Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion a sail resymegol yr ymchwil

Comisiynwyd Miller Research gan Lywodraeth Cymru i wneud asesiad annibynnol o raddfa, strwythur, ac arwyddocâd strategol sector gwasanaethau masnachadwy Cymru. Yr amcan oedd deall cyfraniad gwasanaethau i economi Cymru, asesu eu potensial allforio, a chanfod dewisiadau polisi ymarferol i gefnogi twf cynaliadwy. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar wasanaethau y gellir eu gwerthu neu eu defnyddio y tu allan i Gymru, gan gynnwys gwasanaethau cynwysedig na chaiff eu cydnabod bob amser gan fetrigau masnachol confensiynol. Nod yr astudiaeth yw llenwi bylchau mewn data, datgelu cryfderau sectorau, a chynnig fframwaith ar gyfer cynllun polisi mwy cynhwysol o wasanaethau, yn unol â’r Genhadaeth Economaidd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dull methodolegol

Defnyddiodd yr astudiaeth gymysgedd o ddulliau i fapio a dadansoddi sector gwasanaethau masnachadwy Cymru. Cyflawnwyd adolygiad desg cynhwysfawr ac ymarferiad mapio sectorau, gan ddefnyddio llenyddiaeth academaidd a pholisi law yn llaw â setiau data swyddogol (ONS, Tŷ’r Cwmnïau) a pherchnogol (Beauhurst a TiVA) datasets. Defnyddiwyd codau Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) i ganfod is-sectorau gwasanaethau ac iddynt y potensial o fod yn fasnachadwy ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Adolygwyd a dadansoddwyd setiau data sydd ar gael i’r cyhoedd er mwyn darparu asesiad manwl o sector gwasanaethau Cymru yn gyffredinol, ei segment gwasanaethau masnachadwy, is-sectorau allweddol o ddiddordeb i’r astudiaeth hon, a gweithgareddau Modd 5 sydd wedi eu cynnwys o fewn allforion gweithgynhyrchu. Roedd tablau Mewnbynnau-Allbynnau a Chyflenwi a Defnyddio yn cefnogi’r amcangyfrifon.

I ategu’r canfyddiadau eilaidd, defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau ymchwil sylfaenol.

  • Cyfweliadau cwmpasu: trwy 8 o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda chyrff diwydiannol, cynrychiolwyr sectorau, a llunwyr polisi, cafwyd trosolwg o’r sector gwasanaethau a chymorth i’r sector gwasanaethau yng Nghymru. 
  • Cyfweliadau â rhanddeiliaid: roedd 10 o gyfweliadau lled-strwythuredig ychwanegol gyda chyrff diwydiannol, asiantaethau cymorth busnes, busnesau, a darparwyr ecosystemau yn ychwanegu dyfnder ansoddol, gan ddatgelu heriau’r byd go-iawn sy’n ymwneud â chyllid, sgiliau, a chymorth.
  • Arolwg ar-lein: dosbarthwyd holiadur manwl i amrywiaeth o fusnesau sector gwasanaethau i gasglu data ar weithgareddau allforio, deinameg gweithluoedd, a rhwystrau canfyddedig, gan dderbyn cyfanswm o 55 o ymatebion.

Cafodd data meintiol ei addasu, ei gydgrynhoi, a’i ddadansoddi’n ddisgrifiadol er mwyn proffilio cyfrifon cyflogaeth a busnesau. Cyflawnwyd dadansoddiad pellach ar gyfraniadau gwerth ychwanegol gros (GVA), cynhyrchiant, a phatrymau allforio gan ddefnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus. Roedd mapiau GIS yn dangos clystyrau gofodol a bylchau yn ein cronfa ddata a gynhyrchwyd o fusnesau gwasanaethau a allai fod yn fasnachadwy. Roedd ymarferiad sganio’r gorwel yn datgelu mwy inni am yr heriau, rhwystrau, cryfderau a gwendidiau mewn is-sectorau o ddiddordeb.

Prif ganfyddiadau

Mae sector gwasanaethau Cymru’n cyfrif am dros 70% o gyfanswm GVA, ac am gyfran gynyddol o gyflogaeth. Mae is-sectorau allweddol ac iddynt y potensial o fod yn fasnachadwy – gan gynnwys gwasanaethau ariannol ac yswiriant, technoleg gwybodaeth a datblygu, cyfryngau creadigol a digidol, gwasanaethau cyfreithiol a chyfrifyddu, ac ymgynghori ar faterion rheoli – yn dangos cyfraniadau domestig cryf at GVA a chyflogaeth. Mae’r sectorau hyn yn elwa ar weithrluoedd digidol-fedrus, costau gweithredu is na rhai o ranbarthau eraill y DU, a strwythurau cymorth sy’n dod i’r amlwg. Mae sail weithgynhyrchu gymharol fawr Cymru yn golygu bod gwasanaethau Modd 5, megis dylunio, peirianneg, a mewnbynnau digidol sydd wedi eu cynnwys mewn nwyddau, yn cyfrif am allforion gwerth rhwng £4 biliwn a £4.8 biliwn yn flynyddol rhwng 2011 a 2020. 

Fodd bynnag, mae’r sector yn wynebu heriau parhaus, gan gynnwys anawsterau wrth gadw doniau, seilwaith digidol anwastad ledled Cymru, a graddau cyfyngedig o ymwybyddiaeth ac o fanteisio ar fecanweithiau cymorth allforio gwasanaethau ymysg y rhai a gyfwelwyd a busnesau a arolygwyd. Mae data ansoddol yn awgrymu y gallai fod busnesau yn gweithredu islaw eu potensial allforio oherwydd diffyg cymorth wedi’i deilwra a gwelededd cyfyngedig data. Mae masnach Modd 5 yn anodd ei gyfleu mewn ystadegau a chaiff ei anwybyddu’n aml mewn trafodaethau polisi masnach. Mae hyn yn amlygu’r angen am well cydnabyddiaeth a mesur. Yn ogystal, parhau’n gyfyngedig mae arallgyfeirio mewn allforion Modd 5 yng Nghymru, gyda’r potensial o beri risg i wytnwch economaidd os yw sectorau blaenllaw yn wynebu pwysau cystadleuol rhyngwladol neu newidiadau mewn rheoleiddio. Mae’r partrwm hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd strategol cefnogi arloesi ac integreiddio gwasanaethau ar draws amrywiaeth ehangach o ddiwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Daeth i’r amlwg hefyd wrth ymgynghori â rhanddeiliaid y gall fod cymorth masnachol presennol heb gael ei deilwra’n ddigonol i fusnesau sydd o dan arweiniad gwasanaethau. Roedd llawer yn adrodd am anawster wrth gael cyngor ystyrlon ar gyfer allforio, ôl-ofal, neu gyllid, gyda rhai busnesau bach a chanolig o bosibl yn teimlo’u bod yn cael eu hanwybyddu yn sgil canolbwyntio canfyddedig ar brosiectau mawr neu risg-isel. Roedd rhai ymatebwyr yn pwysleisio bod bwriad strategol cynlluniau Llywodraeth Cymru yn aml yn glir, ond y gall mecanweithiau gweithredu deimlo’n fiwrocrataidd neu’n cyfateb yn wael â llinellau amser masnachol.

Casgliadau ac argymhellion

Mae sector gwasanaethau masnachadwy Cymru yn chwarae rhan strategol bwysig yn yr economi genedlaethol. Gall fod cyfle i gysoni polisi cyhoeddus a chymorth allforio yn well â natur gyfnewidiol masnach a phwysigrwydd cynyddol gwasanaethau seiliedig ar wybodaeth. Dywedodd rhai rhanddeiliaid nad oedd y strwythurau cymorth presennol wedi eu teilwra’n ddigonol ag anghenion cwmnïau gwasanaethau, ac y gallai dull mwy cytbwys sy’n cydnabod rôl gwasanaethau sydd wedi eu cynnwys mewn nwyddau ac a gaiff eu gweithredu’n ddigidol helpu i ddatgloi gwerth ychwanegol.

I gefnogi’r esblygiad hwn, mae’r astudiaeth yn awgrymu ystyried sawl maes.

