Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Yn gynnar ym mis Chwefror 2026, arweiniais ddirprwyaeth o Gymru ar ymweliad â Chanada ar gyfer cyfres o gyfarfodydd yn Ottawa a Fredericton (New Brunswick). Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar ystod o bynciau, gan gynnwys datblygu deddfwriaeth ddwyieithog, gweinyddu cyfiawnder yn ddwyieithog, dwyieithrwydd yn fwy cyffredinol, a chryfhau swyddogaethau cydlynu a goruchwylio canolog o fewn y llywodraeth.
Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys dau farnwr o Gymru, Comisiynydd y Gymraeg, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Phrif Gwnsler Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y ddirprwyaeth gan dîm Cysylltiadau Rhyngwladol Gogledd America a Chanada.
Mewn sawl ffordd, roedd yr ymweliad yn golygu ailystyried nifer o wersi a ddysgwyd gan swyddogion a barnwyr Canada pan ymwelodd dirprwyaeth debyg â Chanada yn fuan ar ôl creu'r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd. Roedd rhai o'r ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas â drafftio deddfwriaeth Gymreig, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd bryd hynny, yn enwedig gan Lywodraeth New Brunswick.
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn Ottawa gyda Swyddfa Cwnsler Deddfwriaethol Canada, y Llys Ffederal ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Ottawa, ac aeth Cofrestrydd y Llys â ni ar ymweliad â'r Goruchaf Lys. Mynychais hefyd gyfarfod gydag uwch swyddogion o Swyddfa'r Cyfrin Gwnsler sy'n cyflawni rolau pwysig yng nghanol Llywodraeth Ffederal Canada, gan sicrhau bod blaenoriaethau'r Prif Weinidog yn cael eu cyflawni.
Yn New Brunswick fe wnaethom ni fynychu cyfres o gyfarfodydd a drefnwyd gan y Llywodraeth Daleithiol a'r Prif Ustus, yr Anrhydeddus Marc Richard. Mae New Brunswick yn dalaith gymharol fach, ddwyieithog ac roedd maint y llywodraeth a'r weinyddiaeth ehangach (gan gynnwys y llysoedd) yn ei gwneud yn arbennig o ddiddorol o safbwynt Cymreig. Yn ogystal â hynny, cefais gyfarfodydd gyda'r Twrnai Cyffredinol, aelodau o'r farnwriaeth, y Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol, academyddion cyfreithiol, ac uwch swyddogion.
Croesawyd y ddirprwyaeth gan Robert Tinline, Uchel Gomisiynydd Prydain i Ganada, yn ei breswylfa swyddogol yn Ottawa, a chan David Michael Jones, Conswl Cyffredinol Prydain, ym Montréal. Cyfarfu'r tîm Cysylltiadau Rhyngwladol hefyd â'r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn Ottawa, a oedd hefyd yn ymweld â Chanada, i drafod cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng y DU a Llywodraeth Cymru yng Nghanada.
Ar ran y ddirprwyaeth, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i holl wleidyddion, barnwyr a swyddogion Canada y gwnaethom gyfarfod. Heb eithriad roedden nhw'n groesawgar iawn ac yn hael gyda'u hamser, yn enwedig y Prif Ustus Richard a oedd yn ganolog i sicrhau cyfarfodydd yn New Brunswick a rhaglen addysgiadol ar lefel ffederal yn Ottawa.
Yn ogystal â datblygu nifer o gysylltiadau defnyddiol gyda'r rhai sy'n wynebu amgylcheddau gwaith a heriau tebyg, mae cyfres o wersi newydd wedi'u dysgu - ac rwy'n gwybod bod holl aelodau'r ddirprwyaeth yn edrych ymlaen at roi’r rheini ar waith.
