Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
  • Julie James AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Vikki Howells AS
  • Sarah Murphy AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
  • Luke Young, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
  • Nick Wood, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Neil Buffin, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 19 Ionawr 2026.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Institute for Government

2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi traddodi araith i'r Institute for Government yn Llundain ar y dydd Iau blaenorol. Ei ffocws oedd etholiad y Senedd a fydd yn digwydd cyn hir, a dyfodol datganoli..

Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddiwygio'r Heddlu

2.2 Gwahoddwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i roi diweddariad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddiwygio'r Heddlu, a fyddai'n cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen y prynhawn hwnnw.

2.3 Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet drafodaeth adeiladol gyda'r Gweinidog Gwladol dros Blismona a Throseddu ddydd Sadwrn. Byddai cynlluniau ar gyfer Gwasanaeth Heddlu Cenedlaethol newydd i ganolbwyntio ar droseddau difrifol a chymhleth. Byddai hyn yn dwyn ynghyd waith asiantaethau sy'n weithredol ar hyn o bryd, megis yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac unedau troseddu cyfundrefnol rhanbarthol, o dan yr un sefydliad.

2.4 Byddai'r cyhoeddiad yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cynnal adolygiad annibynnol o'r cynigion i uno heddluoedd, a byddai Llywodraeth Cymru yn rhan o'r adolygiad hwnnw er mwyn cadw natur unigryw Cymru a sicrhau na ddylai un heddlu rhanbarthol sengl weithredu ar draws dwy ochr y ffin.

2.5 Byddai'r Llywodraeth hefyd yn ymwneud â dyfodol trefniadau llywodraethu'r heddlu, o ystyried y cynigion i ddiddymu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu o 2028 ymlaen. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig y diwrnod canlynol, yn amlinellu ymateb cychwynnol y Llywodraeth i'r Papur Gwyn.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:05pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2026