Cyfarfod Fforwm Gweithlu Sector Cyhoeddus y Dyfodol: 10 Chwefror 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Fforwm Gweithlu Sector Cyhoeddus y Dyfodol ar 10 Chwefror 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Eitem 1 ar yr Agenda: Cyflwyniad
1. Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i ail gyfarfod Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus. Cadarnhawyd bod nifer o gamau ymarferol wedi'u hystyried yn y cyfarfod cyntaf ar gyfer sefydlu Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus ond y byddai angen i'r aelodau gytuno ar yr arferion gweithredol a'r rhaglen waith ar gyfer y Fforwm.
Eitem 2 ar yr Agenda: Cyd-destun - Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus – Rolau/Ymddygiadau Ffyrdd o Weithio (i'w thrafod)
2. Esboniodd y Cadeirydd fod y papur ar gyfer yr eitem hon yn cynnig nifer o bwyntiau trafod i arwain yr aelodau i feddwl am rolau ac ymddygiadau a ddisgwylir yn y Fforwm, yn seiliedig ar weithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol. Mae'r canlynol yn nodi'r pwyntiau allweddol a godwyd.
- Mae angen lle clir ar gyfer trafodaethau gonest ac agored fel bod yr aelodau’n deall safbwyntiau ei gilydd.
- Mae angen rhoi hysbysiad ymlaen llaw pan fydd yr aelodau'n bwriadu codi mater fel y gellir ei ystyried yn briodol cyn cyfarfodydd.
- Cydnabuwyd na fyddai cytundeb bob amser yn bosibl ac y byddai angen ei reoli'n barchus fel nad oedd yn effeithio'n negyddol ar drafodaethau; byddai gwahaniaethau barn yn cael eu cofnodi.
- Pwysleisiwyd bod y Fforwm i fod i ganolbwyntio ar feddwl ymlaen, nad cyrraedd consensws oedd ei brif nod (er y byddai hynny’n ddymunol) a bod herio adeiladol yn cyfoethogi sgyrsiau.
- Mae angen sicrhau bod profiad bywyd yn cael ei gofnodi ar draws gwahanol grwpiau wrth ystyried materion y gweithlu.
- Dylai cofnodion cyfarfodydd gynnwys pwyntiau/camau allweddol yn unig, heb eu priodoli i neb, ond byddai angen iddynt fod yn ddigon clir fel bod yr aelodau'n deall unrhyw gamau pellach y mae gofyn iddynt eu cymryd. Nodwyd bod gan yr aelodau strwythurau ffurfiol yn aml y byddai angen iddynt adrodd iddynt ar ganlyniadau cyfarfodydd, felly byddai eglurder yn bwysig.
- Dylid cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb bob yn ail i gryfhau ymgysylltiad yr aelodau. Unwaith y bydd y Fforwm yn weithredol, dylid ystyried cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar draws gwahanol rannau o Gymru.
- Byddai'r aelodau yn ystyried unrhyw gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt wrth i'r Fforwm symud ymlaen.
Cam gweithredu
Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i weithredu'r pwyntiau gweinyddol y cytunwyd arnynt gan yr aelodau ynghylch arddulliau/lleoliadau cyfarfodydd a recordio trafodaethau.
Eitem 3 ar yr Agenda: Rhaglen waith ar gyfer y Fforwm (i'w chytuno)
3. Esboniodd y Cadeirydd fod cyfarfod wedi'i gynnal ar 19 Ionawr gyda sampl o’r aelodau (neu eu cynrychiolwyr) i gwmpasu gwaith y Fforwm. Cynigiodd y cyfarfod ddau faes gwaith: mynd i'r afael â thrais ac aflonyddu yn y gweithle (gan ganolbwyntio ar staff rheng flaen) a ffocws parhaus ar gydraddoldebau ond gyda chylch gwaith ehangach na Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) a fyddai'n cynnwys hil ond hefyd meysydd eraill sydd wedi'u tangynrychioli megis anabledd ac anfantais economaidd-gymdeithasol.
4. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Fforwm a oeddent yn fodlon cytuno ar y rhaglen waith arfaethedig. Mae'r canlynol yn nodi'r pwyntiau trafod allweddol.
- Cytunwyd y byddai maes gwaith ehangach ArWAP bellach yn cael ei alw'n faes gwaith Cydraddoldebau.
- Mae'r ddau faes gwaith i'w cyflawni drwy grwpiau Gorchwyl a Gorffen pwrpasol i bwysleisio y byddant yn gweithredu am gyfnod penodol yn hytrach nag fel is-grwpiau sefydlog o'r Fforwm.
- Pwysleisiwyd pwysigrwydd osgoi dyblygu gwaith fforymau presennol.
- Pwysleisiwyd bod angen ffocws ehangach ar y maes trais yn y gweithle na gwaith y tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn y maes hwn. Gallai hyn gynnwys ystyried effaith eithafiaeth yn y gweithle.
- Gallai'r maes gwaith cydraddoldebau ystyried materion penodol sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys profiadau gweithwyr mudol.
- Nicky Hughes (RCN) a Sharon Davies (CLlLC) i gadeirio ar y cyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Trechu Trais ac Aflonyddu yn y Gweithle.
- Dom Houlihan (Llywodraeth Cymru) a Tom Hoyles (GMB) i gadeirio ar y cyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cydraddoldebau. Sian Boyles (PCS) i gefnogi Tom Hoyles.
- Trafodwyd aelodaeth y ddau Grŵp Gorchwyl a Gorffen a chynigiwyd enwebiadau cychwynnol. Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu nodi a bod gan yr aelodau ddigon o amser i ystyried eu henwebiadau, cytunwyd y byddai'r Tîm Cymorth yn ysgrifennu at gyd-gadeiryddion y ddau grŵp i gytuno ar broses ar gyfer ceisio cynrychiolwyr.
- Nodwyd y dylid cadw’r aelodaeth i lefelau y gellir ymdopi â nhw, gydag awgrym mai uchafswm o ddeg aelod fyddai'r nifer gorau posibl. Cytunwyd hefyd y dylai fod hyblygrwydd i wahodd arbenigwyr i fynychu cyfarfodydd y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen lle bo angen.
- Cytunwyd y byddai'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn gweithredu dull graddol fel a ganlyn (byddai pob cam yn cynnwys setiau gwahanol o bobl):
- Cam 1: y Tîm Cymorth i gysylltu â chyd-gadeiryddion pob Grŵp Gorchwyl a Gorffen i geisio eu henwebiadau aelodaeth a chyngor ar ba ddata presennol y gellir tynnu arno i lywio eu gwaith. Byddai hyn yn penderfynu pa fathau o wybodaeth, arferion gorau ac adnoddau eraill all lywio dull pob Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
- Cam 2: yr ymarfer casglu data uchod i lywio gweithdy mapio ar gyfer pob Grŵp Gorchwyl a Gorffen i bennu meysydd ffocws posibl yn well. Byddai'r rhai a wahoddwyd i'r gweithdai yn ehangach nag aelodau'r Fforwm a byddent yn cael eu cydlynu drwy'r cyd-gadeiryddion.
- Cam 3: y gweithdai i lywio trafodaethau cwmpasu yng nghyfarfodydd cyntaf pob Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gytuno ar eu hunion ffocws.
Cytundeb
Cytunodd yr Aelodau ar y ffrydiau gwaith arfaethedig ac y dylai'r rhain gael eu symud ymlaen gan Grwpiau Gorchwyl a Gorffen pwrpasol.
Cam gweithredu
Y Tîm Cymorth i ysgrifennu at gyd-gadeiryddion dau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus yn ceisio enwebiadau aelodaeth ar gyfer pob un a helpu i gydlynu hyn. Hefyd gofyn i'r cadeiryddion am gyngor ar ba ddata presennol y gellir tynnu arno i lywio'r gweithdai mapio a gynigir o dan Gam 2.
