Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip a Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae camfanteisio troseddol ar blant yn arwain at ganlyniadau dwfn a pharhaol, gan niweidio plant, rhieni a gofalwyr, a'n cymunedau. Mae sefydliadau rheng flaen yn parhau i ddod ar draws plant ledled Cymru sydd wedi cael eu targedu, y cafodd perthynas amhriodol ei meithrin gyda nhw, sydd wedi cael eu manipwleiddio, ac sydd wedi cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol. Rydym yn cydnabod ac yn talu teyrnged i ymdrechion y sefydliadau, y gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr hyn sy'n gweithio bob dydd i ddiogelu plant a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.
Fel llywodraeth, rydym yn cymryd camau brys i fynd i'r afael â chamfanteisio troseddol ar blant mewn ffordd gydgysylltiedig a pharhaus, gan ymateb iddo fel argyfwng, a chydnabod bod plant sy'n cael eu hecsbloetio'n droseddol yn dioddef ffurf ar gamdriniaeth. Rydym wedi ymrwymo i ymateb mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn, sy'n ystyriol o drawma, ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu ar brofiad bywyd a sicrhau ei fod yn gyson ag ymatebion ehangach i fathau eraill o niwed. Mae ein Strategaeth ddeng mlynedd genedlaethol ar gyfer Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol, a lansiwyd yn gynharach y mis hwn, yn cydnabod y cysylltiadau rhwng cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio troseddol.
Yn 2024, tynnwyd sylw at raddfa ac effaith camfanteisio troseddol gan Adolygiad Jay o Blant a Ecsbloetiwyd yn Droseddol ac adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar blant sydd ar yr ymylon. Rydym wedi croesawu'r ddau adroddiad ac wedi derbyn mwyafrif argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lywodraeth Cymru er mwyn cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â'r niwed hwn.
Tynnodd y ddau adroddiad sylw at bwysigrwydd gwell cydlynu rhwng asiantaethau a phartneriaid. Er mwyn adeiladu ar hyn, cymerwyd camau gennym: y llynedd aethom ati i drefnu gweithdy cenedlaethol ar ymateb Cymru i gamfanteisio troseddol ar blant, a ddaeth â mwy na 200 o ymarferwyr at ei gilydd. Trefnwyd y digwyddiad hwn mewn cydweithrediad a phartneriaeth â Gweithredu dros Blant, Barnardo, Cymdeithas y Plant, CASCADE a phlismona yng Nghymru. Roedd yn gyfle i rannu a chasglu mewnwelediad ar sut y gall asiantaethau ledled Cymru gydweithio i atal camfanteisio a chefnogi plant. Defnyddiwyd y gweithdy hefyd i dynnu sylw at adnoddau allweddol, megis Pecyn Cymorth Diogelu Cymhleth Cymru i Ymarferwyr.
Ym mis Hydref 2025, agorodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Gynhadledd ExChange ar Ddulliau Diogelu Plant sy'n Dioddef Camfanteisio Troseddol a oedd yn canolbwyntio ar gymryd camau ar lefel draws-asiantaethol i fynd i'r afael â chamfanteisio troseddol. Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cynhaliwyd cynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2025, lle lansiwyd adnodd dysgu ar-lein newydd ar gaethwasiaeth fodern, i gryfhau ymwybyddiaeth ledled Cymru o gamfanteisio ar ei holl ffurfiau, gan gynnwys camfanteisio ar blant. Mae'r holl gamau gweithredu wedi'u cynllunio i sicrhau bod ein gweithredoedd yn targedu'r rhai mwyaf agored i niwed, mewn cyd-destun lle mae atgyfeiriadau caethwasiaeth fodern yn parhau i gynyddu gyda phlant rhan fwyaf o’r achosion, a chamfanteisio troseddol yn parhau i fod y prif fath o niwed y maent yn eu hwynebu.
Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod addysg yn bartner diogelu hanfodol, ac yn aml dyma'r cyd-destun cyntaf lle mae pryderon am les neu ddiogelwch plentyn yn cael eu nodi. Mae gan ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill fewnwelediad unigryw i newidiadau mewn ymddygiad, bregusrwydd, ac arwyddion cynnar camfanteisio. Mae eu cyfraniad yn hanfodol i drefniadau diogelu amlasiantaethol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid addysg i'w cefnogi i gyflawni'r swyddogaeth ddiogelu hanfodol hon, gan sicrhau eu bod yn cael yr arweiniad, yr adnoddau a'r gefnogaeth amlasiantaethol sydd eu hangen i nodi pryderon yn gynnar a diogelu plant yn effeithiol.
Rydym yn cydweithio o fewn Cymru, ac rydym hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar ei Bil Troseddu a Phlismona i sicrhau bod ein plant yn cael eu diogelu. Mae'r Bil yn cyflwyno troseddau newydd o ran camfanteisio troseddol ar blant, cogio a gorfodi unigolion i guddio rhywbeth yn eu corff, ac mae'n sefydlu gorchmynion atal camfanteisio troseddol ar blant. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau ein bod yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Dyna pam rydym yn croesawu'r newidiadau pwysig hyn, a byddwn yn parhau i ymgysylltu ynghylch y manylion.
Ein barn ni yw bod cydweithio ar bob lefel yn gwbl hanfodol gan fod y rhai sy'n camfanteisio ar blant yn droseddol yn gwneud hynny ar draws ffiniau cenedlaethol ac awdurdodaethol. Cydweithio yng Nghymru. Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. A chydweithio rhwng y Llywodraethau Datganoledig. Mae hyn yn ganolog i'n strategaeth wrth inni ymgysylltu â sefydliadau ym mhob rhan o'r system sy'n gweithio i ddiogelu a gwarchod plant yn ein cymunedau.
Yn olaf, rydym yn datblygu cynigion ar gyfer Canllaw Ymarfer cyfunol newydd ar ddiogelu plant rhag cael eu hecsbloetio, o dan lywodraethiant Bwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Rydym yn cydnabod mewnbwn hanfodol partneriaid, gan gynnwys Cymdeithas y Plant, i'r gwaith pwysig hwn. Byddwn yn parhau i gymryd camau lle bo angen i gadw plant yn ddiogel.
