Gwaith ieuenctid yng Nghymru - darparu ar gyfer pobl ifanc: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig ar y fframwaith newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhan 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
Tueddau a heriau hirdymor
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, sy'n cynnwys cyfarwyddydau a chanllawiau statudol. Mae'r fframwaith newydd yn ymgorffori diffiniad o waith ieuenctid a fydd yn sail i ddyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwaith ieuenctid o fewn y gwasanaethau ehangach y maent yn eu darparu i bobl ifanc.
Yn ei adroddiad terfynol, roedd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sail ddeddfwriaethol wan ar gyfer gwaith ieuenctid a oedd wedi cyfrannu at ddarpariaeth anwastad ar draws ardaloedd awdurdodau lleol a sefyllfa lle'r oedd gwasanaethau gwaith ieuenctid yn fregus yng nghyd-destun pwysau ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol. Roedd sylfaen ddeddfwriaethol wan wedi cyfrannu at wasanaeth heb ddull cyson o gynllunio a chyflenwi ac atebolrwydd cyfyngedig hefyd.
Ochr yn ochr â'r ddyletswydd statudol newydd, bydd y fframwaith yn cyflwyno strwythur cynllunio ac atebolrwydd sydd â'r nod o sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd ag anghenion pobl ifanc, yn cael ei ddatblygu ar y cyd â phartneriaid ac yn darparu mecanwaith y gellir ei ddefnyddio i ddwyn awdurdodau lleol i gyfrif.
Bydd y fframwaith newydd hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfnod o bwysau parhaus ar gyllidebau yn achos awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol, ac yn erbyn cyd-destun y galw cynyddol am wasanaethau yn y cyfnod ôl-Covid, ochr yn ochr â thystiolaeth o gynnydd yn hyd a lled a difrifoldeb anghenion pobl ifanc.
Mae'r fframwaith yn cael ei lunio gan ofynion clir ynghylch cynllunio strategol ac atebolrwydd cryfach. Mae'r fframwaith yn cynnwys safonau cenedlaethol er mwyn sicrhau mwy o gysondeb yn y ffordd y mae'r cynnig gwaith ieuenctid a gofnodir yn y fframwaith hwn yn cael ei ddylunio a'i gyflenwi, gan gadw ar yr un pryd allu awdurdodau lleol i fabwysiadu dulliau sy'n diwallu anghenion lleol. Mae partneriaeth a chydweithio yn agweddau canolog ar y fframwaith. Mae gan y fframwaith ffocws clir hefyd ar sicrhau bod pobl ifanc yn ymwneud yn barhaus â'r broses o lunio gwasanaethau, a sut y gall gwaith ieuenctid hefyd helpu pobl ifanc i'w cefnogi i arfer eu hawliau.
Nododd ymgynghoriad ar gynigion drafft heriau mewn perthynas â diffinio gwaith ieuenctid. Roedd y cynigion drafft yn cysylltu gwaith ieuenctid â darpariaeth sy'n cael ei chyflenwi gan y rhai sydd â chymhwyster proffesiynol. Nododd yr ymatebion i’r ymgynghoriad y byddai'r dull hwn yn eithrio gwirfoddolwyr a staff heb gymhwyster, er gwaethaf eu cyfraniad hanfodol at ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol. Ochr yn ochr â dull diwygiedig o ddiffinio gwaith ieuenctid, gwelwyd mwy o fuddsoddiad yn y gwaith o ddatblygu'r gweithlu i gefnogi llwybrau dilyniant clir sy'n helpu i liniaru'r pryderon hyn.
Gallai anghysondebau ar draws awdurdodau lleol danseilio ansawdd cynlluniau strategol, tra gallai cydnabyddiaeth annigonol gan awdurdodau lleol o gyfraniad y sector gwirfoddol wanhau unrhyw gydweithredu. Yn yr un modd, gallai gwahanol ymagweddau at strwythurau cyfranogiad ieuenctid arwain at amrywiaeth yn ansawdd y dystiolaeth gan bobl ifanc i lywio'r broses o osod amcanion o fewn cynllun strategol gwaith ieuenctid yn ogystal â’r dull o gasglu eu barn ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny.
Nododd ymatebion i'r ymgynghoriad fod perygl y gallai’r defnydd o derminoleg fel 'hawl' greu dryswch heb ddangosyddion clir.
Er gwaethaf y risgiau hyn, ystyrir bod y fframwaith yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol. Rhagwelir y bydd cynlluniau strategol yn arwain at fwy o amlygrwydd i effaith gwaith ieuenctid, a allai arwain ddyraniad gwell o adnoddau. Gall y gofyniad i ymgynghori â phartneriaid er mwyn cytuno ar amcanion strategol feithrin mwy o gydweithredu a gwell aliniad o ran y gwasanaethau i bobl ifanc a sicrhau bod gwasanaethau'n cyd-fynd ag anghenion pobl ifanc. Bydd safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn cyfrannu at fwy o gysondeb yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u cyflenwi tra gall y ffocws ar fynd i'r afael â rhwystrau i ddarparu gwaith ieuenctid arwain at fynediad mwy teg at waith ieuenctid ledled Cymru. Yn ogystal, bydd ymwreiddio cyfranogiad ieuenctid yn y fframwaith yn creu llwybrau gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i ddal awdurdodau lleol yn atebol am sicrhau gwasanaethau sy'n cyd-fynd â'u hanghenion. Bydd hefyd yn gwella atebolrwydd yn fwy cyffredinol trwy sicrhau mwy o dryloywder yn y prosesau gwneud penderfyniadau ac adrodd cynnydd yn rheolaidd.
Mae'r diffiniad o waith ieuenctid yn y fframwaith derfynol wedi'i addasu i gydnabod y rôl sydd gan ymarferwyr cymwys ochr yn ochr ag ymarferwyr eraill, gan gynnwys gwirfoddolwyr, gan sicrhau cynhwysiant wrth gynnal safonau proffesiynol. Ochr yn ochr â'r fframwaith statudol, bydd templedi ar gyfer cynlluniau strategol gwaith ieuenctid yn cael eu cyhoeddi i ysgogi cysondeb ar draws ardaloedd awdurdodau lleol, ynghyd â mecanwaith arfarnu a chydymffurfio clir i fonitro cynnydd. Mae cyfarwyddydau statudol yn atgyfnerthu'n benodol bwysigrwydd cydweithio a phartneriaeth a gofynion penodol sy'n ymwneud â hyn, gan bwysleisio rôl sefydliadau gwirfoddol. Mae terminoleg ynghylch hawliau wedi'i addasu, gyda dangosyddion ychwanegol o ddarpariaeth o ansawdd wedi'u cynnwys i gryfhau atebolrwydd. Bydd disgwyliadau gofynnol yn cael eu gosod ar gyfer strwythurau cyfranogiad ieuenctid, gan sicrhau cyfranogiad parhaus ac ystyrlon pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a gwerthuso.
Atal
Bwriad y cynnig i ddeddfu ar gyfer fframwaith statudol newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru yw cefnogi'r ymdrech i dorri'r cylch negyddol megis tlodi ac iechyd gwael drwy gryfhau sylfeini gwaith ieuenctid, a helpu sicrhau bod cynllunio strategol darpariaeth yn adlewyrchu anghenion pobl ifanc. Mae'r dull gwaith ieuenctid yn ei hanfod yn ataliol, wedi'i ategu gan ymrwymiad i rymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau positif ac i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd iddynt fel y gallant ddatblygu'n gyfannol. Bwriad y ddyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei gyflenwi yw codi statws gwaith ieuenctid a'i effaith ar gyfleoedd bywyd pobl ifanc a allai yn ei dro arwain at wasanaethau sydd â gwell adnoddau. Rhagwelir y gallai creu'r ddyletswydd statudol ar gyfer gwaith ieuenctid arwain at wasanaethau sydd â gwell adnoddau, sydd wedi'u cynllunio'n strategol, ac sy'n cynnwys lleisiau pobl ifanc. Mae'r fframwaith yn helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc gael mynediad at fannau diogel a chefnogaeth oedolion dibynadwy, gyda’r rhain yn eu tro yn eu helpu i fynd i'r afael â phroblemau, mynnu eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Mae hyn wedyn yn lleihau'r risg o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a (neu) wneud penderfyniadau gwael am eu hiechyd o ganlyniad, a all arwain at leihau tlodi a chanlyniadau iechyd gwael trwy fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol a grymuso pobl ifanc i gymryd rhan mewn penderfyniadau. Trwy ymwreiddio cydweithredu ar draws awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, a chymunedau, mae gan y fframwaith y potensial i annog arferion mwy cynaliadwy a chadernid cymunedol. Mae'r fframwaith yn tynnu sylw hefyd at sut y gall gwaith ieuenctid gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, gan helpu i gyflawni ein nod o Gymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
Mae'r cynnig yn mynd i'r afael yn bennaf ag achosion sylfaenol yn hytrach na symptomau yn unig. Daeth adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i'r casgliad bod y sail ddeddfwriaethol bresennol ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru yn wan ac yn agored i'w dehongli. Mae hyn yn hanesyddol wedi arwain at wasanaethau tameidiog, ansawdd anghyson, a chydnabyddiaeth gyfyngedig o waith ieuenctid fel proffesiwn. Trwy greu fframwaith statudol, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion strwythurol sy'n tanseilio gwasanaethau ieuenctid, megis diffyg cysondeb, adnoddau'n cael eu dyrannu mewn ffordd wael, a chyfranogiad annigonol ymhlith ieuenctid.
