Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn bod y Senedd wedi rhoi cymeradwyaeth Cyfnod 4 i Fil Diogelwch Adeiladau (Cymru), sy'n rhan hanfodol o'n hymateb i'r tân yn Nhŵr Grenfell lle collodd 72 o bobl eu bywydau yn drasig. Hoffwn ddiolch i'r sector tai, y Gwasanaeth Tân ac Achub a phartneriaid mewn llywodraeth leol am eu hymwneud brwdfrydig a'u her gefnogol sydd wedi ei gwneud yn bosibl datblygu'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth. Mae'r gwaith i weithredu argymhellion Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn parhau; gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn y Adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Grenfell.

Yn y cyfamser, mae Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru yn parhau i fod yn rhan ganolog o'n hymrwymiad i sicrhau bod preswylwyr ledled Cymru yn byw mewn cartrefi diogel. Rwy'n teimlo i'r byw dros bobl sy'n parhau i ddioddef y straen a'r gost o aros i'w cartrefi gael eu cyweirio ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r heriau logistaidd enfawr o gyflawni'r rhaglen. 

O'r 4701 o adeiladau  yn y rhaglen mae gwaith wedi'i gwblhau neu'n mynd rhagddo ar 219 ohonynt. Mae pob un sydd wedi llofnodi contract datblygwyr Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo erbyn Rhagfyr 2026 ym mhob datblygiad y maent yn gyfrifol amdano yng Nghymru. Mae ein Ystadegau ar Waith Cyweirio Adeiladau yn cynnwys ddadansoddiad manwl o ddata'r rhaglen. 

Rwy'n falch o weld cynnydd yn cael ei wneud ac yn benderfynol o weld yr holl rwystrau yn cael eu dileu i sicrhau bod y broses gyweirio yn cyflymu. Rwy'n ymwybodol bod heriau wedi bod o ran cytuno ar y trwyddedau gwaith mewn rhai datblygiadau. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, rwyf wedi comisiynu canllawiau pwrpasol i gefnogi endidau cyfrifol i ymdrin â'r hyn a all fod yn broses heriol weithiau.   

Rwy'n gwbl ymrwymedig i sicrhau diogelwch ein hadeiladau preswyl canolig ac uchel iawn ac rwy'n falch o fod wedi gallu gweithio gydag aelodau ar draws y Senedd i gyflwyno darn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Wrth i Fil Diogelwch Adeiladu (Cymru) symud i'r cyfnod gweithredu, mae'n hanfodol ein bod i gyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y materion diogelwch tân ym mhob adeilad yn y rhaglen yn cael eu cyweirio cyn gynted â phosibl. 

1 Mae datganiadau data blaenorol wedi adrodd bod 473 o adeiladau yn y rhaglen, gan gynnwys 163 yn y categori contract datblygwyr. Cafodd hwn ei ostwng i 160 gan fod 3 adeilad wedi'u cadarnhau i fod o dan y trothwy 11 metr.