Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Cynhaliodd fferyllfeydd ar draws Cymru fwy na 600,000 o ymgyngoriadau clinigol ar gyfer ystod eang o faterion iechyd cyffredin yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Defnyddiodd bron i 346,000 o bobl y gwasanaeth anhwylderau cyffredin, sy'n cynnig cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer 27 o gyflyrau cyffredin ac sydd ar gael yn 99% o fferyllfeydd Cymru.

Mae ystadegau diweddaraf y gwasanaethau fferylliaeth cymunedol yn dangos bod mwy na 462,000 o ymgyngoriadau ar gyfer anhwylderau cyffredin wedi'u cynnal rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, y nifer uchaf a gofnodwyd erioed.

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros ddefnyddio'r gwasanaeth oedd i gael triniaeth ar gyfer dolur gwddf, clefyd y gwair, llid yr amrannau a dermatitis.

Darparodd fferyllfeydd fwy na 53,000 o ymgyngoriadau ar gyfer triniaeth dolur gwddf; 33,000 o ymgyngoriadau ar gyfer cyngor a thriniaeth atal cenhedlu a 121,000 o ymgyngoriadau ar gyfer cyflenwadau brys o feddyginiaethau, darparodd fferyllwyr fwy na 189,000 o feddyginiaethau sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig i bobl a oedd wedi rhedeg allan ac nad oeddent yn gallu cael presgripsiwn newydd mewn pryd.

Fe wnaeth fferyllfeydd hefyd ddosbarthu mwy na 80 miliwn o eitemau presgripsiwn yn yr un cyfnod.

Mae'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn helpu pobl i gael y gofal cywir yn agosach at adref, gan ryddhau apwyntiadau meddygon teulu i bobl ag anghenion iechyd mwy cymhleth neu frys.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:

Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal iechyd ledled Cymru.

Mae bron i hanner miliwn o ymgyngoriadau mewn un flwyddyn yn dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi gallu cerdded i mewn i'w fferyllfa leol a chael yr help sydd ei angen arnynt yn gyflym, heb orfod aros am apwyntiad meddyg teulu.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu derbyn gofal cyfleus yn agosach at adref, ac mae ehangu mynediad i'r gwasanaethau hyn yn rhan allweddol o hynny.

Y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn – dyna beth mae pobl yng Nghymru ei eisiau, a dyna beth mae ein fferyllfeydd yn ei ddarparu.