Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod yr SMS oedd cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa’r dirwedd sy’n cymryd camau i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur i wella gwytnwch ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau mewn ffordd sy’n sicrhau manteision i fusnesau fferm a chymunedau gwledig [troednodyn 1]. Darparodd yr SMS gymorth ariannol i 50 o brosiectau i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau a fyddai'n gwella'r ffordd y rheolir adnoddau naturiol Cymru a thrwy wneud hynny, cyfrannu at les cymunedau gwledig. Roedd y cynllun yn cynnig grantiau i grwpiau cydweithredol a oedd yn awyddus i: 

  • wella bioamrywiaeth
  • gwella seilwaith gwyrdd 
  • cynnal trefniadau gwell o ran rheoli tir a dŵr

hwyluso addasu i newid yn yr hinsawdd a lliniaru ei effaith ar raddfa'r dirwedd [troednodyn 2]

Cydweithiodd prosiectau SMS â nifer o bartneriaid ar lefel leol ac ar raddfa'r dirwedd i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac i wella gwytnwch ein hecosystemau [troednodyn 2].

Cyflawnir yr SMS o dan is-Fesur 16.5 Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (WG RC-RDP 2014-2020) a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw cefnogi camau gweithredu uniongyrchol ar reoli adnoddau naturiol ledled Cymru, fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn sail i'r SMS mae egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Nodau ac amcanion yr adolygiad

Penodwyd Ymchwil OB3, ar y cyd â Phartneriaeth BRO, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS).

Nod y gwerthusiad oedd adolygu sut y cyflawnodd yr SMS ei nodau craidd, sef cefnogi camau cydweithredol i wella adnoddau naturiol a helpu i sicrhau gwytnwch yr ecosystem ac asesu ei gyfraniad at gynnal manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau.

Bwriadwyd i'r gwerthusiad ymchwilio i bum amcan allweddol:

  • cyfatebiaeth y prosiectau a ariennir ag egwyddorion SMNR [troednodyn 3]
  • y ffordd y mae'r cynllun yn cael ei reoli a'i weithredu
  • natur a graddau'r cydweithio a'r hyn a gyflawnwyd yn sgil hynny
  • canlyniadau'r cynllun a chamau gweithredu ar y blaenoriaethau polisi
  • y cyfraniad y mae prosiectau wedi'i wneud at y themâu trawsbynciol a nodir yn Cymunedau Gwledig-Rhaglen Datblygu Gwledig, yn enwedig addasu i'r newid yn yr hinsawdd a lliniaru ei effaith

Roedd disgwyl hefyd i’r gwerthusiad adolygu rôl yr SMS o ran cyfrannu at y dystiolaeth ar gyfer darparu mecanweithiau cyllido amaeth-amgylcheddol newydd yn y dyfodol, ar ôl Brexit. 

Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mawrth 2023. Mae eisoes wedi cynnwys paratoi adroddiad Damcaniaeth Newid, adroddiad diweddaru blynyddol cyntaf ym mis Tachwedd 2020 ac ail adroddiad diweddaru blynyddol ym mis Tachwedd 2021. 

Paratowyd yr adroddiad gwerthuso terfynol hwn ym mis Mawrth 2023 fel gwerthusiad crynodol llawn o ganlyniadau ac effaith y cynllun.

Dull

Mae’r cam gwerthuso terfynol hwn wedi cynnwys:

  • cyfarfod cychwynnol 
  • adolygu dogfennau polisi a dogfennau deddfwriaethol perthnasol 
  • adolygu data monitro'r cynllun, yr adroddiadau cynnydd diweddaraf sydd ar gael ar gyfer pob prosiect 'byw' a'r adroddiadau gwerthuso ar lefel prosiect a ddaeth i law gan bedwar ar ddeg o brosiectau SMS a gwblhawyd
  • drafftio canllawiau trafod ar gyfer cyfweliadau â staff Llywodraeth Cymru, arweinwyr prosiectau a phartneriaid allweddol ar draws prosiectau SMS a ariannwyd yng Nghyfnodau 3-5 
  • datblygu arolwg ar-lein i Lywodraeth Cymru ei ddosbarthu i bob prosiect a ariannwyd gan SMS a dadansoddi 29 o ymatebion 
  • casglu barn 43 o arweinwyr prosiectau a phartneriaid allweddol ar draws 21 o brosiectau SMS a ariannwyd yng Nghyfnodau 3-5
  • cyfweld â thri aelod o Lywodraeth Cymru drwy Teams
  • cyfuno canfyddiadau'r adolygiad desg a'r gwaith maes 
  • paratoi adroddiad gwerthuso terfynol

