Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Dros dymhorau’r ddwy Senedd ddiwethaf, mae ymchwil helaeth wedi'i gynnal i lywio syniadau yn y dyfodol am y posibilrwydd o gyflwyno Treth Gwerth Tir yng Nghymru.
Heddiw, yng ngham diweddaraf y broses honno, cyhoeddir cyfres o adroddiadau sy'n cyflwyno canfyddiadau ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i archwilio gwahanol ddulliau o fynd ati o ran prisio tir.
Mae'r adroddiadau'n rhan o gorff ehangach o ymchwil sy'n archwilio dewisiadau amgen i'r trethi lleol presennol, gan gynnwys gwaith cynharach gan Brifysgol Bangor a ddarparodd asesiad technegol ar botensial treth gwerth tir leol yng Nghymru. Maent yn trafod sut y gellid prisio tir yn ymarferol, a'r heriau sy'n gysylltiedig â gwahanol ddulliau prisio.
Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, cynhaliwyd ymchwil gan Brifysgol Swydd Gaerloyw, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Alma Economics, Axion Solutions, Prifysgol Bangor, Industryline Research, a Tesseract Academy. Mae canlyniadau'r gwaith ymchwil yn darparu tystiolaeth a dadansoddiad newydd, yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau prisio, ac yn cryfhau ein dealltwriaeth o ran dichonoldeb prisio tir yng nghyd-destun Cymru. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen wrth ystyried dulliau amgen mewn perthynas â threthi yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y rhaglen waith hon.
Mae'r set lawn o adroddiadau ar gael ar ein tudalen we Profi dulliau prisio tir.
