Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn gweithio gyda'i gilydd ar lywodraethu, cynllunio a darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn Ardal Cymru a'r Gororau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Sefydliadau llofnodwyr
1. Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng:
- Gweinidogion Cymru, a gynrychiolir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.
- Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Gyda'i gilydd “y Partïon”
2. Cyd-destun
2.1 Diben y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn rhwng y Partïon yw cefnogi'r gwaith o ddiwygio'r system reilffyrdd yn Ardal Cymru a'r Gororau. Amlinellir ei delerau yng Nghymal 24 o'r Bil Rheilffyrdd a gyflwynwyd i Dŷ'r Cyffredin ar 5 Tachwedd 2025 (y "Bil Rheilffyrdd").
2.2 Bwriad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yw nodi sut y bydd y Partïon yn cydweithio a sicrhau y gall y cwmnïau y maent yn berchen arnynt megis Great British Railways (GBR) a Trafnidiaeth Cymru gyflawni drwy drefniadau partneru i Ardal Cymru a'r Gororau.
2.3 Nid yw'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn gyfreithiol gyfrwymol ar y Partïon ac nid yw'n newid y rhwymedigaethau cyfreithiol sy'n gyfrwymol ar y Partïon. I'r graddau y mae gwrthdaro rhwng telerau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn ac unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, telerau'r rhwymedigaeth gyfreithiol fydd drechaf. Serch hynny, drwy lofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, mae'r partïon yn ymrwymo i gydymffurfio â'i ddarpariaethau.
3. Diffiniadau defnyddiol a chyfeirbwyntiau
3.1 Mae'r adran hon yn diffinio termau yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, er mwyn sicrhau dealltwriaeth a rennir o'r amcanion:
3.1.1 GBR Wales and Borders / GBR Cymru a’r Gororau – Y rhan o strwythur GBR sy'n cynnal gweithgareddau GBR yn Nghymru a'r ardaloedd sy'n ffinio â hi.
3.1.2 Ardal Cymru a'r Gororau – holl swyddogaethau rheilffordd GBR a Trafnidiaeth Cymru sydd eu hangen i gyflawni canlyniadau yn gyfannol i deithwyr, y sector cludo llwythi a'r economi yng Nghymru a rhanbarth cyffiniol Lloegr a all gael ei wasanaethu gan wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Ac eithrio adran 12 (Llinellau Craidd y Cymoedd), ni fydd telerau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn gymwys i Linellau Craidd y Cymoedd.
3.1.3 Cytundebau Cymru a'r Gororau – gyda'i gilydd mae'r rhain yn cynnwys telerau Cytundeb Cyfryngaeth rhif 3, Cytundeb Cyllid ac Allbynnau, Cytundeb Cydweithredu a Chydweithio a Chytundeb Diffiniadau rhwng y Partïon.
3.1.4 Trefniadau partneru – cytundebau cydweithio rhwng cwmnïau'r Partïon.
3.2 Mae Atodiad A yn amlinellu pwyntiau ymgysylltu'r Partïon yn ystod y cyfnod cyllido.
4. Diben
4.1 Diben y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yw nodi sut y bydd y Partïon yn cydweithio wrth iddynt arfer eu priod swyddogaethau mewn perthynas â rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffordd. Yn arbennig, mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ceisio gwneud y canlynol:
4.1.1 nodi sut a phryd y bydd y Partïon yn ymgysylltu â'i gilydd er mwyn pennu Amcanion clir a Rennir ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau;
4.1.2 sicrhau cyd-ddealltwriaeth o ran y ffordd y caiff rolau'r Partïon mewn perthynas â gwasanaethau rheilffordd Cymru a'r Gororau eu llywodraethu a'u rheoli;
4.1.3 pennu ymrwymiadau pob Parti mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffordd.
4.2 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn darparu sail i weithredu ymhellach gynlluniau sydd i'w cyflawni drwy drefniant partneru cadarn rhwng Trafnidiaeth Cymru (Gweithredwr trafnidiaeth aml-ddull Llywodraeth Cymru) a GBR, yn fwyaf arbennig GBR Wales and Borders / Cymru a’r Gororau, a fersiwn wedi'i diweddaru o gytundebau Cymru a'r Gorau a ystyrir yn y ddogfen hon.
4.3 Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn helpu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio er mwyn cyflawni eu gweledigaeth a rennir ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau, sef:
4.3.1 rheilffordd symlach a gwell i Ardal Cymru a'r Gororau;
4.3.2 cydweithio wedi'i rymuso rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR;
4.3.3 integreiddio aml-ddull yng Nghymru a chefnogaeth i system reilffyrdd integredig ledled Prydain Fawr;
4.3.4 gwaith rheoli system gyfan strategol a thryloyw, sy'n ystyried buddiannau'r sector cludo llwythi, mynediad agored a gweithredwyr trydydd parti eraill.
5. Egwyddorion Cyffredinol
5.1 Mae'r egwyddorion hyn a nodir gan y Partïon yn darparu'r fframwaith strategol y mae darpariaethau manylach y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn gweithredu o'i fewn, ac yn llywio'r gwaith o ddehongli, datblygu a chymhwyso'r trefniadau a nodir mewn adrannau dilynol:
5.1.1 Uchelgais a rennir i ddarparu rheilffordd symlach, well a mwy integredig ar gyfer defnyddwyr y rhwydwaith yn Ardal Cymru a'r Gororau.
5.1.2 Bydd y Partïon yn mynd ati i gydweithio ac yn disgwyl i'w cwmnïau, sef GBR a Trafnidiaeth Cymru, wneud yr un peth.
5.1.3 Caiff y rheilffordd yn Ardal Cymru a'r Gororau ei lywio gan Amcanion a Rennir y cytunir arnynt ac a gyhoeddir ar y cyd.
5.1.4 Disgwylir i'r gwaith cynllunio ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau gymryd safbwynt system gyfan, gan sicrhau bod seilwaith yn cael ei ystyried ynghyd â pherfformiad gwasanaethau a'r ffordd y cânt eu darparu a'u cyllido a chanlyniadau trafnidiaeth ehangach.