Canfyddiadau allweddol

O ran cyfatebiaeth prosiectau â SMNR, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • ceir tystiolaeth gref bod prosiectau SMS wedi ystyried egwyddorion SMNR wrth ddylunio a gweithredu eu hymyriadau. Wrth ddadansoddi sut y gallai prosiectau unigol ddangos tystiolaeth o’u cyfraniad at y naw egwyddor SMNR allweddol, gellir dod i’r casgliad bod y cynllun SMS yn cyfateb yn dda â’r dull o reoli adnoddau naturiol ac ecosystemau a amlinellir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) wrth gyflawni canlyniadau prosiectau
  • ceir tystiolaeth gref bod dyluniad cynllun trosfwaol yr SMS wedi bod yn arbennig o lwyddiannus o ran galluogi cyfatebiaeth â rhai o egwyddorion penodol SMNR - mae prosiectau’n gweithio ar raddfa ehangach, yn cydweithio â phartneriaid newydd neu’n dwysáu eu hymgysylltiad â phartneriaid presennol ac yn meithrin mwy o wytnwch a meddwl yn y tymor hwy sy'n arwain at ystod ehangach o fanteision
  • mae rhai enghreifftiau neu rywfaint o dystiolaeth yn dod i'r amlwg hefyd ar gyfer yr egwyddorion SMNR sy'n weddill ac mae ffactorau allanol wedi effeithio ar allu prosiectau i ddangos cymaint o gynnydd yn erbyn rhai o'r rhain ag a fyddai wedi bod yn bosibl fel arall
  • gall mecanwaith cyflawni sy’n cyllido camau cydweithredol a phrosiectau tirwedd cydgysylltiedig neu weithgaredd grŵp fynd i’r afael yn llwyddiannus â’r heriau o gyflawni ar raddfa a chyflwyno camau gweithredu lluosog sy’n cyd-fynd ag egwyddorion SMNR

