Termau Deddfau Cynllunio a Seilwaith Cymru
Rhestr o dermau Cymraeg a Saesneg o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026 a Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae'r termau hyn yn deillio o brosesau safoni gan y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 a Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
Dyma'r termau a ddefnyddir yn y ddwy iaith yn y Deddfau hyn. Yn achos rhai o'r termau newydd yn y rhestr hon, ni fydd y darpariaethau yn Neddf Cynllunio (Cymru) sy'n eu cynnwys yn dod i rym yn syth. Yn yr achosion hyn, bydd y termau sydd yn y fframwaith deddfwriaethol presennol yn parhau hyd nes y bydd y darpariaethau cychwyn perthnasol wedi dod i rym a bod yr hen dermau hynny yn cael eu disodli.
| Term Saesneg (English Term) | Term Cymraeg (Welsh Term) | Lluosog (Plural) | Diffiniad (Definition) | Nodiadau (Notes) |
| addition to a building | ychwanegiad at adeilad | ychwanegiadau at adeilad | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| aftercare condition | amod ôl-ofal | amodau ôl-ofal | Amod sy’n ei gwneud yn ofynnol cymryd camau i ddod â thir a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer mwyngloddio i’r safon ofynnol ar gyfer amaethyddiaeth, tyfu coed neu amwynder. | |
| aftercare scheme | cynllun ôl-ofal | cynlluniau ôl-ofal | Cynllun ar gyfer dod â thir a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer mwyngloddio i’r safon ofynnol ar gyfer amaethyddiaeth, tyfu coed neu amwynder. | |
| agricultural tenant | tenant amaethyddol | tenantiaid amaethyddol | ||
| air cargo transport service | gwasanaeth cludo cargo awyr | gwasanaethau cludo cargo awyr | Gwasanaeth ar gyfer cludo cargo mewn awyrennau. | |
| air passenger transport service | gwasanaeth cludo teithwyr awyr | gwasanaethau cludo teithwyr awyr | Gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr mewn awyrennau. | |
| air transport movement | symudiad cludiant awyr | symudiadau cludiant awyr | Glaniad neu esgyniad awyren. | |
| airport | maes awyr | meysydd awyr | ||
| allotment | rhandir | rhandiroedd | Darn o dir a ddarperir gan awdurdod lleol neu landlord preifat i unigolyn ar gyfer garddio heb fod at ddibenion masnachol, gan amlaf i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau. | |
| alter | addasu | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol. | ||
| area of special control | ardal rheolaeth arbennig | ardaloedd rheolaeth arbennig | Ardal a ddynodwyd yn benodol gan yr awdurdod cynllunio oherwydd ei fod yn ystyried bod ei nodweddion golygfaol, hanesyddol, pensaernïol neu ddiwylliannol mor arwyddocaol fel bod angen rheolaeth lymach ar hysbysebion er mwyn diogelu amwynder gweledol yr ardal honno. | |
| assessor | asesydd | aseswyr | Person a benodir i gynghori arolygydd cynllunio ar unrhyw faterion sy’n codi mewn ymchwiliad lleol neu wrandawiad a gynhelir gan yr arolygydd neu mewn sylwadau ysgrifenedig a gyflwynir i’r arolygydd. | |
| authorisation | awdurdodiad | awdurdodiadau | ||
| awning | adlen | adlenni | Gorchudd a ddefnyddir i gysgodi ffenestr neu ddrws siop etc. | |
| blight | malltod | Gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd neu werth eiddo mewn ardal benodol o ganlyniad i ddatblygiad disgwyliedig neu bosibl yn y dyfodol, neu gyfyngiad disgwyliedig neu bosibl ar ddatblygiad. | ||
| blight notice | hysbysiad malltod | hysbysiadau malltod | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| blighted land | tir o dan falltod | Tir a nodir at ddibenion swyddogaethau cyhoeddus gan gynllun datblygu perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| breach | tor | Elfen mewn termau cyfansawdd sy'n disgrifio gweithred sy'n mynd yn groes i gyfraith, rheol, cod ac ati. | Bydd yr elfen hon bob amser yn ymddangos mewn ffurfiau cyfansawdd enwol fel 'tor amod', 'tor rheol' ac ati. Dylid defnyddio ffurfiau sy'n cynnwys yr elfen 'tor' pan fo angen enw yn hytrach na berfenw wrth drosi'r gair Saesneg 'breach'. Gall hyn olygu addasu termau sy'n cynnwys yr elfen 'torri' yn y gronfa hon. Sylwer ei fod yn ymddangos fel gair ar wahân, heb gysylltnod, wrth ffurfio termau cyfansawdd. Sylwer hefyd mai enw gwrywaidd yw 'tor' ac oherwydd hynny mai gwrywaidd fydd termau cyfansawdd lle bydd 'tor' yn ben yr ymadrodd, hyd yn oed os yw'r enw a ddilyna yn fenywaidd, ee "y tor rheol hwn". | |
| breach | torri | Mynd yn groes i gyfraith, rheol, cod ac ati. | Dylid defnyddio 'torri' pan fo angen berfenw yn hytrach nag enw wrth drosi'r gair Saesneg 'breach'. Gall hyn olygu addasu termau sy'n cynnwys yr elfen 'tor' yn y gronfa hon. | |
| breach of condition notice | hysbysiad tor amod | hysbysiadau tor amod | Hysbysiad cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r derbynnydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â thelerau amod neu amodau cynllunio, a bennir gan yr awdurdod cynllunio lleol yn yr hysbysiad. | |
| breach of planning control | tor rheolaeth gynllunio | Methiant i ymgymryd â datblygiad heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo. | Gweler y ddau gofnod annibynnol am breach=tor, a breach=torri. | |
| breach of temporary stop notice | torri hysbysiad stop dros dro | |||
| building operations | gweithrediadau adeiladu | |||
| burial ground | claddfa | claddfeydd | Man sydd wedi ei neilltuo ar gyfer claddu cyrff neu lwch yr ymadawedig. | Cymharer â'r cofnodion am 'churchyard' a 'cemetery'. |
