Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae Academi Seren wedi trawsnewid bywydau ein dysgwyr mwyaf disglair, gan eu galluogi i wireddu eu potensial. Gyda buddsoddiad blynyddol o £2.5 miliwn, mae Seren yn cynnig rhaglen wedi'i theilwra sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n meithrin cadernid academaidd, yn datblygu sgiliau hanfodol ac yn magu hyder. Mae'r rhaglen hon yn cefnogi tua 24,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ledled Cymru, o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13, gan eu helpu i wireddu eu potensial yn llawn. Mae'n gynllun unigryw ymhlith cenhedloedd y DU, sy'n darparu cyfleoedd i ddysgwyr waeth ble maen nhw'n byw na beth yw eu cefndir. 

Yn ddiweddar, cynhaliwyd dathliad deng mlynedd ar gyfer Seren lle clywsom gan ddysgwyr a oedd y cyntaf yn eu teulu i ystyried addysg uwch, rhai o gymunedau gwledig ac ynysig yn ddaearyddol, rhai a ddaeth i Gymru fel ffoaduriaid a rhai sydd ymhlith yr ychydig yn eu hysgol neu goleg i ddilyn llwybrau cystadleuol iawn gan gynnwys meddygaeth, y gyfraith neu gael eu derbyn i brifysgolion tariff uchel.  Rydym hefyd wedi cefnogi dysgwyr i ddilyn llwybrau uchelgeisiol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan eu galluogi i gynnal eu hunaniaeth ieithyddol wrth fanteisio ar gyfleoedd academaidd lefel uchel.

Mae Seren yn helpu dysgwyr i feithrin hyder, datblygu gwytnwch a meithrin ymdeimlad cryf o berthyn, ac yn darparu arweiniad ymarferol sy'n eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Mae cyrsiau preswyl Seren yn cael effaith arbennig o fawr. Fe'u disgrifir yn aml fel cyfnodau allweddol yn nhaith addysgol dysgwyr, ochr yn ochr â chymorth ymarferol wedi'i dargedu gyda datganiadau personol, profion derbyn a chyfweliadau. Mae'r profiadau hyn, ynghyd â chyfleoedd i ryngweithio'n uniongyrchol ag academyddion, tiwtoriaid derbyn a myfyrwyr presennol, wedi galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu camau nesaf ac i wneud cais i brifysgol yn hyderus. Mae llawer wedi dweud wrthym  na fyddent wedi gwneud cais o gwbl heb y gefnogaeth hon.

Mae ein partneriaethau cryf yn sylfaenol i gyflawniadau Seren. Trwy gydweithio'n agos â phrifysgolion yng Nghymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol, mae Seren wedi datblygu dealltwriaeth gref o'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer y cyrsiau mwyaf cystadleuol, sy'n rhinweddau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i gyrhaeddiad academaidd. Mae'r dull cydweithredol hwn wedi caniatáu inni lunio rhaglen Seren i adlewyrchu'r disgwyliadau hyn, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn cael eu paratoi nid yn unig yn academaidd ond yn holistaidd.

Mae Seren yn darparu sianel glir ar gyfer cyfathrebu, gan ei gwneud hi'n haws i brifysgolion a phartneriaid eraill gysylltu â dysgwyr a chynnig cefnogaeth. Mae hyn wedi arwain at gydweithredu mwy effeithiol, gan alluogi partneriaid i ymgysylltu'n gyflym, darparu canllawiau wedi'u teilwra a nodi cyfleoedd sy'n adlewyrchu eu harbenigedd a'u hadnoddau.

Yn ddiweddar, mae Swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr o bob prifysgol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig Seren yn adlewyrchu'n llawn ehangder ac ansawdd y cyfleoedd sydd ar gael, gan gynnwys astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mentrau fel ein Diwrnodau Darganfod Seren newydd ar gyfer Blwyddyn 10, sydd i'w cynnal yr haf hwn, wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr i ddeall ehangder ac ansawdd yr opsiynau sydd ar gael yma yng Nghymru. Mae'r datblygiadau hyn yn sicrhau bod Seren yn parhau i adlewyrchu dyheadau a chyfleoedd dysgwyr ledled y wlad.

Rydym wedi cyflwyno model cyflawni newydd a gwell i sicrhau cysondeb yng nghynnig Seren. Rydym hefyd yn archwilio llwybrau newydd, gan gynnwys llwybrau i radd-brentisiaethau, gan alluogi dysgwyr Seren i ddilyn rhagoriaeth trwy lwybrau gwahanol ond yr un mor uchelgeisiol tra'n ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle.  Mae cyflawniadau'r degawd diwethaf wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer cynnydd parhaus. Trwy gydweithredu parhaus â phartneriaid, addysgwyr a dysgwyr eu hunain, bydd Seren yn parhau i fod yn gynhwysol, uchelgeisiol ac ymatebol i anghenion ein dysgwyr disgleiriaf, gan barhau i agor drysau, meithrin talent a chefnogi'r genhedlaeth nesaf i ragori.