Er bod yr egwyddor o gymryd camau cynnar i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant wedi'u hymwreiddio yn y fframwaith, gallai'r fframwaith gynnwys manylion mwy penodol ar sut y dylai cynlluniau strategol gwaith ieuenctid ymgorffori mesurau ar gyfer lleihau gwastraff a'r defnydd o adnoddau, hyrwyddo gweithrediadau carbon isel, a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffyrdd sy'n lleihau allyriadau ac yn diogelu ansawdd aer. Yn gymdeithasol, gallai'r fframwaith osgoi effeithiau negyddol ar gydlyniant cymunedol trwy werthfawrogi rôl y sector gwirfoddol – gyda sefydliadau llawr gwlad yn aml â chysylltiadau arbennig o gryf i’r cymunedau maent yn eu cefnogi. Mae gan waith ieuenctid rôl allweddol o safbwynt creu mannau diogel i bobl ifanc, gan eu cadw oddi ar y strydoedd a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau. Trwy sefydlu safonau cenedlaethol clir, canllawiau cyson, a mecanweithiau arfarnu tryloyw, gall y fframwaith sicrhau cydbwysedd rhwng atebolrwydd a hyblygrwydd, gan sicrhau bod gwasanaethau ieuenctid yn cryfhau yn hytrach nag ymrannu cymunedau.
Integreiddio
Mae'r cynnig i greu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cysylltiadau gwaith ieuenctid yn ymwneud yn uniongyrchol ag agendâu polisi cyhoeddus ehangach ac yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu. Mae'n cefnogi'r newid tuag at atal, a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, drwy helpu pobl ifanc i feithrin gwydnwch, sgiliau a hyder. Mae hyn yn lleihau'r galw am wasanaethau iechyd, cyfiawnder a gofal cymdeithasol gan hyrwyddo cydraddoldeb, diogelu, a'n huchelgeisiau ar gyfer Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae'r manteision yn ymestyn ar draws cymdeithas, o gymunedau iachach i hunaniaeth ddiwylliannol gryfach a chyfleoedd mwy cynhwysol.
Fe fydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau strategol pum mlynedd ar gyfer gwaith ieuenctid sy'n cyd-fynd â'r saith nod llesiant. Bydd disgwyl i’r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu gyda phartneriaethau lleol sefydliadau ieuenctid a chyrff cyhoeddus eraill, gan helpu sicrhau cydlyniant ag asesiadau llesiant lleol. Mae'r camau ymarferol yn cynnwys ymwreiddio strwythurau cyfranogiad ieuenctid, a gofyniad ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau lleol, sefydliadu gwirfoddol a phartneriaid eraill.
Cydweithio
Mae'r fframwaith yn nodi'n glir nad yw gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cael ei gyflenwi gan awdurdodau lleol yn unig, ond bod yna bartneriaeth eang o sefydliadau a rhanddeiliaid yn eu cynorthwyo sydd hefyd â budd mewn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r partneriaid hyn yn cynnwys sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol, gwasanaethau statudol fel byrddau iechyd a'r heddlu, ysgolion a cholegau, grwpiau cymunedol, a chyrff cenedlaethol fel Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae gan bob un o'r partneriaid hyn ran yn y gwaith o sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at gyfleoedd diogel, cynhwysol a grymusol sy'n eu helpu i ffynnu yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn addysgol.
