Neidio i'r prif gynnwy

Pwrpas

1. Mae'r papur hwn yn amlinellu meysydd trafod i Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus eu hystyried wrth ddiffinio rolau ac ymddygiadau ei aelodau. Yn ei gyfarfod cyntaf ar 11 Tachwedd, cytunodd y Fforwm ar ei gylch gorchwyl. Er bod y cylch gorchwyl hwn yn nodi trefniadau gwaith y Fforwm (llywodraethu, gwerthoedd, aelodaeth ac ati), mae'n werth i’r aelodau archwilio sut y bydd y Fforwm yn gweithredu ar lefel ymarferol.

Cyd-destun

2. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gosod Partneriaeth Gymdeithasol ar sail statudol ond mae ei gwerth yn ymestyn y tu hwnt i gydymffurfiaeth. Mae'r dull hwn wedi'i wreiddio mewn ymddiriedaeth, parch, cydberchnogaeth o broblemau a gwaith teg. I Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus, mae'n gyfle i ddatblygu dull mwy gwybodus a chyson drwy symud y tu hwnt i seilos sefydliadol i wella ansawdd deialog rhwng partneriaid cymdeithasol, cryfhau cysylltiadau a lleihau dyblygu ymdrech, i feithrin ymdeimlad o gydberchnogaeth o waith y Fforwm.

3. Tynnodd tystiolaeth o adolygiad Llywodraeth Cymru yn 2023 i Bartneriaeth Gymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru Adolygiad o bartneriaethau cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru sylw at sawl nodwedd sy'n sail i weithio'n llwyddiannus:

  • Pwrpas clir, cyd-ddealladwy
  • Ymgysylltu cynnar, parhaus, ystyrlon
  • Ymrwymiad i gydweithio, wedi'i ategu gan barch, ymddiriedaeth, cyfranogiad ac enillion cydfuddiannol
  • Cyd-ddealltwriaeth o sut mae penderfyniadau a gwybodaeth yn cael eu rhaeadru
  • Mecanweithiau clir i fonitro cynnydd ac adolygu llwyddiant

4. Pwysleisiodd yr adolygiad werth gweithio mewn ffordd gydweithredol wedi'i angori mewn cysylltiadau cryf, dibynadwy lle gellid cynnal trafodaethau a gwneud penderfyniadau polisi anodd mewn amgylchedd o gyd-barch a chydweithrediad.

Egwyddorion ar gyfer Gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol ar y Cyd yn Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus

5. Er bod y cyd-destun a amlinellir uchod yn darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer deall y Fforwm, nod yr egwyddorion canlynol yw cefnogi’r aelodau i drafod y mathau o rolau ac ymddygiadau a ddisgwylir yn y Fforwm, yn ogystal ag yn ei is-grwpiau. Er mwyn canolbwyntio ar feddwl, darperir cyfres o bwyntiau trafod a awgrymir hefyd.

Ymgysylltu Cynnar, Cynhwysol

Dylai partneriaid gyfrannu o'r pwynt ystyrlon cynharaf, yn enwedig pan fydd materion yn torri ar draws ffiniau sefydliadol/sectorol.

Tryloywder a bod yn agored

Mae rhannu gwybodaeth, rhagdybiaethau a risgiau yn agored yn helpu i greu amgylchedd o ymddiriedaeth a thrafodaeth wybodus.

Parchu rolau partneriaid cymdeithasol

Mae pob partner cymdeithasol - llywodraeth, cyflogwyr, undebau llafur - yn cyfrannu safbwyntiau dilys. Dylai'r Fforwm gydnabod y gwahaniaethau hyn wrth weithio tuag at nodau cyffredin.

Datrys problemau ar y cyd

Dylai'r Fforwm flaenoriaethu archwilio opsiynau ar y cyd a her adeiladol.

Ymrwymiad i Waith Teg

Dylai penderfyniadau gefnogi canlyniadau gwaith teg ar draws y gweithlu gwasanaethau cyhoeddus.

Pwyntiau trafod a awgrymir

6. Bwriedir i'r meysydd canlynol lywio trafodaethau ar sut y gall y Fforwm weithredu i ddatblygu lefel ddyfnach o ymgysylltu ac ymagwedd gyson at ei waith:

  • Yn ymarferol, beth mae partneriaeth gymdeithasol yn ei olygu i Fforwm Gweithlu Dyfodol y Sector Cyhoeddus?
  • Pa gamau ymarferol fydd yn ymwreiddio ymddygiadau partneriaeth gymdeithasol?
  • Pa ymddygiadau y dylid cytuno arnynt ar gyfer cyfarfodydd?
    • Sut i gynnig her adeiladol
    • Bod yn agored i rannu syniadau neu broblemau cynnar (e.e. cyfyngiadau o ran adnoddau)
    • Bod â disgwyliadau ar gyfer rhannu gwybodaeth ac ymgysylltu
    • Sut y ceisir consensws neu sut y rheolir anghytundebau
  • A oes unrhyw gymorth y byddai’r aelodau yn ei gael yn ddefnyddiol i gyflawni eu rolau yn effeithiol?