Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae TB yn parhau i effeithio’n sylweddol ar ffermydd unigol ac ar y diwydiant yn gyffredinol.  Mae’r frwydr yn erbyn TB gwartheg yn dechrau ar gyfnod newydd hollbwysig.  Mae llwyddiant ein polisi profi blynyddol bellach wedi arwain at bum mlynedd o ddata am y clefyd yng Nghymru, ac mae hyn wedi’i gadarnhau gan y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud o dan y prosiect epidemioleg TB.  Mae’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, gan gynnwys rhaglen beilot Cymorth TB, wedi dangos mai’r ffordd orau o ddelio â’r clefyd yw mewn partneriaeth â’r diwydiant ffermio, sydd â’r wybodaeth briodol, gyda chymorth gan y proffesiwn milfeddygol, sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ac mewn cysylltiad â’r diwydiant, yn y sector preifat a sectorau’r Llywodraeth.  Rwyf felly yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno menter newydd heddiw sy’n adlewyrchu’r datblygiadau hyn yn y Rhaglen Filfeddygol Cymorth TB.  

Ni allaf bwysleisio digon werth a phwysigrwydd swyddogaeth y milfeddyg, ac yn benodol y sgiliau, yr wybodaeth a pherthynas y milfeddyg lleol gyda’r cleientiaid.  Nid oes mae’n debyg enghraifft well o hyn na rhaglen Cymorth TB, sy’n cael ei lansio’n ffurfiol gennyf heddiw.  Mae swyddogaeth y milfeddyg preifat yn ganolog i’r broses o gyflawni rhaglen effeithiol i ddileu TB. Gyda hyn rydym yn ceisio galluogi practisau preifat a milfeddygon i’w cael i gyfrannu mwy at y rhaglen ddileu drwy’r rhaglen Cymorth TB.

Datblygwyd rhaglen Cymorth TB i roi dull mwy cynhwysfawr o atal clefydau a rheoli achosion newydd ac achosion presennol, a’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i ffermwyr a cheidwaid buchesi yn ystod y cyfnod y maent dan gyfyngiadau.  

Mae’r rhaglen filfeddygol yn cynnig ymweliad tair awr gan eu milfeddygon preifat eu hunain i ffermwyr sydd ag achosion newydd o TB, ar gost Llywodraeth Cymru.  Bydd pob milfeddyg sydd yn gwneud un o’r ymweliadau hyn wedi pasio modiwl hyfforddi fydd yn eu galluogi i egluro’r broses o reoli TB, edrych ar ba ddewis a pha fesurau sydd ar gael i ffermwyr i drechu’r clefyd yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys dewisiadau ynghylch polisïau masnachu a bioddiogelwch.  O heddiw ymlaen, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn dechrau cyflwyno talebau i ffermwyr yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer ymweliad o dan y rhaglen Cymorth TB.  

Trwy gydweithio i ddarparu gwybodaeth ar bob lefel, a chynnwys milfeddygon preifat, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfa y clefyd yng Nghymru.  TB yw un o’r problemau iechyd anifeiliaid mwyaf difrifol yr ydym yn eu hwynebu, ond rydym yn parhau i adeiladu a datblygu rhaglen sy’n gadarn ac yn ddigon hyblyg i wneud gwahaniaeth, ac un sy’n golygu gweithio mewn partneriaeth tuag at ein nod o Gymru Heb TB.