Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyhoeddir yr Adroddiad Etifeddiaethar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant, a gynhaliwyd yn ystod tymor y Chweched Senedd rhwng 2021 a 2026.  Mae'r Adroddiad arwyddocaol hwn wedi'i ysgrifennu gan aelodau o Grŵp Cyflawni Trawsnewid traws-sector a oruchwyliodd gynnydd y Rhaglen ac mae’n gwneud 10 argymhelliad ar gyfer y Senedd nesaf i sicrhau bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau. Roedd aelodaeth gyffredinol y Grŵp yn cynnwys arweinwyr o asiantaethau sy'n ymwneud â bywydau pobl ifanc â phrofiad o ofal, yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain. 

Mae'r Rhaglen Trawsnewid yn seiliedig ar dair elfen allweddol – diwygio radical, darparu gwasanaethau yn y dyfodol, a'r system gyfan yn cydweithio. Mae wedi cael ei lywio gan leisiau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, neu sydd â phrofiad o ofal. 

Mae’r Adroddiad hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed y tymor hwn a rhai enghreifftiau o'r hyn y mae'r Rhaglen wedi'i gyflawni, gan gynnwys: 

  • Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’), gan olygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wahardd elw o ofal plant. 
  • Yr Uwchgynadleddau Profiad o Ofal a'r Datganiad a'r Weledigaeth ar gyfer Diwygio Radical – y cyntaf o'u bath yn y DU.
  • Datblygu a chyhoeddi'r Siarter Rhianta Corfforaethol a'i 11 o egwyddorion rhianta corfforaethol a ddatblygwyd ar y cyd â phobl ifanc. 
  • Cyflwyno gwasanaethau eirioli i rieni ledled Cymru. 
  • Creu Maethu Cymru, sefydliad cenedlaethol a wnaeth alluogi negeseuon cyson, symleiddio prosesau recriwtio, a meithrin ymdeimlad cryfach o gymuned ymhlith gofalwyr. 

Ynghyd â'r Adroddiad mae atodiad cysylltiedig sy'n Fframwaith Ymyrraeth Gynnar ac Atal newydd a ddatblygwyd gan ffrwd waith benodol a sefydlwyd gan y Grŵp Cyflawni Trawsnewid. Mae'r Fframwaith yn dwyn ynghyd brofiadau a gwersi a ddysgwyd ledled Cymru i gefnogi dull system gyfan o gynnal a gwella darpariaeth y gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal, er mwyn lleihau nifer y babanod, plant a phobl ifanc sy'n dod i mewn i'r system ofal, a hynny mewn modd diogel.

Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran trawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy o waith i'w wneud o hyd, ac mae'r Adroddiad Etifeddiaeth yn nodi 10 argymhelliad gan y Grŵp Cyflawni ar gyfer tymor y Senedd nesaf. 

Rydym wedi cymryd camau breision ar y daith hon a fydd yn parhau yn ystod tymor y Senedd nesaf, a thu hwnt.