| cargo aircraft | awyren gargo | awyrennau cargo | Awyren sydd wedi ei chynllunio i gludo cargo ond nid teithwyr, ac sy’n ymgymryd â chludo cargo ar delerau masnachol. | |
| cargo ship | llong gargo | llongau cargo | ||
| cavity | ceudod | ceudodau | Lle gwag mewn craig. | |
| certificate of lawful use or development | tystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon | tystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon | ||
| certificate of lawfulness | tystysgrif cyfreithlondeb | tystysgrifau cyfreithlondeb | Mae'r term hwn yn gyfystyr â certificate of lawful use or development / tystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon. | |
| chargeable development | datblygiad ardolladwy | datblygiadau ardolladwy | Datblygiad y gellir codi Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ei gylch. | Sylwer bod y term hwn yn berthnasol i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn unig. Gellid bod angen trosiad arall o 'chargeable' mewn cyd-destunau eraill. |
| charging authority | awdurdod codi tâl | awdurdodau codi tâl | ||
| charging schedule | cofrestr codi tâl | |||
| CIL | ardoll seilwaith cymunedol | Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am community infrastructure levy. | |
| CIL planning permission | caniatâd cynllunio ASC | caniatadau cynllunio ASC | Yn y cyd-destun hwn, mae CIL ac ASC yn cynrychioli 'community infrastructure levy' ac 'ardoll seilwaith cymunedol'. | |
| CIS | cynllun cynnwys cymunedau | cynlluniau cynnwys cymunedau | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am community involvement scheme. | |
| civil debt | dyled sifil | dyledion sifil | ||
| clearance area | ardal glirio | ardaloedd clirio | Ardal sydd i'w chlirio yn gyfan gwbl o adeiladau, o dan Ddeddf Tai 1985. | |
| clinker | clincer | Lludw a gwaddodion sydd wedi eu hasio, o ffwrnais neu dân glo. | ||
| coal bed methane | methan haen lo | |||
| community infrastructure levy | ardoll seilwaith cymunedol | Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. | ||
| community involvement scheme | cynllun cynnwys cymunedau | cynlluniau cynnwys cymunedau | ||
| compensation notice | hysbysiad digolledu | hysbysiadau digolledu | ||
| compulsory acquisition of land | caffael tir yn orfodol | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| connected application | cais cysylltiedig | ceisiadau cysylltiedig | Cais cynllunio sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, ac y mae’r person sy’n ei wneud yn ystyried ei fod yn gysylltiedig â’r prif gais. | |
| conservation area | ardal gadwraeth | ardaloedd cadwraeth | Ardal a gaiff ei gwarchod yn statudol o dan y ddeddfwriaeth gynllunio, er mwyn cadw a gwella ei chymeriad a'i threflun. | |
| consultation report | adroddiad ymgynghori | adroddiadau ymgynghori | ||
| container ship | llong gynwysyddion | llongau cynwysyddion | Llong gargo sy'n cludo'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i chargo mewn cynwysyddion. | |
| control of advertisements regulations | rheoliadau rheolaethu hysbysebion | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Sylwer y gwahaniaethir yn fwriadol erbyn hyn rhwng rheolaethu (control) a rheoli (manage) yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r gyfundrefn gynllunio. | ||
| control over development of land | rheolaeth dros ddatblygiad tir | rheolaethau dros ddatblygiad tir | ||
| control over use of land | rheolaeth dros ddefnydd o dir | rheolaethau dros ddefnydd o dir | ||
| conversion | trosi | Newid cyflwr egni (ee o fod yn drydan i fod yn egni potensial) | ||
| correctable error | gwall cywiradwy | gwallau cywiradwy | ||
| correction notice | hysbysiad cywiro | hysbysiadau cywiro | ||
| counter-notice | gwrth-hysbysiad | gwrth-hysbysiadau | ||
| crude liquid petroleum | petroliwm hylifol crai | |||
| cushion gas | nwy clustogi | Nwy a gedwir mewn cyfleusterau tanddaearol at y diben o alluogi adfer o’r storfa nwy arall a storiwyd ynddi. | ||
| cutting down | torri i lawr | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| DAS | datganiad dylunio a mynediad | datganiadau dylunio a mynediad | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am design and access statement. | |
| decision document | dogfen penderfyniad | dogfennau penderfyniadau | Yn achos rhoi cydsyniad seilwaith, y gorchymyn cydsynio seilwaith ei hun neu'r ddogfen sy'n cofnodi y gwrthodwyd cydsyniad. | |
| decision notice | hysbysiad penderfynu | hysbysiadau penderfynu | ||
| deed | gweithred | gweithredoedd | Dogfen gyfreithiol ysgrifenedig, a ddefnyddir gan amlaf i drosglwyddo eiddo o un perchennog i'r llall. | |
| deemed planning permission | caniatâd cynllunio tybiedig | caniatadau cynllun tybiedig | ||
| deep storage facility | cyfleuster storio dwfn | cyfleuster storio dwfn | Cyfleuster ar gyfer storio gwastraff yn danddaearol mewn ceudod daearegol dwfn. | |
| default liability | atebolrwydd diofyn | |||
| delivery agreement | cytundeb cyflawni | cytundebau cyflawni | Yng nghyd-destun cynlluniau datblygu yn benodol. | |
| demolish | dymchwel | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol. | ||
| depositing of mineral waste | dyddodi gwastraff mwynau | Unrhyw broses y crëir neu y cynyddir dyddodyn gwastraff mwynau drwyddi. | Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi. | |