O ran rheoli a gweithredu'r cynllun, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • ar y cychwyn, nododd y cynllun SMS ei fwriad i sefydlu dull mwy cydweithredol o reoli'r rhaglen ac o safbwynt polisi, roedd y dyluniad yn gadarn. Fodd bynnag, dros gyfnod y gwerthusiad, mae'r prosiectau'n teimlo bod amlygrwydd tîm polisi Llywodraeth Cymru, a'u rhyngweithio ag ef, wedi lleihau, a disgrifiodd llawer o brosiectau sut y maent wedi cyflawni eu prosiectau heb fawr o gysylltiad uniongyrchol â thîm polisi Llywodraeth Cymru, os o gwbl. RPW oedd yn gyfrifol am weinyddu’r cynllun, ac felly mae’r rhan fwyaf o’r rhyngweithio â Llywodraeth Cymru wedi bod drwy RPW mewn perthynas â hawliadau a monitro. O ganlyniad, nid yw'r SMS wedi'i gyflawni na'i gynnal yn unol â'r bwriad gwreiddiol
  • gydag ychydig dros hanner dyraniad cyllid y cynllun wedi'i wario erbyn diwedd mis Rhagfyr 2022, a’r gofyniad i brosiectau a ariannwyd yn ystod cyfnodau 4 a 5 gael eu cyflawni o fewn amserlenni llawer byrrach, mae’r SMS yn parhau i fod mewn perygl o fethu â dyrannu cyfanswm ei gyllid yn llawn ac o danwario cyllid yr UE sydd ar gael o ganlyniad i hynny
  • yn ystod y gwerthusiad, mae prosiectau a ariannwyd ar draws pob cyfnod wedi codi pryderon a rhwystredigaethau difrifol ynghylch sut y mae problemau gweinyddol wedi effeithio ar eu gallu i gyflawni eu prosiectau yn unol â'r bwriad, a'r effaith negyddol y mae’r profiad o reoli prosiectau a ariennir gan SMS wedi’i chael ar les ac iechyd meddwl unigolion
  • lle mae prosiectau SMS wedi nodi eu bod wedi rhyngweithio ag aelod o dîm polisi'r SMS, mae hyn wedi bod yn gadarnhaol ac wedi cael ei groesawu, ond prin fu'r cyfleoedd hynny oherwydd adnoddau ar lefel y tîm polisi, ac mae hyn wedi dod yn fwyfwy perthnasol tuag at ddiwedd cyfnod cyllido'r cynllun. Nid yw'r prosiectau a ariannwyd gan yr SMS wedi dweud eu bod yn teimlo’n rhan o dîm mwy, eu bod yn deall beth mae prosiectau eraill yn ei wneud na sut y maent yn cyfrannu at flaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru
  • nid yw’r prosesau hawlio, monitro ac adrodd a fabwysiadwyd drwy RPW wedi bod yn addas nac yn briodol ar gyfer y cynllun SMS. Nid yw dyluniad a natur y cynllun, a'i fwriad i gyllido prosiectau cydweithredol unigryw o reidrwydd yn addas i gael eu monitro mewn modd gor-syml. Er bod allbynnau prosiectau'n cael eu cofnodi yn erbyn dangosyddion achos y Rhaglen Datblygu Gwledig, ni chaiff allbynnau ychwanegol a gyflawnir gan brosiectau eu casglu fel mater o drefn ac felly mae rhai cyflawniadau pwysig nad ydynt yn cael eu cofnodi
  • nid yw'r prosiectau wedi cyflwyno adroddiadau gwerthuso annibynnol diwedd prosiect sy'n ddigonol o ran eu nifer a'u hansawdd. Dim ond pymtheg adroddiad a oedd ar gael adeg drafftio'r adroddiad hwn (a dim ond pedwar o'r rheini sy'n ychwanegol at y rhai a oedd ar gael ar gyfer yr adroddiad diweddaru flwyddyn yn ôl), ac mae llai na hanner y rheini'n adroddiadau digonol. Gyda’r fath brinder tystiolaeth, ni all y gwerthusiad crynodol hwn ar lefel cynllun ddod i lawer o’r casgliadau y disgwylid iddo ddod iddynt ar y cam hwn
  • lle mae prosiectau cydweithredol wedi llwyddo i lywio'u ffordd drwy'r prosesau gweinyddol, mae ymarfer effeithiol wedi bod ar waith, a hynny fel arfer oherwydd bod y partner arweiniol wedi mabwysiadu trefniadau rheoli prosiect cryf a gweithdrefnau cynllunio da o'r cychwyn cyntaf. O ran gwersi ar gyfer y dyfodol, byddai dull mwy hyblyg o weinyddu prosiectau a ariennir, mwy o ymddiriedaeth yng nghadernid prosesau mewnol elusennau, sefydliadau ac awdurdodau a ariennir yn gyhoeddus sydd wedi'u hen sefydlu yn gwneud gwahaniaeth mawr. Erys y ffaith, hyd nes y gellir gwneud y gofynion monitro a’r prosesau hawlio yn fwy addas ar gyfer prosiectau o’r natur hon, na ddylid rhoi cyfrifoldeb arweinydd prosiect i gwmnïau neu ymddiriedolaethau buddiant cymunedol sydd newydd eu sefydlu neu sy'n ddibrofiad heb gefnogaeth gan gyrff mwy sefydledig sydd â'r trefniadau llywodraethu a'r hyfywedd ariannol angenrheidiol i ymdrin â materion sy'n gysylltiedig ag oedi gyda thaliadau

