Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac addysg ddewisol yn y cartref
Canllawiau ar sut mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn gymwys i blant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf ADY’). Mae’n ategu Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (‘Cod ADY’).
Nid yw’n newid egwyddorion na gofynion statudol y ddeddfwriaeth berthnasol. Yn hytrach, mae’n darparu gwybodaeth er mwyn:
- gwella dealltwriaeth o sut mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn gymwys i blant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref
- cryfhau gweithredu’n ymarferol ledled Cymru
Fe’i datblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol mewn ymateb i’r adolygiad deddfwriaethol o ADY. Nododd yr adolygiad feysydd lle roedd angen gwella eglurder, cysondeb a dealltwriaeth wrth gymhwyso’r fframwaith deddfwriaethol ADY.
Gellir diweddaru’r canllawiau hyn neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg i adlewyrchu:
- newidiadau mewn deddfwriaeth
- datblygiadau polisi
- tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ymarfer effeithiol
Yn y canllawiau hyn, mae cyfeiriadau at blant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref yn blant o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 a 16 oed). Oni nodir fel arall, nid yw’r cyfeiriadau hyn yn cynnwys y blynyddoedd cynnar (0 i 5 oed) na phobl ifanc (16 i 25 oed).
Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn
Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer:
- awdurdodau lleol
- cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
- gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi plant sydd ag ADY sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref
- rhieni sydd wedi dewis addysgu eu plant yn y cartref
Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf ADY’).
- Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (‘Cod ADY’).
- Deddf Addysg 1996 (adran 7 ac adran 436A) (Saesneg yn unig).
- Canllawiau addysg ddewisol yn y cartref: canllawiau statudol i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref.
- Fframwaith anawsterau dysgu penodol: canllawiau ar yr anawsterau y mae pobl sydd ag anawsterau dysgu penodol yn eu hwynebu a sut i wneud addasiadau priodol.
- Rhieni a chyfrifoldeb rhiant: canllawiau ar gyfer ysgolion yn esbonio pwy y mae’n rhaid i ysgolion eu cynnwys mewn materion sy’n ymwneud ag addysg dysgwr.
Trosolwg o blant sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae addysg ddewisol yn y cartref yn disgrifio sefyllfa pan fydd rhiant yn dewis addysgu ei blentyn ei hun yn hytrach na’i anfon i’r ysgol. Efallai y bydd rhai rhieni yn dewis tynnu eu plentyn o’r ysgol, tra bod eraill wedi penderfynu peidio â gwneud cais o gwbl am le mewn ysgol i’w plentyn.
Mae’r canllawiau addysg ddewisol yn y cartref yn cyfeirio at adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 (Saesneg yn unig). Mae hyn yn gosod dyletswydd ar y rhiant i sicrhau bod ei blentyn yn derbyn addysg amser llawn effeithlon. Rhaid i’r addysg hon fod yn addas i:
- oedran y plentyn
- gallu’r plentyn
- doniau’r plentyn
- unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a allai fod ganddo
Gall rhiant fodloni’r ddyletswydd hon drwy:
- sicrhau bod ei blentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd
- ei addysgu yn y cartref
Mae plant sydd ag ADY yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o blant eraill o’r un oedran. Mae angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt i ddiwallu’r anghenion hynny, p’un a ydynt yn derbyn eu haddysg yn y cartref neu’n mynychu ysgol.
Os daw awdurdod lleol yn ymwybodol y gallai plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref y mae’n gyfrifol amdano fod ag ADY, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn ADY. Os oes gan y plentyn ADY, rhaid i’r awdurdod lleol:
- lunio a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU)
- sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU
Mae CDUau yn gynlluniau cymorth statudol i ddysgwyr sydd ag ADY. Ni ddylid dileu’r amddiffyniad cyfreithiol hwn pan fydd plentyn yn derbyn ei addysg yn y cartref. Dim ond os yw’r corff cyfrifol yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ac yn dilyn y gweithdrefnau priodol, fel y nodir yn y Cod ADY, y gellir dod â CDU i ben.
Dylai awdurdod lleol sy’n paratoi neu’n adolygu CDU ar gyfer plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref:
- weithio gyda’r plentyn a’i riant i nodi’r darpariaeth ddysgu ychwanegol
- sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol wedi’i sicrhau
Mae hyn yn golygu deall pa fath o gymorth sydd ei angen ar y plentyn a phenderfynu a all y rhiant:
- ddarparu’r cymorth hwnnw ei hun
- trefnu i rywun arall ei ddarparu
Os yw’r rhiant yn darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol fel rhan o addysg y plentyn yn y cartref, rhaid i’r awdurdod lleol fod yn sicr bod y rhiant yn ei darparu’n effeithiol.
Pan na all rhieni ddarparu’r holl ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen er mwyn diwallu anghenion y plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried sut y gellir sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Gallai hyn gynnwys:
- trefnu cymorth ychwanegol i ategu’r addysg a ddarperir gan y rhiant
- darparu hyfforddiant i helpu’r rhiant i ddarparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i’r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau addysg er mwyn sicrhau addysg i’r plentyn mewn ysgol benodol.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau
Hawl rhiant i addysgu ei blentyn yn y cartref
Yng Nghymru, mae addysg yn orfodol ond nid yw mynychu’r ysgol yn orfodol. Os yw plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref, mae rhwymedigaeth ar rieni i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg amser llawn ‘effeithlon’ ac ‘addas’. Mae’r rhwymedigaeth hon yn adran 7 o Ddeddf Addysg 1996 (Saesneg yn unig).
Rhaid i rieni sy’n dewis addysgu eu plant yn y cartref fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ariannol llawn. Mae hyn yn cynnwys talu cost arholiadau cyhoeddus.
Fodd bynnag, disgwylir i awdurdodau lleol gynorthwyo rhieni sy’n addysgu eu plant yn y cartref a gallant ddarparu cymorth lle bo hynny’n briodol. Dylent, lle bo’n bosibl, hyrwyddo mynediad at gyfleoedd dysgu sydd ar gael i bob plentyn yn eu hardal.
Dylai awdurdodau lleol hefyd cydnabod y gall rhieni sy’n addysgu eu plant yn y cartref:
- fabwysiadu ystod gyfoethog ac amrywiol o ddulliau addysg yn y cartref
- defnyddio amrywiaeth o athroniaethau a dulliau
Dyletswydd i sicrhau bod plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref yn cael addysg addas
Mae angen i awdurdodau lleol fod yn sicr y bydd yr addysg yn y cartref yn rhoi addysg addas i’r plentyn.
Dylai cyfarfodydd gyda theuluoedd sy’n addysgu eu plentyn yn y cartref gael eu cynnal o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau bod:
- addasrwydd addysg yn cael ei gynnal
- y plentyn yn gwneud cynnydd addas
Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd awdurdod lleol yn penderfynu y bydd ymweliadau amlach yn briodol.
Mae hyn yn wahanol i’r ddyletswydd ar awdurdod lleol i adolygu’r CDU bob blwyddyn. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl, gall awdurdod lleol ymgymryd â’r ddwy dasg ar yr un pryd. Am ragor o wybodaeth, gweler paragraffau 22.39 i 22.43 o’r Cod ADY.
Y cydlynydd dynodedig sy’n gyfrifol am drefnu’r cyfarfod adolygu CDU a dylai ei arwain.
Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn ADY
Pan gaiff ei ddwyn i sylw awdurdod lleol neu ei fod yn ymddangos iddo fel arall y gallai fod gan blentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref y mae’n gyfrifol amdano ADY, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn ADY ai peidio. Os yw’n penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo, yn brydlon, ac yn bendant o fewn 12 wythnos:
- lunio a chynnal y CDU
- rhoi copi o’r CDU i’r plentyn a’i riant
- sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU yn cael ei darparu
Mae pennod 20 o’r Cod ADY yn darparu canllawiau ar benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.
Mae pennod 4 o’r Cod ADY yn darparu rhagor o wybodaeth am gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag ADY.
Yn ogystal, mae canllawiau yn nodi sut y dylai ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol sicrhau penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth a chyfathrebu tryloyw.
Caiff awdurdod lleol ddefnyddio’r holl dystiolaeth berthnasol sydd ar gael wrth benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref ADY. Rhaid ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref a’i riant. Gan fod y rhiant yn brif addysgwr y plentyn, bydd egwyddorion ymgysylltu a chyfranogiad yn arbennig o berthnasol i deuluoedd sy’n dewis addysgu yn y cartref.