5.1.5 Penderfyniadau sy'n eithaf tebygol o gael effaith sylweddol ar wasanaethau, cyllid neu gyfrifoldebau yn Ardal Cymru a'r Gororau, bydd y Partïon neu eu cwmnïau yn ymgysylltu, lle y bo'n briodol, ar gam cynnar er mwyn deall yr effeithiau hynny cyn i benderfyniadau gael eu gwneud yn derfynol.
5.1.6 Ni ddylai diwygio'r system reilffyrdd nac ychwaith benderfyniadau cysylltiedig ynghylch y system gael effeithiau sylweddol, ariannol, gweithredol na risg ar y Parti arall.
5.1.7 Disgwylir i ddarpariaeth leol gael ei grymuso o fewn fframwaith i Brydain Fawr drwy sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y lefel effeithiol isaf ger cymunedau yr effeithir arnynt.
5.1.8 Disgwylir i GBR Wales and Borders / GBR Cymru a’r Gororau gael ei rymuso'n briodol er mwyn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau lleol effeithiol, o fewn fframwaith yr Amcanion a Rennir, dyletswyddau statudol a threfniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt.
5.1.9 Cydnabyddir statws Trafnidiaeth Cymru fel gweithredwr cyhoeddus pwysig â chyfrifoldebau eang eu cwmpas, gan gynnwys darparu gwasanaethau i deithwyr a bod yn berchen ar seilwaith rheilffordd a'i reoli.
6. Cymhwyso
6.1 Bwriedir i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn fod yn ddogfen “fytholwyrdd” sy'n pennu'r disgwyliad ar gyfer darparu'r rheilffordd yn Ardal Cymru a'r Gororau a chaiff ei hadolygu o dan y telerau a nodir yn y ddogfen.
6.2 Caiff y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ei gyflwyno fel Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU, a chaiff unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r Memorandwm hwn eu cyhoeddi'n rhagweithiol.
6.3 Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gymwys o'r dyddiad y'i llofnodir. Gall unrhyw gyfeiriad at GBR fod yn gymwys i unrhyw un o'i sefydliadau cyfansoddol (gan gynnwys Network Rail (NR)), os caiff ei lofnodi cyn i GBR gael ei sefydlu. Mae'r Partïon yn cydnabod mai dim ond pan ddaw darpariaethau perthnasol y Bil Rheilffyrdd i rym y bydd rhai elfennau o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gymwys, a allai fod yn broses iteraidd wrth i GBR gael ei sefydlu, gyda phrosesau llywodraethu yn addasu wrth i'r trawsnewidiad gael ei roi ar waith.
6.4 Mae gan y Partïon uchelgais a rennir y dylai trefniadau partneru rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR yn Ardal Cymru a'r Gororau ddatblygu dros amser er mwyn integreiddio gweithrediadau traciau a threnau ymhellach. Gellid gwneud hyn drwy amrywiaeth o ffurfiau cyfreithiol neu sefydliadol, gan gynnwys cyd-fentrau masnachol neu gorfforedig.
6.5 Ni fwriedir i unrhyw beth yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn roi rheolaeth na chyfrifoldeb gweithredol o ddydd i ddydd mewn perthynas â Llinellau Craidd y Cymoedd na gwasanaethau i deithwyr sy'n dechrau ac yn gorffen yng Nghymru i'r Ysgrifennydd Gwladol na'r Adran Drafnidiaeth na thanseilio cyfrifoldebau datganoledig Gweinidogion Cymru.
6.6 Nid yw'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn newid swyddogaethau statudol y Partïon mewn perthynas â rheilffyrdd a gwasanaethau rheilffordd.
6.7 Caiff yr adran hon ei hadolygu'n rheolaidd a'i datblygu dros amser, gan gynnwys drwy fireinio modelau sefydliadol, datblygu cytundebau gweithredu ategol a chysoni â chyfnodau cyllido yn y dyfodol.
6.8 Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi sut y bydd y Partïon yn cydweithio wrth iddynt arfer eu swyddogaethau a nodir mewn deddfwriaeth mewn perthynas ag Ardal Cymru a'r Gororau, yn arbennig eu cyd-ddealltwriaeth yn y cyd-destun hwnnw ynghylch:
6.8.1 Rôl y Partïon;
6.8.2 Mynediad a Defnydd;
6.8.3 GBR Cymru a’r Gororau / GBR Wales and Borders;
6.8.4 Trefniadau Partneru rhwng GBR a Trafnidiaeth Cymru;
6.8.5 Gwasanaethau Trawsffiniol i Deithwyr;
6.8.6 Llywodraethu Buddsoddiad Gwella
7. Rôl y partïon
7.1 Canlyniad: I'r Partïon ddeall eu rôl a'r egwyddorion sylfaenol wrth ddarparu'r rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau, gan gynnwys:
7.1.1 Amcanion a Rennir clir a gyhoeddwyd, sydd wedi cael eu cysoni a, lle y bo'n bosibl, eu hintegreiddio â chynlluniau busnes GBR a Trafnidiaeth Cymru sydd wedi'u llywio gan y ddwy lywodraeth, gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wella canlyniadau i ddefnyddwyr rhwydwaith Cymru a'r Gororau a sicrhau cydlyniant i'r sefydliadau cyflawni, o fewn eu priod swyddogaethau.
7.1.2 Sut y bydd y Partïon yn cydsynio cyn rhoi cyfarwyddyd ar swyddogaeth un o Weinidogion Cymru sydd wedi'i dirprwyo i GBR.
7.1.3 Eu priod rolau yn y broses llywodraethu a phenodi fel y mae'n ymwneud â Chymru a'r Gororau.
Cytundebau Cymru a'r Gororau
7.2 Caiff cytundebau cyfryngaeth Cymru a'r Gororau sy'n bodoli eisoes rhwng Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer darparu gwasanaethau trawsffiniol i deithwyr eu diwygio i adlewyrchu'n briodol sefydlu GBR, y diwygiadau a gynigir yn y Bil Rheilffyrdd a'r ymrwymiadau a nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn.
