Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (GCC) yn rhan bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020. Roedd yn becyn buddsoddi wedi’i anelu at helpu ffermwyr Cymru i fuddsoddi mewn offer i leihau effeithiau niweidiol amaethyddiaeth ar yr amgylchedd ac i gefnogi ffermio a defnydd tir sy’n gynaliadwy. Roedd yn cynnig cymorth buddsoddi ar gyfer cyfleusterau ac offer yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, storio cnydau, cadw a thrin da byw, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a rheoli pridd a chnydau.

Nodau a dulliau’r ymchwil

Roedd saith rownd (y cyfeirir atynt fel 'ffenestri') o'r GCC. Yn y rowndiau cynnar (Ffenestri 1 i 3), nod y cynllun oedd helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol. Yn y rowndiau diweddarach (ffenestri 4 i 7), roedd amcanion y cynllun yn cynnwys gwella’r rheolaeth o faetholion, yn ogystal â diogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer, drwy leihau llygredd. 

Mae’r gwerthusiad hwn yn rhoi asesiad annibynnol o’r GCC o ran ei weithrediad a’i effeithiau yng Nghymru.

Amcanion penodol y prosiect gwerthuso hwn yw asesu:

  • effeithiolrwydd rheolaeth y GCC – gan gynnwys y broses hawlio, systemau monitro, cyfathrebu ac argaeledd cymorth ar ôl dyfarnu 
  • cynnydd y GCC wrth gwrdd â'r targedau
  • effaith enghreifftiol y GCC 
  • effeithiolrwydd y prosesau ymgeisio, penderfynu a gwerthuso
  • i ba raddau y mae busnesau a gafodd gymorth wedi gallu cyflawni’r amcanion a nodwyd yn eu cynlluniau busnes (ar gyfer Ffenestri 1 i 3 y GCC) 
  • i ba raddau y mae model y Cynllun Busnes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Ffenestri 1 i 3 y GCC (h.y. a yw gofyniad y cynllun busnes yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o gyflawni’r nod neu a yw’n arf defnyddiol i ffermwyr eu helpu i gyflawni eu hamcanion)
  • ymatebolrwydd y GCC i anghenion canfyddedig y diwydiant amaethyddol
  • sicrhau bod y GCC yn cyd-fynd â’r cymorth sydd ar gael i’r sector, ac yn ehangach ag amcanion polisi strategol Llywodraeth Cymru a’r UE

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau i ffurfio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y gwerthusiad hwn.

  • Cyfweliadau cwmpasu gyda rhanddeiliaid (staff a fu’n rhan o ddylunio a darparu’r GCC o fewn Llywodraeth Cymru a Taliadau Gwledig Cymru).
  • Adolygiad pen desg o ddogfennaeth y cynllun a sampl (10) o gynlluniau busnes ymgeiswyr llwyddiannus Ffenestri 1 i 3.
  • Arolwg ar-lein o ymgeiswyr llwyddiannus y cynllun (poblogaeth=481, ymatebion=99) a’r ymgeiswyr aflwyddiannus (poblogaeth=917, ymatebion=54).
  • 10 cyfweliad manwl gyda’r rhai a gafodd y grant o Ffenestri 1 i 3.
  • Tri grŵp ffocws a dau gyfweliad gyda’r rhai a gafodd y grant o Ffenestri 4 i 7.

Canfyddiadau allweddol

Cyfathrebu

Nododd y mwyafrif o’r ymgeiswyr llwyddiannus (58%) a’r rhai aflwyddiannus (65%) mai gwasanaethau Llywodraeth Cymru, fel Cyswllt Ffermio, Gwlad a'r wefan swyddogol, oedd sut y daethant yn ymwybodol o’r GCC. Cyfeiriodd canran uwch o ymgeiswyr llwyddiannus at sianeli rhyngbersonol, megis ymgynghorwyr/asiantau (22% o’i chymharu â 13%) a ffrindiau/cymdogion (15% o’i chymharu â 9%) na'r rhai aflwyddiannus; tra bod canran uwch o’r ymgeiswyr aflwyddiannus wedi nodi iddynt ddod i wybod am y GCC drwy erthyglau yn y wasg (26% o’i chymharu â 9%).

Y broses ymgeisio a hawlio

Mae canlyniadau arolygon ar-lein yn awgrymu bod y mwyafrif o’r ymgeiswyr llwyddiannus naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn (59%) â’r broses ymgeisio, tra bod cyfran lai (24%) o’r rhai aflwyddiannus yn teimlo’r un peth.

Mae canlyniadau'r arolygon hefyd yn dangos bod yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi tueddu i geisio mwy o gymorth ar draws gwahanol agweddau ar y broses ymgeisio o’u cymharu â’r ymgeiswyr aflwyddiannus. Ceisiodd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus gymorth allanol am bethau fel paratoi'r cynllun busnes (66%), llenwi'r ffurflen gais (55%), a darparu gwybodaeth ategol (53%).

Datgelodd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws fod angen mwy o gymorth i ffermwyr. Roedd llawer eisiau mwy o hyblygrwydd ac arweiniad yn y cam ymgeisio ac yn ystod datblygiad y prosiect. Nodwyd materion yn ymwneud â diweddaru eu prosiect, darparu anfonebau/biliau, ac estyniadau neu newidiadau i'r amserlen. 

Mae safbwyntiau manylach o’r grwpiau ffocws a’r cyfweliadau ag ymgeiswyr llwyddiannus y cynllun yn awgrymu bod rhai ffermwyr wedi gweld yr arweiniad ar y cam ymgeisio yn aneglur ac yn aml yn gymhleth. Roedd llawer o ffermwyr o’r farn bod angen ymgynghorydd, a hebddo, byddai’n rhy heriol neu o bosibl yn eu hatal rhag cael y grant. 

Datgelodd y cyfweliadau a thrafodaethau’r grwpiau ffocws hefyd fod y gofyniad i sicrhau tri dyfynbris ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig yn ystod y broses grantiau, yn aml yn her ac yn anodd i ffermwyr. Oherwydd ffactorau allanol fel COVID-19 a chostau cynyddol, canfu ffermwyr naill ai nad oeddent yn gallu cael tri dyfynbris ar gyfer eu heitemau cyfalaf, neu nad oedd y dyfynbris yn ddilys mwyach. Eglurodd rhai ffermwyr fod prisiau wedi cynyddu’n sylweddol ers y dyfynbris cyntaf a ddarparwyd gan gyflenwyr, gan effeithio felly ar gost gyffredinol y buddsoddiad arfaethedig.

O ran y broses hawlio, mae canlyniadau’r arolygon ar-lein yn awgrymu mai dim ond tua 40% o’r ymgeiswyr llwyddiannus oedd yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r cymorth a ddarparwyd gan TGC yn y broses hawlio; roedd ychydig islaw 50% o’r ymatebwyr wedyn yn hapus â’r amser yr oedd ei angen i brosesu eu hawliadau. 

Datgelodd adborth o’r cyfweliadau a’r grwpiau ffocws mai maes a oedd yn peri pryder i ffermwyr oedd yr amser oedd ei angen i hawlio’r grant, a oedd yn rhoi straen ychwanegol ar ffermwyr oherwydd y swm mawr o arian a neilltuwyd i’r buddsoddiadau cyfalaf o’u cyllid eu hunain neu fenthyciadau banc.

Defnyddio Cynllun Busnes

Er bod 60% o ymatebwyr yr arolygon wedi nodi bod paratoi cynllun busnes yn ddefnyddiol o ran creu ffocws i’r fferm, gan helpu ffermwyr i fyfyrio ar gostau a’i ddefnyddio i gynllunio ar gyfer y dyfodol, awgrymodd y cyfweliadau manwl mai ychydig iawn o ffermwyr a ddefnyddiodd eu cynllun busnes yn ystod neu ar ôl gweithredu’r prosiect a gefnogwyd gan y GCC.

Mae'r cyfweliadau a'r grwpiau ffocws yn dangos bod y cynllun busnes pum mlynedd a ddatblygwyd ar gyfer y cam ymgeisio wedi'i ystyried gan lawer fel rhywbeth nad oedd yn ddefnyddiol iawn. Nid oedd y rhan fwyaf bellach yn defnyddio cynllun busnes neu wedi symud ymlaen o'r cynllun busnes a ddefnyddiwyd ar y cam ymgeisio ac roeddent bellach yn defnyddio eu cynllun eu hunain a oedd wedi'i ddiweddaru neu newid. Roedd y ffermwyr yn ei chael hi’n anodd cyfiawnhau defnyddio’r cynllun busnes gan ei fod yn gynllun pum mlynedd ac roedd llawer wedi newid arferion eu fferm ers ymgeisio ag ef; neu roeddent wedi wynebu heriau annisgwyl a newidiodd ffocws a chanlyniadau eu busnes.