Dyletswydd i lunio a chynnal cynllun datblygu unigol (CDU)
Dylai awdurdod lleol sy’n llunio CDU ar gyfer plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref weithio gyda phartïon perthnasol eraill i nodi’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol ac yna ei sicrhau. Mae hyn yn cynnwys:
- y plentyn
- rhiant y plentyn
- gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill y mae’r plentyn yn eu hadnabod
Mae hyn yn golygu nodi:
- y math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ADY y plentyn yn galw amdani
- a fydd y rhiant yn gallu ei darparu, naill ai’n uniongyrchol neu drwy drefnu i rywun arall ei darparu
Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r CDU o leiaf bob 12 mis a gall gynnal adolygiadau ychwanegol os oes angen. Mae hyn yn sicrhau bod y CDU yn:
- parhau i adlewyrchu anghenion y plentyn yn gywir
- nodi manylion y ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu’r anghenion hynny
Pan fydd awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am gynnal CDU yn hytrach nag ysgol (er enghraifft pan fydd dysgwr yn dechrau derbyn ei addysg yn y cartref), mae’r cyfnod adolygu blynyddol yn parhau i fod yn berthnasol. Mae’n bwysig bod yr ysgol yn hysbysu’r awdurdod lleol am ddyddiad adolygiad blynyddol y CDU pan fydd cyfrifoldeb yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref
Nid oes diffiniad cyfreithiol penodol neu wahanol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref. Nid yw addysg yn y cartref yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ynddi’i hun, er y gall ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu gan y rhiant fel rhan o addysg yn y cartref. Rhaid i’r awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r plentyn a’i riant, nodi pa darpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar y plentyn.
Mae’r gwahaniaethau allweddol yn ymarferol:
- pwy sy’n darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
- ym mha leoliad y mae’n ei darparu
Mae’n werth nodi y gall yr ADY:
- ymgyflwyno’n wahanol gartref o gymharu ag yn yr ystafell ddosbarth
- cael eu heffeithio’n wahanol gan amgylcheddau dysgu gwahanol
Dylai’r CDU adlewyrchu’n gywir anghenion y plentyn ynghyd â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gyfatebol. Dylid ystyried y lleoliad cartref hefyd.
Fel sy’n wir am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer dysgwyr mewn ysgol, nid yw’r Ddeddf ADY yn rhoi hawlogaeth i ddarpariaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ddiwallu ADY y plentyn neu’r person ifanc. Gall yr awdurdod lleol ystyried y defnydd effeithlon o adnoddau wrth benderfynu rhwng:
- gwahanol opsiynau ar gyfer y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
- gwahanol ffyrdd o’i darparu
Mae hyn cyn belled ag y byddai pob un o’r opsiynau neu’r dulliau darparu hynny yn:
- diwallu ADY y dysgwr
- dilyn unrhyw reolau eraill a nodir yn y Ddeddf ADY sy’n gymwys o dan yr amgylchiadau
Efallai na fydd angen CDU ar rai plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref mwyach yn dilyn newid yn eu hamgylchedd dysgu. Er enghraifft, gall rhwystr plentyn i ddysgu fod wedi cael ei effeithio’n arbennig gan ei amgylchedd ystafell ddosbarth. Gall dysgu yn y cartref gael gwared ar y rhwystrau hynny. Os yw’r un cymorth yn dod yn rhan o addysg arferol y plentyn yn y cartref, megis cymorth un i un neu le dysgu tawel, ac nad oes gan y plentyn unrhyw rwystrau sy’n achosi ADY mwyach, gall yr awdurdod lleol benderfynu:
- nad oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol mwyach
- rhoi’r gorau i gynnal y CDU
Fodd bynnag, gall plant eraill sy’n dechrau derbyn eu haddysg yn y cartref barhau i fod ag anabledd neu anhawster sylweddol fwy i ddysgu. Bydd ganddynt ADY er gwaethaf y newid yn yr amgylchedd a byddant yn dal i fod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Ar gyfer y plant hyn, rhaid i’r awdurdod lleol barhau i gynnal eu CDU a sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
Er mwyn adolygu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, neu i roi’r gorau i gynnal CDU, rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y camau priodol. Nodir y rhain ym mhennod 29 o’r Cod ADY.
Dyletswydd i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei sicrhau
Yn aml, bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref yn cael ei darparu gan y rhiant yn y cartref. Os yw’r rhiant am ddarparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol fel rhan o addysg y plentyn yn y cartref, bydd angen i’r awdurdod lleol fodloni ei hun ei bod yn cael ei darparu.
Fodd bynnag, pan na all rhieni ddarparu’r holl ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu anghenion y plentyn, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd o hyd i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bydd angen iddo ystyried sut mae hyn yn cael ei wneud.
Mae sawl ffordd bosibl o wneud hyn. Er enghraifft, gallai’r awdurdod lleol:
- drefnu i ddarpariaeth ychwanegol sydd wedi’i threfnu gan yr awdurdod lleol ategu’r addysg sy’n cael ei darparu gan y rhiant yn y cartref
- darparu hyfforddiant i helpu’r rhiant i ddarparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen yn y cartref
Mewn achosion eraill, mae’n bosibl y bydd angen i’r awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau i sicrhau addysg i’r plentyn mewn ysgol benodol.
Mae’n bwysig nodi nad yw dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn golygu ei bod yn ofynnol iddo ddarparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cartref neu yn unol â dewis rhiant.
Dyletswydd i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu
Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am:
- gynnal y CDU ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref y mae’n gyfrifol amdanynt
- sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU
- sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu’n briodol
Gall yr awdurdod lleol wneud hyn fel rhan o’u dyletswydd i sicrhau bod y plentyn yn derbyn addysg amser llawn ddigonol ac addas. Mae’r broses ar gyfer adolygu CDU ar gyfer plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref, a sicrhau ei fod yn derbyn addysg addas, yn ymwneud â dyletswyddau ar wahân. Er y gellid ymgymryd â’r 2 broses hyn ar yr un pryd, gellid eu gwahanu hefyd.
Ni all awdurdodau lleol fynnu ymweliadau cartref ar gyfer plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref. Fodd bynnag, gall ymweliadau o’r fath fod yn ffordd ymarferol o gadarnhau bod y plentyn yn derbyn:
- addysg addas
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu ei ADY
Pan nad yw ymweliadau cartref yn bosibl, efallai na fydd yr awdurdod lleol yn gallu sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei darparu’n briodol.
Yn y sefyllfa hon, dylai’r awdurdod lleol weithio gyda rhieni i archwilio ffyrdd amgen o sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol. Gallai hyn gynnwys defnyddio lleoliadau lle gellir monitro’r ddarpariaeth.
Datrys anghydfodau ynghylch ADY
Gellir dilyn y llwybrau datrys anghydfodau arferol gyda’r awdurdod lleol os oes unrhyw anghytundebau yn ymwneud â CDU y plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref. Mae hyn yn gymwys p’un a ydynt yn ymwneud â’r:
- disgrifiad o ADY neu ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
- trefniadau o ran sut mae’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i gael ei sicrhau neu ble y bydd yn cael ei darparu
Mae rhagor o wybodaeth wedi’i nodi ym mhennod 32 o’r Cod ADY.
Hawliau i apelio
Mae gan blant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref a’u rhieni yr un hawliau i apelio â phlant sy’n derbyn eu haddysg yn yr ysgol neu mewn lleoliadau eraill.
Gall plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref, neu ei riant, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) ynglŷn â’r canlynol:
- penderfyniad gan awdurdod lleol ynglŷn ag a oes gan y plentyn ADY
- disgrifiad o ADY y plentyn mewn CDU
- y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn CDU, neu’r ffaith nad oes darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn CDU, gan gynnwys a yw’r cynllun yn nodi y dylid darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg
- y ddarpariaeth sydd wedi’i chynnwys mewn CDU gan awdurdod lleol o dan adrannau 14(6) neu 19(4) y Ddeddf ADY neu’r ffaith nad yw’r ddarpariaeth o dan yr adrannau hyn wedi’i chynnwys mewn CDU
- penderfyniad i roi’r gorau i gynnal CDU
- gwrthod penderfynu mater ar y sail nad yw’r anghenion wedi newid yn sylweddol neu nad oes unrhyw wybodaeth newydd wedi’i chyflwyno sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad
Hefyd, caiff y TAC benderfynu ar alluedd plentyn, naill ai yn dilyn cais gan y plentyn neu ei riant neu ar ei liwt ei hun.
Gwahaniaeth rhwng addysg ddewisol yn y cartref ac addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)
Mae addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) yn ddarpariaeth addysg a ddarperir neu a gomisiynir gan yr awdurdod lleol. Fe’i darperir i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr sydd, am ba reswm bynnag, yn methu â mynychu ysgol brif ffrwd neu ysgol arbennig. Er bod gan ysgolion a gynhelir bwerau i ariannu neu atgyfeirio dysgwyr i ddarpariaeth allanol, nid yw hyn yn gyfystyr ag AHY ffurfiol.
Addysg ddewisol yn y cartref yw’r term a ddefnyddir pan fydd rhiant wedi gwneud y penderfyniad i addysgu ei blentyn ei hun yn hytrach na’i anfon i’r ysgol. Ni fydd plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref wedi’u cofrestru mwyach ar gofrestr derbyniadau ysgol. Mae rhieni sy’n dewis addysgu eu plentyn yn y cartref yn derbyn y cyfrifoldeb cyfreithiol am ddarparu ‘addysg addas’ (Saesneg yn unig).
Mae’n bwysig bod penderfyniad rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref yn ddewis cadarnhaol. Pan fydd plant yn dechrau ymddieithrio o’u haddysg, disgwylir i awdurdodau lleol weithio gyda’r dysgwr a’i deulu i:
- ddeall a oes angen cymorth ychwanegol arno
- ystyried sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
Addysgu hyblyg
Mae addysgu hyblyg yn ddull addysg amser llawn lle mae plentyn yn:
- mynychu’r ysgol yn rhan-amser
- derbyn ei addysg yn y cartref am yr amser sy’n weddill
Mae’r trefniant hwn yn wahanol i addysg yn y cartref ond wedi’i alinio â hi. Mae’n dilyn cais gan riant i’r ysgol i addysgu ei blentyn yn y cartref am ran o’r wythnos. Y pennaeth sy’n gyfrifol am y penderfyniad i ganiatáu addysgu hyblyg ai peidio.
Mae dyletswyddau’r awdurdod lleol fel y’u hamlinellir yn Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref. Rhaid ystyried cyfran yr addysg a dderbynnir yn yr ysgol wrth benderfynu a yw’r ddyletswydd honno yn cael ei chyflawni.
Ar gyfer dysgwyr sydd â CDU a gynhelir gan yr ysgol sy’n gofyn am gael eu haddysgu’n hyblyg, dylai’r cytundeb rhwng yr ysgol a’r rhiant gynnwys manylion a threfniadau sy’n ymwneud â’r canlynol:
- ADY y dysgwr
- darpariaeth y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y CDU ar gyfer pan fydd y dysgwr yn derbyn ei addysg yn y cartref
Pan fydd rhiant yn gofyn am addysgu hyblyg, dylai pennaeth ystyried eu gallu i ddarparu unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn y cartref.
Ar gyfer dysgwyr sydd â CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol, dylai’r ysgol cynnwys yr awdurdod lleol yn yr ystyriaeth hon. Os yw’r awdurdod lleol yn fodlon y gallai’r rhiant ddarparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ei hun yn effeithiol a bod y pennaeth yn cytuno i’r cais am addysgu hyblyg, dylid adolygu’r CDU i adlewyrchu’r newidiadau hynny.
Cydsyniad a rôl y rhiant
Mae cyfranogiad yn egwyddor allweddol o’r system ADY. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol sy’n adlewyrchu’r arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n sail i’r system. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
- ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau rhieni ym mhob penderfyniad sy’n effeithio ar eu plentyn
- darparu’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar rieni i ddeall y broses
- cefnogi rhieni i gymryd rhan mor lawn â phosibl mewn penderfyniadau
Mewn rhai achosion, efallai na fydd rhiant yn fodlon ymgysylltu â’r awdurdod lleol. Efallai y bydd hyd yn oed yn gwrthod rhoi cydsyniad i CDU gael ei lunio a’i gynnal ar gyfer ei blentyn.
Beth sy’n digwydd pan fydd rhiant yn gwrthod ymgysylltu â’r broses cynllun datblygu unigol (CDU)
Os yw rhiant yn gwrthod ymgysylltu ag awdurdod lleol, nid yw hynny’n atal yr awdurdod lleol rhag cyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf ADY. Mae hyn yn cynnwys adolygu a diwygio’r CDU yn ôl yr angen.
Rhaid ystyried llais rhiant ym mhob penderfyniad ynghylch ADY ei blentyn. Fodd bynnag, nid yw hawl y plentyn i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn dibynnu ar gydsyniad y rhiant. Ni all rhiant wrthod i’w blentyn dderbyn addysg addas. Ar gyfer plant sydd ag ADY, mae addysg addas yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Pan fydd rhiant yn gwrthod ymgysylltu, bydd angen i’r awdurdod lleol benderfynu a yw’n fodlon ar addasrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhiant yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael. Nodir hyn ym mharagraffau 4.19 i 4.31 o’r canllawiau addysg ddewisol yn y cartref.
Gall awdurdodau lleol benderfynu gofyn am gael cwrdd â phlentyn os oes angen i benderfynu a yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ei derbyn yn addas. Pe bai’r cais hwnnw’n cael ei wrthod, efallai na fydd yr awdurdod lleol mewn sefyllfa i fod yn fodlon bod yr addysg sy’n cael ei darparu yn addas.
Os yw awdurdodau lleol yn parhau i fod yn anfodlon ag addasrwydd yr addysg a ddarperir yn y cartref, gallant ystyried defnyddio eu pwerau i wneud:
- gorchmynion mynychu’r ysgol
- gorchmynion goruchwylio addysg
Gweler adran 5 o’r canllawiau addysg ddewisol yn y cartref i gael rhagor o wybodaeth am bwerau gorfodi.
Rhoi’r gorau i gynnal cynllun datblygu unigol (CDU)
Mae’r broses ar gyfer rhoi’r gorau i gynnal CDU wedi’i nodi ym mhennod 29 o’r Cod ADY. Mae’n berthnasol i blant a phobl ifanc sydd â CDUau, gan gynnwys y rhai:
- sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref
- sydd yn y broses o ddechrau derbyn eu haddysg yn y cartref
Rhaid dilyn y broses statudol ar gyfer rhoi’r gorau i gynnal CDU. Mae hyn yn cynnwys anfon yr holl hysbysiadau perthnasol sy’n ymwneud â’r penderfyniadau a’r hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC) yn erbyn y penderfyniad.
Pontio o addysg yn y cartref
Mae pob dysgwr yn mynd drwy gyfnodau pontio penodol yn ystod ei addysg a’i hyfforddiant. Efallai y bydd plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn ei chael hi’n anoddach pontio na’u cyfoedion. Gall hyn olygu bod angen cymorth ychwanegol arnynt i sicrhau nad yw’r pontio yn effeithio’n andwyol ar eu haddysg neu eu hyfforddiant, gan gynnwys eu darpariaeth ddysgu ychwanegol.
Mae pontio o addysg yn y cartref yn ôl i ysgol brif ffrwd, i sefydliadau addysg bellach neu i leoliadau eraill yn gallu bod yn heriol iawn, yn enwedig i ddysgwyr sydd ag ADY. Felly, dylai awdurdodau lleol arfer gofal a sylw arbennig wrth gynllunio trefniadau pontio da ar gyfer y garfan hon o ddysgwyr.
Mae pennod 27 o’r Cod ADY yn darparu egwyddorion cyffredinol ac arferion da ar gynllunio ar gyfer pontio. Mae’n tynnu sylw at y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen ar rai dysgwyr sydd ag ADY i oresgyn materion cyffredin sy’n gysylltiedig â phontio.
Ystyriaethau wrth gynllunio pontio o addysg yn y cartref i sefydliadau addysg bellach
I helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer pontio i sefydliad addysg bellach, gallai awdurdodau lleol weithio gyda’r teulu a’r person ifanc sy’n derbyn addysg yn y cartref i gynnwys y sefydliad addysg bellach yn y cynllunio cynnar ar gyfer pontio. Os nad yw hyn yn bosibl, gallai awdurdodau lleol hwyluso trafodaethau gyda’r sefydliad addysg bellach i drafod materion sy’n ymwneud ag ADY y person ifanc.
Gallai awdurdodau lleol ddarparu cyfleoedd i ddod yn gyfarwydd â lleoliad newydd, gan gynnwys:
- mynediad at deithiau rhithwir o gampws
- cwrdd â staff addysgu
- cymryd rhan mewn sesiynau rhagflas
- diwrnod agored
Gallent gefnogi’r person ifanc i feddwl am y canlynol:
- pa gwestiynau y gallai fod am eu gofyn
- pa faterion i’w hystyried, wrth symud i leoliad addysg newydd
Gallai hyn gynnwys cwestiynau penodol am ddarparu ei ddarpariaeth ddysgu ychwanegol neu gwestiynau mwy cyffredinol megis:
- y disgwyliadau a roddir ar ddysgwyr o ran ymddygiad a phresenoldeb
- strwythur addysg a hyfforddiant bob dydd
Senarios
Mae’r adran hon yn cynnwys senarios gwahanol sy’n gysylltiedig ag ADY ac addysg ddewisol yn y cartref.
Mae rhiant yn tynnu ei blentyn sydd heb CDU o’r ysgol i’w addysgu yn y cartref ac mae’n ymddangos bod gan y plentyn ADY
Pan gaiff ei ddwyn i sylw awdurdod lleol, neu ei fod yn ymddangos iddo fel arall y gallai fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano ADY, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn ADY (oni bai bod eithriadau’n gymwys). Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, mae’r dyletswyddau i lunio a chynnal CDU yn gymwys. Rhaid cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn yn brydlon, ac mewn unrhyw achos, o fewn 12 wythnos.
Mae rhiant yn tynnu ei blentyn o’r ysgol i’w addysgu yn y cartref ac mae gan y plentyn CDU a gynhelir gan yr ysgol
Os oes gan blentyn CDU cyn dechrau derbyn ei addysg yn y cartref, a’i fod yn cael ei gynnal gan ysgol, nid yw’r ysgol yn gyfrifol am gynnal y CDU mwyach unwaith y bydd y plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig (gweler adran 31 o’r Ddeddf ADY). Fodd bynnag, ni ddylid rhoi’r gorau i gynnal CDUau oni bai nad oes eu hangen mwyach (er enghraifft nid oes gan y plentyn ADY mwyach neu nad yw yng Nghymru mwyach). Er mwyn sicrhau parhad drwy gydol y cyfnod pontio o’r ysgol i dderbyn ei addysg yn y cartref, bydd angen trosglwyddo’r ddyletswydd i gynnal y cynllun i’r awdurdod lleol.
Mae rhaid i ysgol roi gwybod i’r awdurdod lleol o fewn 10 diwrnod os yw disgybl yn cael ei dynnu o’i chofrestr derbyniadau. Ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgol arbennig, rhaid i’r awdurdod lleol roi ei gydsyniad er mwyn i’r ysgol dynnu’r disgybl oddi ar ei chofrestr derbyniadau.
Ar ôl i’r ysgol gael gwybod y bydd y plentyn yn derbyn ei addysg yn y cartref, dylai’r ysgol ofyn am i’r CDU gael ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol cyfrifol. Dylai hyn ddigwydd ar yr un pryd ag y mae’n hysbysu’r awdurdod lleol o benderfyniad y rhiant i addysgu ei blentyn yn y cartref. Gallai’r ‘ysgol’ fod yn:
- athro
- cydlynydd anghenion addysg ychwanegol (CADY)
- cydlynydd dynodedig
- aelod arall o’r staff
Nod y broses hon yw:
- cynnal parhad y ddarpariaeth ar gyfer y plentyn
- osgoi oedi posibl o hyd at 12 wythnos pe bai’r ysgol yn rhoi’r gorau i gynnal CDU a bod CDU ‘newydd’ yn cael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol
Gall awdurdod lleol adolygu CDU ar unrhyw adeg. Gan na fydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei sicrhau na’i darparu gan yr ysgol mwyach, bydd adolygiad cynnar sy’n cynnwys y plentyn a’i rieni fel arfer yn briodol.
Ar ôl yr adolygiad, gall yr awdurdod lleol benderfynu nad oes angen CDU mwyach a phenderfynu y byddai’n briodol rhoi’r gorau i gynnal y CDU. Rhaid penderfynu pob achos ar sail ei rinweddau ei hun, ac mae rhaid i awdurdodau lleol ddilyn y gweithdrefnau priodol, fel y nodir ym mhennod 29 o’r Cod ADY.
