Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yw sail ein holl waith gyda phlant a thros blant. Mae ein hymrwymiad i hawliau plant wedi'i ymgorffori yn y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Mae Erthygl 12 o'r CCUHP yn nodi hawl plant i gael dweud eu dweud mewn materion sy'n effeithio arnynt. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwerthfawrogi a chydnabod gwerth barn plant ers amser maith. Mae eu lleisiau yn ein helpu i wneud ein gwaith yn well ac yn cyfoethogi ein polisïau a'n penderfyniadau. 

Mae trafodaethau wyneb yn wyneb â phlant yn arbennig o werthfawr inni, a thros y flwyddyn ddiwethaf mae Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion wedi cwrdd â phlant mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol, digwyddiadau ieuenctid, a fforymau cenedlaethol. Mae'r rhain wedi darparu cyfleoedd pwysig i blant rannu eu profiadau, ac i ninnau gael mewnwelediad anhygoel i'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw. 

Mae'r Prif Weinidog wedi ymweld ag ysgolion ledled Cymru eleni i glywed am y materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd dysgwyr. Ym mis Hydref, cymerodd ran yn Sgwrs Fawr Comisiynydd Plant Cymru, gan ymuno â disgyblion cynradd ac uwchradd o Bort Talbot mewn sesiynau ar iechyd meddwl, lles a theithio gan ddysgwyr. Ym mis Ionawr, ymwelodd ag Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, gan drafod dinasyddiaeth o fewn y Cwricwlwm, llythrennedd gwleidyddol a systemau democrataidd gyda myfyrwyr Gwleidyddiaeth Blwyddyn 13. 

Rhoddodd COP Ieuenctid Cymru 2025 gyfle i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig glywed drostynt eu hunain gan bobl ifanc am rai o'r mentrau arloesol y maent yn bwrw ymlaen â nhw, gan roi sylw i gwestiynau a rhannu syniadau. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd, lle mae'n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae hi hefyd wedi sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar ddatblygiadau polisi o ran hyfforddiant mewn swydd, ymddygiad mewn ysgolion, defnydd o'r rhyngrwyd a phrydau ysgol am ddim drwy gymysgedd o ddigwyddiadau personol, grwpiau ffocws ac arolygon.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi bod yn cymryd rhan yn sesiynau Deialog Ddigidol y Prosiect Gwleidyddiaeth, gan gwrdd â disgyblion o Ysgol Uwchradd y Bont-faen ym mis Mawrth ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i bobl ifanc gwrdd â chynrychiolwyr etholedig a datblygu eu dealltwriaeth o'r broses ddemocrataidd. Ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni â Choleg Caerdydd a'r Fro i siarad â dysgwyr Safon Uwch am ddatganoli, diwygio'r Senedd a'r oed pleidleisio newydd.

Ar ôl cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, cynhaliodd Senedd Ieuenctid Cymru sesiwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i graffu ar y gyllideb. Cafodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyfarfod brecwast hefyd gydag aelodau Cymru Ifanc cyn eu cynhadledd flynyddol ym mis Tachwedd. 

Cymerodd Gweinidogion ran yn yr Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol, gan gynnwys ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ag Academi Hyfforddi GE Aerospace i gwrdd â phrentisiaid a gweld y cyfleoedd o ansawdd sy'n cael eu datblygu yng Nghymru ar gyfer dechrau gyrfa. Mae dysgwyr ar draws ysgolion, colegau a phrifysgolion wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i drafod pynciau fel cymorth ariannol, lles, cynhwysiant a llwybrau i'r dyfodol, gan helpu i lywio datblygiad addysg drydyddol yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi parhau i weithio gyda phobl ifanc ar urddas mislif, gwirfoddoli, tlodi a hawliau anabledd, gan gryfhau sut mae eu lleisiau yn llywio strategaethau'r dyfodol. Ym mis Mehefin cyfarfu ag aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion i drafod urddas mislif a'u gwaith i ddatblygu canllawiau ar gyfer Ysgolion sy'n Falch o'r Mislif yng Ngheredigion. Yn achlysur lansio adroddiad Achub y Plant, "Pŵer y Llais – Archwilio profiadau o dlodi gyda phlant yng Nghymru", gwyliodd gyflwyniad gan blant o Ysgol Uwchradd Glynrhedynog, a manteisiodd ar y cyfle i drafod rôl banciau bwyd yn y gymuned gyda nhw.

Cyfrannodd safbwyntiau pobl ifanc yn uniongyrchol at gynllun peilot tocynnau bws £1, gan gynnwys ei ymestyn i blant dan 16 oed. Siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru â phobl ifanc yn Senedd Ieuenctid Cymru, digwyddiadau Citizens Cymru ac yn yr Uwchgynhadledd Teithio gan Ddysgwyr.

Mae ein Huwchgynhadledd Gofal flynyddol yn parhau i ddod â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ynghyd gydag Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion o bob rhan o'r Llywodraeth. Mae'n lle iddynt rannu eu profiadau a gweithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion i lunio cyd-weledigaeth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant. Roeddwn yn falch dros ben o gael ymuno â'r Prif Weinidog eleni i gwrdd â Llysgenhadon Ifanc i gydlofnodi Datganiad diwygiedig yr Uwchgynhadledd Diwygio Radical – Profiad o Ofal, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella'r gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru.

Mae cwrdd â phlant yn eu cymunedau eu hunain yn gyfle gwych i weld sut mae'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Dangosodd fy ymweliad â Pharc Pentre Mawr gyda Bash a'i fam sut mae byrddau cyfathrebu cynhwysol yn cefnogi annibyniaeth a chyfraniad plant o fewn eu cymuned. Pan ymunodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant â digwyddiad i nodi pen-blwydd Grow Well yn 10 oed, treuliodd amser gyda disgyblion ysgol gynradd a phrofi drosti ei hun sut mae garddio cymunedol yn hyrwyddo lles a chysylltiad cymdeithasol ac yn ffordd o fwynhau mannau sy'n gyfoethog o ran natur.

Mae digwyddiadau cenedlaethol fel y Sioe Frenhinol, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd yn gyfleoedd i'r holl Weinidogion glywed yn uniongyrchol gan blant ar ystod eang o bynciau. 

Y tu hwnt i gyfarfodydd uniongyrchol â Gweinidogion, mae plant a phobl ifanc wedi parhau i lywio polisi a gwaith ymchwil ar draws Llywodraeth Cymru. Mae eu barn wedi cefnogi ein gwaith ar y Cwricwlwm i Gymru, Anghenion Dysgu Ychwanegol, teithio gan ddysgwyr, addysg rithwir, cymorth lles, ansawdd gofal plant, darpariaeth amlieithog a phrofiadau plant sy'n derbyn gofal. Drwy grwpiau cynghori, grwpiau ffocws, arolygon a thrafodaethau wedi'u hwyluso, maent wedi rhannu eu safbwyntiau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglenni a gwella gwasanaethau ynghyd â deddfwriaeth, i sicrhau bod lleisiau grwpiau amrywiol o bobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu mewn polisi.

Cymru i Bob Plentyn yw ein gwlad, lle mae barn plant yn cael ei chlywed a'i gwerthfawrogi ac yn sail i weithredu, ac mae'n parhau i helpu i lywio'r penderfyniadau a wnawn.