Effaith y GCC

Mae canlyniadau’r arolygon ar-lein yn awgrymu bod y cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd (lleihau llygredd, cynyddu cydymffurfiaeth â rheoliadau ansawdd dŵr, ac ati) a pherfformiad economaidd busnesau fferm (cynnydd mewn trosiant, elw a gwerthiant, a gostyngiadau mewn costau), a gwella effeithlonrwydd swyddi, diogelu swyddi a manteision i'r economi leol.

Amlygodd y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws ganfyddiadau ffermwyr o fuddion amgylcheddol o’u buddsoddiadau, a oedd yn fwy amlwg yn Ffenestri 1 i 3 ond sy’n dal yn bresennol yn Ffenestri 4 i 7, lle cyfrannodd gwell rheolaeth o slyri a datrysiadau dŵr glân at ganlyniadau cadarnhaol.

Darparodd y grant hyblygrwydd a buddion lles, gan alluogi ffermwyr i reoli tasgau’n fwy effeithlon a gwella gwydnwch hirdymor o ran rheoli fferm.

Roedd y cymorth grant nid yn unig o fudd i ffermwyr ond hefyd i fusnesau a chyflenwyr lleol, yn enwedig yn Ffenestri 1 i 3 lle arweiniodd buddsoddiadau mwy at gynnydd mewn cyflogaeth a datblygu cadwyn gyflenwi. Dengys llawer o’r astudiaethau achos fod proffidioldeb, effeithlonrwydd a gwydnwch wedi’u cyflawni drwy’r cymorth grant gan iddo ganiatáu buddsoddiad ar raddfa a oedd yn diogelu eu busnes at y dyfodol. 

Dangosodd Ffenestri 4 i 7 fwy o ffocws ar wella effeithlonrwydd maetholion, ynni a dŵr yn ogystal â bodloni rheoliadau NVZ. Er gwaethaf grant o faint llai o’i gymharu â Ffenestri 1 i 3, teimlai llawer o ffermwyr y gallent barhau i gyflawni effeithlonrwydd a gwydnwch yn eu busnesau, gan gyd-fynd â rheoliadau sydd ar ddod. Fodd bynnag, fe wnaeth ffactorau allanol fel COVID-19 a chostau cynyddol ysgogi llawer o’r ymgeiswyr llwyddiannus mewn Ffenestri diweddarach, fel yr amlygwyd mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau, i nodi bod cyfradd wirioneddol y grant yn is na 40% o wariant prosiect oherwydd cynnydd mewn costau.

Ychwanegedd

Dangosodd canlyniadau’r arolygon ar-lein lefel gymharol uchel y GCC o ychwaneged/lefel isel o ddifuddiant, gyda difuddiant llawn o lai na 5% a difuddiant rhannol o tua 30% wedi’u nodi gan ymgeiswyr llwyddiannus y cynllun. Cadarnhaodd cymariaethau â’r grŵp ymgeiswyr aflwyddiannus o’r arolwg hefyd ychwaneged uchel i’r GCC o ran cyflawni ystod o effeithiau, gyda difuddiant llawn cyffredinol o 15% a 9% o ddifuddiant rhannol wedi’u nodi gan yr ymgeiswyr aflwyddiannus.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth a gasglwyd o’r cyfweliadau manwl a’r grwpiau ffocws yn dangos rhaniad ymhlith ffermwyr ynghylch a fyddent wedi bwrw ymlaen â’r buddsoddiad ar eu fferm heb y cymorth grant. Soniodd llawer fod y gwelliannau a’r eitemau cyfalaf y gwnaethant gais amdanynt o dan y grant yn fuddsoddiadau yr oedd y ffermwyr eisoes yn eu hystyried yn angenrheidiol (yn enwedig ynghylch rhwymedigaethau rheoleiddio). Roedd y grant, fodd bynnag, yn cefnogi’r ffermwyr i gyflymu’r broses o uwchraddio/ehangu eu fferm neu’n eu galluogi i ddilyn opsiynau a fyddai wedi bod yn anhygyrch fel arall, megis roboteg. Felly, cyfrannodd y cymorth ychwanegol o’r grant yn bennaf at greu senario a oedd yn gwneud y buddsoddiad yn gam pendant i’r ffermwyr. Roedd naill ai’n caniatáu iddynt fuddsoddi’n gyfforddus er mwyn cyd-fynd â rheoliadau’r dyfodol neu’n gwella gwydnwch drwy uwchraddio offer fferm a diogelu’r fferm at y dyfodol.

