Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Rwy'n croesawu adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, ynghylch effaith y pandemig ar systemau gofal iechyd ar draws pedair gwlad y DU. Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith.
Rhoddodd y pandemig bwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru a ledled y DU. Rydym yn cydnabod yr effaith sylweddol a gafodd hyn ar gleifion, staff, y gweithlu ehangach a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan Covid-19.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud â'r ymchwiliad mewn modd agored ac adeiladol, fel y gwnaethom mewn perthynas â'r ddau adroddiad cyntaf. Mae'r ymchwiliad yn ei gwneud yn ofynnol inni ymateb i adroddiad ac argymhellion Modiwl 3 o fewn chwe mis i'w gyhoeddi.