7.3 Bydd Cytundebau Cymru a'r Gororau yn amlinellu'r mecanweithiau ar gyfer cydymffurfio â'r Egwyddorion Cyffredinol (Adran 5 o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn).
7.4 Bwriedir i ddarpariaethau'r adran hon sefydlu fframwaith polisi a llywodraethu clir a fydd yn llywio fersiwn ddiwygiedig ac wedi'i chydgrynhoi o Gytundebau Cymru a'r Gororau ac a gaiff ei adlewyrchu ynddi, gan gynnwys trefniadau sy'n ymwneud â manyleb gwasanaethau, cyfrifoldebau cyllido, dyrannu risg a rheoli newid ar gyfer gwasanaethau Trawsffiniol i deithwyr.
7.5 Mae'r Partïon yn disgwyl i'r fersiwn ddiwygiedig o Gytundebau Cymru a'r Gororau gael ei datblygu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ond cyn i'r Bil Rheilffyrdd gael Cydsyniad Brenhinol, yn amodol ar basio deddfwriaeth a chwblhau unrhyw gymeradwyaethau angenrheidiol.
Yr Ysgrifennydd Gwladol yn Rhoi Cyfarwyddiadau i GBR
7.6 Fel y nodir yn y Bil Rheilffyrdd, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i roi cyfarwyddiadau i GBR a fydd yn llifo i lawr i'w is-gwmnïau neu gwmnïau y mae'n berchen arnynt ar y cyd ag eraill.
7.7 Wrth roi cyfarwyddiadau neu arweiniad, dylai'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried sut y gallai hyn effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru.
7.8 Os bydd Gweinidogion Cymru yn trefnu i GBR gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru ar eu rhan, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn rhoi cyfarwyddiadau neu arweiniad i GBR a allai dorri ar draws pwerau datganoledig Gweinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau i deithwyr a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru. Ni fydd hyn yn cynnwys y gyfundrefn fynediad na seilwaith a ariennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n faterion a gadwyd yn ôl.
7.9 Bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fecanwaith clir i olrhain y cyfarwyddiadau a'r arweiniad a roddwyd a bydd yn rhannu'r rhain yn rheolaidd â Gweinidogion Cymru.
Cynrychiolaeth GBR a Phenodiadau Iddo
7.10 Ymgysylltir â Gweinidogion Cymru ynghylch strategaeth recriwtio gyffredinol bwrdd GBR, gyda chyfle i amlinellu'r heriau a wynebir yng nghyd-destun rheilffyrdd Cymru, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ddigonol am y materion hyn ymhlith aelodau'r bwrdd.
7.11 Caiff Gweinidogion Cymru gyfle i awgrymu unigolion a allai ymgeisio am rolau'r Cadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol, a chânt godi unrhyw bryderon cyn i unigolyn gael ei benodi, drwy broses benodi gyhoeddus gadarn a thryloyw.
7.12 Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i Brif Swyddog Gweithredol GBR ymgynghori â Gweinidogion Cymru ynghylch penodi'r Rheolwr Gyfarwyddwr yn GBR Wales and Borders / GBR Cymru a’r Gororau yn ystod y broses recriwtio, er mwyn ystyried gwybodaeth briodol am faterion sy'n berthnasol i Gymru.
Adolygu a Diwygio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
7.13 Caiff y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ei adolygu'n rheolaidd gan y ddau barti (o leiaf bob cyfnod cyllido).
7.14 Bydd y Partïon yn adolygu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth o fewn chwe mis i'r dyddiad y cafodd y Bil Rheilffyrdd Gydsyniad Brenhinol.
7.15 Caiff y naill barti neu'r llall ofyn am i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gael ei adolygu ar sail ad hoc er mwyn adolygu cyflawniad yn erbyn y strwythurau a'r egwyddorion a gynigir ganddo.
7.16 Gellir diwygio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drwy gytundeb y naill barti a'r llall.
7.17 Unrhyw newid, penderfyniad neu fater arfaethedig sy'n codi o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth na ellir ei ddatrys drwy brosesau llywodraethu ar y cyd y cytunwyd arnynt gan GBR a Trafnidiaeth Cymru, neu a ystyrir yn berthnasol gan y naill barti neu'r llall, bydd y Partïon yn rhoi sylw dyladwy i'r mater.
7.18 Yn dilyn newidiadau i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn neu i Gytundebau Cymru a'r Gororau, caiff y Partïon adolygu'r strwythurau llywodraethu y maent (y Partïon) yn cydweithio drwyddynt.
7.19 Bydd y Partïon yn mynd ati i rannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith o ddarparu'r rheilffordd yn Ardal Cymru a'r Gororau, yn unol ag unrhyw gyfraith gymwys.
7.20 Bydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth yn parhau i gydweithio ar Ddiwygio'r System Reilffyrdd, gyda swyddogion yn uwchgyfeirio materion ar gyfer penderfyniad neu arweiniad mewnol drwy'r strwythur llywodraethu mewnol priodol.
Amcanion a Rennir a Chynllunio Cyfnodau Rheoli/Cyfnodau Cyllido ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau
7.21 Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn llunio ac yn cyhoeddi Strategaeth Reilffyrdd Hirdymor i Brydain Fawr, y mae Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion statudol ar ei chyfer. Bwriedir i'r Strategaeth Reilffyrdd Hirdymor bennu'r cyfeiriad a blaenoriaethau strategol cyffredinol ac ni fydd yn pennu dyraniadau cyllid, manylebau gwasanaethau na'r ffordd y caiff swyddogaethau datganoledig eu harfer.
7.22 Ar gyfer pob cyfnod, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn pennu'r fframwaith cynllunio a chyllido cenedlaethol drwy gyhoeddi'r canlynol:
7.22.1 Datganiad o Gyllid sydd Ar Gael, sy'n nodi'r cyllid sydd ar gael i Great British Railways ar gyfer y cyfnod cyllido:
7.22.2 Datganiad o Amcanion, sy'n nodi'r canlyniadau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw. Bydd pennod ar wahân ar gyfer Cymru a'r Gororau yn y ddogfen Datganiad o Amcanion gyffredinol.
7.23 Mae Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion statudol ar y Datganiad o Amcanion a byddant yn cyfrannu'n adeiladol at y gwaith o'i ddatblygu a'i gyflwyno.
7.24 Yn y fframwaith cyfnodau cyllido, bydd y Partïon yn datblygu ac yn cyhoeddi Amcanion a Rennir ar y cyd ar gyfer pob cyfnod cyllido.
7.25 Mae'r Amcanion a Rennir:
7.25.1 yn rhai strategol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau; a
7.25.2 bwriedir iddynt helpu i gysoni buddiannau a gadwyd yn ôl â buddiannau datganoledig yn Ardal Cymru a'r Gororau; a
7.25.3 maent yn wahanol i ddangosyddion perfformiad allweddol ac nid ydynt yn pennu manylebau gwasanaethau, penderfyniadau cyllido na'r ffordd y caiff swyddogaethau statudol y mae'r naill Barti neu'r llall yn llwyr gyfrifol amdanynt eu harfer.
7.26 Bydd yr Amcanion a Rennir yn rhai lefel uchel a strategol eu natur. Byddant yn bodoli ochr yn ochr â'r Datganiad o Amcanion ac yn cyd-fynd ag ef ac ni fyddant yn drech na nhw nac yn eu disodli.
7.27 Caiff y Partïon eu hysbysu o'r amserlen adolygu gyfnodol. Bydd y Partïon yn defnyddio'r amserlen i gynllunio a pharatoi'r Amcanion a Rennir a byddant yn cyfrannu at y broses o'u datblygu a'u cymhwyso wedyn yn y gwaith o ddarparu'r rheilffordd, yn Ardal Cymru a'r Gororau, drwy strwythurau llywodraethu ar y cyd priodol a pherthnasol a sefydlir rhwng y llywodraethau (Atodiad A).
7.28 Bydd y Partïon yn cyhoeddi eu Hamcanion a Rennir ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau ar y cyd ar gyfer pob cyfnod cyllido ac ochr yn ochr â'r Datganiad o Amcanion. Cânt eu cyhoeddi ar wefan GOV.UK a gwefan Llywodraeth Cymru ac fe'u gosodir fel datganiad gweinidogol ysgrifenedig gerbron y Senedd gan Ysgrifennydd Cabinet Cymru a gerbron Senedd y DU gan Ysgrifennydd Gwladol y DU. O fewn terfynau amcanion y Partïon, caiff yr Amcanion hyn a Rennir gwmpasu gwasanaethau i deithwyr, y sector cludo llwythi, mynediad agored a gweithrediadau seilwaith a gwaith cynnal a chadw, adnewyddu a gwella ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau (heb gynnwys Llinellau Craidd y Cymoedd).
7.29 O ran cyflwyno a chymhwyso'r Amcanion a Rennir, mater i GBR a Trafnidiaeth Cymru fydd dylunio sut y byddant yn gweithredoli yn erbyn eu priod amcanion mewn trefniant partneru.
7.30 Mae'r Partïon yn disgwyl i GBR, wrth lunio a chyflawni ei Gynllun Busnes, ystyried yr Amcanion a Rennir ochr yn ochr â'r Datganiad o Amcanion a'r Datganiad o Gyllid sydd Ar Gael ac esbonio sut mae ei weithgareddau arfaethedig ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau yn cyfrannu at gyflawni'r Amcanion hynny a Rennir o fewn y cyllid sydd ar gael.
7.31 Caiff yr Amcanion a Rennir eu hadolygu cyn pob cyfnod cyllido. Gellir sbarduno diweddariadau neu adolygiad os bydd unrhyw newidiadau i'r setliad datganoli neu newidiadau sylweddol i'r Trefniant Partneru rhwng cwmnïau'r Partïon.
8. Mynediad a defnydd
8.1 Canlyniad: Bod y Partïon yn cyd-fynd â'i gilydd o ran eu pwyntiau ymgysylltu a'u hegwyddorion fel y maent yn ymwneud â Chymru a'r Gororau wrth ystyried mynediad a'r defnydd o'r rheilffordd, fel y caniateir gan ddeddfwriaeth.
Rôl y Partïon o ran Mynediad a Defnydd
8.2 Mae dyletswydd statudol ar GBR i ystyried Strategaeth Drafnidiaeth Gweinidogion Cymru ac mae hynny'n cynnwys penderfyniadau ar fynediad a'r defnydd o'r rhwydwaith.
8.3 Bydd Gweinidogion Cymru yn ymgyngoreion statudol ar y Polisi Mynediad a Defnydd. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i GBR ymgynghori â Gweinidogion Cymru lle y gellid effeithio'n sylweddol ar eu buddiannau megis wrth ddatblygu neu ddiwygio'r Cynllun Capasiti Seilwaith, er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i'w hanghenion.
8.4 Mae'r naill Barti a'r llall yn cydnabod statws Trafnidiaeth Cymru fel gweithredwr trafnidiaeth aml-ddull yn y sector cyhoeddus a byddent yn disgwyl i hyn gael ei ystyried mewn dogfennau perthnasol sy'n ymwneud â mynediad a chodi tâl.
8.5 Bydd gofynion ymgynghori statudol yn gymwys yn ychwanegol at drefniadau cydweithio rhwng y Partïon ond ni fyddant yn eu disodli.
Trafnidiaeth Cymru a GBR ym maes Mynediad a Defnydd
8.6 Mewn perthynas â'r Cynllun Capasiti Seilwaith i'r graddau y mae'n effeithio ar Gymru a'r Gororau, mae'r Partïon yn disgwyl i GBR sicrhau bod Gweinidogion Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan weithredol yn y broses o ddatblygu unrhyw gynigion, gan adlewyrchu statws Trafnidiaeth Cymru fel gweithredwr trafnidiaeth aml-ddull yn y sector cyhoeddus i Gymru.
