Mae rhagor o gymorth yn cael ei roi i ffermwyr Cymru i'w helpu i wneud busnesau eu ffermydd yn fwy gwydn a chynaliadwy. Mae'r cymorth hwnnw'n cael ei ddisgrifio yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS): Trosolwg o'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae'r trosolwg yn nodi'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi drwy gydol 2026 a dechrau 2027.
Mae'r Haenau Opsiynol a Chydweithredol yn adeiladu ar Haen Gyffredinol yr SFS, a ddaeth yn fyw ym mis Ionawr 2026.
Mae'r trosolwg yn nodi'r hyn sy'n dod nesaf a sut y gall ffermwyr gael taliadau ychwanegol, fel cymorth cyfalaf ar gyfer offer i fod yn fwy effeithlon, yn ogystal ag ar gyfer creu perthi/gwrychoedd neu goetir. Mae'n cynnwys cymorth hefyd ar gyfer ffermio organig neu ar gyfer rheoli cynefinoedd, yn ychwanegol at y Taliadau Cyffredinol.
Bydd peth o'r cymorth ar gael yn unig i'r ffermwyr hynny sydd wedi ymuno â Haen Gyffredinol y cynllun, i adeiladu ar y sylfeini y mae'r Gweithredoedd Cyffredinol wedi'u gosod. Mae rhywfaint o gymorth ar gael i ffermwyr eraill ond bydd ffermwyr yr Haen Gyffredinol yn cael blaenoriaeth. Mae cyfleoedd eraill ar gael hefyd, er enghraifft, cyllid Ffermio Bro yn ein tirweddau dynodedig, a'r Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy newydd.
Bydd cyfraddau talu a chanllawiau technegol yn cael eu cyhoeddi cyn dechrau pob cyfnod ymgeisio.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Mae Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod yn fyw ers mis Ionawr, a honno sy'n darparu'r sylfaen – sef taliad blynyddol i’r ffermwr yn gyfnewid am ystod o weithredoedd, er lles ei fferm, yr amgylchedd a'r bwyd mae’n ei gynhyrchu.
Hwn yw'r cam nesaf i helpu ffermwyr i wneud eu busnesau'n fwy gwydn a gwella'u hamgylchedd lleol. I'r rheini sydd am fynd ymhellach, mae'r Haenau Opsiynol a Chydweithredol wedi'u cynllunio i adeiladu ar y sylfaen honno - gwneud busnesau fferm yn fwy gwydn a gwella'r amgylchedd lleol. Bydd y cynnig hwn yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod, ac rwy'n annog holl ffermwyr Cymru i ystyried pa gymorth allai weithio iddyn nhw.
Mae'r cynnig hwn yn adeiladu ar y berthynas newydd y mae'r SFS yn ei chreu rhwng ffermwyr a phobl Cymru. Mae'n dangos ein hymrwymiad i'n cymuned ffermio a chynnyrch Cymreig o safon ar ran y genedl, ac yn darparu manteision ychwanegol i'n cefn gwlad er budd pawb.
Bydd y trosolwg o Haenau Opsiynol a Chydweithredol yr SFS ar gael o 9am ddydd Llun 23 Mawrth ar Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Haenau Dewisol a Chydweithredol: trosolwg o’r cymorth sydd ar gael o 2026.
