Huw Irranca-Davies, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) (sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar reoleiddio trawsffiniol piblinellau dal a storio carbon (CCS) (dolen allanol). Mae hwn yn ymgynghoriad byr, technegol i symleiddio rheoleiddio ETS y DU o biblinellau CCS sy'n croesi i wahanol awdurdodaethau yn y DU. Mae'r holl opsiynau yn anelu at leihau baich rheoleiddio a chostau ar gyfer prosiectau CCS i gefnogi eu hyfywedd economaidd
Bydd Ymateb yr Awdurdod yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a chaiff ei gyhoeddi cyn gosod y ddeddfwriaeth a fydd yn deddfu ar unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r ymgynghoriad. Bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU, yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau.
Rwyf o'r farn bod ETS y DU yn parhau i fod yn ysgogiad polisi dylanwadol iawn ar gyfer cyflawni sero net yng Nghymru ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y cynllun yn cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio a'u mabwysiadu. Mae'r ymgynghoriad hwn yn allweddol i archwilio lle y gellir symleiddio rheoliadau a chefnogi hyfywedd economaidd CCS, sef yr unig opsiwn datgarboneiddio sydd ar gael ar hyn o bryd i rai diwydiannau.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am hyn.
