Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynlluniau ar gyfer y Gronfa Twf Lleol gwerth £547m, a fydd yn cael ei defnyddio i roi hwb i economi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ymweliad â Glyn Ebwy heddiw, mi fydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi manylion y Cynllun Buddsoddi, sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a'r DU, dros y tair blynedd nesaf, sy'n nodi'r dyraniadau ariannol ar gyfer pob maes blaenoriaeth ac ar gyfer pob un o'r pedwar rhanbarth yng Nghymru.   
Bydd y Gronfa Twf Lleol yn cael ei dyrannu ar draws tair blaenoriaeth - cefnogi busnesau cynhyrchiol a chystadleuol, cynyddu sgiliau a helpu pobl i gael gwaith, ac adeiladu seilwaith.

Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i rymuso rhanbarthau Cymru a thargedu'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf i gynyddu cynhyrchiant, helpu busnesau i dyfu a chreu swyddi sy'n talu'n well.

Yn dilyn y cytundeb cyllid gyda Llywodraeth y DU, bydd arian yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar gynlluniau gwariant wedi'u teilwra a fydd yn nodi'r cyfleoedd a'r anghenion yn y rhanbarthau hynny. Bydd buddsoddiad yn adlewyrchu cryfderau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol, fel gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Rwy'n falch iawn bod penderfyniadau am y cyllid ôl-UE hwn, sydd mor bwysig wrth gefnogi twf economaidd rhanbarthol a lleol yng Nghymru, yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru. 

"Rydyn ni eisiau defnyddio'r holl ddulliau sydd gennym i ysgogi twf economaidd, yn enwedig mewn rhannau o Gymru lle mae anweithgarwch economaidd a diweithdra yn uwch, a chyflogau'n is."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Bydd Cronfa Twf Lleol Cymru yn helpu i greu a sicrhau swyddi mewn diwydiannau allweddol, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl ddatblygu gyrfaoedd hirdymor o ansawdd uchel.

"Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y Gronfa, ochr yn ochr â rhaglenni eraill, yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau i greu swyddi, datgloi twf a chyflawni ar gyfer Cymru." 

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Bydd y cyllid trawsnewidiol hwn yn creu swyddi, yn hybu cynhyrchiant ac yn cefnogi twf economaidd ar draws pob rhan o Gymru.

“Mae penderfyniadau ynghylch sut mae cyllid yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn cael eu gwneud orau yng Nghymru ac mae'r cytundeb yr ydym wedi'i gyrraedd gyda Llywodraeth Cymru yn cyflawni ymrwymiad maniffesto i adfer gwneud penderfyniadau ar gyllid ôl-UE i Gymru.

“Mae'n enghraifft arall o lywodraethau'r DU a Chymru yn cydweithio mewn partneriaeth i gyflawni dros ein cymunedau.”

Mae'r Cynllun Buddsoddi wedi'i gyhoeddi yma: Buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit