Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cleifion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar gael diagnosis sy’n fwy cywir, a hynny yn gyflymach, wrth i naw ysbyty dderbyn offer sganio a phelydr-X newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £12 milliwn i brynu offer yn lle’r systemau delweddu sydd wedi dyddio mewn ysbytai, gan gynnwys ysbytai Brenhinol Gwent, Bronglais a Maelor Wrecsam, gan helpu rhagor o gleifion i gael eu gweld a’u trin yn gyflymach.

Bydd sganwyr CT, pelydr-X a dwysedd esgyrn newydd yn cymryd lle offer nad oes modd dibynnu arnynt bellach ac sy’n dod yn fwyfwy anodd eu hatgyweirio. Bydd hyn yn golygu lleihau’r amser a fydd yn cael ei golli oherwydd bod offer wedi torri i lawr ac i wneud gwaith cynnal a chadw.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael dros £2.7 milliwn i brynu sganiwr newydd yn lle’r sganiwr SPECT-CT presennol yn Ysbyty Brenhinol Gwent er mwyn lleihau’r amser sy’n cael ei golli i gynnal a chadw’r offer ac i wella gwydnwch clinigol.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn elwa ar bron i £2 milliwn i uwchraddio offer fflwrosgopeg, offer delweddu digidol sy’n darparu delweddau amser real o’r tu mewn i’r corff yn ystod diagnosis a thriniaeth, yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae gan y systemau newydd nodweddion gwell o ran ansawdd y delweddau, a pha mor ddibynadwy ydynt. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau clinigol gwell ac yn sicrhau bod cleifion yn gallu manteisio ar brosesau delweddu a chael triniaethau sy’n creu clwyf mor fach â phosibl yn yr adran Radioleg.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael sganiwr dwysedd esgyrn newydd yn lle’r un 20 oed yn Ysbyty Bronglais ar ôl buddsoddiad o dros £628,000, gan wella’r gyfradd brosesu yn sylweddol ar adeg o gynnydd yn y galw.

Bydd rhagor na £6.7 milliwn yn ariannu naw ystafell belydr-X digidol newydd ar draws Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro a Bae Abertawe, ystafelloedd y bydd ysbytai Bryn Beryl, Dolgellau, Maelor Wrecsam, Yr Wyddgrug, Llandochau, Ysbyty Plant Cymru, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot yn elwa arnynt.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rydym yn disodli offer sydd wedi dyddio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf mewn ymgais i wella gwasanaethau diagnostig ym mhob cwr o Gymru drwy eu gwneud yn fwy gwydn, dibynadwy ac effeithlon.

Bydd yr offer – sy’n cynnwys sganwyr CT, pelydr-X a delweddu eglur iawn o esgyrn, organau a meinweoedd meddal – yn helpu i gynyddu nifer y sganiau sy’n gallu cael eu cynnal, a bydd hyn yn gwella llif cleifion drwy’r system gofal iechyd.

Bydd cael offer pelydr-X sy’n well o safbwynt ergonomig hefyd yn ei gwneud yn haws i staff eu defnyddio. Bydd y mwyafrif o’r offer yn gallu cael eu gosod yn eu lle drwy broses gwbl awtomatig, felly gallant fod yn fwy effeithlon ac o fudd i ofal cleifion.