Heddiw (dydd Iau 12 Mawrth) mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth ddeng mlynedd nodedig ar atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i lansio strategaeth ddeng mlynedd ar y mater hwn.
Mae'r Strategaeth ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol 2026 i 2036, a gyhoeddir ar y cyd â chynllun cyflawni tair blynedd, yn dangos ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn plant a chefnogi'r rhai y mae'r math dinistriol hwn o gam-drin yn effeithio arnynt.
Mae'r strategaeth yn cyfleu gweledigaeth y dylai pob plentyn yng Nghymru allu byw yn rhydd o'r niwed sy'n deillio o gam-drin rhywiol, a bod pob person y mae'n effeithio arno'n cael ei amddiffyn a'i gefnogi drwy gydol ei oes. Mae wedi cael ei llunio ar y cyd ag oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr, yr NSPCC, y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, Barnardo's a Sefydliad Lucy Faithfull.
Amcangyfrifir bod 25,000 o blant a phobl ifanc yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob blwyddyn yng Nghymru. Gall cam-drin plant yn rhywiol achosi niwed difrifol a pharhaol, gan effeithio ar iechyd, hyder, perthnasoedd ac addysg person ynghyd â'i gyfleoedd yn y dyfodol. Effeithir hefyd ar deuluoedd, cymunedau a chymdeithas yn ei chyfanrwydd, nid dim ond y plentyn.
Mae'r strategaeth newydd yn arfer dull system gyfan, yn seiliedig ar 4 amcan allweddol:
- Atal cam-drin plant yn rhywiol: stopio cam-drin cyn iddo ddigwydd drwy godi ymwybyddiaeth ac addysgu am berthnasoedd iach.
- Amddiffyn plant pan fo pryderon: sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd yn gyflym ac yn effeithiol pan godir pryderon am ddiogelwch plentyn.
- Cefnogi plant a theuluoedd: darparu mynediad amserol at gwnsela, therapi a chefnogaeth i blant sydd wedi cael eu cam-drin, ynghyd â'u rhieni, eu gofalwyr a'u brodyr a chwiorydd.
- Cefnogi oedolion sy'n oroeswyr: darparu cymorth parhaus i oedolion a gafodd eu cam-drin yn blant, pryd bynnag y mae ei angen arnynt.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Mae cam-drin plant yn rhywiol yn ffiaidd. Gall ei effaith newid bywyd person, gan gael effaith hirhoedlog arno hyd yn oed ar ôl iddo dyfu'n oedolyn.
Mae'r strategaeth hon yn cynrychioli ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol ac mae dull system gyfan, gyda phawb yn gweithio gyda'i gilydd tuag at yr un nod, yn ganolog i gyflawni ein hamcanion.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r dioddefwyr-oroeswyr â phrofiad bywyd sydd wedi helpu i lunio'r gwaith hwn yn ddewr ac i sefydliadau sy'n darparu cymorth hanfodol. Bydd y lleisiau hyn yn parhau i'n harwain wrth inni gyflawni ein huchelgeisiau.
Mae'r strategaeth yn cydnabod bod cam-drin plant yn rhywiol yn digwydd mewn nifer o wahanol gyd-destunau, ar-lein ac all-lein, mewn teuluoedd, sefydliadau, grwpiau cyfoedion a chymunedau. Mae'n hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin, rolau a chyfrifoldebau clir, a rhannu gwybodaeth yn amserol ar draws yr holl sefydliadau dan sylw.
Bydd grwpiau cynghori ar gyfer plant a phobl ifanc, ac ar gyfer oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr, yn sicrhau bod profiad bywyd yn parhau i lywio’r gwaith cyflawni drwy gydol oes y strategaeth.
Mae'r cynllun cyflawni cysylltiedig yn nodi camau penodol i'w cymryd dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys ymgyrchoedd cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth, gwell hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, a gwasanaethau cymorth cryfach i'r rhai yr effeithir arnynt.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Mae ein gweledigaeth yn glir – atal cam-drin, amddiffyn plant, a chefnogi pawb yr effeithir arnynt. Drwy waith partneriaeth agos gallwn adeiladu Cymru fwy diogel i bob plentyn.