Data ac ymchwil

  • Gwella gwelededd a ffordd o fesur data: Gallai Cymru elwa o archwilio ffyrdd o wella gwelededd llifau gwasanaethau trawsffiniol a chynwysedig o fewn ffynonellau data presennol. Gallai hyn gynnwys adolygu Arolwg Masnachol Cymru er mwyn asesu a allai gwelliannau ar raddfa fach – megis ehangu’r rhestru ddosbarthu nwyddau/gwasanaethau – roi gwybodaeth fanylach heb gynyddu’r baich ar ymatebwyr.

Datblygu polisi

  • Ymdrin â heriau strwythurol: gallai cymorth i fusnesau gwasanaethau bach fod yn well trwy fod yn fwy hyblyg a chael ei arwain gan realiti masnachol. Gallai gwelliannau ymarferol i rhaglenni ymgynghorol a chyllid helpu i leihau rhwystrau i fusnesau sydd â’u bryd ar dyfu’n rhyngwladol a chyflawni trawsnewidadau digidol.
  • Cynnwys Modd 5 mewn polisi masnachol a diwydiannol: Gallai Modd 5 gynrychioli agwedd bwysig o broffil masnach ryngwladol Cymru. Gallai cytundebau masnach a strategaethau diwydiannol yn y dyfodol ystyried sut i gydnabod cyfraniad gwasanaethau cynwysedig, gan gynnwys trwy gefnogi arloesi ar y cyd rhwng cwmnïau gwasanaethau a gweithgynhyrchu.

Cefnogi / datblygu busnesau 

  • Ailfeddwl model cymorth allforio: gallai rhaglenni masnach ac allforio yn y dyfodol gael eu haddasu i adlewyrchu anghenion allforwyr gwasanaethau, gan gynnwys y rheini sy’n gweithredu trwy sianelau digidol neu trwy gynigion cynwysedig (Modd 5).  Gallai hyn gynnwys cyngor wedi’i deilwra, gwella mynediad at gyllid, a mwy o amlygrwydd i asedau anniriaethol megis eiddo deallusol a meddalwedd.
  • Cefnogi cysondeb cryfach rhwng polisi a masnach: Gallai fod yn werth cydgynllunio mecanweithiau cymorth yn y dyfodol gyda phartneriaid diwydiant, gan sicrhau bod rhaglenni â sail ymarferol ac yn cael eu gweithredu gan bobl sydd ag arbenigedd masnachol. Gallai ymchwil pellach a datblygu polisi helpu i adeiladu ar y canfyddiadau hyn. Mae meysydd i’w harchwilio ymhellach yn cynnwys: 
    • Mapio cwmpas Modd 5 Cymru mewn mwy o fanylder, yn enwedig trwy well dadansoddiad o gadwyni cyflenwi gwasanaethau a chynhyrchion.
    • Gwneud archwiliadau trylwyr o is-sectorau ac iddynt botensial uchel a nodir yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys seibrddiogelwch, technoleg ariannol, a gwasanaethau dylunio, i ddeall yn well y galluogwyr a rhwystrau penodol i’w twf.

Mae’r astudiaeth yn annog parhau i ymgynghori a chyd-drafod ynghylch sut mae Cymru’n diffinio, mesur, a chefnogi ei economi gwasanaethau masnachadwy. Mewn amgylchedd byd-eang cynyddol ddeinamig, bydd ymdrin yn fwy trylwyr â’r materion hynny yn hanfodol er mwyn rhyddhau twf, gwella gwytnwch, a sicrhau bod y sector gwasanaethau yn parhau i fod yn elfen hanfodol o ddyfodol economaidd Cymru.

Cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Dom Oliver, Nick Miller, Hannah Rigley, Megan Byrne, Gabby Hopkins, Max Mucientes, Yasmin Pemberton / Miller Research (UK) Ltd. 

Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cyngor a Dadansoddi Economaidd
Polisi Economaidd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: polisieconomaidd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 47/2026
ISBN digidol: 978-1-83745-339-9

Image
Ymchwil Gymdeithasol Y Llywodraeth