Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) (sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon), wedi cyhoeddi Ymgynghoriad Trin Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (SAF) Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS) (Saesneg yn unig).
Ar hyn o bryd mae ETS y DU yn cymell defnyddio SAF trwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau hedfan brynu llai o lwfansau carbon pan fyddant yn lleihau allyriadau. Mae SAF yn helpu i gyflawni hyn. Mae ETS y DU yn defnyddio'r Rhwymedigaeth Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy (RTFO) fel bod y meini prawf cynaliadwyedd ar gyfer tanwydd yn cael ei ystyried fel SAF. Fodd bynnag, yn y DU mae Mandad SAF Llywodraeth y DU wedi disodli'r RTFO, ac fe ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2025.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i randdeiliaid am eu barn ar newid y meini prawf cynaliadwyedd o ran ystyried tanwydd fel SAF o dan ETS y DU a sut y dylid ei wobrwyo.
Bydd Ymateb yr Awdurdod yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a chaiff ei gyhoeddi cyn gosod y ddeddfwriaeth a fydd yn deddfu ar unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r ymgynghoriad. Bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU, yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau.
Trwy ETS y DU, mae'n rhaid i ni annog technolegau a fydd yn helpu Cymru i gyflawni Sero Net. Mae'r ymgynghoriad hwn yn allweddol i ddeall sut y gall ETS y DU gefnogi'r defnydd o SAF trwy wobrwyo ei ddefnydd.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am hyn.
