Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Safonau ar gyfer Ystadegau Swyddogol

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu yn unol â'r Safonau ar gyfer Ystadegau Swyddogol, a'r Cod Ymarfer ehangach ar gyfer Ystadegau – sy'n gosod y safonau a'r arferion ar gyfer cynhyrchu ystadegau. Nod ein hymrwymiad i gydymffurfio â'r Cod yw rhoi hyder i'n defnyddwyr yn yr ystadegau a gynhyrchwn.

Ni fydd yr holl ystadegau a gyhoeddwn yn ystadegau swyddogol. Wrth benderfynu a yw ystadegau yn ystadegau swyddogol, rydym yn ystyried y Cod a chanllawiau eraill gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, ac yn ymgynghori â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Pan fyddwn wedi penderfynu nad yw ystadegau yn ystadegau swyddogol, byddwn yn cymhwyso meysydd priodol o'r Cod cyn belled ag y bo modd.

Mae'r datganiad hwn yn nodi sut mae'r ystadegau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru yn dangos y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus – sef tair egwyddor graidd y Cod Ymarfer. Ochr yn ochr â hyn, mae pob adroddiad ystadegol yn cynnwys manylion penodol ynghylch sut mae'r set honno o ystadegau yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer.

Dibynadwyedd 

Hyder yn y bobl a'r sefydliadau sy'n cynhyrchu ystadegau a data

Caiff ein hystadegau eu cyhoeddi ymlaen llaw a'u cyhoeddi mewn ffordd agored, dryloyw a threfnus, yn unol â'n protocol arferion cyhoeddi

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu gan ystadegwyr a dadansoddwyr y llywodraeth o dan arweinyddiaeth y Prif Ystadegydd. Rydym yn gweithio'n annibynnol ar Weinidogion a swyddogion polisi, gydag ymreolaeth wrth benderfynu ar gynnwys, dulliau ac amseroedd cyhoeddi ystadegau.

Mae ein datganiad ar ddiwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau yn nodi'r prosesau a ddilynwn pan fo angen i ni oedi allbwn penodol, neu ddiwygio neu gywiro camgymeriad mewn allbwn cyhoeddedig. 

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb dros gadw ein holl ddata ac ystadegau yn ddiogel, o ddifrif. Caiff hyn ei egluro'n fwy manwl yn ein strategaeth rheoli data. Mae ein datganiad ar gyfrinachedd a gweld data yn nodi sut rydym yn cadw'r data a ddefnyddiwn i ategu ystadegau swyddogol yn ddiogel, yn parchu hawliau unigolion i breifatrwydd ac yn galluogi pobl eraill i ddefnyddio ein data yn gyfrifol.

Ansawdd

Data a dulliau sy'n cynhyrchu ystadegau sicr

Mae ansawdd ystadegau Llywodraeth Cymru yn bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn ateb gofynion ein defnyddwyr. Dylai pobl sy'n defnyddio ein hystadegau fod â hyder yn ansawdd ein gwasanaethau a'n cynnyrch ystadegol, felly rydym yn ymdrechu i sicrhau safonau ansawdd uchel fel y nodir yn ein Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol. Mae'r strategaeth yn cynnwys yr amcanion ansawdd canlynol.

  1. Sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi ym maes sicrhau ansawdd a rheoli ansawdd effeithiol.
  2. Annog staff i ddefnyddio'u chwilfrydedd deallusol, cwestiynu eu data a pherchnogi'r sicrwydd ansawdd y maent yn gyfrifol amdano.
  3. Cyhoeddi adroddiadau neu ddangosyddion ansawdd addas ar gyfer ein hystadegau.
  4. Cynnal adolygiadau rheolaidd o'n prosesau a'r allbynnau rydym yn eu cynhyrchu, gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda darparwyr data i ddeall y prosesau o'u dechrau i'w diwedd.

Ein nod yw sicrhau bod ein hystadegau yn gywir, yn ddibynadwy, yn gydlynol ac yn amserol. Rydym yn ystyried cryfderau a chyfyngiadau'r data a'r dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu ein hystadegau mewn perthynas â gofynion gwahanol ddefnyddwyr ar gyfer ein hystadegau. Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu gyda gwybodaeth ategol o ansawdd, gan roi cefndir i'r data a'r fethodoleg a ddefnyddir, ac ansawdd yr amcangyfrifon a gynhyrchir, sy'n esbonio unrhyw ansicrwydd cysylltiedig.

Weithiau rydym yn cyhoeddi ystadegau fel "ystadegau swyddogol dan ddatblygiad" pan fyddwn yn defnyddio dulliau newydd neu'n archwilio ffynonellau data newydd. Rydym yn labelu'r ystadegau hyn yn glir fel rhai dan ddatblygiad er mwyn bod yn dryloyw am gryfderau a chyfyngiadau, ac i geisio adborth gan ddefnyddwyr. 

Gwerth

Ystadegau sy'n cefnogi gofynion cymdeithas am wybodaeth

Mae'r Cod Ymarfer yn amlinellu y dylai defnyddwyr fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau am ein hystadegau, er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd fod ystadegau'n berthnasol ac yn ddefnyddiol. Mae ein strategaeth ymgysylltu â defnyddwyr yn amlinellu ein dull o ymgysylltu ac ymgynghori â defnyddwyr ac o'u hysbysu, ochr yn ochr â'n datganiad ar wasanaethau i gwsmeriaid a chwynion.

Rydym yn adolygu ein portffolio ystadegau a chynnwys cyhoeddiadau ystadegol yn rheolaidd i ystyried eu perthnasedd, eu prydlondeb, eu heglurder a'u hygyrchedd. Rydym yn defnyddio dadansoddeg ac adborth gan ddefnyddwyr i wella a blaenoriaethu'n barhaus sut rydym yn ateb gofynion defnyddwyr.

Fel y nodir yn y protocol arferion cyhoeddi, ein nod yw cyflwyno ystadegau yn glir, yn ddiduedd ac mewn fformatau sy'n ateb gofynion ein hystod o ddefnyddwyr. Rydym yn cyhoeddi ystadegau a dadansoddiadau mewn fformatau fel adroddiadau, setiau data ar StatsCymru, dangosfyrddau, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a blogiau.

Rydym yn ymdrechu i wneud ein hystadegau yn hygyrch ac i sicrhau eu bod ar gael am ddim i bawb.

Safonau ar gyfer Defnydd Cyhoeddus o Ystadegau, Data a Dadansoddiad Ehangach

Fel sefydliad rydym yn ymdrechu i gymhwyso'r Safonau ar gyfer Defnydd Cyhoeddus o Ystadegau, Data a Dadansoddiad Ehangach yn y ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn defnyddio gwybodaeth.

Mynediad cyfartal

Ein nod yw sicrhau y daw datganiadau cyhoeddus o ffynonellau dibynadwy, gan gynnwys yr ystadegau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd. Caiff ystadegau eu cyhoeddi ar wahân i ddatganiadau polisi neu Weinidogol. Os yw datganiad cyhoeddus yn defnyddio ystadegau heb eu cyhoeddi, caiff yr ystadegau eu cyhoeddi yn fuan wedyn gan ddefnyddio ein proses ar gyfer datganiadau ystadegol ad hoc.

Cefnogi dealltwriaeth

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ystadegau bob amser yn cael eu cyflwyno'n glir ac yn gywir, er mwyn peidio â chamarwain. Mae cyfathrebiadau cyhoeddus fel datganiadau i'r wasg yn darparu ffynhonnell unrhyw ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad. Mae cryfderau, cyfyngiadau a chyd-destun yn cael eu cyfathrebu'n glir yn ffynhonnell yr ystadegau ac ochr yn ochr ag ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi fel rhan o'n deunydd cyfathrebu. 

Gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth

Mae ystadegwyr, o dan arweinyddiaeth y Prif Ystadegydd, yn darparu cyngor diduedd ac arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru ar y defnydd o ystadegau. Maent yn hyrwyddo'r defnydd o'r Cod ar draws y sefydliad.

Gwahoddir y Prif Ystadegydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf flynyddol i Bwyllgor Gweithredol Llywodraeth Cymru (dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Parhaol) am gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer a materion eraill o ran ystadegau swyddogol.

Mae Cod y Gweinidogion yn nodi bod angen i Weinidogion fod yn ymwybodol o'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a rhoi sylw i Orchymyn Mynediad Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.