Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Cano mae cost olew a nwy wedi cynyddu, sy'n cael effaith ar nifer o sectorau o'r economi. Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb rhyngwladol gan gynnwys rhyddhau cronfeydd olew, sy'n gam digynsail, gan yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol a chamau ehangach gan Lywodraeth y DU i gynnal cyflenwadau ynni diogel. Mae'r DU yn parhau i fod â chyflenwadau ynni cadarn.

Rwy'n cydnabod yn llawn bryderon defnyddwyr ac ymdrechion y diwydiant i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn croesawu'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda'r diwydiant ac yn ail-bwysleisio cyfrifoldebau cyflenwyr o ran trin cwsmeriaid yn deg, a hynny'n unol â gofynion diogelu defnyddwyr a chyfraith cystadleuaeth. Rwy'n croesawu'r adolygiad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn dilyn adroddiadau gan ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar olew gwresogi. Mae'r adroddiadau hyn wedi peri cryn bryder.  Rwy'n gwybod bod nifer o etholwyr yng Nghymru wedi mynegi pryderon am y materion a drafodir yn yr adolygiad, gan gynnwys canslo archebion presennol a chynnig dyfynbrisiau newydd am brisiau sylweddol uwch. 

Rydym hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i gefnogi'r aelwydydd hynny lle nad yw'r cap ar brisiau ynni yn darparu amddiffyniad digonol rhag prisiau cynyddol, sy'n cynnwys y rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at y rhwydwaith nwy. O ran busnesau, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU barhau i adolygu'r trefniadau presennol er mwyn cynnig cymorth o ran costau ynni a bod yn barod i weithredu mesurau ychwanegol i helpu busnesau â chostau ynni uwch pe bai effaith costau ynni uchel yn parhau. 

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am bris gwresogi eu cartrefi i gysylltu â'n gwasanaeth Cyngor Ynni Nyth am ddim am gymorth a chefnogaeth.  Gall y gwasanaeth hwn hefyd eu cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill fel Cronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn Llywodraeth Cymru a'r Sefydliad Banc Tanwydd sy'n darparu taliadau untro am danwydd i'r rhai mewn angen