8.7 Mae'r Partïon yn disgwyl i GBR ystyried yr Amcanion a Rennir ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau wrth iddo ddatblygu'r Polisi Mynediad a Defnydd.
8.8 Yn ystod y cyfnod pontio i fframwaith mynediad a chodi tâl GBR, caiff trefniadau dros dro eu llunio er mwyn peidio â chynyddu cymhlethdod rheoleiddiol nac ariannol nac achosi niwed ariannol digyfiawnhad i Trafnidiaeth Cymru na GBR mewn perthynas â threfniadau sylfaenol presennol a chânt eu hadolygu ar y cyd gan y Partïon.
9. GBR Cymru a’r Gororau / GBR Wales and Borders
9.1 Bydd GBR Wales and Borders / GBR Cymru a’r Gororau wedi'i rymuso i ddatrys problemau gweithredol ac ariannol a phroblemau o ran perfformiad yn lleol lle y bo'n bosibl, yn unol â'r egwyddor y dylid gwneud penderfyniadau ar yr haen effeithiol isaf.
9.2 Bydd dyluniad GBR Wales and Borders / Cymru a’r Gororau yn ei alluogi i gyd-fynd yn strategol â Trafnidiaeth Cymru a bod wedi'i rymuso drwy ddyraniad cyllidebol cysylltiedig ar wahân.
9.3 Mae'r Partïon yn disgwyl i GBR Wales and Borders / Cymru a’r Gororau gynnwys awdurdod i wneud penderfyniadau, awdurdodau cyllidebol ac adnoddau sy'n gyfartal, o leiaf, â'r hyn sydd gan unedau busnes GBR.
9.4 Disgwylir i GBR Wales and Borders / Cymru a’r Gororau gael ei gynrychioli'n effeithiol ar lefel weithredol yn GBR.
9.5 Disgwylir i ddyluniad manwl cychwynnol GBR Wales and Borders / Cymru a’r Gororau adlewyrchu canlyniadau cydweithredol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, a chynnwys mewnbwn wedi'i arwain yn lleol cyn i GBR gael ei sefydlu.
9.6 Ymdrinnir â newidiadau mewn bywyd, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â daearyddiaeth, awdurdod dirprwyedig a chwmpas gweithrediad gwasanaethau trawsffiniol i deithwyr GBR, drwy broses glir a thryloyw, gyda mewnbwn lleol cyn gweithredu.
9.7 Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am ddeunydd brandio Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys ei wasanaethau a'i orsafoedd. Mae hyn y tu allan i gwmpas newidiadau ehangach i ddeunydd brandio GBR.
9.8 Bydd swyddogaethau rhwydwaith GBR yn sicrhau darpariaeth gydlynol i Brydain gyfan, yn ogystal â bod yn hyblyg i amrywiadau lleol, gan gynnwys yn Ardal Cymru a'r Gororau. Wrth wneud hynny, disgwylir i swyddogaethau rhwydwaith GBR helpu GBR Wales and Borders/Cymru a’r Gororau i gyflawni'r Amcanion a Rennir y cytunwyd arnynt gan y Partïon.
9.9 Bydd swyddogaethau rhwydwaith GBR a GBR Wales and Borders/Cymru a’r Gororau yn cyflawni rhwymedigaethau o ran y Gymraeg o dan ddeddfwriaeth Cymru a'r DU, gan gynnwys wrth gynllunio gwasanaethau digidol, gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y busnes. Gwneir hyn ar y cyd â gweithgareddau Trafnidiaeth Cymru ei hun.
10. Trefniadau Partneru rhwng GBR a Trafnidiaeth Cymru
10.1 Canlyniad: Darparu rheilffordd fwy ymatebol a gwydn drwy ddarparu rheilffordd symlach, well ac integredig i ddefnyddwyr rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Bydd penderfyniadau ar seilwaith, amserlennu a gwasanaethau a ddarperir—ochr yn ochr ag integreiddio rhwng modelau—yn ysgogi arbedion effeithlonrwydd gweithredol, yn lleihau dyblygu a chostau rhyngwyneb, yn meithrin arloesedd ac yn cynnig gwell gwerth am arian i'r cyhoedd.
10.2 Mae'r Partïon yn rhannu nod clir y dylai'r broses o integreiddio gweithrediadau traciau a threnau yn Ardal Cymru a'r Gororau wneud y canlynol:
10.1.1 gwella canlyniadau i deithwyr drwy brosesau gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig ar seilwaith, gwasanaethau, perfformiad a buddsoddi;
10.1.2 lleihau dyblygu, gweithio mewn seilos a chymhlethdod rheoleiddiol mewnol;
10.1.3 grymuso arweinwyr lleol yn Ardal Cymru a'r Gororau i ddatrys problemau ar y lefel ymarferol fwyaf effeithlon a phriodol;
10.1.4 galluogi Trafnidiaeth Cymru, fel gweithredwr datganoledig yn y sector cyhoeddus, i weithredu gyda'r system, y galluoedd a'r strwythurau llywodraethu a sefydlwyd gan GBR er mwyn helpu i integreiddio gweithrediadau traciau a threnau a chael budd ohonynt.
10.2 Disgwylir i GBR a Trafnidiaeth Cymru gyflawni'r Amcanion a Rennir ar gyfer Ardal Cymru a'r Gororau. Bydd Trafnidiaeth Cymru a GBR yn cydweithio drwy brosesau a rennir i ddatblygu trefniadau cynllunio busnes cydweithredol, strategaethau cyflawni ar y cyd a phrosesau adrodd ar y cyd a meincnodi.
10.3 Mae'r Partïon yn disgwyl i'r manylion hyn gael eu codeiddio yn y trefniant partneru yn y dyfodol ac i ddogfennaeth gael ei rhannu rhwng y sefydliadau hyn.
Trefniadau partneru
10.4 Mae'r Partïon yn disgwyl i Trafnidiaeth Cymru a GBR ymrwymo i drefniant partneru ffurfiol er mwyn integreiddio gweithrediadau traciau a threnau ymhellach yn Ardal Cymru a'r Gororau. Mae'r Partïon yn cydnabod bod unrhyw drefniant partneru yn wirfoddol ac yn amodol ar gymeradwyaethau yn y dyfodol.
