Sut i gyfrifo ffioedd ar gyfer ceisiadau corff cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy (SDCau).
Cynnwys
Strwythur ffioedd ar gyfer cyfrif ffioedd ymgeisio
Mae strwythur ffioedd cenedlaethol ar gyfer cymeradwyo ceisiadau Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) wedi’i bennu mewn Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) Cymru 2018 ac mae’n darparu ar gyfer codi ffioedd ar sail swm penodol ar gyfer pob cais, a hefyd swm ychwanegol a benderfynir gan faint yr ardal adeiladu, fel y nodir isod. Yn y cyd-destun hwn, ystyr ‘ardal adeiladu’ yw tir a nodir ar gynllun sy’n cyd-fynd â chais.
£350 am bob cais, a hefyd (hyd at uchafswm o £7,500):
- am bob 0.1 hectar (ha) ychwanegol hyd at 0.5 ha - £70
- am bob 0.1 ha ychwanegol rhwng 0.5 ha ac 1 ha - £50
- am bob 0.1 ha ychwanegol rhwng 1 ha a 5 ha - £20
- am bob 0.1 ha ychwanegol dros 5 ha - £10
Ffioedd rhatach
Gan ddefnyddio’r strwythur ffioedd uchod i gyfrif ffioedd ymgeisio, codir ffioedd rhatach gan y CCS o dan yr amgylchiadau canlynol:
Gwneir dau neu fwy o geisiadau neu gynigion amgen mewn cais sengl. Gall y CCS godi’r ffi ymgeisio am y cynnig a fyddai’n denu’r ffi uchaf, a hefyd hanner swm y ffi i’w chodi am bob un o’r ceisiadau a/neu gynigion amgen sy’n weddill
Mae’r ymgeisydd yn gyngor tref neu gymuned. Gall y CCS godi ffi sy’n hanner swm y ffi ymgeisio
Ni chaiff y CCS godi ffi mewn perthynas ag addasu cais, os yw cais am gymeradwyaeth, cyn penderfyniad gan y CCS, yn cael ei addasu drwy gytundeb rhwng y CCS a’r datblygwr
Ceisiadau a ailgyflwynir
Caiff y CCS godi ffi’n seiliedig ar hanner swm y ffi ymgeisio a godwyd am gais a gymeradwywyd yn flaenorol, os yw’r canlynol yn berthnasol rhoddwyd y gymeradwyaeth yn ystod y 12 mis blaenorol ac mae’r cais dilynol yn ymwneud yn llawn neu’n bennaf â’r cynllun SDCau a gymeradwywyd yn flaenorol (gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyo’r cais blaenorol).
Ni chaiff y CCS godi ffi mewn perthynas â chais dilynol am gymeradwyaeth lle mae’r cais yn ymwneud ag amod cymeradwyo yn unig, oni bai fod yr amod mewn perthynas ag adeiladu’r cynllun SDCau ac wedi’i wneud o dan y cais blaenorol a gymeradwywyd.
Ffioedd arolygu
Os bydd y CCS yn cymeradwyo cais yn amodol ar amod bod arolygiad(au) ar y cynllun SDCau yn cael ei gynnal, gall godi ffi arolygu o £168 am bob arolygiad.
