Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden MS, Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi bod Mudiad Meithrin wedi bod yn llwyddiannus yn ei gynnig i barhau â darpariaeth y cymhwyster gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg o FY2026–27 hyd at FY2028–29.

Mae’r cymhwyster hwn yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi a chryfhau’r gweithlu gofal plant yng Nghymru. Mae’n cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i ymarferwyr, a ddarperir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, gan helpu i sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn eu hiaith gyntaf. Mae’r cymhwyster hefyd yn cefnogi’r uchelgais genedlaethol ehangach o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy ehangu argaeledd gweithlu gofal plant medrus a hyderus sy’n gweithredu drwy’r Gymraeg ledled y wlad.

Mae gan Mudiad Meithrin hanes hir o hyrwyddo a chefnogi darpariaeth blynyddoedd cynnar drwy’r Gymraeg. Bydd eu darpariaeth barhaus o’r cymhwyster yn helpu i gynnal llwybr clir i’r rhai sy’n dymuno gweithio yn y sector, cryfhau capasiti’r gweithlu, a chyfrannu at dwf a chynaliadwyedd lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg.