Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi Adroddiad Monitro ac Adolygu 5 mlynedd cyntaf Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi y dylid darparu adolygiad a datganiad i'r Senedd mor agos â phosibl at 5 mlynedd ers cyhoeddi Cymru'r Dyfodol, a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2021. 

Mae Cymru'r Dyfodol yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynlluniau datblygu strategol a lleol. Er y bydd y newid strategol y mae'n ceisio ei gyflawni hyd at 2040 yn cymryd amser, mae’n bwysig monitro ac adolygu'r cynnydd tuag at gyflawni ei bolisïau a'i ganlyniadau ac asesu a oes angen newid dull polisi.

Felly, nod yr Adroddiad hwn yw ceisio gwerthuso cynnydd yn ystod pum mlynedd gyntaf y cynllun. Er gwaethaf cyd-destun byd-eang heriol ers 2021, mae'r canfyddiadau'n dangos cynnydd cenedlaethol mesuradwy mewn meysydd megis datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a darparu tai fforddiadwy. Er bod cynnydd ym mhob maes yn cymryd amser i'w gyflawni, mae Cymru'r Dyfodol yn parhau i ddarparu sylfaen ofodol genedlaethol gadarn i gyflawni un ar ddeg Canlyniad Cymru'r Dyfodol erbyn 2040.

Mae'r Adroddiad Monitro a Adolygu Cymru'r Dyfodol yn dod i'r casgliad nad oes angen adolygiad brys o’r cynllun ar hyn o bryd.