| depositing of waste | dyddodi gwastraff | Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi. | ||
| design and access statement | datganiad dylunio a mynediad | datganiadau dylunio a mynediad | ||
| design of a building | dyluniad adeilad | Y dyluniad a lunnir ar gyfer adeilad penodol. | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| determination | penderfyniad | penderfyniadau | Os oes angen gwahaniaethu rhwng 'determination' a 'decision' mewn testun, mae'n bosibl y gellid ystyried defnyddio 'dyfarniad' am 'determination'. | |
| determination period | cyfnod penderfynu | cyfnodau penderfynu | ||
| developer | datblygwr | datblygwyr | Person sy’n cychwyn gwaith adeiladu neu’n bwriadu cychwyn gwaith adeiladu. | |
| development consent | cydsyniad datblygu | cydsyniadau datblygu | ||
| development consent order | gorchymyn cydsyniad datblygu | gorchmynion cydsyniad datblygu | ||
| development of national significance | datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol | datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol | ||
| development order | gorchymyn datblygu | gorchmynion datblygu | ||
| development plan | cynllun datblygu | cynlluniau datblygu | Dogfen sy'n gosod yn ysgrifenedig, ac efallai ar y cyd â mapiau a diagramau, bolisïau a chynigion awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygiad a defnydd tir ac adeiladau yn ardal yr awdurdod hwnnw. | |
| discharge an obligation | gollwng rhwymedigaeth | |||
| discontinuance | datbarhau | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, ymysg meysydd eraill. | ||
| discontinuance order | gorchymyn datbarhau | gorchmynion datbarhau | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| disembarkation | dadlwytho | Yng nghyd-destun cargo yn benodol. | ||
| displacement | dadleoli | |||
| display of advertisements | arddangos hysbysebion | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| disused railway embankment | arglawdd rheilffordd nas defnyddir | argloddiau rheilffordd segur | ||
| DNS | datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol | datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am development of national significance. | |
| dormant site | safle segur | safleoedd segur | Safle mwynau o fath Cam 1 neu Gam 2 nad oes unrhyw ddatblygiad mwynau wedi digwydd ynddo, arno neu oddi tano i unrhyw raddfa sylweddol unrhyw bryd yn y cyfnod rhwng 22 Chwefror 1982 a 6 Mehefin 1995. | |
| electric line | llinell drydan | llinellau trydan | ||
| electricity generating station | gorsaf cynhyrchu trydan | gorsafoedd cynhyrchu trydan | ||
| electronic communications apparatus | cyfarpar cyfathrebiadau electronig | |||
| embarkation | llwytho | Yng nghyd-destun cargo yn benodol. | ||
| enforcement action | cam gorfodi | camau gorfodi | ||
| enforcement investigation notice | hysbysiad ymchwilio am orfodi | hysbysiadau ymchwilio am orfodi | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Mae'r term hwn yn disodli'r termau planning contravention notice / hysbysiad tramgwydd cynllunio. | |
| enforcement warning notice | hysbysiad rhybuddio am orfodi | hysbysiadau rhybuddio am orfodi | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| enforcing authority | awdurdod gorfodi | awdurdodau gorfodi | ||
| engineered measure | mesur wedi ei beiriannu | mesurau wedi eu peiriannu | ||
| engineering operations | gweithrediadau peirianneg | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| erect a building | codi adeilad | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau neu strwythurau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| exploration | fforio | Y chwilio a'r profi a wneir am adnoddau naturiol mewn ardal benodedig, er mwyn penderfynu a ydyw gweithgareddau mwyngloddio neu echdynnu yn fasnachol hyfyw. | ||
| external appearance of a building | golwg allanol adeilad | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol. | ||
| false in a material respect | anwir mewn modd perthnasol | Gellir defnyddio'r ymadrodd hwn fel un adferfol hefyd. | ||
| false or misleading in a material respect | anwir neu gamarweiniol mewn modd perthnasol | Gellir defnyddio'r ymadrodd hwn fel un adferfol hefyd. | ||
| false statement | datganiad anwir | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| felling licence | trwydded cwympo coed | trwyddedau cwympo coed | ||
| fish farming | ffermio pysgod | Bridio, magu neu gadw pysgod neu bysgod cregyn (sy’n cynnwys yr holl fathau o gramenogion a molysgiaid). | ||
| foundation | sylfaen | sylfeini | ||
| furnace ash | lludw ffwrnais | |||
| gas reception facility | cyfleuster derbyn nwy | cyfleusterau derbyn nwy | Cyfleuster ar gyfer derbyn nwy naturiol yn ei ffurf nwy, ac ar gyfer ymdrin ag ef (heblaw ei storio). | |
| gas transporter | trawsgludydd nwy | trawsgludwyr nwy | ||
| gasification | nwyeiddio | Proses dechnolegol i drosi unrhyw ddeunydd crai sy'n seiliedig ar garbon, megis glo, yn nwy tanwydd. | ||
| general improvement area | ardal gwella cyffredinol | ardaloedd gwella cyffredinol | Ardal breswyl a ddynodir gan yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Tai 1985, lle bydd yr amodau byw yn cael eu gwella drwy welliannau i’r tai a’r cyfleusterau lleol. | |
| generating station | gorsaf gynhyrchu | gorsafoedd cynhyrchu | Gorsaf, cyfarpar neu adeiladau sy'n cynhyrchu trydan, ond nid cyfleuster sy'n cynhyrchu trydan o ynni wedi ei storio. | |