10.5 Trefniant partneru rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR fel endidau cyfreithiol ar wahân yn hytrach nag un corff wedi'i integreiddio'n fertigol fydd hwn.
10.6 Er y bydd y trefniant partneru yn canolbwyntio'n bennaf ar Ardal Cymru a'r Gororau, nid yw ei gwmpas yn gyfyngedig o fewn GBR i'r swyddogaethau a gyflawnir gan GBR Wales and Borders / GBR Cymru a’r Gororau. Disgwylir i swyddogaethau canolog GBR gefnogi'r trefniant partneru ledled Ardal Cymru a'r Gororau, drwy waith cynllunio system gyfan, rheoli perfformiad a fframweithiau ariannol.
10.7 Bydd y trefniant partneru yn gweithio ar y sail:
10.7.1 bod atebolrwyddau statudol yn aros gyda'r priod endidau cyfreithiol;
10.7.2 bod rolau a chyfrifoldebau rhwng GBR a Trafnidiaeth Cymru wedi'u diffinio'n glir;
10.7.3 yr ymdrinnir ag unrhyw wrthdaro sy'n deillio o atebolrwyddau sy'n gorgyffwrdd drwy brosesau datrys gwrthdaro ac uwchgyfeirio.
Cynllunio Busnes ar y Cyd
10.8 Dylai gwaith cynllunio busnes ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Cymru a GBR gydnabod cyfyngiadau'r atebolrwyddau gwahanol ond ceisio cysoni, ymdrin â ac integreiddio lle y bo'n bosibl:
10.8.1 Gweithrediadau seilwaith a gwaith cynnal a chadw, adnewyddu a gwella;
10.8.2 manylebau gwasanaethau i deithwyr a'r gwaith o'u datblygu;
10.8.3 gwaith rheoli perfformiad, gwydnwch ac adfer;
10.8.4 dyraniadau cyllid, risgiau ariannol a blaenoriaethu;
10.8.5 blaenoriaethau o ran cyflawni ar gyfer gweithrediadau traciau a threnau.
10.9 Bydd GBR a Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol ac yn atebol yn annibynnol am gyflawni eu priod agweddau ar waith cynllunio busnes ar y cyd.
10.10 Bydd trefniadau integreiddio gweithrediadau traciau a threnau yn cefnogi model cyflawni ategol a chydweithredol i'r sector cyhoeddus.
10.11 Wrth gymeradwyo cynlluniau busnes eu priod gorff cyflawni, mae'r Partïon yn disgwyl gweld tystiolaeth bod prosesau cynllunio busnes cydweithredol wedi'u hymgorffori a bod y cynlluniau busnes yn dangos prosesau cyflawni wedi'u cysoni ar gyfer priod gyfrifoldebau Trafnidiaeth Cymru a GBR.
10.12 Mae'r Partïon yn disgwyl i Trafnidiaeth Cymru a GBR weithio mewn trefniant partneru i asesu effeithiau ariannol ac anariannol newidiadau sy'n effeithio ar brosesau cynllunio busnes ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys newidiadau a ysgogir gan y canlynol:
10.12.1 polisïau neu strategaethau'r naill lywodraeth neu'r llall;
10.12.2 newidiadau deddfwriaethol neu reoleiddiol;
10.12.3 newidiadau cyllido perthnasol, ailflaenoriaethu neu ddigwyddiadau annisgwyl.
10.13 Caiff penderfyniadau ariannol a phenderfyniadau buddsoddi eu llywio gan safbwynt system gyfan o ganlyniadau, yn hytrach na buddiannau sefydliadol seiliedig ar seilos.
10.14 Bydd cyfrifoldebau cyllido yn parhau i fod wedi'u diffinio'n glir, gyda mecanweithiau ar waith er mwyn atal dyblygu buddsoddi neu gyllido rhwng GBR a Trafnidiaeth Cymru.
10.15 Caiff GBR a Trafnidiaeth Cymru ymrwymo i drefniadau masnachol er mwyn darparu ar gyfer cydbwyso costau a manteision buddsoddiadau neu brosiectau, gyda'r bwriad o leihau costau rhyngwyneb systemau a gofynion o ran cymhorthdal. Caiff y cyfryw drefniadau gynnwys cyd-fentrau masnachol neu gorfforedig lle y bo'n briodol.
10.16 Mae'r Partïon yn disgwyl i GBR a Trafnidiaeth Cymru ddatblygu methodolegau i adlewyrchu addasiadau ariannol teg a thryloyw er mwyn galluogi canlyniadau y cytunwyd arnynt mewn modd gweinyddol effeithlon, mynd i'r afael â chanlyniadau system gyfan a nodi effaith cyllido ar y naill neu'r llall o'u cwmnïau.
11. Gwasanaethau Trawsffiniol i Deithwyr
11.1 Canlyniad: Fframwaith wedi'i gysoni rhwng y Partïon ar gyfer trefniadau llywodraethu ar y cyd a chyllido tryloyw sy'n ymwneud â gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd hanfodol y gwasanaethau hyn i gysylltedd, llesiant a datblygiad economaidd cymunedau yng Nghymru a Lloegr. Caiff y fframwaith hwn ei adlewyrchu drwy gytundebau rhyng-weinidigol wedi'u diweddaru er mwyn diffinio cyflawni gan Trafnidiaeth Cymru a GBR a galluogi cydweithio effeithiol, gan sicrhau, ar yr un pryd, y gall gweithredwyr Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol barhau i ddarparu gwasanaethau trawsffiniol yn Ardal Cymru a'r Gororau.
11.2 Ymdrinnir â'r trefniadau ar gyfer rheoli gwasanaethau trawsffiniol i deithwyr a newidiadau i wasanaethau o'r fath yn y dyfodol mewn Cytundebau Cymru a'r Gororau yn y dyfodol fel yr amlinellir ym mharagraffau 7.2-7.5 o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn.
11.3 Caiff cynigion ar gyfer gwasanaethau newydd neu newidiadau sylweddol i wasanaethau trawsffiniol i deithwyr sy'n bodoli eisoes, fel y'u diffinnir ym mharagraff 11.7, ar y cyd gan y Partïon neu Trafnidiaeth Cymru a GBR, fel y bo'n briodol, gyda'r gallu i'r naill gorff cyhoeddus neu'r llall (Trafnidiaeth Cymru neu GBR) ddarparu’r rhain.
11.4 Bydd y cynllun busnes ar y cyd yn ymdrin â mater darparu gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol â chyfrifoldebau a rennir am gynllunio gwasanaethau, perfformiad a goruchwyliaeth strategol, gan gadw priod atebolrwyddau ffurfiol am redeg y gwasanaethau.
11.5 Defnyddir llinell sylfaen i alluogi a datblygu parhad ar gyfer darparu gwasanaethau i deithwyr yng nghyd-destun perchenogaeth gyhoeddus, drwy briod gyrff y Partïon megis GBR a Trafnidiaeth Cymru.
11.6 Bydd cytundeb diwygiedig ar gyfer cyllid ac allbynnau sy'n adlewyrchu'r Amcanion a Rennir a'r dull cynllunio busnes ar y cyd yn briodol yn sicrhau bod goblygiadau o ran cymorthdaliadau yn cael eu hasesu'n dryloyw a'u rheoli'n deg.
Sefyllfa sylfaenol
11.7 Pan ddaw'r Bil Rheilffyrdd i rym, caiff llinell sylfaen o wasanaethau trawsffiniol i deithwyr, trefniadau cyllido a chyfrifoldebau cysylltiedig sy'n bodoli eisoes ei chofnodi. Bydd hyn yn cynnwys:
11.7.1 gwasanaethau a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru pan fo Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel asiantiaid yr Ysgrifennydd Gwladol.
11.7.2 gwasanaethau trawsffiniol a weithredir gan weithredwyr trenau o dan gontract a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu a ddarperir gan un o gwmnïau'r Adran Drafnidiaeth sy'n Weithredwr ac a gaiff eu gweithredu yn y dyfodol gan GBR.
11.8 Ni fwriedir i'r llinell sylfaen fod yn barhaol nac yn sefydlog ond dyma fydd y cyfeirbwynt y caiff effeithiau ariannol a gweithredol newidiadau yn y dyfodol eu hasesu yn ei erbyn.
12. Llinellau Craidd y Cymoedd
12.1 Canlyniad: Helpu Trafnidiaeth Cymru i integreiddio gweithrediadau traciau a threnau, lleihau cymhlethdod rheoleiddiol mewnol a datblygu fframwaith rhyngwyneb ar y cyd â GBR ar gyfer parhad gwasanaethau yn y ddau rwydwaith.
12.2 Mae'r adran hon yn nodi'r egwyddorion a'r prosesau y bydd y Partïon yn eu dilyn i gefnogi'r gwaith o integreiddio gweithrediadau traciau a threnau ar Linellau Craidd y Cymoedd, lleihau cymhlethdod rheoleiddiol a chymhlethdod costau a darparu gweithrediad di-dor wrth y rhyngwyneb rhwng y seilwaith a reolir gan Linellau Craidd y Cymoedd a GBR.
12.3 Mae'r darpariaethau yn yr adran hon yn gymwys i'r gwaith o reoleiddio a gweithredu Llinellau Craidd y Cymoedd a'u datblygu yn y dyfodol i'r graddau yr effeithir arnynt gan raglen ddiwygio'r system reilffyrdd a sefydlu Great British Railways. Bwriedir i'r adran hon weithredu ochr yn ochr â chyfrifoldebau datganoledig Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Llinellau Craidd y Cymoedd ac nid eu tanseilio.
Symleiddio a chysoni rheoleiddiol
12.4 Ni ddylai bodolaeth gwahanol gyfundrefnau rheoleiddiol sy'n gymwys i seilwaith a reolir gan GBR a Llinellau Craidd y Cymoedd arwain at gymhlethdod, cost nac oedi diangen.
12.5 Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod dyheadau Gweinidogion Cymru i leihau'r cymhlethdod a'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu Llinellau Craidd y Cymoedd, yn arbennig drwy weithredu seilwaith a gwasanaethau i deithwyr Llinellau Craidd y Cymoedd mewn modd integredig a lleihau cymhlethdod rheoleiddiol mewnol. Fodd bynnag, mae'r Partïon yn cydnabod y bydd y cyfle i fwrw ymlaen â'r cyfryw ddiwygiadau yn dibynnu ar gynnwys terfynol y Bil Rheilffyrdd.
12.6 Bydd y Partïon yn darparu rhagor o fanylion yn yr adran hon, yn unol â'r egwyddorion cyffredinol, unwaith y bydd y Bil Rheilffyrdd wedi cael Cydsyniad Brenhinol.
Trefniadau rhyngwyneb Llinellau Craidd y Cymoedd–GBR
12.7 Bydd Trafnidiaeth Cymru a GBR yn datblygu ac yn cynnal ar y cyd drefniadau rhyngwyneb a fydd yn llywodraethu mynediad, capasiti, perfformiad a chydgysylltu gweithredol wrth y ffin rhwng Llinellau Craidd y Cymoedd a seilwaith a reolir gan GBR.
12.8 Wrth ddatblygu'r cyfryw drefniadau, bydd Trafnidiaeth Cymru a GBR yn ystyried y canlynol:
12.8.1 y Polisi Mynediad a Defnydd a'r Cynllun Capasiti Seilwaith sy'n gymwys i seilwaith a reolir gan GBR;
12.8.2 gweithrediad gwasanaethau i deithwyr ar Linellau Craidd y Cymoedd;
12.8.3 unrhyw oblygiadau o ran gwasanaeth, seilwaith neu gyllid sy'n bodoli eisoes neu yr ymrwymwyd iddynt ar gyfer y dyfodol sy'n ymwneud â Llinellau Craidd y Cymoedd, gyda'r nod o gysoni hyd yr eithaf ac osgoi cost neu wrthdaro gweithredol ataliadwy wrth y rhyngwyneb rhwng Llinellau Craidd y Cymoedd a seilwaith a reolir gan GBR.
