Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw ein Cynllun Morwrol a Logisteg, sy'n nodi cyfeiriad strategol posibl i'w ystyried gan Lywodraeth nesaf Cymru ar gyfer y ddau sector.

Mae fy nghyfnod yn y Llywodraeth wedi atgyfnerthu fy nghydnabyddiaeth gadarn o'r rôl hanfodol y mae'r sectorau hyn yn ei chwarae wrth gefnogi economi a chymdeithas Cymru. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos yr aflonyddwch y gellir ei greu gan ddigwyddiadau byd-eang, tywydd garw ac ansicrwydd geowleidyddol. Mae'r Cynllun yn ymateb i'r heriau hyn drwy nodi llwybrau y gallai llywodraethau Cymru yn y dyfodol eu cymryd i gryfhau gwydnwch, cefnogi datgarboneiddio a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn gystadleuol mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Mae'r cynllun hefyd yn tynnu sylw at yr angen am gydweithredu parhaus ar draws y llywodraeth, rhanddeiliaid a'r byd academaidd. Mae'n nodi sut y gall Cymru elwa o gyfleoedd newydd, yn enwedig twf ynni adnewyddadwy ar y môr, datblygiad diweddar Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru a datblygiadau mewn technoleg logisteg. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd gwaith teg a datblygu sgiliau, gan sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cefnogi trwy newid yn y diwydiant ac ymddangosiad technolegau newydd.

Mae'r cynllun hwn wedi'i ddatblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid, gan fynd i'r afael â phryderon diwydiant, ac felly mae'n darparu sylfaen glir y gall llywodraethau'r dyfodol ddewis adeiladu arni. Rwy'n annog y Llywodraeth nesaf yn gryf i ystyried y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun, ac i barhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'u pryderon, sicrhau gwydnwch y ddau sector yng Nghymru a manteisio ar gyfleoedd sydd ar y gorwel.