Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad trosolwg hwn o gysylltiadau rhynglywodraethol yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Gorffennaf 2024 a Mawrth 2026, ac mae'n cael ei gyhoeddi yng nghyd-destun y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru yn 2021. Dyma’r trydydd adroddiad a gyhoeddwyd yn unol â’r cytundeb hwnnw. Mae'r adroddiadau blaenorol ar gael yma.

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei ddarparu ochr yn ochr â'r diweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru i'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn a phwyllgorau, a thrwy ddatganiadau a gohebiaeth, sydd ar gael ar wefan y Senedd. Mae hysbysiadau sy'n ymwneud â'r gwaith ymgysylltu a wnaed fel rhan o strwythurau'r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ar gael yma.

Cysylltiadau rhynglywodraethol

Cyfansoddiad a datganoli

Dyma’r adroddiad trosolwg cyntaf ers Etholiad Cyffredinol y DU fis Gorffennaf 2024. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi gweld patrwm a threfniadau cyffredinol cryfach i’r dulliau ffurfiol a nodir yn yr Adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, sy'n adlewyrchu gwelliant mewn gwaith rhynglywodraethol ers mis Gorffennaf 2024. Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd hwn wedi bod yn gyson ym mhob maes, ac mae achosion o hyd lle mae'r ymgysylltu wedi bod yn gyfyngedig neu’n anwastad. Ers mis Gorffennaf 2024 mae'r ymgysylltu wedi digwydd ar draws peirianwaith cysylltiadau rhyngweinidogol ffurfiol yn ogystal â thrwy drafodaethau gweinidogol dwyochrog parhaus.

Fel arfer, ar ôl pob cyfarfod, cyhoeddir hysbysiad byr ar y cyd, ac mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio i ddarparu rhagor o wybodaeth drwy Ddatganiadau Ysgrifenedig neu lythyrau manwl i bwyllgorau’r Senedd yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol gyda’r Senedd.

Haen Uchaf: Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig

Cyfarfu Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (11 Hydref 2024; a 23 Mai 2025). Roedd y trafodaethau’n ymwneud ag ystod o feysydd gan gynnwys cysylltiadau rhynglywodraethol; yr economi a thwf; blaenoriaethau cyffredin o ran ynni glân; datblygiadau byd-eang, gan gynnwys Rwsia/Wcráin ac Israel/Gaza; cyhoeddiadau masnach y DU ac Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU.

Haen Ganol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (IMSC)

Mae’r IMSC yn elfen werthfawr o’r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol, gan ddarparu fforwm ar gyfer ystyried materion trawsbynciol. Cyfarfu bum gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (3 Rhagfyr 2024; 27 Chwefror 2025; 26 Mehefin 2025, 11 Tachwedd 2025 ac 17 Chwefror 2026). Roedd y trafodaethau’n ymwneud â meysydd megis Confensiwn Sewel a Rhaglen Ddeddfwriaeth y DU; Deddf Marchnad Fewnol y DU (2020) a Fframweithiau Cyffredin; gwydnwch ac Ymchwiliad Covid-19 y DU; defnyddio technoleg wrth ddiwygio’r sector cyhoeddus; strategaethau diwydiannol; diogelwch etholiadau a materion cyfoes.

Haen Ganol: y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid (F:ISC)

Mae'r F:ISC wedi cyfarfod chwe gwaith yn ystod y cyfnod adrodd (3 Hydref 2024; 27 Chwefror 2025, 26 Mehefin; 17 Hydref 2025; a 19 Mawrth 2026). Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar y cyd-destun economaidd a chyllidol, gan gynnwys blaenoriaethau llywodraethau datganoledig cyn digwyddiadau cyllidol y DU a goblygiadau posibl penderfyniadau gwariant a threthiant y DU gan gynnwys newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr; effaith mesurau cyni Llywodraeth flaenorol y DU ar gynhyrchiant gwasanaethau cyhoeddus; cyfleoedd i hybu cynhyrchiant drwy fentrau digidol; a chyflogau’r sector cyhoeddus. Archwiliodd swyddogion hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol ar gyfer llywodraethau datganoledig; gwelliannau i weithrediad fformiwla Barnett; goblygiadau polisïau Llywodraeth y DU fel pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU (2020); a’r angen am well cyfathrebu ar setliadau cyllid datganoledig. Roedd yr ymgysylltu hefyd yn cynnwys rôl Sefydliadau Ariannol Cyhoeddus a’u dulliau rhyngweithio â llywodraethau datganoledig, buddsoddi mewn seilwaith, a rôl yr Awdurdod Cenedlaethol Seilwaith a Thrawsnewid Gwasanaethau (NISTA).

Cynhaliwyd cyfarfod hefyd â Gweinidogion Cyllid y DU ym mis Ebrill 2025, gyda chynrychiolwyr o Swyddfa’r Gwledydd yn bresennol. Roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod blaenoriaethau llywodraethau datganoledig cyn Adolygiad Gwariant y DU.

Lefel Portffolio: Grwpiau Rhyngweinidogol

Ceir rhagor o fanylion am y Grwpiau Rhyngweinidogol penodol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Mae’r Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol ddiduedd, a sefydlwyd yn sgil yr Adolygiad, yn gwbl weithredol ac atebol i’r Cyngor. Mae’n gwasanaethu pob llywodraeth yn gyfartal yn unol â’r Adolygiad. Fodd bynnag, mae’r llywodraethau eu hunain yn dal yn atebol am gysylltiadau rhynglywodraethol.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Cynhaliwyd tair Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ystod y cyfnod adrodd hwn:

Uwchgynhadledd yr Alban (6 Rhagfyr 2024)

Canolbwyntiwyd ar Ariannu Pontio Teg, gan gynnwys pwysigrwydd gweithio ar y cyd â’r sector preifat i annog mewnfuddsoddi a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant ynni adnewyddadwy i ysgogi twf economaidd a ffyniant ar draws yr ynysoedd hyn.