O ran natur a maint y cydweithio, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • ceir tystiolaeth bod effeithiau cadarnhaol cydweithio ar brosiectau yn llawer mwy na'r effeithiau negyddol, yn enwedig o ran mwy o drosglwyddo gwybodaeth, cyflawni'n fwy effeithiol ar raddfa'r dirwedd a gwell ymgysylltiad â'r gymuned. Mae SMS hefyd wedi dangos bod cydweithio yn gwella dros amser, a bod caniatáu amser i ennyn ymddiriedaeth a meithrin dealltwriaeth yn hanfodol. Nid yw’r gwerthusiad wedi sylwi ar unrhyw deipoleg neu fath penodol o gydweithrediadau sy’n fwy tebygol o lwyddo er bod y rhai a roddodd ddulliau cyfathrebu cryf a rheolaidd ar waith, a ddefnyddiodd ryw fath o broses hwyluso i ganiatáu i bob partner gael ei glywed, ac a lwyddodd i gadw cysondeb o ran aelodaeth ac eglurder o ran cyfrifoldeb yn fwy tebygol o lwyddo
  • mae'n bwysig caniatáu i bartneriaid ychwanegol gymryd rhan wrth i brosiectau ddatblygu, a sicrhau bod cynrychiolwyr allweddol o amgylch y bwrdd
  • mae digonedd o enghreifftiau lle mae cydweithio ar raddfa tirwedd neu ddalgylch rhwng tirfeddianwyr, ffermwyr, a phartneriaid allweddol eraill, wedi arwain at fwy o fanteision i natur ac ecosystemau lleol na phe bai ffermwyr neu dirfeddianwyr wedi gweithredu’n unigol. O ganlyniad, deuwn i’r casgliad y dylai dull cydweithredol o gyllido prosiectau'n ymwneud â'r dirwedd fod yn elfen allweddol o bolisi’r llywodraeth mewn perthynas â chyllid yn y dyfodol
  • mae cynaliadwyedd prosiectau cydweithredol yn parhau i fod yn fregus. Ar draws yr holl gyfweliadau, ceir tystiolaeth o awydd cryf i barhau i gydweithio, ond llai o dystiolaeth o gynlluniau pendant ar gyfer sut i gyflawni hyn, heb gyllid parhaus
  • bydd llawer o'r camau cydweithredol arfaethedig yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn parhau i flaenoriaethu'r camau gweithredu a gefnogir gan yr SMS. Mae'r SFS hefyd yn ceisio parhau â'r dull cydweithredol ar raddfa dalgylch, graddfa'r dirwedd neu raddfa genedlaethol ac mae'n ymddangos ei fod eisoes yn cyfeirio'n helaeth at elfennau cydweithredol prosiectau SMS a ariennir. Bydd yn bwysig bod y pwyntiau dysgu o ddylunio a chyflawni'r SMS yn parhau i fwydo a chael eu hintegreiddio i bolisïau amgylcheddol a ffermio ehangach a mecanweithiau ariannu. Fodd bynnag, gan fod rhai blynyddoedd eto cyn pontio i’r SFS, mae angen dylunio cynllun yn y cyfamser a allai gefnogi’r elfennau cydweithredol a roddwyd ar waith drwy'r SMS neu gydweithrediadau newydd sydd bellach wedi aeddfedu ac sy’n barod i’w cyflawni
  • gallai'r dull gweithredu a fabwysiadwyd o fewn yr SMS fod yn fecanwaith allweddol ar gyfer cyflawni rhai o'r amcanion a nodir yn COP 15 ac ar gyfer cyflawni rhai o'r argymhellion a gynigir yn y ddogfen Plymio Dwfn Bioamrywiaeth. Rhaid cyllido gwaith ar raddfa’r dirwedd, gan na ellir disgwyl i ffermwyr a thirfeddianwyr gyflawni’r uchelgeisiau hyn heb gymorth ariannol. Mae’r SMS wedi dangos bod angen i rai o’r ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur weithredu ar raddfa’r dirwedd a chyda chyllid tymor hwy, a gallai fod yn sail i hynny

O ran  canlyniadau'r SMS, canfu'r gwerthusiad y canlynol:

  • nodwyd o'r cychwyn cyntaf wrth ddrafftio'r adroddiad Ddamcaniaeth Newid ar gyfer yr SMS yn 2020 efallai na fydd canlyniadau tymor hwy a nodir ar gyfer yr SMS i'w gweld o fewn yr amserlenni a bennwyd ar gyfer y gwerthusiad, yn enwedig ar gyfer prosiectau SMS a ariannwyd yn fwyaf diweddar. Felly, mae'n annheg mesur llwyddiant y cynllun SMS ar sail ei allu i ddangos canlyniadau na ellir dangos tystiolaeth ohonynt ar hyn o bryd. Mae angen cyfnod cyllido hwy ar gyfer prosiectau SMS ac, yr un mor bwysig, cyfnod adrodd hwy, os disgwylir iddynt ddangos canlyniadau amgylcheddol
  • ceir tystiolaeth o brosiectau a ariannwyd yn cyflawni gwelliannau i adnoddau naturiol ac i reoli tirweddau. Adroddir am allbynnau cryf sy'n deillio o weithgareddau prosiectau, sy'n debygol o effeithio ar well cysylltedd rhwng ecosystemau, eu maint a'u cyflwr. Yr hyn na ellir ei fesur nac adrodd arno ar hyn o bryd yw i ba raddau y mae'r rhain yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a fwriedir yn y tymor hwy
  • er bod rhai prosiectau wedi dangos tystiolaeth o ddulliau cynaliadwy o gynnal y gwelliannau a wnaed, noda'r mwyafrif y byddant yn dibynnu ar ewyllys da gwirfoddolwyr, neu lwyddo i gael rhagor o gyllid grant er mwyn parhau â'r gwaith a wnaed hyd yma. Mae perygl, yn enwedig gydag elfennau megis adfer mawn neu gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol, y bydd gwelliannau'n cael eu colli oni bai eu bod yn cael eu hamddiffyn (e.e., rhag fandaliaeth) a'u cynnal
  • at ei gilydd, mae'r prosiectau'n perfformio'n dda yn erbyn eu hystod eang o DPA a ariennir, boed yn allbynnau amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd. Mae'r prosiectau a gwblhawyd wedi cofnodi allbynnau cryf yn erbyn eu dangosyddion lefel achos, gan gyflawni 19 o blith 24 o ddangosyddion neu ragori arnynt. Byddai'r cynllun wedi elwa o fwy o gysondeb o ran y modd y dehonglwyd y dangosyddion hyn yn ogystal â chael fframwaith canlyniadau o'r cychwyn cyntaf i gefnogi gweithgareddau monitro ac adrodd


 

  •  
  • mae'r rhan fwyaf o brosiectau a ariennir wedi cymryd camau a fydd yn helpu i wella adnoddau naturiol, ecosystemau a thirweddau. Mae prosiectau'n hyderus y bydd eu gweithredoedd yn helpu i gynyddu lefelau bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd, ond ni ddisgwylir i'r effeithiau amgylcheddol hyn gael eu cyflawni dros y cyfnod cyllido tymor byr. Nid yw nifer bach o brosiectau wedi rhoi'r mathau hyn o gamau ar waith eto gan fod angen iddynt, fel un o'r amodau cyllido, gwblhau ymchwil llinell sylfaen ac arolygon yn gyntaf i lywio eu rhaglen waith. Yn yr achosion hyn, mae'r manteision amgylcheddol yn llai clir
  • canfuwyd yn gyffredin bod prosiectau wedi cymryd camau a fydd yn helpu i wella’r cysylltedd rhwng ecosystemau gan eu bod wedi gweithio ar lefel y dirwedd i adfer gwrychoedd ar draws ffermydd a chreu llochesi bywyd gwyllt naturiol. Yn yr un modd, mae yna ddigonedd o enghreifftiau o brosiectau sydd wedi cymryd camau priodol a fydd yn arwain at welliannau i iechyd a chyflwr ecosystemau. Gellir disgwyl i gamau fel gwella ansawdd dŵr, gwella ansawdd y pridd, a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol wella iechyd a chyflwr ecosystemau lleol, ar yr amod eu bod yn cael eu cynnal yn yr hirdymor. Mae rhai o'r camau a gymerir yn gofyn am lai o waith cynnal a chadw parhaus tra bod eraill yn fwy dibynnol ar newidiadau parhaus mewn ymddygiad ymysg tirfeddianwyr, ffermwyr a gwirfoddolwyr cymunedol
  • mae prosiectau wedi gwneud cyfraniad da at gyflawni manteision cymdeithasol i’w cymunedau o ganlyniad i fabwysiadu egwyddorion SMNR. Y prif fanteision cymdeithasol a gynhyrchir yw mwy o gyfleoedd i bobl leol gysylltu â byd natur, gwell iechyd a lles, mwy o fynediad i'r awyr agored, a mwy o gyfleoedd addysgol a gwirfoddoli. Awgryma'r dystiolaeth a gasglwyd hefyd fod y manteision cymdeithasol a gyflawnir gan brosiectau SMS yn fwy tebygol o gael eu cynnal ar ôl i'r cyllid ddod i ben, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â mwy o fynediad i'r awyr agored a gwella iechyd a lles y gymuned leol
  • o gymharu â’r manteision cymdeithasol, er eu bod yn dal yn gadarnhaol, mae prosiectau wedi gwneud ychydig yn llai o gyfraniad economaidd i’w cymunedau lleol, a hynny oherwydd nad oeddent wedi bwriadu cyflawni ystod eang o ganlyniadau economaidd ac os gwnaethant hynny, roedd y canlyniadau a ddisgwyliwyd yn gymharol fach. Y prif fanteision economaidd yw mwy o drosglwyddo gwybodaeth a chadw cyllid grant o fewn economïau cylchol lleol. Nodwyd manteision economaidd eraill gan lai o brosiectau

