Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gwerth £3 miliwn o gyllid ar gael dros y tair blynedd ariannol nesaf i barhau â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP), gan gefnogi ffermwyr defaid Cymru i wella effeithlonrwydd, cynhyrchiant a pherfformiad amgylcheddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cymryd yr awenau ar Gam 2 y rhaglen, gan nodi cam sylweddol ymlaen wrth gefnogi ffermwyr defaid Cymru i wneud penderfyniadau mwy clyfar o ran bridio, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  

Bydd y cam newydd yn darparu cymorth pontio i gyfranogwyr presennol a hefyd yn agor y rhaglen i ddiadelloedd newydd. Bydd ffermwyr yn elwa ar gymorth ymarferol, technegol ac ariannol i fanteisio ar Werthoedd Bridio Amcangyfrifedig Genomig - offer genetig blaengar sy'n sicrhau penderfyniadau mwy deallus ar lefel fferm. Bydd y data genetig a gesglir yn gwella gwaith meincnodi'r diwydiant ac yn hwyluso gwaith cynllunio busnes hirdymor.  

Bydd Cam 2 hefyd yn cynnwys datblygu dangosyddion perfformiad allweddol cadarn, cynllunio camau gweithredu wedi'u teilwra ar lefel fferm, a phortffolio uchelgeisiol o brosiectau ymchwil sy'n anelu at sbarduno arloesedd ar draws y sector.  

Mae amcanion y rhaglen yn cyd-fynd yn agos â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a lansiwyd ar 1 Ionawr 2026, a Gweledigaeth HCC 2030 — gan danlinellu ymrwymiad a rennir i ddiwydiant cig coch Cymreig cynhyrchiol, cynaliadwy a chystadleuol.  

Bydd Cam 1 y Rhaglen a ddarperir gan Cyswllt Ffermio yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026. Ers lansio'r Rhaglen yn 2023 mae wedi cyflawni cynnydd sylweddol, gan gynnwys:  

  • cyflwyno genomeg i'r sector defaid am y tro cyntaf, yn unrhyw le yn y byd  
  • cynhyrchu nifer uchaf y genoteipiau ar gronfa ddata AHDB‑Signet - 70,000 ar draws diadelloedd Haen 1 a Haen 2 ers 2023 
  • datblygu dau linyn ymchwil arloesol‑: bridio ar gyfer ymwrthedd i lyngyr a bridio ar gyfer lleihau allyriadau methan
  • gweithio mewn partneriaeth agos ag arbenigwyr blaenllaw, gan gynnwys Innovis ac AHDB‑Signet 
  • sbarduno enillion genetig mesuradwy a gwelliannau mewn nodweddion perfformiad allweddol ar draws diadelloedd sy'n rhan o'r Rhaglen

Mae'r buddsoddiad hwn yn sail i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hefyd gynhyrchu Cig Oen Cymru PGI cynaliadwy o ansawdd uchel‑.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Mae'r cyllid hwn yn tystio i'n hymrwymiad i gefnogi ffermwyr i adeiladu busnesau proffidiol, gwydn er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd. Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd gwyddoniaeth flaengar yn mynd law yn llaw â thraddodiad balch ffermio da byw yng Nghymru. Trwy helpu ffermwyr i fridio diadelloedd iachach, mwy cynhyrchiol gydag ôl troed amgylcheddol is, rydym yn cryfhau diogelwch bwyd ac yn diogelu ein heconomi wledig am y tymor hir.

Dywedodd José Peralta, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru: 

Mae'r cynnydd a gyflawnwyd hyd yma yn adlewyrchu ymrwymiad ffermwyr ledled Cymru, gwaith tîm Cyswllt Ffermio, a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn sicrhau sylfaen gref ar gyfer y cam nesaf.   

Mae'r cam nesaf hwn yn cefnogi'n uniongyrchol flaenoriaeth graidd ein cynllun strategol newydd - sef datblygu ac arwain gwaith creu mentrau sy'n gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol. Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda ffermwyr i sicrhau bod ganddynt yr offer, y mewnwelediadau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.