Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwy’n falch iawn o rannu bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu fframwaith gwaddol (dolen allanol).
Mae’r Eisteddfod yn fwy na gŵyl wythnos o hyd. Mae’n brosiect dwy flynedd sy’n gadael gwaddol cryf i’r Gymraeg a’i diwylliant yn yr ardal. Mae’n gyfle gwerthfawr i ddathlu ein hiaith drwy lenyddiaeth, cerddoriaeth, diwylliant, celf a chymaint mwy. Mae’r fframwaith hwn sy’n sicrhau bod camau yn cael eu rhoi ar waith i gynllunio’n strategol ar gyfer sicrhau gwaddol yn ardaloedd yr Eisteddfod, yn cael ei groesawu’n fawr.
Mae’r ddogfen yn gosod cyfeiriad clir gan nodi pwrpas y fframwaith a’r pwysigrwydd i dynnu ynghyd bartneriaid mewn meysydd penodol. Caiff y meysydd hynny eu nodi o fewn y fframwaith ynghyd â rhai o’r partneriaid fydd yn allweddol i gefnogi’r gwaith. Amlygir strwythur y cydweithio gan amlinellu bwriadau cynnull bwrdd prosiect a grŵp llywio gan nodi cylch gorchwyl y gwaith a’r cyfeiriad strategol – yn genedlaethol ac yn lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn ac yn cefnogi’r fframwaith gwaddol yn enwedig trwy waith y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol – bydd y gwaith gwerthfawr hwn hefyd, heb os, yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050. Dymunaf ddiolch i’r Eisteddfod Genedlaethol am gyhoeddi’r fframwaith, a diolch hefyd i’r holl bartneriaid fydd ynghlwm â’r gwaddol dros y blynyddoedd i ddod.