O ran Themâu trawsbynciol yr UE ac amcanion trawsbynciol y Cynllun Datblygu Gwledig, canfu’r gwerthusiad y canlynol:

  • nid yw adroddiadau gwerthuso diwedd prosiect wedi adrodd yn rheolaidd ar themâu trawsbynciol yr UE ac amcanion trawsbynciol y Rhaglen Datblygu Gwledig felly dim ond ar sail yr ymatebion i'r arolwg a'r cyfweliadau y gellir dod i gasgliadau. Yn gyffredinol, mae tystiolaeth ar draws y cynllun SMS o gyfle cyfartal yn cael ei ddarparu i unigolion mewn cymunedau gwledig i gymryd rhan mewn gweithgareddau 
  • mae'r cynllun yn gwneud cyfraniad cryf at yr amcan datblygu cynaliadwy, ac mae enghreifftiau o reoli tirweddau'n gynaliadwy yn ganolog iddo. Gall SMS hefyd ddangos sawl enghraifft dda iawn o brosiectau sy'n darparu mynediad am ddim i aelodau'r gymuned i gyfrannu at brosiectau, ac i wario mwy yn lleol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r SMS hefyd wedi gwneud cyfraniadau cryf at weithgareddau trawsbynciol y Rhaglen Datblygu Gwledig drwy'r gweithgareddau a ariennir ganddo
  • mae cyfraniadau at strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru yn fwy cymysg. Mae prosiectau mewn ardaloedd gwledig lle ceir canrannau uchel o gymunedau Cymraeg eu hiaith, wedi bod yn hynod ragweithiol o ran mabwysiadu arferion dwyieithog a chynnal gweithgareddau dwyieithog i alluogi unigolion i gyfrannu yn yr iaith o'u dewis tra bod y rhai sy’n gweithredu mewn ardaloedd â niferoedd llai o siaradwyr Cymraeg wedi bod yn llai tebygol o wneud hynny

I gloi, gyda’r dystiolaeth werthuso sydd ar gael hyd yma, mae prosiectau'r SMS yn sicr yn gallu cyflawni eu hamcanion ac maent yn perfformio’n gryf yn erbyn yr allbynnau a ariennir ac yn cyflawni manteision ychwanegol hefyd. Mae mecanwaith cyllido cydweithredol trosfwaol yr SMS wedi galluogi hyn, ond nid yw’r cynllun wedi rhoi’r fframwaith monitro a gwerthuso priodol ar waith i gasglu’r dystiolaeth hon mor llawn ag y byddai wedi dymuno. Wrth edrych ar fodelau cyllido ar gyfer y dyfodol, mae darparu prosiectau gyda’r ymddiriedaeth a’r hyblygrwydd sydd eu hangen i’w galluogi i weithio mewn modd cydweithredol, ar raddfa’r dirwedd sy’n cyd-fynd yn llawn ag egwyddorion SMNR yn debygol o wella ymhellach y canlyniadau y gellir eu cyflawni.

