Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig ei adroddiad ynghylch penderfyniadau a wnaed gan bob un o'r pedair llywodraeth. 

Ar ôl ystyried adroddiad ac argymhellion yr ymchwiliad yn ofalus, rwyf heddiw wedi ysgrifennu at y Farwnes Hallett, yn rhannu ymateb Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r ymateb a byddaf yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yfory.

Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn a pharhaol y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar bobl a chymunedau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi o'r pandemig ac yn diolch i'r ymchwiliad am ei waith parhaus.