Wrth ddatblygu'r cynnig, mae'r partneriaid hyn wedi bod yn rhan ddiwyd o'r prosesau ymgynghori, y gweithgorau a'r fforymau cynllunio cydweithredol. Sefydlwyd tasglu i ddarparu safbwynt ymarferydd ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith. Cyfarfu’r grŵp hwn yn rheolaidd trwy gydol y cyfnod datblygu gan ailymgynnull yn dilyn cyfnod yr ymgynghoriad ffurfiol er mwyn ystyried ymatebion a thrafod mesurau lliniaru posibl.
Ategwyd hyn gan ymgysylltu wedi'i dargedu â Chadeirydd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid a chynrychiolwyr eraill ar ran llywodraeth leol yn ogystal â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, fel corff cynrychioliadol o'r sector ieuenctid gwirfoddol.
Rydym wedi bod yn ofalus i sicrhau y cofnodir amrywiaeth eang o leisiau ac arferion ar draws y sector gwaith ieuenctid er mwyn adlewyrchu amrywiaeth y ddarpariaeth yng Nghymru.
Mae sefydliadau gwirfoddol lleol, er enghraifft, wedi darparu tystiolaeth ar eu profiadau wrth gyflenwi gwasanaethau ar lawr gwlad a'u gallu i gyrraedd cymunedau amrywiol. Mae sefydliadau'r sector gwirfoddol cenedlaethol wedi llywio ein meddylfryd ynghylch y ffordd orau o gynllunio ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Yn yr un modd, mae partneriaid statudol wedi cynghori ar gyfraniad gwaith ieuenctid ac ar sut y gall eu helpu i gyflawni rhai o'u blaenoriaethau eu hunain, a'r ffordd orau o sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cyd-fynd â blaenoriaethau ehangach gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth edrych ymlaen at gyflawni, bydd gan bob partner rôl benodol ond ategol. Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am ymgysylltu â phartneriaid i gynhyrchu a gweithredu cynlluniau strategol pum mlynedd ar gyfer gwaith ieuenctid, gan weithio gyda'i gilydd i gyflwyno gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y ffordd orau o ddiwallu anghenion pobl ifanc yn ein cymunedau. Mae’r bobl ifanc eu hunain yn cael eu cydnabod fel partneriaid allweddol hefyd, gyda mecanweithiau wedi'u hymgorffori yn y canllawiau er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn llywio’r gwaith o ddylunio a gwerthuso gwasanaethau. Bydd partneriaid statudol yn cefnogi'r broses o integreiddio â systemau iechyd, addysg a chyfiawnder, gan sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cyfrannu at nodau llesiant ehangach. Bydd cyrff y gweithlu yn helpu i gynnal safonau proffesiynol a hyfforddiant, a bydd pobl ifanc yn cyfrannu trwy strwythurau cyfranogiad sy'n sicrhau bod y gwasanaethau yn ymatebol i'w hanghenion. Gyda'i gilydd, mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod gwaith ieuenctid yng Nghymru nid yn unig yn gyson ac yn atebol, ond yn ddynamig ac wedi'i ymwreiddio ym mhrofiadau bywyd pobl ifanc hefyd.
Cyfranogiad
Datblygwyd y fframwaith drafft trwy broses a oedd yn cynnwys yn rhagweithiol y rhai yr effeithir arnynt fwyaf—pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, sefydliadau gwirfoddol, ac awdurdodau lleol. Gofynnodd Llywodraeth Cymru am fewnbwn drwy ymarferion ymgynghori, digwyddiadau ymgysylltu, a deialog â chyrff cynrychioladol. Gwahoddwyd pobl ifanc i rannu eu profiadau a'u blaenoriaethau, gan sicrhau bod y canllawiau yn adlewyrchu eu lleisiau yn hytrach na chael eu gorfodi oddi uchod. Yn yr un modd, cyfrannodd ymarferwyr a phartneriaid y sector gwirfoddol eu harbenigedd, gan helpu i lunio argymhellion ymarferol sy'n cyd-fynd â realiti cyflenwi gwaith ieuenctid ar lawr gwlad. Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen hefyd, gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, a fu’n gweithio gyda swyddogion i nodi materion penodol ac ystyried atebion amrywiol. Mae'r dull cydweithredol hwn yn anelu at sicrhau ffocws ar y rhai a fydd yn cael budd ohono.
