Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi brwydro yn ddiflino dros y diwydiant dur a'n cymunedau dur yma yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Rydym yn cydnabod ei bod hi'n dal i fod yn anodd ar ein cymunedau a'u gweithwyr sy'n dal i boeni am ddyfodol dur oherwydd y pwysau diddiwedd ar y sector.

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi (Saesneg yn unig) ei Strategaeth Ddur ar gyfer y DU sy'n cynnig llwybr i'r sector dur ar gyfer y dyfodol. Mawr fu’r disgwyl amdani. Roedd yn bleser cael bod ym Mhort Talbot ar gyfer lansio'r Strategaeth gan Peter Kyle AS y DU, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach a chael y cyfle i siarad amdani gyda'r diwydiant a chynrychiolwyr o'r undebau dur.

Dwi'n falch fod y Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu dur yng Nghymru a’r disgwyl yw y bydd gan Gymru tua hanner capasiti cynhyrchu dur y DU. Mae'r Strategaeth yn cadarnhau mai technoleg ffwrneisi arc trydan, fel yr un sy'n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot ac sydd eisoes yn cael ei defnyddio yn 7 Steel, yw dyfodol cynhyrchu dur yn y DU. 

Nod y Strategaeth yw sefydlogi'r sector, sicrhau ei hyfywedd, ac adfer lefelau cynhyrchu domestig i ryw 40-50% o'r galw domestig am ddur, ar ôl cwympo i 30% yn 2024. Bydd cynhyrchwyr Cymreig fel Tata Steel a 7 Steel yn elwa o'r nod bod mwy o'r dur a ddefnyddir ym Mhrydain yn cael ei wneud ym Mhrydain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y bydd rhagor o gyfleoedd i ddur o Gymru gynnal sectorau fel adeiladu ac ynni glân. 

Mae cyflwyno mesurau masnachu newydd yn rhoi eglurder mawr ei angen i'r sector wrth i'r mesurau masnachu presennol ddod i ben ddiwedd mis Mehefin eleni. O 1 Gorffennaf bydd y cwota cyffredinol ar fewnforion dur yn cael ei ostwng 60% o'i gymharu â'r trefniadau presennol a bydd tariff o 50% ar ddur uwchlaw'r lefel hon sy'n cael ei fewnforio i'r DU. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried manylion penodol y mesurau masnachu dur hyn a mesurau eraill a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw ac i ddeall eu heffaith ar Gymru ac i gymryd rhan yn y Gweithgorau Polisi.

Gyda'r broses o drawsnewid Tata Steel i gynhyrchu dur trwy’r system arc trydan eisoes ar waith a safle 7 Steel wrthi’n cael ei ddatblygu, mae'n hanfodol bod gan y sector a'i gadwyni cyflenwi amgylchedd gweithredu cefnogol. 

Bydd y gwaith o roi'r Strategaeth ar waith yn cael ei wneud drwy nifer o weithgorau a fydd yn cefnogi nodau'r Strategaeth ac yn ymateb i anghenion cynhyrchwyr a'r cadwyni cyflenwi.  Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU fel aelod o'r gweithgorau hyn ac yn sicrhau bod llais i fuddiannau ac arbenigeddau Cymru. Bydd hyn yn adeiladu ar aelodaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar y Cyngor Dur a’i gyfraniad at lunio’r Strategaeth. 

Rydym wedi ymrwymo'n llwyr o hyd i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo a chefnogi sector dur Cymru a byddwn yn gweithio i sicrhau y gwneir y gorau o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Strategaeth hon er lles ein holl weithfeydd dur – 7 Steel, Tata Steel a’r gweithfeydd y mae Tata Steel yn eu cyflenwi yn Llanwern, Shotton, Trostre a Catnic yn ogystal â’n sector gweithgynhyrchu ehangach.