Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae fforddiadwyedd wrth wraidd polisi rhenti cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae aelwydydd ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol parhaus, ac mae'n hanfodol bod ein fframwaith gosod rhenti yn diogelu tenantiaid wrth gefnogi cynaliadwyedd hirdymor y sector tai cymdeithasol. Dyna pam, pan gyhoeddais Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth newydd Llywodraeth Cymru 2026-2036 yr hydref diwethaf, ymrwymais i ddatblygu fframwaith fforddiadwyedd a fydd yn darparu sylfaen gyson, dryloyw a chynaliadwy ar gyfer pennu rhenti ledled Cymru. Mae'r gwaith hwn bellach ar y gweill a bydd yn rhan ganolog o'n rhaglen ehangach i gryfhau ac egluro ein hagwedd at fforddiadwyedd tai.

Yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais ochr yn ochr â'r Safon Rhenti newydd, cydnabyddais y ddadl ynghylch cydgyfeirio rhenti.  Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at botensial cydgyfeirio rhenti i gynhyrchu incwm ychwanegol, ac mae rhai hefyd wedi gwneud yr achos y gallai cydgyfeirio rhenti arwain at fwy o degwch i denantiaid. Fodd bynnag, rwy'n deall bod cydgyfeirio rhenti yn gymhleth. Mae goblygiadau sylweddol ar gyfer fforddiadwyedd, trefniadau cyllido presennol, a'r rhyngweithio â systemau fel Lwfans Tai Lleol a chymorth lles. Felly, rhaid i unrhyw ystyriaeth o gydgyfeirio rhenti ddechrau gyda fforddiadwyedd, nid twf.

Wedi dweud hynny, rwy'n ymrwymo i archwilio cydgyfeirio rhenti ymhellach ac rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi comisiynu Savills i ymgymryd â'r ymchwil hon.  Mae gan Savills arbenigedd a gwybodaeth sylweddol yn y maes hwn, a bydd eu gwaith yn ein helpu i ddeall yn well a fyddai polisi cydgyfeirio rhenti yn briodol i Gymru. Bydd yr ymchwil hon yn archwilio manteision posibl, risgiau a goblygiadau ymarferol unrhyw ddull yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn deall y cymhlethdodau yn llawn cyn dod i unrhyw gasgliadau.

Bydd yr ymchwil hon, ynghyd â'r fframwaith fforddiadwyedd newydd, yn darparu'r dystiolaeth a'r offer sydd eu hangen i lywio datblygiad polisi ar fforddiadwyedd tai yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wnawn yn parhau i ddiogelu tenantiaid, cefnogi buddsoddiad mewn cartrefi o ansawdd uchel, a chynnal ein hymrwymiad i system dai cymdeithasol deg a fforddiadwy.