I bobl ifanc, yr hyn sydd bwysicaf yw bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn ymatebol i'w hanghenion. Maent yn gwerthfawrogi cyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau, i gael mannau diogel lle gallant feithrin cydberthnasoedd, ac i gael mynediad at gymorth ar gyfer eu llesiant, eu haddysg, a'u rhagolygon i’r dyfodol. Mae'r canllawiau'n cydnabod hyn drwy ymwreiddio safonau cyfranogiad, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu llwybrau clir i bobl ifanc ddylanwadu ar y gwasanaethau. O safbwynt cyflenwi, gallai pobl ifanc fod yn rhan o fforymau ieuenctid, paneli cynghori, neu gyd-ddylunio prosiectau penodol. Mae eu cyfranogiad parhaus yn sicrhau y bydd y gwasanaethau'n parhau i fod yn berthnasol ac y byddant yn eu grymuso.
I ymarferwyr a sefydliadau, yr hyn sy'n bwysig yw cynaliadwyedd, cydnabyddiaeth o safonau proffesiynol, ac adnoddau digonol i ddarparu darpariaeth o ansawdd uchel. Maent yn debygol o fod yn rhan o'r gwaith o gyflenwi trwy fyrddau partneriaeth, mentrau datblygu'r gweithlu, a chynllunio ar y cyd ag awdurdodau lleol. Drwy gynnal rhwydweithiau cryf rhwng darparwyr statudol a gwirfoddol, mae'r canllawiau'n sicrhau y gall y rhai sy'n cyflenwi gwaith ieuenctid barhau i arloesi gan ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru.
Effaith
Nod y canllawiau yw gwella cysondeb, ansawdd a hygyrchedd gwaith ieuenctid ledled Cymru. Drwy wneud cynlluniau strategol pum mlynedd ac adroddiadau blynyddol yn ofyniad, mae'n sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol sy'n gysylltiedig ag addysg, iechyd, cymunedau, y gwaith o fynd i'r afael â thlodi a'r Gymraeg, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae llwyddiant y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a fframwaith NYTH/NEST wrth sefydlu dull system gyfan o gefnogi pobl ifanc yn dyst i werth dull cydgysylltiedig a chynhwysol o gynllunio darpariaeth i bobl ifanc. Mae'r dull 'dim drws anghywir' hwn yn creu sawl pwynt mynediad lle gall pobl ifanc gael mynediad at ddarpariaeth gwaith ieuenctid a chael eu cyfeirio at ddarpariaeth ychwanegol a (neu) amgen lle bo hynny'n berthnasol. Ar ben hynny, ystyrir y pwyslais ar ddatblygu'r gweithlu a'r defnydd o'r Gymraeg yn fel elfennau sy'n cryfhau tegwch a chyfle.
Mae risgiau posibl yn cynnwys y baich o ran adnoddau a chapasiti, yn enwedig ar gyfer sefydliadau gwirfoddol llai a allai gael trafferth i fwydo mewn i ddatblygu’r cynlluniau strategol. Mae yna fylchau hefyd mewn tystiolaeth am effaith hirdymor gwaith ieuenctid ar ganlyniadau fel cyflogadwyedd ac iechyd, ac ansicrwydd ynghylch sut y gellir darparu cyfleoedd digidol a rhyngwladol yn deg. Mae'r bylchau hyn yn cael eu cydnabod, gyda chynlluniau ar gyfer monitro gwell, adroddiadau cynnydd blynyddol, a rhagor o ymchwil. Mae'r canllawiau wedi'u harchwilio'n eang trwy gydweithio ag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol ac eraill, gan sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn llywio ei ddatblygiad.
Costau ac Arbedion
Nid oes unrhyw gostau uniongyrchol, perthnasol i weithredu'r fframwaith statudol. Serch hynny, bydd angen i awdurdodau lleol sefydlu a chynnal partneriaethau lleol a mecanweithiau effeithiol ar gyfer ymgysylltu'n gynnar a pharhaus â phobl ifanc.
Bydd datblygu'r cynllun strategol ohono’i hun yn golygu y bydd gofyn cael adnoddau er mwyn mapio'r ddarpariaeth bresennol, archwilio aliniad â gwasanaethau lleol eraill a chytuno ar flaenoriaethau gyda phartneriaid.
Mae llawer o'r ffrydiau hyn o waith eisoes yn digwydd. Yr hyn y bydd y fframwaith yn ei wneud yw dod â'r ffrydiau unigol hyn o waith at ei gilydd mewn un man.
Mecanwaith
Nid oes angen asesiad effaith rheoleiddiol.
Rhan 8: casgliad
Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys wrth ei ddatblygu
Mae ymgysylltu helaeth, law yn llaw ag ymgynghoriad ffurfiol, wedi’u cynnal i ddatblygu a mireinio'r fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae hyn wedi cynnwys:
- cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu gyda chynrychiolwyr ar draws y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt i archwilio materion a themâu penodol cyn ymgynghori
- ymgynghoriad ffurfiol rhwng mis Hydref 2024 a mis Ionawr 2025
- gwahodd gweithwyr ieuenctid sydd eisoes â chysylltiadau â phobl ifanc i drafod y cynigion drafft a bwydo'n ôl eu hargraffiadau a meysydd i'w gwella
- ymgysylltu wedi'i dargedu â grwpiau ffocws o bobl ifanc
- tasglu o gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector gwaith ieuenctid i ystyried y materion a gododd ar draws y gwahanol ddulliau ymgysylltu hyn ac archwilio dulliau sy'n mynd i'r afael â'r materion hynny
Ar draws y gwahanol feysydd hyn, rydym wedi annog y canlynol i gymryd rhan:
- plant a'u cynrychiolwyr: anogwyd gweithwyr ieuenctid yn benodol i hwyluso trafodaethau gyda phobl ifanc i'w helpu i ddeall y newidiadau arfaethedig a'u cefnogi i rannu eu profiadau a'u barn gyda Llywodraeth Cymru ar ein cynigion a sut y gellid eu cryfhau. Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws gyda phobl ifanc yn hydref 2024 hefyd, i gasglu adborth strwythuredig gan bobl ifanc amrywiol
- pobl â nodweddion gwarchodedig: ar draws y gwahanol feysydd a nodir uchod, gwahoddwyd ymatebion gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau sy'n ymwneud â dylunio a chyflenwi gwaith ieuenctid, gan gynnwys sefydliadau sy'n canolbwyntio'n benodol ar gefnogi pobl ifanc â nodweddion gwarchodedig, gan ein helpu i ddeall yn well sut y gellid cryfhau'r fframwaith o ran ei gefnogaeth i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
- Siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol y Gymraeg – yn ogystal ag ymatebion gan bobl ifanc sy'n mynychu lleoliadau gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg, a chynnwys cwestiynau penodol yn yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r Gymraeg a sut y gallai'r cynigion gefnogi ein huchelgeisiau ehangach fel y nodir yn y strategaeth Cymraeg 2050, roedd y tasglu a sefydlwyd i weithio'n fanwl gyda ni ar fireinio ein cynigion yn cynnwys cynrychiolydd o sefydliad gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg
Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol
Mae'r fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn creu dyletswydd statudol ar gyfer cyflenwi gwaith ieuenctid am y tro cyntaf yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru. Mae hynny, ynghyd â chyflwyno gofynion cynllunio ac atebolrwydd cyson, yn darparu sylfaen ddeddfwriaethol gryfach ar gyfer gwaith ieuenctid gan helpu i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a'i ddeall yn well. Mae cynlluniau strategol gwaith ieuenctid sydd wedi'u datblygu a'u gweithredu'n effeithiol yn rhoi platfform ar gyfer amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol. Y ffocws cryf ar ddulliau cydweithredol o ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws cymunedau, yn ogystal â chefnogi diwylliant bywiog, lle mae'r Gymraeg yn ffynnu, Cymru ac economi fwy llewyrchus a, yn anuniongyrchol, yr amgylchedd. Rhagwelir y bydd y pwyslais ar ymgysylltiad gwirfoddol gan bobl ifanc, gweithio gyda phobl ifanc i helpu i nodi eu hanghenion, a blaenoriaethu anghenion yn glir yn helpu i gefnogi gwaith ar draws y saith nod llesiant.