Casgliad ac argymhellion

Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn awgrymu bod y rhai a dderbyniodd gyllid y GCC yn gyffredinol wedi gweld effeithiau cadarnhaol ar eu busnes ond hefyd ar yr amgylchedd a’r economi leol. Ar ben hynny, nododd y mwyafrif na fyddai buddsoddiadau wedi cael eu gwneud heb gyllid y GCC, neu o leiaf ddim mor gyflym neu ar yr un raddfa. Mae’r ychwaneged/difuddiant amcangyfrifedig yn debyg i'r hyn a adroddwyd gan werthusiadau blaenorol o gynlluniau grant tebyg.

Fodd bynnag, daeth ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus ar draws llawer o broblemau gyda'r broses o wneud cais am a/neu hawlio cyllid y GCC. Yn benodol, roedd cymhlethdod wedi gorfodi rhai i droi at ymgynghorwyr (costus); roedd cael dyfynbrisiau gan gyflenwyr yn lletchwith; roedd chwyddiant yn erydu gwerth gwirioneddol y cyllid, ac roedd oedi rhwng mynd i gostau a chael cyllid yn achosi problemau llif arian/dyled.

Mae'r problemau hyn yn gyfarwydd o werthusiadau blaenorol o gynlluniau tebyg. I raddau, nid yw’r problemau hyn ond yn adlewyrchu’r her barhaus o gydbwyso’r angen am atebolrwydd cyhoeddus a’r awydd am symlrwydd gweinyddol. Serch hynny, cynigir rhai argymhellion ar gyfer gwelliannau posibl isod.

Effeithiolrwydd y Rheolaeth o’r GCC

Gwerthuswyd effeithiolrwydd y GCC yn seiliedig ar effeithiolrwydd y broses, a fesurwyd gan effeithiolrwydd y cyfathrebu, ac effeithlonrwydd y cais a'r broses hawlio yn ogystal â'r defnydd o'r cynlluniau busnes a ddatblygwyd ar y cam ymgeisio. 

O ran cyfathrebu, nododd cyfran fawr o’r ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus iddynt ddod i wybod am y GCC trwy wasanaethau Llywodraeth Cymru, fel Cyswllt Ffermio, Gwlad, a’r wefan swyddogol. Fodd bynnag, o’u cymharu â’r rhai aflwyddiannus, roedd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn tueddu i ddefnyddio sianeli rhyngbersonol (fel cynghorwyr a ffrindiau/cymdogion) fel ffynonellau o wybodaeth ac roeddent yn tueddu i ddefnyddio mwy o gymorth ar draws amrywiol agweddau ar y broses ymgeisio. 

Argymhelliad 1: Dylid annog ffermwyr i ddefnyddio mwy o gymorth cynghorol wrth wneud ceisiadau i ddeall yn llawn yr arweiniad a ddarperir ac asesu’r goblygiadau posibl i’w busnesau.

Gwelodd y broses ymgeisio gyfradd uwch o foddhad ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus na'r rhai aflwyddiannus. Ymhlith yr heriau roedd arweiniad aneglur yn ystod y broses ymgeisio, cymhlethdodau yn y system ddyfynbris, ac anawsterau wrth gael dyfynbrisiau oherwydd ffactorau allanol (fel COVID-19). 

Roedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr llwyddiannus yn fodlon ar y broses hawlio. Mae angen gwella amser prosesu’r hawliadau, a achosodd rai problemau gyda llif arian/dyled.

Argymhelliad 2: Dylid monitro amser prosesu’r hawliadau a nodi'r prif resymau dros oedi yn ogystal â rhoi mesurau priodol ar waith i gwtogi'r amser ar gyfer sicrhau bod arian ar gael. 

Roedd y defnydd o gymorth yn amrywio, gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn ceisio cymorth allanol gyda phethau fel paratoi cynllun busnes, llenwi ffurflenni cais, a darparu gwybodaeth ategol. Fodd bynnag, amlygodd y cyfweliadau bryderon ynghylch y diffyg cymorth a ddarparwyd i lawer o ffermwyr, gan ddangos bod angen mwy o hyblygrwydd ac arweiniad yn ystod y camau ymgeisio a datblygu prosiect.