Argymhellion

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd ac a oedd ar gael i ni yn ystod cam crynodol olaf gwerthusiad y cynllun SMS, rydym yn gwneud yr argymhellion ychwanegol a ganlyn i Lywodraeth Cymru eu hystyried mewn unrhyw ddull cyflawni cydweithredol ar raddfa’r dirwedd yn y dyfodol. 

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y 35 o brosiectau sy’n weddill yn bodloni’r gofyniad i ddarparu adroddiad gwerthuso diwedd prosiect o ansawdd uchel a hyrwyddo’n weithredol y canllawiau a ddatblygwyd at y diben hwn. Mae rhai prosiectau wedi’i chael hi'n anodd penodi gwerthuswr allanol priodol, a dylai Llywodraeth Cymru felly ystyried caniatáu i brosiectau gynhyrchu eu hadroddiadau gwerthuso diwedd prosiect mewnol eu hunain (gan ddilyn y canllawiau a ddarperir). 

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau i gofnodi'n ffurfiol yr allbynnau a’r canlyniadau a gyflawnwyd gan brosiectau a gwblhawyd, sydd y tu allan i’w DPA. Nid yw hyn yn bosibl drwy RPW Ar-lein ar hyn o bryd Dylid dathlu pan fo prosiectau'n cyflawni mwy na'r hyn sy'n ddisgwyliedig, a dylid annog prosiectau i adrodd ar hynny yn eu hadroddiadau gwerthuso diwedd prosiect. 

Argymhelliad 3

Yn y bôn, mae llawer o'r prosiectau a ariannwyd yn nau gyfnod olaf yr SMS wedi bod yn 'brosiectau arddangos' gan nad ydynt wedi cael cymaint o amser i gyflawni. Mae hefyd yn wir bod llawer o'r prosiectau a ariannwyd gan yr SMS wedi cyflawni gweithgareddau tebyg ond nad ydynt yn ymwybodol o'i gilydd a'r dulliau a ddefnyddiwyd. Dylai Llywodraeth Cymru geisio rhannu arfer gorau rhwng prosiectau a sicrhau bod hynny'n sail i fecanweithiau cyllido yn y dyfodol. Gallai hyn fod ar ffurf digwyddiad dathlu diwedd cynllun neu gyhoeddiad o ryw fath.

Argymhelliad 4

Mae bwlch rhwng diwedd y cynllun SMS a datblygiad arfaethedig cyllid ar gyfer camau cydweithredol o dan yr SFS. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyllid ar raddfa fach i roi cymorth parhaus i rai o’r partneriaethau presennol a sefydlwyd neu a ddatblygwyd o dan yr SMS. Byddai cyllid ar gyfer rôl swyddog prosiect rhan-amser gyda'r gallu i gael rhywfaint o arian cynnal a chadw yn cael ei groesawu gan yr holl brosiectau. 

Argymhelliad 5

Yn yr un modd, byddai swm bach o gyllid i alluogi prosiectau i fonitro eu cynnydd yn erbyn canlyniadau amgylcheddol ar adegau allweddol yn y dyfodol (e.e., ymhen pum a deng mlynedd) yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddysgu am fanteision rhai o'r ymyriadau dros gyfnod hwy o amser. 

Argymhelliad 6

Ar gyfer unrhyw gyllid yn y dyfodol, bydd cyfnod datblygu ar gyfer partneriaethau, gydag arian sbarduno priodol i sefydlu trefniadau llywodraethu, datblygu eu cynlluniau cychwynnol ac ymgorffori cydweithio ac ymddiriedaeth, yn bwysig. Gallai hyn hefyd fod yn rhan o unrhyw ddull cyllido dros dro fel bod partneriaethau yn cael amser i sefydlu ac yn gallu manteisio ar gyllid cydweithredol yn y dyfodol o dan yr SFS. 