Uwchgynhadledd Gogledd Iwerddon (13 Mehefin 2025)

Canolbwyntiwyd ar rôl Deallusrwydd Artiffisial wrth ddiwygio a thrawsnewid, gan gynnwys dulliau o fanteisio ar dechnolegau deallusrwydd artiffisial ar gyfer diwygio a thrawsnewid y sector cyhoeddus wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws yr ynysoedd hyn.

Uwchgynhadledd Cymru (5 Rhagfyr 2025)

Canolbwyntiwyd ar y Diwydiannau Creadigol. Yng nghyfarfod llawn yr Uwchgynhadledd, tynnwyd sylw at bwysigrwydd y sector Sgrin i’r Diwydiannau Creadigol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd, yn ogystal â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r sector, ac ymdrechion gweinyddiaethau i gefnogi’r diwydiant a’r bobl sy'n gweithio ynddo.

Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau

Mae'r Cyngor yn ategu ond nid yn disodli'r strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol presennol a’r angen parhaus am drafodaethau rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU, gan adlewyrchu rolau cyfansoddiadol y llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig.

Mae'r Cyngor wedi cyfarfod ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (11 Hydref 2024 a 23 Mai 2025). Galluogodd y fforwm hwn drafodaeth ddefnyddiol rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a set ehangach o arweinwyr y sector cyhoeddus ledled y DU drwy gynnwys Meiri Rhanbarthau Lloegr. Roedd y trafodaethau’n ymwneud â thwf a mewnfuddsoddi, strategaethau diwydiannol, buddsoddi rhyngwladol, masnach a thariffau, a deallusrwydd artiffisial.

Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU a Chonfensiwn Sewel

Mae’r cyfnod adrodd hwn yn cwmpasu sesiwn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Cyhoeddwyd 40 o fesurau yn wreiddiol yn Araith y Brenin ar 17 Gorffennaf 2024. Mae’r dulliau ymgysylltu yn ystod y sesiwn hon wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan o safbwynt ymgysylltu cyn cyflwyno Biliau ac wrth iddynt ddatblygu. Mae hyn wedi helpu Llywodraeth Cymru i ystyried manylion y Biliau perthnasol a gwneud argymhelliad i’r Senedd ynghylch a yw Llywodraeth Cymru yn argymell bod y Senedd yn cydsynio iddynt.

Cafwyd ymgysylltu da â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ystod o Filiau ac is-ddeddfwriaeth, a chafodd swyddogion Llywodraeth Cymru eu cynnwys drwy gydol y broses datblygu polisi a'r broses ddrafftio. Bu'r ymgysylltu hwn o gymorth o ran ystyried buddiannau Cymru yn gynnar ac fe sicrhaodd gydweithredu effeithiol ar faterion y mae iddynt oblygiadau datganoledig.

Lle bo'n briodol, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu negodi newidiadau i Filiau penodol (er enghraifft, y Bil Ynni) i sicrhau rolau ystyrlon i Weinidogion Cymru neu’r Senedd yn y Biliau hynny.

Hyd yma yn y sesiwn hon, rhoddwyd y Cydsyniad Brenhinol i bymtheg o Filiau'r DU a oedd yn cynnwys darpariaethau ynghylch materion datganoledig a gafodd gydsyniad y Senedd. Ni fu unrhyw achosion o dorri Confensiwn Sewel ers etholiad cyffredinol y DU yn 2024.

Fframweithiau Cyffredin

Mae Fframweithiau Cyffredin yn gytundebau rhynglywodraethol gweithredol sy’n rheoli meysydd polisi a oedd yn arfer cael eu llywodraethu gan yr UE. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, gwnaethpwyd rhagor o gynnydd tuag at gymeradwyo fframweithiau gweithredu dros dro gan Weinidogion, yng nghyd-destun adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU (fel y nodir isod). Rhagwelir y cytunir ar nifer o Fframweithiau Cyffredin cyn etholiad y Senedd.

Cyllid

Yn ogystal â thrafodaethau’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, bu cyfarfodydd dwyochrog gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo a rheilffyrdd, diwygio Barnett a chyllid ar gyfer newidiadau a wnaethpwyd i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr. Roedd y trafodaethau hefyd yn ymdrin â’r angen am hyblygrwydd ychwanegol yn y gyllideb, defnyddio pwerau cymorth ariannol Deddf Marchnad Fewnol y DU, a chyllid ar gyfer Safleoedd Rheolaethau’r Ffin ar ôl Brexit.

Cafwyd trafodaethau dwyochrog hefyd gydag Ysgrifennydd y Siecr i’r Trysorlys ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys. Roedd cyfarfodydd gydag Ysgrifennydd y Siecr yn canolbwyntio ar faterion treth, gan gynnwys dynodi safleoedd treth yng nghyswllt Porthladdoedd Rhydd, ardrethi annomestig, triniaeth dreth cynlluniau lles Llywodraeth Cymru, y Cynllun Masnachu Allyriadau a’r Adnodd Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau, yn ogystal â datganoli trethi newydd gan gynnwys cynigion ar gyfer Treth ar Dir Gwag. Roedd y cyfarfod gyda thîm Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys yn canolbwyntio ar dwf economaidd, Strategaeth Ddiwydiannol y DU a datganoli Ystad y Goron.

Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd gwrdd yn rheolaidd â’r Canghellor yn ystod y cyfnod adrodd hwn a thrafod cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad y DU yng Nghymru i gefnogi twf economaidd fel Ardaloedd Twf AI a buddsoddi mewn rheilffyrdd a thomenni glo ochr yn ochr â thrafodaethau ar yr angen am hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i Gymru. Fe wnaeth y trafodaethau hefyd gyffwrdd â chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, datganoli Ystad y Goron, a diwygio lles.

Ystadegau a Dadansoddi

Mae'r Concordat ar Ystadegau wedi parhau i weithredu'n dda - mae'r cysylltiadau rhynglywodraethol yn cael eu cydgysylltu ar lefel swyddogion i raddau helaeth. Mae ymgysylltu sylweddol wedi parhau â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ystadegau’r boblogaeth a’r cyfrifiad, a’r heriau ansawdd parhaus a nodwyd yn ystadegau’r farchnad lafur.

Cynhaliwyd y Cynulliad Ystadegol cyntaf ym mis Ionawr 2025, gan ddod ag amrywiaeth eang o ddefnyddwyr a chynhyrchwyr ystadegau swyddogol ledled y DU at ei gilydd i drafod y blaenoriaethau, y cyfleoedd a'r heriau sy’n wynebu’r system ystadegol. Mae gweithgareddau’n parhau i gael eu datblygu yng nghyswllt cydlyniant ystadegau ledled y DU, cyn cynnal adolygiad ffurfiol o’r Concordat ar Ystadegau yn ddiweddarach yn 2026.

Polisi Digidol

Mae'r ymgysylltu â swyddogion Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU, a oedd yn ymwneud yn wreiddiol â datblygu Cynllun Gweithredu Cynhwysiant Digidol newydd y DU a gyhoeddwyd fis Chwefror 2025, wedi parhau’n rheolaidd.

Mae Cronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol Llywodraeth y DU (DIIF) bellach wedi cael ei lansio gyda Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid canlyniadol. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r cyllid hwn i gyflawni rhagor o weithgarwch cynhwysiant digidol a’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru.

Mae ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU ar ehangu’r achosion defnydd ar gyfer manylion adnabod digidol, gan gynnwys cysylltu ar ymgynghoriad sydd ar y gweill ar y cymhwyster manylion adnabod digidol newydd arfaethedig a gyhoeddwyd gan y llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg a Swyddfa’r Cabinet ar ddull mwy cydgysylltiedig o ymgysylltu ar Gynllun Gweithredu Seiber Cenedlaethol y DU a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026.

Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg

Parhaodd y Prif Gynghorwyr Gwyddonol yn Adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU, ynghyd â Phrif Gynghorwyr Gwyddonol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a Phrif Gynghorydd Gwyddonol a Thechnoleg Gogledd Iwerddon i gwrdd yn rheolaidd yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Roedd cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Wyddoniaeth, Arloesi, Technoleg a Chynhwysiant Digidol i fod i gael ei gynnal ar 24 Medi 2025. Fodd bynnag, cafodd ei ganslo ar fyr rybudd oherwydd proses ad-drefnu Llywodraeth y DU. Rhagwelir yn awr y bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn dilyn etholiadau Cymru a’r Alban.

Caffael

Mae’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus yn parhau i hwyluso rhannu gwybodaeth am faterion polisi. Rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i’r broses hon o gyfnewid gwybodaeth, er ei bod yn un anneddfwriaethol, gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal bob mis a bob dwy flynedd.

Parhaodd yr ymgysylltu adeiladol ar ôl i Ddeddf Caffael 2023 ddod i rym ym mis Chwefror 2025. Parhaodd y cydweithio hefyd i sicrhau gwelliannau i gynnig digidol Llywodraeth y DU a’r rhyngweithio rhyngddo a’r Platfform Digidol Cymreig yn ogystal â rhannau o’r Ddeddf nad ydynt wedi cychwyn eto. Ar ben hynny, bu ymgysylltu ynghylch Bil Caffael newydd arfaethedig Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, oherwydd mai prin oedd yr wybodaeth a rannwyd, arweiniodd hyn at oedi o ran gwaith Llywodraeth Cymru o adolygu’r polisi a chyflwyno argymhelliad prydlon ar gyfer cydsyniad y Senedd.

Mae cyfarfodydd polisi rhynglywodraethol yn parhau, gan ddarparu fforwm i drafod penodau caffael mewn Cytundebau Masnach Rydd drafft. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â thimau polisi Llywodraeth y DU ynghylch gosod Offerynnau Statudol i ddiweddaru cytundebau masnach o dan y Ddeddf Caffael, gan sicrhau cysondeb parhaus.

Etholiadau

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru bedair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (12 Chwefror 2025; 30 Mehefin 2025; 30 Hydref 2025; ac11 Chwefror 2026). Mae trafodaethau dros y cyfnod adrodd wedi cynnwys cynlluniau Llywodraeth y DU ar ddiwygio etholiadol, y system Ymgeisio Ar-lein am Bleidlais Absennol, ymgysylltu democrataidd, Cofrestru'n Awtomatig i Bleidleisio, a pharatoi ar gyfer etholiadau 2026. Cytunodd y Gweinidogion i barhau i gydweithio gan gynnwys gwaith ar ddiogelwch etholiadau a diwygio etholiadol. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd ar lefel swyddogion rhwng llywodraethau i rannu gwybodaeth ac arferion gorau.

Cysylltiadau Rhyngwladol

Ailosod y berthynas â'r UE

Mae ymgysylltu Gweinidogol ynglŷn â’r berthynas rhwng y DU a’r UE wedi digwydd drwy Grŵp Rhyngweinidogol Cysylltiadau’r DU a’r UE. Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol dair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (3 Rhagfyr 2024, 12 Mai 2025 a 21 Ionawr 2026). Mae'r trafodaethau wedi canolbwyntio ar flaenoriaethau’r pedair llywodraeth ar gyfer y gwaith ehangach sy’n cael ei wneud i ailosod perthynas y DU â’r UE. Cynhaliwyd y cyfarfod ym mis Mai yn ystod yr wythnos a oedd yn arwain at Uwchgynhadledd y DU a'r UE.

Ar lefel swyddogion, mae'r ymgysylltu â’r tîm canolog sy’n arwain ar berthynas y DU â’r UE wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae'r trafodaethau ag adrannau eraill Llywodraeth y DU sy’n ymwneud ag agenda ailosod y berthynas â'r UE yn gallu amrywio, gan ddibynnu ar y maes gwaith dan sylw.

Polisi Masnach

Cafodd yr ymgysylltu Gweinidogol ar y rhaglen cytundebau masnach rydd ehangach a’r polisi masnach yn gyffredinol ei gynnal drwy’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach, sydd wedi cyfarfod dair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (22 Ionawr 2025, 2 Mehefin 2025 ac 8 Ionawr 2026). Mae’r ymgysylltu ar Gytundebau Masnach Rydd wedi bod yn gadarnhaol, ac roedd y negodiadau ar Gytundeb Masnach Rydd y DU-India yn enghraifft arbennig o dda o waith rhynglywodraethol. Mae’r ymgysylltu ar wahanol faterion polisi masnach, lle nad oes prosesau ymgysylltu clir ar waith, wedi amrywio. Nid yw’r ymgysylltu ar Strategaeth Fasnach Llywodraeth y DU ac ar negodiadau diweddar rhwng y DU ac Unol Daleithiau America, er enghraifft cytundeb Fferyllol y DU ac UDA, wedi bod yn unol â’r disgwyliadau.

Yr Economi

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant dair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (21 Ionawr 2025, 6 Mai 2025; a 3 Chwefror 2026). Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar y Strategaeth Ddiwydiannol a Chynlluniau Sectorau, a phwysigrwydd parhau i ymgysylltu trawslywodraethol ar nifer o strategaethau ategol, gan gynnwys strategaethau cyhoeddedig Llywodraeth y DU ar ddur, seilwaith, busnesau bach a chanolig a masnach - i ganfod cyfleoedd i gysoni. Yn ystod y trafodaethau, tynnwyd sylw hefyd at yr angen i gynnal cyfarfodydd y Grŵp Uwch-swyddogion yn amlach yn ystod cyfnod yr etholiad fel bod deialog a momentwm cryf yn parhau.

Strategaeth Ddiwydiannol

Canolbwyntiodd y Pwyllgor Rhyngweinidogol ar Fusnes a Diwydiant ar 3 Chwefror 2026 ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ar draws y Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae'r ymgysylltu wedi parhau i fod yn gadarnhaol, ac mae trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidogion yn yr Adran Busnes a Masnach wedi dangos ymrwymiad ar y cyd i hybu twf economaidd. Mae'r ymgysylltu Gweinidogol hwn wedi helpu i greu naws adeiladol ar gyfer cydweithredu parhaus.

Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Strategaeth a’i Chynlluniau Sector ategol, mae'r ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth y DU wedi bod yn gryf ac yn adeiladol ar y cyfan. Er bod ansawdd a dyfnder yr ymgysylltu wedi amrywio rhwng adrannau, mae’r rhan fwyaf o’r rhyngweithio wedi cynnwys trafodaethau ar lefel polisi a gweithdai ar y cyd. Er enghraifft, bu ymgysylltu cynhyrchiol rhwng y Cyngor Cynghori annibynnol ar y Strategaeth Ddiwydiannol a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Deddfwriaeth Economaidd

Ymgysylltodd Llywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (PRAM) ychydig cyn iddo gael ei gyflwyno yn Senedd y DU. Mae’r Bil hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch marchnata neu ddefnyddio cynhyrchion yn y Deyrnas Unedig a’r unedau mesur a’r meintiau a ddefnyddir i farchnata nwyddau yn y Deyrnas Unedig. Cytunodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ei fod yn ymwneud â meysydd lle y mae'r cymhwysedd wedi'i ddatganoli a chafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â’r Bil ei osod gerbron y Senedd ar 20 Medi, a memoranda atodol pellach ar 24 Mawrth 2025 a 12 Mai 2025. Ar ôl ymgorffori dull cydsynio a oedd yn rhoi rôl i Weinidogion Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau, rhoddodd y Senedd ei chydsyniad i’r Bil ar 4 Mehefin 2025, a chafodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol ar 12 Gorffennaf 2025.

Drwy gydol taith y Bil drwy'r broses seneddol, cododd Gweinidogion Cymru bryderon gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig ynghylch rôl Gweinidogion Cymru a'r Senedd yn y broses o wneud penderfyniadau. Er bod gwelliannau dilynol yn ymdrin â'r pryderon hyn yn rhannol drwy roi rôl gyfyngedig i Weinidogion Cymru mewn meysydd datganoledig, nid oeddent yn bodloni cais Llywodraeth Cymru am bwerau gwneud rheoliadau.

Ar y llaw arall, mae'r ymgysylltu ar nifer o gynigion deddfwriaethol eraill wedi bod yn fwy cadarnhaol. Gwnaeth swyddogion Llywodraeth y DU yn siŵr bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Ddeddf Marchnadoedd Digidol a Chystadleuaeth a Defnyddwyr a hynt y Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad). Roedd hyn yn cynnwys darpariaethau a fyddai’n hwyluso defnyddio ‘Data Clyfar’ a’r Cynllun Tanwydd Agored yn y dyfodol.

Cafwyd ymgysylltu mwy effeithiol ar lefel swyddogion a Gweinidogion o ran cyhoeddi’r ymgynghoriad Late Payments: Tackling poor payment practices, ynglŷn â deddfwriaeth newydd bosibl i hyrwyddo taliadau prydlon. Bu ymgysylltu da hefyd â swyddogion yn y cyfnod yn arwain at gyhoeddi Rheoliadau Cymru a Lloegr i ddiwygio’r Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni (MEES).

Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi

Mae Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yn rhaglenni ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth gyfartal a phroses o wneud penderfyniadau ar y cyd. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU wedi gweithio ar y cyd ar y canlynol:

  • Datblygu achosion busnes a chyllido Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn y dyfodol. Cafodd deddfwriaeth i ddechrau safleoedd treth ar gyfer y ddau Borthladd Rhydd ei phasio yn y ddwy lywodraeth yn 2024 ac mae achosion busnes llawn wedi cael eu cymeradwyo.
  • Datblygu cynigion ar gyfer Parth Buddsoddi Sir y Fflint-Wrecsam a Pharth Buddsoddi Caerdydd-Casnewydd.
  • Llunio Cynllun Gweithredu Parthau Strategaeth Diwydiannol ar y cyd sy’n nodi camau gweithredu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi Cymru y tu hwnt i gytuno ar achosion busnes.

Mae holl benderfyniadau allweddol y llywodraeth ar raglenni Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi Cymru yn cael eu llywio gan Fwrdd Rhaglen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n cynnwys uwch-swyddogion o’r ddwy lywodraeth.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, bu cyfarfodydd a gohebiaeth rhwng Gweinidogion y ddwy lywodraeth ar gamau allweddol yn natblygiad Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi Cymru. Mae Gweinidogion o bob llywodraeth yn cael gwybodaeth yr un pryd ac yn gwneud y penderfyniadau terfynol yr un pryd.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU / Cronfa Twf Lleol y DU

Mae’r gronfa etifeddol, sef y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a gymerodd le Cronfeydd Strwythurol yr UE, yn ei blwyddyn bontio. Mae’r ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi canolbwyntio ar drefniadau ar gyfer cyllid ar ôl 2026. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfodydd a gohebiaeth rhwng Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

Ar 13 Hydref 2025, gwnaethpwyd cyhoeddiad ar y cyd â Llywodraeth y DU ar Gronfa Twf Lleol gwerth £547m i Gymru - gan gadarnhau bod y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn ag arian a oedd yn arfer dod gan yr UE yn cael ei dychwelyd i Lywodraeth Cymru, yn unol â’n setliad datganoli. Yn dilyn hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar 7 Tachwedd 2025 ar ei chynigion ar gyfer y gronfa hon i helpu i gynyddu cynhyrchiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd ledled Cymru. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi helpu i lywio Cynllun Buddsoddi i Lywodraeth y DU gytuno arno, a ddisgwylir erbyn canol mis Mawrth 2026. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gwblhau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi’r egwyddorion ar gyfer defnyddio a rheoli’r gronfa.

Rheoleiddio Economaidd

Cafodd Deddf Marchnad Fewnol y DU (2020) ei gosod gan Lywodraeth flaenorol y DU heb gydsyniad y llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig. Fe wnaeth Llywodraeth bresennol y DU ymgysylltu â'r llywodraethau datganoledig ar y materion sy'n codi o'r Ddeddf drwy lwybrau rhynglywodraethol megis y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, ac mewn trafodaethau dwyochrog. O ganlyniad, ym mis Ionawr 2025, cyflwynodd Llywodraeth y DU ei hadolygiad o’r Ddeddf gan ehangu ei chwmpas i gynnwys mwy na’r hyn a oedd yn ofynnol yn statudol. Cafwyd ymgysylltu adeiladol yn ystod yr adolygiad, lle cyfrannodd Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogion a Gweinidogion.

Croesawodd Llywodraeth Cymru y newidiadau a ddeilliodd o'r adolygiad fel cam i'r cyfeiriad cywir i ddechrau mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol sydd gennym ynghylch y Ddeddf. Mae’r prif newid i weithredu penderfyniadau a wneir mewn fframweithiau cyffredin yn awtomatig yn gam i’w groesawu i fodloni safbwynt hirsefydlog Llywodraeth Cymru mai fframweithiau cyffredin ddylai fod y prif adnodd ar gyfer rheoli datganoli ym marchnad fewnol y DU. Mae trafodaeth wedi parhau ar lefel swyddogion ynghylch y manylion y tu ôl i’r ymrwymiadau.

Ynni a Newid Hinsawdd

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd bum gwaith yn ystod y cyfnod adrodd (17 Hydref 2024; 6 Mawrth 2025; 6 Mai 2025; 21 Hydref 2025; a 26 Ionawr 2026).

Roedd y pynciau trafod yn cynnwys:

  • datgarboneiddio’r sector pŵer
  • biomethan
  • mentrau ynni lleol a’u manteision i gymunedau
  • seithfed cyllideb garbon y DU
  • cyfeiriad Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn y dyfodol, gan gynnwys ymgysylltiad Llywodraeth y DU â’r UE
  • Cynllun Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU a’r Asiantaeth Cartrefi Cynnes arfaethedig.

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ), Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar benodiadau i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, gan gynnwys y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol newydd ac aelodau’r Pwyllgor Addasu. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru at Adroddiad Tryloywder Dwyflynyddol cyntaf y DU fel sy'n ofynnol gan Gytundeb Paris a rhoddodd ei barn ar y terfyn credyd carbon ar gyfer Cyllideb Garbon 5 y DU (2028-32). Fe wnaethom hefyd gyfrannu at ymateb Llywodraeth y DU i adroddiadau blynyddol y Pwyllgor ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac at gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyflawni Cyllideb Garbon 6. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, parhaodd yr ymgysylltu rheolaidd â DESNZ, Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau pedair gwlad y DU.

Cyflogadwyedd

Ym mis Tachwedd 2024, gwnaeth Papur Gwyn Llywodraeth y DU “Get Britain Working” ymrwymiad newydd i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru.

Mae hynt y gwaith ar yr ymrwymiad wedi bod yn siomedig o araf ac mae gwahaniaethau’n parhau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran sut mae cyllid yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Addysg

Cyfarfu Cyngor Gweinidogion Addysg y DU ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd (20 Tachwedd 2024 ac 13 Tachwedd 2025). Roedd y trafodaethau yng nghyfarfod 2024 yn canolbwyntio ar Ddysgu Proffesiynol Athrawon a recriwtio a chadw athrawon, arferion gorau mewn dysgu proffesiynol a’r heriau cyffredin a wynebir, rôl werthfawr myfyrwyr rhyngwladol yn y DU, a mentrau gofal plant cynnar. Roedd y trafodaethau yng nghyfarfod 2025 yn canolbwyntio ar y cwricwlwm, defnyddio AI mewn ysgolion ac ymddygiad disgyblion.

Yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth, Bwyd

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig chwe gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (19 Medi 2024; 11 Tachwedd 202; 27 Ionawr 2025; 23 Mehefin 2025, 24 Tachwedd 2025; a 5 Chwefror 2026). Roedd trafodaethau’r Grŵp yn cynnwys archwiliadau dwfn ar reoli tir amgylcheddol a’r economi gylchol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd tri chyfarfod eu canslo ar fyr rybudd gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol. Arweiniodd hyn at benderfyniadau polisi munud olaf a chynnydd araf mewn meysydd blaenoriaeth. Yn dilyn hyn, cytunodd y grŵp ar bwysigrwydd cyfarfodydd ac ymgysylltu rheolaidd rhwng llywodraethau. Er gwaethaf y materion hyn, mae gwaith trawslywodraethol wedi parhau, ac un enghraifft o hyn yw cytundeb Rheoliadau Marchnata Nwyddau Manwerthu 2025. Mae Fframweithiau Cyffredin Dros Dro wedi parhau i gael eu defnyddio i helpu gyda gwaith trawslywodraethol a rheoli gwahaniaethau.

Rheolaethau’r Ffin

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr gweinidogol o Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar reolaethau’r ffin, yn enwedig wrth ystyried y goblygiadau polisi a chyflawni ledled Prydain Fawr ar gyfer Model Gweithredu Targed y Ffin o benderfyniad Llywodraeth y DU i geisio cytundeb gyda’r UE ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, bu cyfarfodydd a gohebiaeth rhwng gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a swyddogion yn ymwneud ag adeiladu Safle Rheolaethau Ffin Caergybi a ariennir gan Lywodraeth y DU, ac mae oedi gyda’r gwaith o’i gwblhau bellach wrth i ni aros i’r DU a’r UE gyrraedd Cytundeb Ailosod.

Iechyd

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, mae cysylltiadau cynhyrchiol wedi parhau ar lefel swyddogion ar draws y pedair gwlad. Mae’r trafodaethau hyn wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu agendâu’r Grŵp Rhyngweinidogol ac wedi arwain at drafodaethau Gweinidogol ar feysydd o ddiddordeb cyffredin a chyfleoedd i ystyried meysydd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Mae’r gwaith yn ystod y cyfnod hwn hefyd wedi helpu i hwyluso trafodaethau a dysgu rhwng llywodraethau’r pedair gwlad ar bynciau sy'n cynnwys iechyd meddwl a strategaeth iechyd.

Mae’r cyfnod hwn wedi cynnwys pedwar cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (12 Rhagfyr 2024; 30 Ebrill 2025; 25 Medi 2025; ac 11 Rhagfyr 2025). Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar sut gallai mabwysiadu technolegau newydd wella canlyniadau cleifion ar gyfer ein systemau iechyd a gofal yn y DU; dulliau priodol y llywodraeth o ymdrin ag iechyd meddwl; diogelwch cleifion; anghydraddoldebau iechyd; strategaethau atal; gofal dewisol a lleihau rhestrau aros; a pharodrwydd ar gyfer pandemig.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'r ymgysylltu gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau cymdeithasol wedi canolbwyntio ar ddiogelu, diwygio gofal a dysgu trawsffiniol. Mae tîm yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl wedi gweithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref i weithredu'r cynllun peilot ar Adolygiadau Lladdiad ag Arf Ymosodol a threfniadau lladdiadau cam-drin domestig, gyda chymorth ymgysylltu ar lefel weinidogol a chydweithredu parhaus rhwng swyddogion. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfod gweinidogol teirochrog ym mis Tachwedd 2024, a chytundeb ar gynllun peilot sicrhau ansawdd ar gyfer Adolygiadau Lladdiad Domestig yng Nghymru. Mae’r Swyddfa Gartref wedi annog a chroesawu cyfranogiad Llywodraeth Cymru mewn Bwrdd Sicrhau Ansawdd newydd ar gyfer Adolygiadau Lladdiad Domestig ac wedi gweithio’n agos i geisio cyfraniadau ar ddiwygiadau i’w chanllawiau statudol ar Adolygiadau Lladdiad Domestig a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.

Ym maes gofal cymdeithasol oedolion, mae swyddogion wedi sefydlu grŵp pedair gwlad i ymdrin â gofal preswyl, gofalwyr di-dâl, gofal cartref ac ailalluogi, law yn llaw ag ymgysylltu ehangach drwy'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth ar faterion fel talu am ofal, comisiynu, ac effeithiau trawsffiniol. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru ac mae'n cynnwys ymgysylltu â Chomisiwn y Farwnes Casey ar gynigion Llywodraeth y DU ynghylch Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.

Ym maes gwasanaethau cymdeithasol plant, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan weithredol mewn fforymau i'r DU gyfan a fforymau datganoledig ar blant digwmni sy'n ceisio lloches, maethu, gofal gan berthynas, mabwysiadu, llety i blant ag anghenion cymhleth, a chyfiawnder teuluol. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan yn nhasgluoedd a grwpiau llywio'r DU, fforymau polisi pedair gwlad ffurfiol, cydweithio â'r Adran Addysg a Chomisiwn y Gyfraith, a chydweithredu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddiwygio cyfiawnder teuluol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth Cymru wedi'i hadlewyrchu mewn offerynnau statudol sy'n gysylltiedig â mabwysiadu, er enghraifft cyflwyno absenoldeb newyddenedigol, a'r Bil Lles Plant ac Ysgolion. Mae ymgysylltu gweinidogol wedi sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn mentrau ledled y DU, gan gynnwys datblygu strategaeth cyfiawnder teuluol, ac ymrwymiadau rhyngwladol megis y Siarter Fyd-eang ar Ddiwygio Gofal Plant.

Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (3 Gorffennaf 2025; ac 11 Rhagfyr 2025). Roedd trafodaethau yn canolbwyntio ar feysydd megis capasiti carchardai, llwyth achosion llys a chymorth cyfreithiol, arloesi digidol mewn cyfiawnder, trais yn erbyn menywod a merched, ac ymatebion i'r Adolygiad Annibynnol o Lysoedd Troseddol.

Yn ogystal, cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd dwyochrog gyda Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod adrodd hwn i drafod materion cyfiawnder, plismona a diogelwch cymunedol. Mae’r pynciau a drafodwyd wedi cynnwys yr adolygiad annibynnol o ddedfrydu, cynlluniau ar gyfer rhyddhau carcharorion yn gynnar, ystad y llysoedd yng Nghymru, y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod, cefnogi’r proffesiynau cyfreithiol yng Nghymru, diwygio trefniadau llywodraethiant ar gyfer plismona a data cyfiawnder wedi’i ddadgyfuno.

Yn ystod 2025 a dechrau 2026, ymgysylltodd Gweinidogion a swyddogion Cymru yn helaeth â chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, gan gynnwys trafodaethau ar ddedfrydu, polisi cyfiawnder ieuenctid, a materion ariannol a gweithredol cysylltiedig.

Diogelwch, Diogeledd a Mudo

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a chymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig ar faterion mudo. Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo dair gwaith yn ystod 2025 (25 Ionawr 2025; 21 Mai 2025 ac 12 Tachwedd 2025) a rhagwelir y bydd cyfarfod ychwanegol yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Mawrth 2026. Ym mis Ionawr 2025, cymerodd Gweinidogion ran mewn trafodaeth ar draws themâu craidd y grŵp, gan gynnwys cynlluniau i gysylltu mudo â pholisïau’r farchnad lafur a sgiliau (mudo rheolaidd), Rheolaeth Diogelwch y Ffin a Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo (mudo afreolaidd), y Genhadaeth Strydoedd Mwy Diogel a’r Bil Troseddu a Phlismona (diogelwch), a’r Strategaeth Twyll (diogeledd).

Yn y cyfarfod a gafodd ei gynnull ar 21 Mai 2025, cymerodd Gweinidogion ran mewn trafodaeth ynghylch materion mudo rheolaidd ac afreolaidd, gan gynnwys y Papur Gwyn ar Fewnfudo a'r grŵp cysylltiedig, sef Grŵp Tystiolaeth y Farchnad Lafur, yn ogystal â llety lloches ac adsefydlu ledled y DU.

Roedd y cyfarfod ar 12 Tachwedd 2025 yn canolbwyntio’n llwyr ar flaenoriaethau diogelwch y cyhoedd. Cododd Llywodraeth Cymru bryderon am y Ddeddf Dedfrydu a'i heffaith bosibl ar ddioddefwyr, yn enwedig goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yng nghyd-destun cynlluniau rhyddhau'n gynnar. Nodwyd pryderon hefyd ynglŷn â'r straen bosibl ar y gwasanaeth prawf ac ar blismona yng Nghymru, gan y byddai'n ofynnol i'r gwasanaethau hyn reoli troseddwyr yn y gymuned a fyddai fel arall wedi bod yn y ddalfa.

Ym mhob cyfarfod, cytunodd Gweinidogion ar bwysigrwydd cydweithio’n agos ar bynciau sy’n ymwneud â mudo rheolaidd ac afreolaidd i sicrhau darpariaeth lwyddiannus i ddinasyddion ledled y DU.

Y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cadw mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ar faterion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae’r ymgysylltu hwn wedi cynnwys pedwar cyfarfod gyda’r Gweinidog Cyn-filwyr a Phobl, dau ohonynt yn gyfarfodydd dwyochrog a dau ohonynt yn cynnwys Llywodraeth yr Alban hefyd. Mae hyn wedi caniatáu trafodaeth a rhybudd cynnar o gynlluniau Llywodraeth y DU i ehangu Cyfamod y Lluoedd Arfog, cyflwyno Comisiynydd y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru a Lloegr; cymeradwyo Strategaeth Cyn-filwyr ar gyfer y DU gyfan a chynlluniau i ymestyn cymorth i gyn-filwyr drwy raglen VALOUR y Swyddfa Materion Cyn-filwyr.

Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â thimau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yng nghyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog, cymorth i gyn-filwyr a materion sy’n ymwneud ag ôl troed y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae Gweinidogion a swyddogion hefyd yn cysylltu’n rheolaidd â Chomisiynydd Cyn-filwyr Cymru sy’n cael ei benodi gan Lywodraeth y DU ond sy’n eirioli dros gyn-filwyr yng Nghymru mewn sawl maes datganoledig, gan gynnwys iechyd, tai ac addysg.

Tai a Llywodraeth Leol

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (4 Mehefin 2025 a 4 Chwefror 2026). Roedd y trafodaethau yn ystod cyfarfod mis Mehefin 2025 yn canolbwyntio ar ymateb Cam 2 Grenfell a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, materion yn ymwneud â’r gweithlu yn y sector adeiladu, diwygio a rheoleiddio cynnyrch adeiladu, a ffyrdd o weithio rhwng llywodraethau datganoledig. Roedd cyfarfod mis Chwefror 2026 yn canolbwyntio ar bolisi creu lleoedd o ran polisi tai a chyflenwad tai.

Yn ogystal â chyfarfodydd ffurfiol y grŵp rhyngweinidogol, cynhaliwyd cyfarfod Gweinidogol pedair gwlad ar 25 Tachwedd 2025 i drafod digartrefedd a chysgu allan. Rhoddodd y cyfarfod hwn gyfle i weinidogion Llywodraeth y DU a’r llywodraethau ddatganoledig rannu safbwyntiau ac arferion gorau ond fe'i cynhaliwyd y tu allan i'r strwythur y cytunwyd arno ar gyfer y grŵp gweinidogol ac nid oedd yn rhan o'r peirianwaith rhynglywodraethol ffurfiol.

Bu ymgysylltu cadarnhaol ar ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â phensiynau gan gynnwys ar gynigion yng nghyswllt cynllun pensiwn llywodraeth leol ac ar fframweithiau archwilio a chyfrifyddu llywodraeth leol.

Mae ymgysylltu rheolaidd cadarnhaol yn parhau ar lefel swyddogion ar bolisi trethi lleol, gan ymdrin â materion allweddol megis cyflawni ailbrisiad ardrethi annomestig 2026, mynd i’r afael â thwyll ac osgoi talu, a materion y dreth gyngor.

