Neidio i'r prif gynnwy

Dylai'r Gymraeg fod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd ledled Cymru – mewn gweithleoedd, clybiau chwaraeon, ar-lein ac mewn cymunedau lleol – er mwyn i’r Gymraeg am ffynnu at y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi yn y gofodau cymdeithasol, diwylliannol a digidol sy'n siapio sut mae pobl yn byw ac yn cysylltu â’i gilydd fel bod modd defnyddio'r Gymraeg fwy mewn bywyd bob dydd y tu hwnt i fyd addysg.

Sefydlwyd y Comisiwn gan Lywodraeth Cymru. Mae ei adroddiad, ‘Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg’, yn canolbwyntio ar gymunedau lle mae llai na 40% o bobl yn siarad Cymraeg. Mae'n archwilio sut gall yr iaith ddod yn rhan gryfach o fywyd bob dydd yn yr ardaloedd hyn.

Mae'r adroddiad yn argymell cryfhau'r iaith mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnwys o fewn teuluoedd, gweithleoedd, darpariaeth ieuenctid, chwaraeon a diwylliant, er mwyn ategu cyfraniad y system addysg.

Er bod addysg yn hanfodol i ddyfodol yr iaith, mae'r adroddiad yn dangos na all ac na ddylai addysg ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb ar ei phen ei hun a bod angen i bobl ifanc gael cyfle i brofi’r Gymraeg y tu hwnt i giatiau’r ysgol, wrth iddyn nhw wneud y gweithgareddau maen nhw’n mwynhau eu gwneud.  Mae'r Comisiwn hefyd yn argymell sefydlu cronfa bwrpasol i dyfu presenoldeb Cymraeg ar-lein, gan gynnwys cefnogaeth i bobl ifanc sy'n creu cynnwys digidol yn Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn dilyn cyhoeddiad cyntaf y Comisiwn, 'Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024, a oedd yn canolbwyntio ar gymunedau Cymraeg dwysedd uwch.

Dywedodd Cyd-gadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: 

Mae’n fraint gennym ni fel Cyd-gadeiryddion gael cyflwyno’r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru. Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith genedlaethol sy'n perthyn i ni i gyd, rhaid sicrhau ei dyfodol fel iaith gymunedol ym mhob cymuned yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae dau gam gwaith y Comisiwn bellach yn gosod sylfaen gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y dasg honno. Rwy'n annog Llywodraeth nesaf Cymru i weithredu ar ein hargymhellion gyda'r uchelgais y mae'r iaith yn ei haeddu.

Dywedodd Cyd-gadeirydd y Comisiwn, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: 

Wrth i ni wneud ein gwaith fe welson ni awydd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg, ond bod y gofodau i wneud hynny yn rhy aml yn absennol.

Mae ychydig dros hanner yr holl siaradwyr Cymraeg yn byw mewn ardaloedd ble mae llai na 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.  Mae’n rhaid i bolisi cyhoeddus ganolbwyntio ar greu amodau llawer mwy ffafriol i fedru creu dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg fel iaith gymunedol, gyda buddsoddiad gwirioneddol yn y gofodau cymdeithasol, diwylliannol a digidol lle mae pobl yn treulio eu hamser.

Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos beth mae modd ei gyflawni. Yng Ngwlad y Basg mae cymunedau wedi mynd ati’n fwriadol i greu gofodau i'r Fasgeg gael ei defnyddio'n naturiol. Gall, ac fe ddylai, Cymru ddysgu'n uniongyrchol o'r profiad hwnnw.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: 

Rwy’n diolch i'r Comisiwn am eu gwaith pwysig. Fe wnaethon ni sefydlu'r Comisiwn i'n helpu i gyflawni ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r datblygiadau deddfwriaethol a pholisi yr ydym wedi eu cyflwyno dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys Deddf y Gymraeg ac Addysg, wedi creu yr amodau ar gyfer twf hirdymor y Gymraeg ac ar gyfer sicrhau bod cyfle teg i bawb ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus.

Mae cynnydd gwirioneddol eisoes yn cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion y Comisiwn, gyda 17 o argymhellion yr adroddiad cyntaf eisoes wedi'u gweithredu o fewn tymor y Senedd hwn. Mae'r adroddiad yr ail gam yn gosod sylfaen i adeiladu ar y momentwm a sicrhau dyfodol Cymraeg ffyniannus i bob cymuned yng Nghymru.