Dangosodd ymgysylltu drwy'r broses ymgynghori fod pobl ifanc ac ymarferwyr yn gwerthfawrogi eglurder, cysondeb a mynediad dibynadwy at waith ieuenctid, gyda ymatebwyr yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw cydberthnasoedd o ymddiriedaeth ac addysg anffurfiol wrth hybu hyder a gwydnwch pobl ifanc.
Fodd bynnag, mae'r effeithiau cadarnhaol hyn yn dod law yn llaw â heriau posibl. Bydd dyletswyddau statudol cryfach yn gofyn am gapasiti ychwanegol, yn enwedig yn ystod y camau cynharach o weithredu'r fframwaith wrth i'r trefniadau newydd hyn gael eu mabwysiadu. Bydd y newidiadau hyn yn tynnu ar y capasiti cyfyngedig sydd gan awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae adroddiadau awdurdodau lleol yn nodi ansicrwydd ynghylch goblygiadau ariannol, gan godi'r risg na fydd gwelliannau o bosibl yn cael eu gwireddu'n gyfartal ar draws pob rhanbarth os nad oes cyllid parhaus yn cael ei sicrhau i gyd-fynd â'r fframwaith hwn.
Mae'r fframwaith yn adlewyrchu ymrwymiadau ehangach i'r Gymraeg a diwylliant bywiog. Mae'r fframwaith yn adlewyrchu uchelgeisiau ehangach o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, bydd angen cefnogaeth barhaus i ddatblygu gallu'r gweithlu, yn enwedig o safbwynt sicrhau bod digon o ymarferwyr Cymraeg ar gael sy'n gallu mynd ati’n hyderus i gyflenwi gwaith ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau bod modd cyflawni'r uchelgeisiau hyn, a bydd angen buddsoddiad parhaus.
Yn economaidd, disgwylir i'r dyletswyddau statudol a gyflwynir sefydlogi a phroffesiynoleiddio'r sector gwaith ieuenctid. Mae'r canllawiau'n cyd-fynd â nodau llesiant cenedlaethol sy'n ymwneud â gwaith teg, diogel a Chymru fwy lewyrchus, gan hyrwyddo datblygiad strwythuredig y gweithlu a llwybrau gyrfa mwy clir. Mae tystiolaeth ddiweddar ar y sector eisoes yn dangos mwy o ymgysylltiad â dysgu proffesiynol, gyda 1,200 a mwy o weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr yn cael mynediad at gymwysterau a hyfforddiant mewn un flwyddyn, sy'n adlewyrchu diddordeb cryf mewn DPP. Fodd bynnag, bydd angen cefnogi'r diddordeb hwn ym maes datblygu sgiliau ac arbenigedd gyda buddsoddiad parhaus mewn cyfleoedd i ddatblygu'r gweithlu ar draws lleoliadau gwirfoddol a lleoliadau a gynhelir yn y sector.
Mae effeithiau amgylcheddol yn gyfyngedig ond yn dal i fod yn bresennol. Er nad yw'r fframwaith yn targedu'n uniongyrchol ganlyniadau amgylcheddol, mae ei bwyslais ar gyflenwi cydweithredol, lleol yn annog defnydd effeithlon o asedau cymunedol ac yn lleihau dyblygu gwasanaethau. Mae hyn, yn ei dro, yn cyd-fynd â'r nod llesiant o Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy hyrwyddo modelau gwasanaeth cynaliadwy ac o bosibl lleihau'r defnydd o adnoddau trwy gynllunio cydgysylltiedig.
O gymharu â threfniadau presennol, mae'r fframwaith newydd yn newid sylweddol mewn dull, gan ganolbwyntio ar ddyletswyddau statudol clir, safonau cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a gyflwynir yn y fframwaith hwn, a threfniadau cynllunio ac atebolrwydd clir.
Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant a (neu) yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Mae gan y fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru botensial cryf i gynyddu a thynnu sylw at gyfraniad gwaith ieuenctid at nodau trosfwaol, megis nodau llesiant Llywodraeth Cymru a'r nodau a amlinellir yn strategaeth Cymraeg 2050. Bydd y safonau cenedlaethol yn y fframwaith yn amlinellu nodweddion allweddol ar gyfer gwaith ieuenctid o safon a gyflenwir drwy'r fframwaith, gan fynd ati ar yr un pryd i sicrhau y gellir defnyddio dulliau gwahanol, wedi'u hysgogi gan anghenion lleol.