Lles Cymdeithasol/Costau Byw

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Waith a Phensiynau ddwywaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (26 Mehefin 2025 ac 19 Chwefror 2026). Rhoddodd y cyfarfod agoriadol gyfle i drafod materion o ddiddordeb i'r ddwy ochr ym meysydd cymorth cyflogaeth, anabledd, nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant a phensiynau, Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU Llwybrau at Waith: Diwygio Budd-daliadau a Chymorth i Gael Prydain i Weithio; Papur Gwyn Cael Prydain i Weithio Llywodraeth y DU; a newidiadau i Daliadau Tanwydd Gaeaf yng Nghymru a Lloegr rhwng 2025 a 2026.

Yn yr ail gyfarfod, trafododd y Gweinidogion faterion o ddiddordeb cyffredin ynghylch cymorth cyflogadwyedd i bobl anabl ac i bobl ifanc.

Cyfarfu grŵp Gweinidogol y Pedair Gwlad ar Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth y DU dair gwaith (13 Tachwedd 2024; 11 Rhagfyr 2024; 19 Mawrth 2025). Cyfarfu aelodau’r Grŵp Gweinidogol hefyd â Thasglu Tlodi Plant Llywodraeth y DU ar 13 Mai 25. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cyfarfu swyddogion hefyd yn rheolaidd i drafod y strategaeth a'r mater ehangach o ran mynd i'r afael â thlodi plant.

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu Hawlio

Mae Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi datblygu gweithgarwch cyfathrebu ar y cyd i gynyddu effaith ymgyrch 2025/26 i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Trafnidiaeth

Cyfarfu'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Faterion Trafnidiaeth bedair gwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (19 Tachwedd 2024; 5 Mawrth 2025; 5 Tachwedd 2025; ac 16 Mawrth 2026). Roedd y trafodaethau’n cynnwys diwygio ym maes bysiau, arloesi a digideiddio gwasanaethau, tocynnau clyfar, hygyrchedd a diogelwch, tasglu yswiriant modur, gwydnwch porthladdoedd, e-sgwteri, diogelwch ar y ffyrdd, datgarboneiddio cerbydau trwm (HDV) a cherbydau nwyddau trwm (HGV) a’r Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (VETS).

Roedd cysylltiadau swyddogion ag adrannau trafnidiaeth ar draws pob llywodraeth yn dal yn gadarnhaol, gydag ymgysylltu rheolaidd ac ystyrlon.

Diwylliant a’r Diwydiannau Creadigol

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a’r Diwydiannau Creadigol unwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (16 Gorffennaf 2025) ochr yn ochr â thrafodaeth barhaus ar lefel swyddogion. Er bod Cymru Greadigol wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar faterion darlledu a chreadigol, gan gynnwys Cynllun Sector Diwydiannau Creadigol y Strategaeth Ddiwydiannol ac Adnewyddu Siarter y BBC a Dyfodol Dosbarthu Teledu, mae trafodaethau ar y gweill gyda’r bwriad o wella trefniadau cydweithio, gan gynnwys drwy gynnal cysylltiadau â Chyngor y Diwydiannau Creadigol.

Ar lefel swyddogion, cafwyd ymgysylltu cadarnhaol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar amryw o faterion, gan gynnwys adolygiad Llywodraeth y DU o gwangos, treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol a chystadlaethau Dinas a Thref Diwylliant y DU 2029. Mae swyddogion hefyd wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a sefydliadau perthnasol, i drafod diplomyddiaeth ddiwylliannol a chymell tawel, yr amrywiaeth o gynlluniau eiddo diwylliannol sydd heb eu datganoli, Cynllun Indemniad y Llywodraeth, deddfwriaeth berthnasol sy’n effeithio ar lyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ac Achredu Amgueddfeydd ac Archifau.

Y Celfyddydau

Cyfarfu’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol â Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau a Thwristiaeth a chynrychiolwyr o Swyddfa Cymru i drafod y sefyllfa gyllido yn Opera Cenedlaethol Cymru yn 2024. Roedd y ddau Weinidog fel ei gilydd yn cydnabod gwerth Opera Cenedlaethol Cymru a’i waith ac yn cytuno eu bod am weld dyfodol hirdymor cadarnhaol i’r sefydliad. Nid oes Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer y celfyddydau ac nid oes unrhyw drafodaethau eraill wedi’u cynnal ar lefel Weinidogol yng nghyswllt y celfyddydau, ond mae trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng swyddogion pan fydd materion o ddiddordeb cyffredin yn codi.

Chwaraeon

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon ddiwethaf ym mis Mawrth 2025. Mae swyddogion o’r pedair gwlad yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion o ddiddordeb, a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yn ddiweddar rhwng swyddogion DCMS a'u cymheiriaid yn y llywodraethau datganoledig i drafod Cronfa Cyfleusterau Aml-chwaraeon ar Lawr Gwlad Llywodraeth y DU gan ddefnyddio pwerau Deddf Marchnad Fewnol y DU. Mae Gweinidogion hefyd wedi cwrdd yn anffurfiol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys yn nhwrnamaint Ewro 2025 yn y Swistir. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda’r bwriad o wella trefniadau cydweithio, gan gynnwys cyfarfod pellach o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Chwaraeon yn ddiweddarach eleni.

Twristiaeth

Cyfarfu’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Dwristiaeth unwaith yn ystod y cyfnod adrodd hwn (22 Gorffennaf 2025). Hwn oedd cyfarfod cyntaf y grŵp yma ers cyhoeddi’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol ym mis Ionawr 2022. Y prif bynciau trafod oedd y gwahanol ddulliau gweithredu cenedlaethol ar gyfer hunanarlwyo, llety gwyliau tymor byr, digwyddiadau busnes fel catalydd ar gyfer twristiaeth, a’r potensial ar gyfer rhannu adnoddau yn nigwyddiad Teithio’r Byd nesaf.

Cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd â swyddogion Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar 8 Gorffennaf 2025, 14 Hydref 2025 a 27 Ionawr 2026 i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am lety gwyliau tymor byr ac ail gartrefi. Roedd hyn yn cynnwys diweddariad ar y cynllun trwyddedu arfaethedig ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.