Argymhelliad 3: Dylid gwella’r wybodaeth a'r arweiniad a ddarperir yn ystod y cam datblygu prosiect i hwyluso ceisiadau o safon uchel. Ystyriwch gynnig cyllid penodol ar gyfer cymorth ymgynghorol (o fewn yr un lefel gyffredinol o gyllid) ar gyfer cynllunio busnes a phrosesau ymgeisio.

O ran y defnydd o’r cynllun busnes, er bod y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg wedi canfod bod paratoi cynllun busnes yn ddefnyddiol, datgelodd y cyfweliadau manwl mai ychydig iawn o ffermwyr a’i defnyddiodd yn ystod neu ar ôl y prosiect a gefnogwyd gan y GCC. Roedd y cynllun busnes pum mlynedd a ddatblygwyd ar gyfer y cam ymgeisio yn cael ei ystyried yn llai defnyddiol, gyda llawer o ffermwyr yn creu ac yn defnyddio cynlluniau newydd.

Argymhelliad 4: Dylid ystyried portreadu cynllun busnes fel tystiolaeth yn unig o gymryd rhan yn y broses o gynllunio busnes. 

Roedd y gofynion i gael tri dyfynbris gan gyflenwyr yn lletchwith i lawer o ffermwyr, gan arwain at broblemau o ran cael mynediad at gyllid llawn a/neu amlygiad i bwysau chwyddiant.

Argymhelliad 5: Dylid ystyried defnyddio model cost safonol, gan ganiatáu ar gyfer addasu cyfraddau talu yn ystod cyfnodau o chwyddiant uchel.

Effaith y GCC

Roedd ffermwyr yn gyffredinol yn cyflawni eu hamcanion amlinellol, neu ar y trywydd iawn i wneud hynny, ond mae ffactorau allanol weithiau'n achosi gwyriadau i ganlyniadau. Roedd Ffenestri 1 i 3 yn canolbwyntio ar newidiadau ar raddfa fawr, gan sicrhau proffidioldeb ac ehangu busnesau fferm, tra oedd ffenestri 4 i 7 yn pwysleisio cydymffurfiaeth â rheoliadau â grant o feintiau llai. Cafodd y GCC effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a pherfformiad economaidd, fel y nodir gan ganlyniadau’r arolygon ar-lein.

Roedd ffermwyr yn gweld manteision amgylcheddol, hyblygrwydd, a gwelliannau lles oherwydd y grant. Bu’r buddsoddiad o fudd i fusnesau lleol drwy ddod o hyd i gyflenwyr yn lleol, gan gyfrannu at enillion economaidd tymor byr a hirdymor. 

Argymhelliad 6: Mae angen gwell data monitro i fesur newidiadau dros amser yn sgil cymorth grant ar gyfer canlyniadau economaidd ac amgylcheddol. Ystyriwch ddefnyddio templed mwy safonol (er enghraifft, y cynllun busnes) i gasglu data gwaelodlin a data diwedd prosiect a gwneud hyn yn amod o dderbyn y cymorth grant i’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Ychwanegedd

Awgrymodd yr arolwg ar-lein lefel gymharol uchel o ychwaneged. Datgelodd y cyfweliadau manwl wahaniaeth barn ynghylch a fyddai ffermwyr wedi bwrw ymlaen heb y grant, ond roedd llawer yn cydnabod rôl y grant o ran cyflymu'r gwaith uwchraddio a galluogi mynediad at opsiynau na fyddai fel arall yn gyraeddadwy.

Argymhelliad 7: Dylid mabwysiadu metrigau ychwanegol i fesur ychwanegedd a gesglir fel mater o drefn fel rhan o’r broses ymgeisio a hawlio er mwyn caniatáu’r gwaith o amcangyfrif yr ychwanegedd yn haws, heb orfod troi at arolygon ad hoc. 

Mae’r canfyddiadau’n nodi effeithiau cadarnhaol a heriau, gan bwysleisio’r angen am welliant parhaus mewn cyfathrebu, argaeledd cymorth, ac eglurder yn y prosesau ymgeisio a dyfynbrisiau ar gyfer iteriadau’r GCC yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Awduron: Yiying Cao, Michael Burd, Joshua Chapman ac Andrew Moxey

ADAS a Pareto Consulting

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 41/2026
ISBN digidol 978-1-83745-121-0

Image
GSR logo