Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Cynnydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, yr wyf yn ei groesawu fel cyfraniad gwerthfawr i'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gryfhau cyfranogiad democrataidd yng Nghymru.
Cafodd y Grŵp ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae'r Adroddiad Cynnydd hwn yn gam pwysig ymlaen yn y rhaglen waith ehangach sy'n deillio o ganfyddiadau'r Comisiwn.
Rwyf yn ddiolchgar i aelodau'r Grŵp am eu gwaith, ac yn arbennig i Dr Anwen Elias, sydd wedi cadeirio'r Grŵp.
Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r themâu a ddaeth i'r amlwg o waith y Grŵp yn ystod y 10 mis diwethaf, sydd wedi canolbwyntio ar gryfhau ymgysylltiad democrataidd, gwella dealltwriaeth pobl o sut y caiff penderfyniadau eu gwneud, a sicrhau bod dinasyddion yn teimlo'n fwy cysylltiedig â'r system ddemocrataidd.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio y bydd angen ymdrech system gyfan a hirdymor i gryfhau ein democratiaeth. Ymhlith y blaenoriaethau a nodir gan y Grŵp mae datblygu gweledigaeth glir a rennir ar gyfer democratiaeth yng Nghymru; arweinyddiaeth gydgysylltiedig ar draws ein sefydliadau democrataidd; dull gweithredu strategol o ran addysg ddemocrataidd a chynnwys y cyhoedd; a meithrin diwylliant lle mae dinasyddion yn ymwneud yn fwy uniongyrchol â phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Wrth i dymor y Senedd hon ddod i ben, mater i lywodraeth nesaf Cymru fydd ystyried penderfyniadau ynghylch blaenoriaethau yn y dyfodol a llywodraethiant o ran y gwaith hwn. Rwy'n gobeithio y bydd yr wybodaeth a'r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn cynnig sail adeiladol ar gyfer yr ystyriaeth honno yn y dyfodol.
Rwy'n annog holl Aelodau'r Senedd i ddarllen Adroddiad Cynnydd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth a rhoi sylw i'w ganfyddiadau. Bydd cyfranogiad trawsbleidiol yn hanfodol wrth fwrw ymlaen â'r nod o greu democratiaeth ffyniannus a chynhwysol i Gymru yn y blynyddoedd i ddod.