| goods train | trên nwyddau | trenau nwyddau | Trên (gan anwybyddu'r injan) sy'n cynnwys eitemau o gerbydau rheilffyrdd a gynlluniwyd i gludo nwyddau. | |
| hazardous substances authority | awdurdod sylweddau peryglus | awdurdodau sylweddau peryglus | ||
| hazardous waste facility | cyfleuster gwastraff peryglus | cyfleusterau gwastraff peryglus | ||
| hoarding | palis | palisau | Ffens o fyrddau pren etc a godir o amgylch adeilad yn ystod ei adeiladu neu ei atgyweirio ac a ddefnyddir i arddangos hysbysebion, neu strwythur tebyg arall a godir i arddangos hysbysebion. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheolaethu hysbysebion. |
| independent examination | archwiliad annibynnol | archwiliadau annibynnol | Yng nghyd-destun cynlluniau datblygu. | |
| information notice | hysbysiad gwybodaeth | hysbysiadau gwybodaeth | Hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person y’i cyflwynir iddo roi gwybodaeth ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol am y materion a bennir yn yr hysbysiad. | |
| infrastructure | seilwaith | |||
| infrastructure consent | cydsyniad seilwaith | cydsyniadau seilwaith | ||
| infrastructure consent obligation | rhwymedigaeth cydsyniad seilwaith | rhwymedigaethau cydsyniad seilwaith | Rhwymedigaeth gynllunio yr ymrwymir iddi mewn cysylltiad â chais (neu gais arfaethedig) am orchymyn cydsyniad seilwaith. | |
| infrastructure consent order | gorchymyn cydsyniad seilwaith | gorchmynion cydsyniad seilwaith | ||
| infrastructure policy statement | datganiad polisi seilwaith | datganiadau polisi seilwaith | ||
| injunction | gwaharddeb | gwaharddebau | Gorchymyn cyfreithiol gan lys sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson wneud, neu beidio â gwneud, rhywbeth penodol. | |
| inland waters | dyfroedd mewndirol | Dyfroedd nad ydynt yn rhan o’r môr nac o gilfach, bae neu foryd am gyn belled ag y mae’r llanw’n llifo. | ||
| installed generating capacity | capasiti cynhyrchu gosodedig | Y capasiti cynhyrchu trydan mwyaf (mewn megawatiau) y gellid gweithredu gorsaf gynhyrchu arno am gyfnod parhaus heb achosi niwed iddo (gan dybio bod y ffynhonnell ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor). | ||
| intentionally or recklessly damaging a tree | difrodi coeden yn fwriadol neu’n ddi-hid | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| intentionally or recklessly destroying a tree | dinistrio coeden yn fwriadol neu’n ddi-hid | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| invalid application | cais annilys | ceisiadau annilys | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| joint planning area | ardal gydgynllunio | ardaloedd cydgynllunio | ||
| joint planning board | bwrdd cydgynllunio | byrddau cydgynllunio | Awdurdod cynllunio lleol ar gyfer dosbarth unedig sy’n cynnwys dwy ardal neu ragor, pob un ohonynt yn sir gyfan neu’n fwrdeistref sirol gyfan neu’n rhan o sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru. | |
| land use class | dosbarth defnydd tir | dosbarthau defnydd tir | Y categori o ddefnydd tir y dosberthir darn o dir iddo yn y gyfundrefn gynllunio. | |
| liquid natural gas | nwy naturiol hylifol | Nwy naturiol sydd wedi cael ei oeri nes ei fod wedi troi'n hylif. | Mae'r termau liquified natural gas/nwy naturiol hylifedig yn gyfystyr, a defnyddir yr acronym LNG ar gyfer y ddau derm, yn y ddwy iaith. | |
| liquified natural gas | nwy naturiol hylifedig | Nwy naturiol sydd wedi cael ei oeri nes ei fod wedi troi'n hylif. | Mae'r termau liquid natural gas/nwy naturiol hylifol yn gyfystyr, a defnyddir yr acronym LNG ar gyfer y ddau derm, yn y ddwy iaith. | |
| LIR | adroddiad ar yr effaith leol | adroddiadau ar yr effaith leol | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am local impact report / adroddiad ar yr effaith leol. | |
| LNG | LNG | Dyma'r acronym a ddefnyddir yn y ddwy iaith am y ddau derm liquid natural gas/nwy naturiol hylifol a liquified natural gas/nwy naturiol hylifedig. Mae'r termau hyn yn gyfystyr. | ||
| LNG facility | cyfleuster LNG | cyfleusterau LNG | ||
| local development order | gorchymyn datblygu lleol | gorchmynion datblygu lleol | ||
| local impact report | adroddiad ar yr effaith leol | adroddiadau ar yr effaith leol | Adroddiad ysgrifenedig sy'n manylu ar effaith debygol datblygiad arfaethedig ar ardal (neu ran o ardal) yr awdurdod cynllunio lleol na'r cyngor cymuned sy'n cyflwyno'r adroddiad. | |
| local inquiry | ymchwiliad lleol | ymchwiliadau lleol | ||
| local land charge | pridiant tir lleol | pridiannau tir lleol | Cyfyngiad neu rwymedigaeth ar eiddo neu ddarn o dir, fel arfer er mwyn cyfyngu ar y ffordd y caiff ei ddefnyddio neu i sicrhau y gwneir taliad ariannol i'r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â'r eiddo neu'r tir. | |
| local planning authority | awdurdod cynllunio lleol | awdurdodau cynllunio lleol | Yr awdurdod lleol neu'r cyngor a awdurdodir o dan y gyfraith i arfer swyddogaethau cynllunio. Fel arfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ydyw, ond yn y Parciau Cenedlaethol a rhai ardaloedd eraill ceir trefniant gwahanol. | |
| lopping | tocio | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| LPA | awdurdod cynllunio lleol | awdurdodau cynllunio lleol | Yr awdurdod lleol neu'r cyngor a awdurdodir o dan y gyfraith i arfer swyddogaethau cynllunio. Fel arfer y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ydyw, ond yn y Parciau Cenedlaethol a rhai ardaloedd eraill ceir trefniant gwahanol. | Dyma'r acronym Saesneg a ddefnyddir am local planning authority. |
