Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae CThEF wedi cyhoeddi adroddiad dadansoddol sy'n defnyddio data treth incwm i edrych ar fudo o fewn y DU yn achos trethdalwyr. Ariannwyd y dadansoddiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Alban a'r DU i lywio llunio polisïau treth incwm.

Mae'r cyhoeddiad, Mudo unigolion o fewn y DU: symudiadau mewn niferoedd ac incwm (Saesneg yn unig), yn defnyddio set ddata hydredol i olrhain symudiadau unigolion ac incwm ar draws Cymru, yr Alban a rhannau eraill o'r DU yn seiliedig ar ddata treth gweinyddol. Mae'r dadansoddiad yn cwmpasu'r blynyddoedd 2009-10 i 2022-23. Mae'n canfod bod mudo net i Gymru hyd at 2016 yn dangos cydbwysedd bras rhwng y rhai sy'n symud i mewn ac allan o Gymru, ond iddo gynyddu wedi hynny, ac felly hefyd y symudiadau incwm net cysylltiedig. Cyrhaeddodd mudo net uchafbwynt ym mlwyddyn dreth 2021-22, yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Yn 2022-23 (y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael) mae mudo net yn dal yn gadarnhaol ond ar lefel ychydig yn is nag yn y flwyddyn flaenorol.

Rwy'n croesawu ail gyhoeddiad y dadansoddiad mudo o fewn y DU a'r dystiolaeth y mae'n ei darparu ar gyfer penderfyniadau polisi treth yn y dyfodol.