Mae dwy ysgol gynradd yng Nghasnewydd wedi derbyn paneli solar fel rhan o gyllid gwerth £9 miliwn ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus a lleihau biliau ynni.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Great British Energy, cwmni ynni cyhoeddus Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r cyllid yng Nghymru.
Mae Ysgol Gynradd Glan Llyn ac Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî wedi elwa ar gyllid o dan Raglen Ariannu Cymru.
Mae Ysgol Glan Llyn hefyd wedi derbyn cyllid gan gronfa Ynni Cymru Llywodraeth Cymru, ar gyfer storio batris, gan wneud y safle yn System Ynni Leol Glyfar weithredol. Mae'r systemau hyn yn helpu cymunedau i gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Disgwylir i Ysgol Parc Jiwbilî wneud arbedion carbon o tua deg tunnell o CO2e y flwyddyn. Rhagwelir y bydd Ysgol Glan Llyn yn lleihau ei hôl troed carbon tua 71 tunnell o CO2e y flwyddyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae gennyn ni darged ynni glân i sicrhau sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 a gwneud Cymru yn wyrddach, yn gryfach ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
"Bydd paneli solar ar y ddwy ysgol gynradd hyn yng Nghasnewydd yn lleihau costau a charbon, fel rhan o'n hymdrechion i drawsnewid ynni cymunedol yng Nghymru.
"Mae'r cyllid gan Great British Energy, a gweithredu gan Llywodraeth Cymru, yn dangos blaenoriaeth y DU a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau'r manteision mwyaf posibl i gymunedau."
Dywedodd y Gweinidog Ynni, Michael Shanks:
Mae Great British Energy yn helpu ysgolion yng Nghymru i leihau eu biliau ynni drwy bŵer solar glân, domestig – sy’n golygu bod mwy o arian ar gael i’w wario ar addysg plant.
“Dyma ein cenhadaeth ynni glân ar waith, yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus drwy filiau is i gymunedau yng Nghasnewydd ac ar draws y DU.”
Mae Rhaglen Ariannu Cymru, Llywodraeth Cymru yn cael ei gweinyddu gan Salix Finance.
Dywedodd rheolwr rhaglen Cymru ar gyfer Salix Finance, Gbenga Adenaike:
Mae rhoi paneli solar ar doeau ysgolion yn un o'r buddsoddiadau craffaf y gellir eu gwneud.
"Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Great British Energy, yn ogystal â ni yn Salix, gall ysgolion dorri eu biliau ynni, lleihau allyriadau carbon ac ail-fuddsoddi arbedion yn uniongyrchol i ddisgyblion ac ystafelloedd dosbarth."
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Gwastraff ac Ailgylchu yng Nghyngor Dinas Casnewydd:
Mae pob ceiniog yn cyfru i’n hysgolion, a bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iawn i’n hysgolion a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
“Mae paneli solar ar doeau ysgolion nid yn unig yn cynhyrchu ynni glân ac yn lleihau costau rhedeg, ond maent hefyd yn helpu ein plant i ddysgu am gynaliadwyedd a gweithredu ar newid hinsawdd.
“Mae hyn yn ymwneud â’r dyfodol, ac mae’r dyfodol yn ymwneud â nhw.”