| maintenance of land notice | hysbysiad cynnal a chadw tir | hysbysiadau cynnal a chadw tir | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| marine licence | trwydded forol | trwyddedau morol | ||
| material change | newid sylweddol | newidiadau sylweddol | Ymadrodd a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio, ac sy'n berthnasol i'r defnydd o dir ("newid sylweddol yn y defnydd o dir") ac i ganiatadau cynllunio ("newid sylweddol i ganiatâd cynllunio"). Yn yr achosion hyn mae'r gair 'material' yn ymwneud â graddfa'r newidiadau sydd o dan sylw, yn hytrach na'u harwyddocâd neu eu perthnasedd yn unig. Gall trosiadau eraill o "material" fod yn addas mewn cyd-destunau eraill. | |
| maximum flow rate | cyfradd llif uchaf | Y gyfradd uchaf y gall nwy lifo allan o gyfleuster, gan dybio bod y cyfleuster wedi ei lenwi'n llawn a bod y gyfradd yn cael ei chyfrifo ar ôl cynnal unrhyw brosesu angenrheidiol ar y nwy wrth ei adfer o'r storfa. | ||
| metallic slag | slag metelaidd | slagiau metelaidd | ||
| military establishment | sefydliad milwrol | sefydliadau milwrol | Sefydliad a fwriedir at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr, neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn. | |
| mine | mwynglawdd | mwyngloddiau | Cloddfa neu system o gloddfeydd sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau neu gynnyrch mwynau. | Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwynglawdd' gyfeirio at unrhyw fan lle caiff mwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, eu cloddio o'r tir. Gweler y cofnodion am mineral/mwyn a mining/mwyngloddio yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwynglawdd' gynnwys pyllau glo a chwareli llechi, sy'n weithfeydd nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwyngloddiau' fel arfer yn Gymraeg. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddfa ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwynglawdd'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mine' yn unig, defnyddier 'pwll glo'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mine' yn unig, defnyddier 'chwarel lechi'. |
| mineral | mwyn | mwynau | Unrhyw sylwedd o fath sy'n arferol ei weithio i'w dynnu o grombil neu o wyneb y ddaear, ac eithrio mawn a dorrwyd at ddibenion heblaw ei werthu. | Mae'r diffiniad yn cyfeirio yn benodol at ystyr y term hwn yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Mae ystyr fwy caeth i mineral/mwyn mewn cyd-destunau gwyddonol a chyffredinol. Bryd hynny, bydd y termau yn y ddwy iaith fel arfer yn golygu sylwedd solet anorganig sy'n ffurfio'n naturiol, gyda chyfansoddiad cemegol penodol a strwythur a nodweddion ffisegol nodweddiadol. Y gwahaniaeth ymarferol rhwng y diffiniad cyfreithiol a'r diffiniad gwyddonol yw bod y diffiniad cyfreithiol yn gallu cynnwys glo, mawn a chreigiau megis llechi, tra bod y diffiniad gwyddonol yn eithrio sylwedddau o'r fath. Gweler hefyd y cofnodion yn TermCymru am mine/mwynglawdd a mining/mwynglodio. |
| mineral waste | gwastraff mwynau | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn. | ||
| minerals development | datblygiad mwynau | datblygiadau mwynau | Datblygiad sy’n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio, neu sy’n golygu dyddodi gwastraff mwynau. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn. |
| minerals permission | caniatâd mwynau | caniatadau mwynau | Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mwynau, ond nid yw’n cynnwys caniatâd cynllunio a roddir gan orchymyn datblygu. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mineral/mwyn. |
| mining | mwyngloddio | Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwyngloddio' gyfeirio at gloddio unrhyw fath o fwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, o'r tir. Gweler y cofnod am mineral/mwyn yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwyngloddio' gynnwys gweithio i gloddio glo a llechi, sy'n sylweddau nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwynau' fel arfer yn Gymraeg, nac yn cyd-fynd ag ystyr wyddonol y term mineral/mwyn. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddio ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwyngloddio'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lo'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lechi'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir gyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwyngloddio neu gloddio am lo'. Lle nad yw hyn yn bosibl ac nad oes angen gwahaniaethu wrth gysyniad 'excavating', gellid ystyried defnyddio 'cloddio'. | ||
| mining operations | gweithrediadau mwyngloddio | Cloddio a gweithio mwynau ar dir, boed hynny drwy weithio ar yr arwyneb neu o dan y ddaear. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio. | |
| mining site | safle mwyngloddio | safleoedd mwyngloddio | Tir y mae caniatâd mwynau yn ymwneud ag ef. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio. |
| National Park authority | awdurdod Parc Cenedlaethol | awdurdodau Parciau Cenedlaethol | ||
| natural gas | nwy naturiol | Unrhyw nwy sy'n deillio o strata naturiol. | ||
| natural porous strata | strata mân-dyllog naturiol | |||