Argymhelliad 7

Mae’r SMS wedi cyllido sawl model a dull gweithredu llwyddiannus sydd wedi gwella'r cydweithio â ffermwyr a thirfeddianwyr, gan gynnwys y rhai a arweinir gan gyrff anllywodraethol amgylcheddol a’r rhai a ddarperir yn uniongyrchol gan grwpiau a arweinir gan ffermwyr neu grwpiau a arweinir gan y gymuned. Er nad oes unrhyw deipoleg benodol sy'n fwy llwyddiannus nag eraill, yr elfen gyffredin fu trefniadau cryf o ran rheoli a hwyluso prosiectau sydd wedi galluogi'r holl bartneriaid i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn llawn ac yn cael yr holl wybodaeth drwy gydol y broses. Argymhellwn felly fod unrhyw fecanwaith cyllido yn y dyfodol yn ystyried sut y gall hyn fod yn ei le drwy gydol y cyfnod cyllido ar gyfer pob prosiect. 

Argymhelliad 8

Rydym yn argymell ymhellach, hyd nes neu oni bai y gellir addasu'r gofynion monitro a’r prosesau hawlio i anghenion prosiectau cydweithredol o'r natur hon, na ddylai’r cyfrifoldeb am arwain prosiectau (a'r rhwymedigaethau ariannol sy'n dod law yn llaw â hynny) gael ei rhoi i gwmnïau buddiant cymunedol neu ymddiriedolaethau sydd newydd eu sefydlu neu sy'n ddibrofiad, heb gefnogaeth cyrff mwy sefydledig er mwyn eu diogelu rhag pwysau'n ymwneud â threfniadau llywodraethu a hyfywedd ariannol. 

Argymhelliad 9

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddull mwy addas ar gyfer unrhyw gynllun cyllido cydweithredol yn y dyfodol. Gallai hyn olygu gwneud addasiadau i fodel presennol RPW Ar-lein; sefydlu model rheoli ar ffurf Corff Cyfryngol neu ddarparu’r cyllid drwy sefydliad arall fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 

Argymhelliad 10

Mae'r cydweithio â sefydliadau allweddol fel CNC, awdurdodau lleol a Dŵr Cymru wedi bod yn gymharol ad hoc o fewn yr SMS ac wedi dibynnu ar ddiddordeb a chyfraniad y swyddog lleol. Mae angen ystyried dull mwy cyson yn y dyfodol. Bydd casglu data gofodol a chysylltu â Datganiadau Ardal a Chynlluniau Dalgylch yn allweddol i hyn a bydd hefyd yn galluogi prosiectau a ariennir i gasglu data GIS i ddangos tystiolaeth o effaith eu prosiectau yn y tymor hwy. 

Argymhelliad 11

Er bod allbynnau prosiectau'r SMS wedi'u cofnodi yn erbyn dangosyddion achos priodol y Rhaglen Datblygu Gwledig, nid yw allbynnau ychwanegol a gyflawnwyd gan brosiectau wedi'u cofnodi'n systematig sy'n golygu bod rhai cyflawniadau pwysig nad ydynt wedi'u cofnodi. Mae angen i unrhyw gynllun cyllido cydweithredol yn y dyfodol sefydlu fframwaith manwl wedi'i arwain gan ganlyniadau o'r cychwyn cyntaf sy'n rhoi hyblygrwydd i brosiectau amrywiol adrodd yn briodol ond sy'n sefydlu canllawiau a diffiniadau clir, fel y gellir adrodd yn fwy cyffredin ar allbynnau a chanlyniadau. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau y gall unrhyw gynllun cyllido yn y dyfodol adrodd ar gyd-gyflawniadau.

Troednodiadau

[1] Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy

[2] Ibid.

[3] Mae Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn amlinellu fframwaith newydd ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR) sy’n cynnwys diffiniad o SMNR a’r naw egwyddor i’w gyflawni a Pholisi Adnoddau Naturiol Cymru.

Manylion cyswllt

Awduron: Heledd Bebb a Nia Bryer

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 42/2026
ISBN digidol 978-1-83745-127-2

Image
GSR logo