Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Senedd wedi pasio Bil i gefnogi datblygiad twristiaeth yng Nghymru a gwella llety ymwelwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety ymwelwyr – gan ddechrau gyda llety hunanddarpar, hunangynhwysol, fel bythynnod gwyliau a fflatiau.

Er mwyn cael trwydded, bydd angen i ddarparwyr brofi bod eu llety yn addas ar gyfer ymwelwyr, trwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydan, larymau carbon monocsid, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a'u bod wedi cynnal asesiad risg diogelwch tân a chymryd rhagofalon perthnasol.

Dywedodd dros 80% o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU y byddent yn fwy tebygol o drefnu llety gwyliau pe bai cynllun trwyddedu yn bodoli.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:

"Rwy'n falch bod y Bil hwn wedi pasio. Mae'n gam sylweddol tuag at ddenu ymwelwyr i Gymru, gan wybod bod llety o safon yn eu disgwyl.

"Mae llawer o ddarparwyr eisoes yn gwneud y pethau cywir, ac mae'r Bil hwn yn creu cystadleuaeth deg sy'n amddiffyn ymwelwyr a busnesau cyfrifol. Edrychaf ymlaen at weld y gwahaniaeth cadarnhaol y bydd yn ei wneud i dwristiaeth yng Nghymru."

Mae'r cynllun trwyddedu yn debygol o ddechrau yn 2029 a bydd yn adeiladu ar y gofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr i greu cyfeiriadur cyhoeddus o lety ymwelwyr.