Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy Natganiad Llafar ar 24 Chwefror 2026, rwy'n cadarnhau heddiw bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb ar Gynllun Buddsoddi tair blynedd ar gyfer y Gronfa Twf Lleol yng Nghymru.

Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £547 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi swyddi a thwf yn economi Cymru rhwng Ebrill 2026 a Mawrth 2029. 

Bydd y cyllid yn cefnogi ein nodau craidd o gynyddu cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau economaidd drwy fuddsoddi mewn tri maes blaenoriaeth:

  • busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • cynyddu sgiliau a chefnogi pobl i weithio
  • gwella seilwaith rhanbarthol

Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd â'r angen mwyaf i ysgogi twf cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. 

Mae'r Cynllun Buddsoddi yn manylu ar fethodoleg dyrannu, model cyflawni, trefniadau llywodraethu a dull monitro a gwerthuso'r Gronfa. 

Bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a fydd yn nodi'r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu sy'n ymwneud â'r cyllid hwn a ddarperir gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi o dan y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Senedd.