| new town | tref newydd | trefi newydd | Anheddiad annibynnol newydd a ddynodwyd ac a gynlluniwyd o dan Ddeddf Trefi Newydd 1946 a deddfwriaeth ddilynol. | |
| non-material change | newid ansylweddol | newidiadau ansylweddol | Ymadrodd a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio, ac sy'n berthnasol i'r defnydd o dir ("newid ansylweddol yn y defnydd o dir") ac i ganiatadau cynllunio ("newid ansylweddol i ganiatâd cynllunio"). Yn yr achosion hyn mae'r gair 'non-material' yn ymwneud â graddfa'r newidiadau sydd o dan sylw, yn hytrach na'u harwyddocâd neu eu perthnasedd yn unig. Gall trosiadau eraill o "non-material" fod yn addas mewn cyd-destunau eraill. | |
| non-prosecution notice | hysbysiad dim erlyn | hysbysiadau dim erlyn | ||
| normal use | defnydd arferol | Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio. | ||
| notice of appeal | hysbysiad o apêl | hysbysiadau o apêl | ||
| notice of invalidity | hysbysiad o annilysrwydd | hysbysiadau o annilysrwydd | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| obliterate | difodi | Yng nghyd-destun y gyfundrefn ar gyfer rheolaethu hysbysebion, gorchuddio, difetha neu gael gwared ar blacard neu boster fel nad yw’n gallu arddangos hysbyseb mwyach. | ||
| open cast coal mine | gwaith glo brig | gweithfeydd glo brig | ||
| open space | man agored | mannau agored | Yng nghyd-destun y gyfraith gynllunio, tir sydd ar gael i’r cyhoedd - megis parciau, gerddi, caeau chwarae a mannau sifig - ac sy’n darparu buddion o ran hamdden, yr amgylchedd neu harddwch i’r gymuned. | |
| operational land | tir gweithredol | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| originating authority | awdurdod tarddiadol | awdurdodau tarddiadol | Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio a phridiant tir lleol, yr awdurdod sy'n creu'r pridiant neu sy'n gorfodi'r pridiant unwaith y daw i fodolaeth. Gall hyn fod yn Weinidog y Goron, adran o'r llywodraeth, neu awdurdod lleol. | |
| outline planning permission | caniatâd cynllunio amlinellol | caniatadau cynllunio amlinellol | ||
| overhead line | llinell uwchben | llinellau uwchben | Yng nghyd-destun llinellau trydan. | |
| pedestrianisation | pedestreiddio | Y broses o gyfyngu mynediad i stryd neu ardal fel mai dim ond cerddwyr, ac nid cerbydau, a gaiff ei defnyddio. | Mae'n bosibl y gallai aralleiriad fel "creu parth cerddwyr" fod yn addas mewn rhai cyd-destunau. | |
| periodic review of minerals permissions | adolygiad cyfnodol o ganiatadau mwynau | adolygiadau cyfnodol o ganiatadau mwynau | ||
| petroleum product | cynnyrch petroliwm | cynhyrchion petroliwm | ||
| pipeline | piblinell | piblinellau | Llinell ddi-dor o bibellau wedi eu cyd-gysylltu, yn enwedig ar gyfer trosglwyddo olew, nwy neu ddŵr dros bellteroedd hir. | Gwelir y ffurf amgen Saesneg "pipe-line" hefyd. |
| placard | placard | placardiau | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheolaethu hysbysebion. | |
| plan-making authority | awdurdod sy'n gwneud cynllun | Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio. | ||
| planning application | cais cynllunio | ceisiadau cynllunio | ||
| planning authority | awdurdod cynllunio | awdurdodau cynllunio | ||
| planning contravention notice | hysbysiad tramgwydd cynllunio | hysbysiadau tramgwydd cynllunio | ||
| planning control | rheolaeth gynllunio | rheolaethau cynllunio | Y gyfundrefn ar gyfer rhoi caniatâd cynllunio (fel enw torfol), neu reol neu amod a osodir fel rhan o ganiatâd cynllunio (fel enw cyfrif). | Gallai 'rheoli cynllunio' fod yn addas mewn rhai cyd-destunau llai technegol. |
| planning inspector | arolygydd cynllunio | arolygwyr cynllunio | ||
| planning obligation | rhwymedigaeth gynllunio | rhwymedigaethau cynllunio | Rhwymedigaeth gyfreithiol sydd yn cyfyngu ar ddatblygu neu ddefnyddio tir mewn ffordd benodedig, yn ei gwneud yn ofynnol i weithrediadau neu weithgareddau penodedig gael eu cyflawni ar y tir, yn ei gwneud yn ofynnol i’r tir gael ei ddefnyddio mewn ffordd benodedig, neu yn ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o daliadau gael eu gwneud i'r awdurdod cynllunio y mae’r tir yn ei ardal. | |
| planning permission | caniatâd cynllunio | caniatadau cynllunio | ||
| plant and machinery | cyfarpar a pheiriannau | Yng nghyd-destun y gyfraith ar dreth, pa bynnag aparatws sy’n angenrheidiol ar ddyn busnes er mwyn cynnal ei fusnes. | Mae sylwedd y diffiniad yn gyfieithiad o'r dyfyniad o gyfraith achos (Yarmouth v France (1887)) y seilir dehongliadau o ystyr yr ymadrodd sefydlog hwn arno. | |
| pollarding | brigdocio | Techneg tocio coed lle mae'r canghennau uchaf yn cael eu torri'n ôl i annog pen trwchus o ddail a changhennau. | ||
| post-1948 minerals permission | caniatâd mwynau ôl-1948 | caniatadau mwynau ôl-1948 | Unrhyw ganiatâd mwynau ac eithrio caniatâd mwynau cyn-1948. | Gweler y cofnod am pre-1948 minerals permission / caniatâd mwynau cyn-1948 am ddiffiniad o'r term hwnnw. |
| pre-1948 minerals permission | caniatâd mwynau cyn-1948 | caniatadau mwynau cyn-1948 | Caniatâd mwynau y bernir ei fod wedi ei roi o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 yn rhinwedd adran 77 o’r Ddeddf honno. | |