Fodd bynnag, efallai y bydd mathau eraill o ADY a fydd yn aros yn ddigyfnewid yn yr amgylchedd cartref, a fydd dal fod angen yr un darpariaeth ddysgu ychwanegol neu debyg. Yn yr achosion hyn, bydd y gofyniad i gynnal y CDU a sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn parhau.
Mae rhiant yn tynnu ei blentyn o’r ysgol i’w addysgu yn y cartref ac mae gan y plentyn CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol
Rhaid i’r awdurdod lleol barhau i gynnal y CDU, oni bai bod unrhyw un o’r amgylchiadau yn digwydd sy’n arwain at y ddyletswydd i’w gynnal yn dod i ben. Nodir y rhain ym mhennod 29 o’r Cod ADY.
Fel uchod, mae’n debygol y bydd angen adolygiad cynnar gan yr awdurdod lleol yn dilyn newid mewn lleoliad.
Dyletswydd gyfreithiol i ddarparu addysg amser llawn ddigonol unwaith y bydd plentyn sy’n derbyn ei addysg yn y cartref sydd ag ADY yn troi’n 16 oed
Mae’r ddyletswydd gyfreithiol ar rieni i ddarparu addysg amser llawn, effeithlon i’w plentyn yn gymwys i blant o oedran ysgol gorfodol yn unig. Mae’r canllawiau addysg ddewisol yn y cartref a’r term ‘addysg ddewisol yn y cartref’ ei hun yn gymwys i blant o oedran ysgol gorfodol yn unig.
Nid oes unrhyw ddyletswydd i addysgu na hyfforddi person ifanc unwaith y bydd dros oedran ysgol gorfodol. Fodd bynnag, gall rhieni ddewis parhau i addysgu neu hyfforddi person ifanc yn y cartref.
Os nad yw person ifanc yn cydsynio i benderfyniad ar ADY gael ei wneud, neu i CDU gael ei lunio neu ei gynnal, nid yw’r dyletswyddau perthnasol ar yr awdurdod lleol yn gymwys.
Geirfa a diffiniadau cyfreithiol
Mae’r adran hon yn cynnwys geirfa a diffiniadau cyfreithiol a ddefnyddiwyd trwy gydol y canllawiau hyn.
Addysg addas
(Adran 436A o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)
In this Chapter, “suitable education”, in relation to a child [of compulsory school age], means efficient full-time education suitable to his age, ability and aptitude and to any special educational needs he may have (in the case of a local authority in England) or suitable to the child’s age, ability and aptitude and to any additional learning needs the child may have (in the case of a local authority in Wales).
Addysg ddewisol yn y cartref
‘Addysg ddewisol yn y cartref’ yw’r term a ddefnyddir pan fydd rhiant wedi gwneud y penderfyniad i addysgu ei blentyn ei hun yn hytrach na’i anfon i’r ysgol. Ni fydd plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref yn cael eu cofrestru ar gofrestr ysgol neu leoliad a gynhelir.
Addysg orfodol
(adran 7 o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)
The parent of every child of compulsory school age shall cause him to receive efficient full-time education suitable—
- (a) to his age, ability and aptitude, and
- (b) to any special educational needs [(in the case of a child who is in the area of a local authority in England) or additional learning needs (in the case of a child who is in the area of a local authority in Wales)] he may have,
either by regular attendance at school or otherwise.
Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
(1) Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p’un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(2) Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—
- (a) os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu
- (b) os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.
(3) Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.
(4) Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.
Cynlluniau datblygu unigol (CDUau)
At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol—
- (a) disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;
- (b) disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;
- (c) unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol
Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—
- (a) mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,
- (b) mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
- (c) mannau yng Nghymru lle darperir addysg feithrin.
(2) Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
(3) Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.
Person ifanc
- Yn y Ddeddf hon—
ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, ond sy’n iau na 25 oed.
Plentyn
- Yn y Ddeddf hon—
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
Rhiant
(adran 576 o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)
(1) In this Act, unless the context otherwise requires, “parent”, in relation to a child or young person, includes any person—
- (a) who is not a parent of his, but who has parental responsibility for him, or
- (b) who has care of him.
Manylion cyswllt
Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymorth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
