllun gwella’r A40 gael ei gymeradwyo ar gyfer cyllid ERDF, mae’r gweithrediad wedi profi oedi sylweddol sydd wedi golygu bod dyddiad cwblhau’r gweithrediad wedi’i symud yn ôl i hydref 2024. Arweiniodd yr oedi hwn at ddiwygiadau yn y gwaith sy’n gymwys ar gyfer cyllid ERDF. Erbyn adeg y gwerthusiad ffurfiannol, roedd un o ddangosyddion allbwn ERDF wedi’i gyflawni (1km o droedffordd/llwybr beicio) tra bod yr allbynnau eraill wedi’u cyflawni’n rhannol. Roedd hyn yn cynnwys 4.5km o ffordd wedi’i hailadeiladu neu ei huwchraddio, a disgwylir i’r gweddill gael ei hawlio ym mis Rhagfyr 2024.
O fis Ionawr 2024, mae’r cynllun wedi bod yn ‘anweithredol’, sy’n golygu na ellir hawlio rhagor o arian ERDF. Fodd bynnag, bydd gwaith ar y cynllun yn parhau, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, i wireddu buddsoddiad ERDF. Yn ogystal, er mwyn caniatáu i’r allbynnau llawn gael eu hadrodd i WEFO, mae’r gweithrediad wedi’i ymestyn i fis Rhagfyr 2024.
Ailbroffiliwyd cyfanswm costau gweithrediad cyfun yr A40 Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch rhwng mis Medi 2022 a mis Medi 2023. Cyfanswm costau cymwys y prosiect oedd £52.290m, yn cynnwys £45.462m o gyllid ERDF a £6.828m gan Lywodraeth Cymru. Erbyn diwedd Rhagfyr 2023, cyfanswm y gwariant cymwys oedd £50.899m, a oedd yn cynnwys £44.254m o grant ERDF ac £8.630m o arian cyfatebol Llywodraeth Cymru.
Roedd y canlyniadau ar gyfer gweithrediad yr A40 Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch yn ddibynnol ar gwblhau’r cynllun a chyfnod o fonitro ar ôl ei gwblhau, ac, oherwydd hyn, nid oedd tystiolaeth gadarn ar gael ar adeg y gwerthusiad ffurfiannol. Fodd bynnag, roedd ymgyngoreion o’r tîm cyflawni yn hyderus y byddent yn cael eu cyflawni maes o law. Rhagwelwyd nifer o ganlyniadau ehangach gan ymgyngoreion, gan gynnwys gwelliannau i ddibynadwyedd amseroedd teithiau, gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau, gwell profiad i ddefnyddwyr Teithio Llesol, a llai o wahanu cymunedol ymhlith eraill.
Asesiad gwerth am arian
Yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau, cynhyrchodd yr arfarniad economaidd a’r dadansoddiad cost a budd gymhareb budd a chost o 0.13 ar gyfer gwelliannau Llanddewi Felffre i Benblewin a chymhareb budd a chost o 0.27 ar gyfer gwelliannau Penblewin i Groesffordd Maencoch. Fodd bynnag, dylid nodi na ellir meintioli a nodi gwerth ariannol holl gostau a buddion y cynllun sy’n golygu bod ystod o effeithiau nad ydynt wedi’u cynnwys mewn arfarniad economaidd. O safbwynt ansoddol, roedd ymgyngoreion yn cytuno bod y cynllun yn cynnig gwerth cyhoeddus, yn fras. Roedd y rhesymau am hyn yn cynnwys y gwelliannau diogelwch a gwell ansawdd bywyd i drigolion Llanddewi Felffre.
Edrych ymlaen
Gan edrych i’r dyfodol, ni fydd unrhyw arian Ewropeaidd pellach ar gyfer cynlluniau ffyrdd oherwydd ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae canlyniad yr Adolygiad Ffyrdd yn awgrymu y bydd lefelau is o gyllid ar gyfer cynlluniau ffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae rhai canfyddiadau allweddol o’r adroddiad hwn a allai lywio prosiectau tebyg yn y dyfodol:
- roedd rôl Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd y contractwr yn werthfawr iawn o ran meithrin perthynas dda gyda thrigolion a busnesau lleol, ac wrth gyflawni buddion cymunedol fel rhan o’r prosiect
- cymerodd tîm cyflawni’r prosiect agwedd greadigol ac uchelgeisiol at gyflwyno’r CCT, gyda’u gweithredoedd yn rhagori ar y targedau gwreiddiol; er bod y CCT wedi’i integreiddio’n gryf i gyllid Ewropeaidd, maent yn berthnasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gellid mabwysiadu dull tebyg yn y dyfodol o ran eu gwreiddio yn y contract a sicrhau ymrwymiad i gyflawni yn eu herbyn gan y contractwr a’r tîm prosiect
- fe wnaeth hwyluso gweithdai cydweithredol gyda staff allweddol y tîm cyflawni ar ddechrau mis Ionawr 2023 helpu i hyrwyddo cydweithio ac arweiniodd at gynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar y cynllun; mae’n bosibl y byddai cynnal y gweithdai hyn yn gynharach yn y cynllun wedi annog mwy o gyfathrebu agored o’r cychwyn cyntaf
Troednodiadau
[1] Gorllewin Cymru a'r Cymoedd: rhaglen weithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014 i 2020 crynodeb
[2] Mae'r A40 yn llunio rhan o lwybr E30 TEN-T, sy’n ymestyn o Iwerddon i Rwsia.
[3] Gorllewin Cymru a'r Cymoedd: rhaglen weithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) 2014 i 2020 crynodeb
[4] Cyfrifwyd y llinell sylfaen wreiddiol gan ddefnyddio data Trafficmaster. Mae llinell sylfaen newydd wedi’i chyfrifo gan ddefnyddio data Inrix gan nad yw data Trafficmaster ar gael bellach. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn ym mhennod 7.
Manylion cyswllt
Awduron: SQW
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 39/2026
ISBN digidol 978-1-83745-120-3