| pre-application consultation | ymgynghoriad cyn gwneud cais | ymgyngoriadau cyn gwneud cais | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| pre-application consultation report | adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais | adroddiadau ymgynghoriad cyn gwneud cais | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| pre-application publicity | cyhoeddusrwydd cyn gwneud cais | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| pre-application service | gwasanaeth cyn gwneud cais | gwasanaethau cyn gwneud cais | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| preservation of trees and woodland | diogelu coed a choetiroedd | Ymadrodd sefydlog yn Neddf Cynllunio (Cymru). | ||
| principal | penadur | penaduriaid | Person sydd wedi rhoi awdurdod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, i berson arall weithredu fel asiant ar ei ran. | |
| proceeds of sale | enillion gwerthu | Mae'n bosibl y gallai "enillion o werthiant" fod yn addas mewn rhai cyd-destunau. | ||
| prohibition order | gorchymyn gwahardd | |||
| protection order | gorchymyn diogelu | gorchmynion diogelu | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| rack rent | crogrent | crogrenti | ||
| radioactive waste geological disposal facility | cyfleuster gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol | cyfleusterau gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol | ||
| radionuclide | radioniwclid | radioniwclidau | Math ansefydlog o elfen gemegol sy'n rhyddhau ymbelydredd wrth ddadfeilio a throi'n fwy sefydlog. | |
| rail freight interchange | cyfnewidfa nwyddau rheilffordd | |||
| rebuild a building | ailadeiladu adeilad | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| reconversion | aildrosi | Dychwelyd cyflwr egni (ee newid egni potensial, a fu gynt yn egni trydan, i fod yn egni trydan unwaith eto). | ||
| regasification | ailnwyeiddio | |||
| remedial work | gwaith unioni | Camau a gymerir i wneud yn iawn am sefyllfa lle mae tor-rheolaeth gynllunio wedi digwydd, gan adfer safle i’w gyflwr cyfreithlon. | ||
| remove a building | cael gwared ar adeilad | Mewn perthynas â chynnal gwaith ar adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| removing a tree | symud coeden ymaith | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| renewable energy installation | gosodiad ynni adnewyddadwy | gosodiadau ynni adnewyddadwy | ||
| renewal area | ardal adnewyddu | ardaloedd adnewyddu | Ardal sy’n cynnwys tai yn bennaf, lle mae’r amodau byw yn anfoddhaol ac y gellir eu gwella’n fwyaf effeithiol drwy weithredoedd cydgysylltiedig gan yr awdurdod lleol o dan bwerau Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. | |
| replacement building | adeilad amnewid | adeiladau amnewid | Dyma'r term technegol a ddefnyddir yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gellid aralleirio mewn cyd-destunau llai technegol. | |
| replacement tree | coeden amnewid | coed amnewid | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| reserved matter | mater a gadwyd yn ôl | materion a gadwyd yn ôl | Mater y mae awdurdod cynllunio wedi penderfynu peidio â mynegi barn arno am y tro, wrth roi caniatâd cynllunio amlinellol, ond y bydd angen ei gymeradwyo cyn cael caniatâd cynllunio llawn. | Dyma'r geiriad a ddefnyddir yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Sylwer ar y gwahaniaeth yn amser y ferf rhwng y term hwn a'r ffurf "mater a gedwir yn ôl", a ddefnyddir ym maes y cyfansoddiad a'r gyfundrefn ddatganoledig. |
| reserved trust port | porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl | |||
| restoration condition | amod adfer | amodau adfer | Amod sy’n ei gwneud yn ofynnol, ar ôl i’r gweithrediadau mwyngloddio gael eu cwblhau neu i’r dyddodi gwastraff ddod i ben, i’r tir yr effeithiwyd arno gan y gweithrediadau neu’r dyddodi gael ei adfer drwy ddefnyddio isbridd, uwchbridd neu ddeunydd creu pridd. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. |
| right of way | hawl tramwy | hawliau tramwy | Hawddfraint sy'n cyflwyno hawl i deithio ar draws tir. Gall yr gawl gynnwys yr hawl i groesi'r tir gyda neu heb anifeiliaid. Ni ddylid defnyddio'r hawl yn y fath ffordd ag y bo'n gyfystyr â chymryd meddiant. | |
| right over land | hawl dros dir | hawliau dros dir | ||
| river basin | basn afon | basnau afonydd | Arwynebedd o dir a ddraenir gan afon a’i his-afonydd. | |
| roll-on roll-off ship | llong gyrru i mewn ac allan | llongau gyrru i mewn ac allan | Llong a ddefnyddir i gludo cargo sydd ar olwynion (megis lorïau a cheir). | |
| setting of a building | gosodiad adeilad | Mewn perthynas ag adeiladau o dan y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio a'r gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Sylwer ei bod yn allweddol am resymau cyfreithiol gallu gwahaniaethu rhwng "lleoliad" (location) adeilad, neu "safle" (site) adeilad, a'i "osodiad" (setting), sef - yn fras - y gydberthynas rhwng yr adeilad a'i amgylchedd. | ||
| shale oil | olew siâl | |||
| significant infrastructure project | prosiect seilwaith arwyddocaol | prosiectau seilwaith arwyddocaol | ||
| slag | slag | slagiau | Gwastraff yn sgil toddi neu buro metelau. | |
| statutory undertaker | ymgymerwr statudol | ymgymerwyr statudol | ||
| steps for the protection of the environment | camau i ddiogelu'r amgylchedd | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| stop notice | hysbysiad stop | hysbysiadau stop | Defnyddir 'stop' yn hytrach nag 'atal' fel bod modd gwahaniaethu rhwng y geiriau Saesneg 'stop' a 'prevention'. | |