Eitem 4 ar yr Agenda: Gwefan a Chanolfan Adnoddau
5. Esboniodd y Cadeirydd fod aelodau yn y cyfarfod blaenorol wedi trafod gwefan y Fforwm a'r mathau o ddeunyddiau i'w cynnwys ar ei Ganolfan Adnoddau integredig. Cadarnhawyd bod gwaith hen Gyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC) wedi'i lanlwytho i'r Ganolfan ar ôl i’r aelodau gytuno ar hynny.
6. Esboniodd Tîm Cymorth Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus:
- Fod y Ganolfan Adnoddau yn fyw ac yn ceisio dod â chasgliad o adnoddau ymarferol a gwerth uchel at ei gilydd i gryfhau gallu ar draws y sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cynnwys pecynnau cymorth, canllawiau, arferion gorau ac astudiaethau achos.
- Byddai'r Ganolfan yn cynnal dau gategori o ddeunydd: Adnoddau penodol i Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus a ddatblygir drwy waith y Fforwm; ac adnoddau gweithlu sector cyhoeddus ehangach a all gefnogi datblygu a datrys problemau traws-sector.
- Prif gynulleidfa'r Ganolfan fyddai cynrychiolwyr Undebau Llafur ac arbenigwyr AD cyflogwyr datganoledig.
- Gofynnwyd i'r aelodau ystyried pa ddogfennau yr oeddent yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Ganolfan a darparu'r rhain i'r Tîm Cymorth maes o law.
- Esboniwyd y byddai angen i’r Fforwm gytuno ar unrhyw gynigion y tu allan i'r pwyllgor. Roedd hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ddogfennau sy'n perthyn i hen Gyngor Partneriaeth y Gweithlu yr oedd aelodau yn dymuno eu gweld yn cael eu tynnu o'r Ganolfan.
- Esboniwyd y byddai'r Ganolfan yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru ac y byddai angen i unrhyw ddogfennau sy'n cael eu cynnig i'w cynnwys fod yn ddwyieithog.
- Pwysleisiodd yr aelodau hefyd bwysigrwydd rheoli ansawdd y dogfennau a fyddai'n cael eu lanlwytho a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol.
Cytundeb
Cytunodd yr aelodau ar y dull a amlinellwyd ar gyfer datblygu Canolfan Adnoddau integredig Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus.
Cam gweithredu
Aelodau Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus i ddarparu unrhyw ddogfennau a awgrymir i'w cynnwys yng Nghanolfan Adnoddau integredig y Fforwm i'r Tîm Cymorth psfutureworkforceforum@llyw.cymru.
Eitem 5 ar yr Agenda: Cofnodion a materion sy'n codi
7. Cafodd cofnodion a materion sy'n codi eu nodi a'u cytuno gan yr aelodau.
Eitem 6 ar yr Agenda: UFA
8. Ni chodwyd unrhyw faterion o dan UFA.
Presenoldeb
- Laura Doel (Cadeirydd) - NAHT (Undeb Llafur)
- Sian Boyles - PCS (Undeb Llafur)
- Mark Turner - Unison (Undeb Llafur)
- Tom Hoyles - GMB (Undeb Llafurn)
- Nicky Hughes - RCN (Undeb Llafur)
- Reg Kilpatrick - Llywodraeth Cymru
- Georgina Haarhoff - Llywodraeth Cymru
- Stephen Layne - Llywodraeth Cymru
- Dom Houlihan - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
- Alison Standfast - Cymwysterau Cymru (Cyflogwr)
- Sharon Davies - CLlLC (Cyflogwr)
Ymddiheuriadau
- Helen Arthur - Llywodraeth Cymru
- Martin Mansfield (dirprwy Helen Arthur) - Llywodraeth Cymru
- Samantha Morgan - GIG (Cyflogwr)
Arall
- Sharon West - Llywodraeth Cymru
- Ceri Williams (sylwedydd) - TUC Cymru (Undeb Llafurn)
Tîm Cymorth
- Mark Lewis - Llywodraeth Cymru
- Rachel Loveridge - Llywodraeth Cymru
- Jessica Khoshooee - Llywodraeth Cymru
- Beca ap Robert - Llywodraeth Cymru