Mae'r fframwaith hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar hwyluso hawliau plant – o ran sicrhau rôl pobl ifanc yn natblygiad a darpariaeth barhaus cynlluniau strategol gwaith ieuenctid lleol, ond hefyd o ran tynnu sylw at y ffordd y gall gwaith ieuenctid ddarparu platfform i helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu arfer eu hawliau eraill.
Mae'r effeithiau negyddol a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â'r rôl allweddol sydd gan sefydliadau gwirfoddol wrth ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog ac amrywiol, a sicrhau bod gan y sefydliadau hynny rôl ystyrlon wrth gyflawni'r fframwaith hwn. Mae sawl cam wedi'i gymryd i liniaru'r risg hon. Mae'r fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gydweithredu'n agos â phartneriaid eraill, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol. Yn ogystal â'r gofynion a nodir yn y canllawiau eu hunain, mae camau wedi'u rhoi ar waith i ymgysylltu â sefydliadau ar draws y sector gwirfoddol yn ystod y cyfnod ymgynghori a thu hwnt er mwyn sicrhau cyfleoedd i drafod pryderon, rhannu gwahanol ddulliau a datblygu atebion arloesol i ymateb i anghenion pobl ifanc.
Y tu hwnt i hyn, mae'r fframwaith yn cefnogi arferion cynhwysol drwy ei gwneud yn ofynnol i waith ieuenctid gael ei gyflenwi ym mhob awdurdod lleol am y tro cyntaf yng nghyd-destun deddfwriaethol Cymru. Er mwyn sicrhau bod ei chyfraniad mor effeithiol â phosibl, gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod rhagor o wybodaeth i gefnogi'r broses o weithredu'r fframwaith hwn yn canolbwyntio ar nodi disgwyliadau clir ar ymgysylltu â phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd fel arfer heb gynrychiolaeth ddigonol, yn ogystal â'r rhai nad ydynt efallai yn ymwneud â gwaith ieuenctid ar hyn o bryd.
Ystyrir bod manteision y fframwaith statudol newydd hwn yn gwrthbwyso’r risgiau o ddiffyg gweithredu, yn enwedig o ystyried y dystiolaeth bod y gwasanaethau gwaith ieuenctid, yn hanesyddol, wedi bod yn agored i doriadau ac anghysondeb. Fodd bynnag, bydd cyfathrebu clir, amserlenni gweithredu fesul cam a gwerthusiad parhaus yn helpu i sicrhau bod beichiau yn parhau i gael eu rheoli. Bydd adolygiad o'r fframwaith yn hydref 2029 yn adeg gwerth chweil hefyd i ystyried y cynnydd hyd yma a chyfleoedd i gryfhau'r dull gweithredu.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben
Bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso drwy'r mecanweithiau statudol a nodir yn y canllawiau drafft. Rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu cynllun strategol gwaith ieuenctid pum mlynedd sy'n amlinellu ei amcanion, ei ddull cyflenwi a'i ganlyniadau disgwyliedig. Yna rhaid adrodd am gynnydd yn erbyn y cynllun hwn bob blwyddyn, gan greu cylch monitro cylchol sy'n olrhain effaith a phrosesau gweithredu dros amser. Bydd y cynlluniau strategol hyn yn gweithredu fel pwynt cyfeirio craidd hefyd ar gyfer trefniadau arolygu ac asesu ansawdd, gan ddarparu dull annibynnol o werthuso effeithiolrwydd a chysondeb ledled Cymru.
Mae gwerthusiad ar ôl gweithredu wedi'i ymgorffori yn y fframwaith statudol. Mae'r gofyniad am adroddiadau blynyddol parhaus yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn asesu cynnydd yn barhaus, gan dynnu sylw at yr heriau sy'n codi eu pen a nodi meysydd i'w gwella. Mae'r cylch cynllunio strategol pum mlynedd yn sicrhau bod y broses o gyflenwi yn cael ei hadolygu'n gyfannol ar ddiwedd pob cyfnod, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru a phartneriaid ddiweddaru eu blaenoriaethau, adolygu amcanion ac addasu ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda. Mae'r prosesau hyn hefyd yn cefnogi goruchwyliaeth genedlaethol drwy alluogi Llywodraeth Cymru i gasglu gwybodaeth system gyfan am flaenoriaethau allweddol ar draws awdurdodau lleol yng nghyd-destun gwaith ieuenctid.