| stopping up | cau | Y broses gyfreithiol o dynnu hawl tramwy yn barhaol o ffordd, llwybr troed neu lwybr arall. | ||
| storage capacity | cynhwysedd storio | Cynhwysedd cyfleuster ar gyfer storio nwy naturiol hylifedig, a fesurir fel pe bai’r nwy wedi ei storio yn ei ffurf ailnwyeiddiedig. | ||
| stored energy | ynni wedi ei storio | Ynni sydd wedi ei drosi o fod yn drydan, ac a gaiff ei storio at ddiben ei aildrosi yn drydan. | ||
| stratum | stratwm | strata | ||
| subsidence | ymsuddiant | |||
| successor in title | olynydd yn y teitl | olynwyr yn y teitl | Unrhyw un sy'n cymryd perchnogaeth gyfreithiol ar eiddo wrth rywun arall. | Sylwer y bydd angen addasu'r term pan gaiff ei ddilyn gan ymadrodd enwol, ee "olynydd yn nheitl yr ymgeisydd" |
| surface working of minerals | gweithio mwynau ar wyneb y tir | |||
| sustainability appraisal | arfarniad o gynaliadwyedd | arfarniadau o gynaliadwyedd | ||
| temporary stop notice | hysbysiad stop dros dro | hysbysiadau stop dros dro | Hysbysiad cyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol y rhoddir terfyn ar unwaith ar weithgaredd sy'n torri rheolaeth gynllunio. | |
| termination order | gorchymyn terfynu | gorchmynion terfynu | Gorchymyn sy'n pennu y bydd caniatâd cynllunio yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod a nodir yn y gorchymyn. | Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth gynllunio, ymysg eraill. Daw'r diffiniad o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026 ond gall diffiniadau eraill fod yn berthnasol yn ôl yr achos. Yng nghyd-destun cynllunio, mae'r term hwn yn disodli'r termau completion notice / hysbysiad cwblhau. |
| TEU | TEU | Uned anfanwl o gynhwysedd cargo, a ddefnyddir yn aml ar gyfer llongau cynwysyddion a phorthladdoedd cynwysyddion. Mae'n seiliedig ar gynhwyseddd cynhwysydd 20 troedfedd o hyd, sef y blwch metel safonol ar gyfer ei drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i'r llall, ee rhwng llongau, trenau a lorïau. | Dyma'r acronym a ddefnyddir yn y ddwy iaith am twenty foot equivalent unit/uned gyfwerth ag ugain troedfedd. | |
| topping | brigdorri | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| transport system | system drafnidiaeth | systemau trafnidiaeth | ||
| tree preservation order | gorchymyn diogelu coed | gorchmynion diogelu coed | Gorchymyn sy'n gwahardd cwympo neu symud coeden neu goed. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Disodlwyd y ffurf 'gorchymyn cadw coed' gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026. |
| tree replacement notice | hysbysiad amnewid coed | hysbysiadau amnewid coed | Hysbysiad cyfreithiol i orfodi tirfeddiannwr sydd wedi torri coeden warchodedig i blannu coeden neu goed newydd yn ei lle. | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. |
| trench | ffos | ffosydd | ||
| twenty foot equivalent unit | uned gyfwerth ag ugain troedfedd | unedau cyfwerth ag ugain troedfedd | Uned anfanwl o gynhwysedd cargo, a ddefnyddir yn aml ar gyfer llongau cynwysyddion a phorthladdoedd cynwysyddion. Mae'n seiliedig ar gynhwyseddd cynhwysydd 20 troedfedd o hyd, sef y blwch metel safonol ar gyfer ei drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i'r llall, ee rhwng llongau, trenau a lorïau. | Defnyddir yr acronym TEU yn y ddwy iaith. |
| underground mining operations | gweithrediadau mwyngloddio tanddaearol | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio. | ||
| uprooting | dadwreiddio | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweithred a waherddir heb gydsyniad yr awdurdod cynllunio lleol os oes gorchymyn diogelu coed neu orchymyn diogelu coetir yn berthnasol i'r goeden dan sylw. | ||
| urban development area | ardal datblygu trefol | ardaloedd datblygu trefol | ||
| urban development corporation | corfforaeth datblygu trefol | corfforaethau datblygu trefol | Corff statudol a sefydlir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 at ddiben adfywio ardal datblygiad trefol. | |
| volume of underground space | cyfaint y gofod tanddaearol | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | ||
| warrant to enter land | gwarant i fynd ar dir | |||
| waste water treatment plant | gwaith trin dŵr gwastraff | gweithfeydd trin dŵr gwastraff | ||
| water undertaker | ymgymerwr dŵr | ymgymerwyr dŵr | ||
| water undertaker’s area | ardal ymgymerwr dŵr | ardaloedd ymgymerwyr dŵr | ||
| Welsh infrastructure consent | cydsyniad seilwaith Cymreig | cydsyniadau seilwaith Cymreig | ||
| Welsh planning Acts | Deddfau cynllunio Cymru | |||
| wholly-owned subsidiary | is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr | is-gwmnïau o dan berchnogaeth lwyr | ||
| wind generating station | gorsaf ynni gwynt | gorsafoedd ynni gwynt | Gorsaf sy'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni gwynt. | |
| winning and working | ennill a gweithio | Y broses o wneud mwynau’n hygyrch i’w tynnu o'r ddaear (ennill, winning), ac yna eu tynnu’n gorfforol o’r ddaear (gweithio, working). | ||
| winning and working of coal | ennill a gweithio glo | |||
| winning and working of minerals | ennill a gweithio mwynau | |||
| woodland preservation order | gorchymyn diogelu coetir | gorchmynion diogelu coetir | Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. | |
| working capacity | cynhwysedd gweithredol | Y gallu sydd gan gyfleuster i storio nwy dan ddaear, gan anwybyddu unrhyw allu i storio nwy clustogi. |