13. Llywodraethu Buddsoddiad Gwella
13.1 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn parhau i gael ei gydnabod yn ffurfiol fel corff strategol yn y fframwaith llywodraethu, gyda'i swyddogaeth i adolygu dyraniadau cyllid, cynlluniau busnes a pherfformiad cynlluniau gwella ledled Ardal Cymru a'r Gororau.
13.2 Bydd y Bwrdd yn goruchwylio'r broses strategol o gyflawni'r rhaglen wella a bydd yn rheoli'r llif blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
13.3 Caiff cylch gwaith Bwrdd Rheilffyrdd Cymru a ddisgrifir ym mharagraff 13.1 ei gyflawni bob amser yn unol â strwythurau llywodraethu a sicrwydd y gwahanol ffynonellau cyllid y bydd yn eu defnyddio.
13.4 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn rhoi cyngor i'r Partïon.
13.5 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn dwyn partneriaid cyflawni i gyfrif am gyflawni'r canlyniadau y cytunwyd arnynt, megis "Ymlaen, Gyda’n Gilydd: Gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau” sydd wedi'i chyhoeddi.
13.6 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn adlewyrchu aeddfedrwydd cynyddol gallu cyflawni Cymru.
13.7 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn ystyried y mecanweithiau llywodraethu mwyaf priodol ar gyfer gwelliannau i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau ar y cyd a gwaith rheoli newid mewn bywyd.
13.8 Caiff cadeirydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru ei benodi drwy broses y cytunwyd arni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
13.9 Caiff swyddogaeth ysgrifenyddiaeth Bwrdd Rheilffyrdd Cymru ei darparu gan Lywodraeth Cymru.
13.10 Bydd Bwrdd Rheilffyrdd Cymru yn rheoli newidiadau mewn bywyd drwy broses rheoli newid strwythuredig, gan gynnwys:
13.10.1 Hysbysu am newidiadau arfaethedig;
13.10.2 Asesu effeithiau ar gyllido, cyflawni a chysoni strategol;
13.10.3 Gwneud penderfyniadau ar y cyd a dogfennu newidiadau y cytunwyd arnynt;
13.10.4 Diweddariadau i gylchoedd gwaith, cynlluniau busnes a chanllawiau yn ôl yr angen.
Atodiad A: Cynllunio Busnes Cyfnodau Cyllido - Llinell amser ar gyfer datblygu Amcanion a Rennir
Yn yr Atodiad hwn:
- DoA = Datganiad o Amcanion (yr Adran Drafnidiaeth) (sef y Datganiad o Albynnau Lefel Uchel gynt)
- DoGAG - Datganiad o Gyllid sydd Ar Gael (yr Adran Drafnidiaeth)
Nodyn 1: Mae'r broses cynllunio busnes y tu hwnt i'w cham ffurfiol (a ddisgrifir isod) yn un barhaus (h.y. drwy reoli newid a hyd at gyflawni allbynnau a chanlyniadau). Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adlewyrchu'r dull gweithredu tymor hwy a pharhaus hwnnw, er ei fod yn cydnabod y bydd y mwyafrif o'r ymwneud rhyng-weinidogol ar y pwyntiau a ddisgrifir isod.
Nodyn 2: Rôl allweddol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw sicrhau ymwneud a dylanwad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o ran a) Cyngor Diwydiannol Cychwynnol Network Rail/GBR a b) DoGAG a DoA yr Adran Drafnidiaeth. Mae Cyflwyniad Cychwynnol Network Rail yn dylanwadu ar y DoGAG a'r DoA.
Pwyntiau ymgysylltu arfaethedig ar linell amser Cynllunio Busnes.
Mae a wnelo'r llinellau amser canlynol â Chyfnod Cyllido cyntaf GBR (2029-2034)
Cam 1 – Y cam hwn yw datblygu opsiynau a dewisiadau ar gyfer y Cyfnod Cyllido a llunio DoA ar gyfer y DU gyfan
- Cam 1a: Disgwylir i Network Rail/GBR ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyniad cychwynnol Network Rail/ GBR ac unrhyw gyflwyniadau perthnasol eraill i'r Adran Drafnidiaeth er mwyn ceisio cysoni amcanion a bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â GBR (Ion 2026 – Mawrth 2027)
- Cam 1b: Disgwylir i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch ei chyngor cychwynnol er mwyn ceisio cysoni a bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (Ion 2026 – Mawrth 2027)
- Cam 1c: Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei hamcanion ei hun i'r Adran Drafnidiaeth ochr yn ochr â hynny (erbyn Mawrth 2027)
Cam 2 – Y cam hwn yw datblygu'r DoA a Datblygu Amcanion a Rennir
- Cam 2a: Disgwylir i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ystod ei adolygiad o'r Cynllun Busnes arfaethedig (Mawrth 2027 – tymor yr Hydref 2027)
- Cam 2b: Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn ystod ei adolygiad (Mawrth 2027 – tymor yr Hydref 2027)
- Cam 2c: Bydd yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru ar y cyd yn mynd drwy gam cymeradwyo cyn i'r Adran Drafnidiaeth gyhoeddi'r DoGAG a'r DoA (cylch gwaith yr Adran Drafnidiaeth i'r diwydiant) (a gyhoeddir yn ystod tymor yr Hydref 2027)
Cam 3 – Y cam hwn yw'r broses barhaus o gyflawni'r cynllun busnes yn erbyn y Datganiad o Amcanion ac adrodd ar hynny.
- Cam 3a: Disgwylir i GBR a Trafnidiaeth Cymru barhau i fonitro eu cyflawni mewn cydgysylltiad â'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn erbyn y DoA, yr Amcanion a Rennir a'r Cynllun Busnes.
- Rhwng pob cam, disgwylir i Network Rail/GBR a Trafnidiaeth Cymru ddatblygu, cyhoeddi a chymdeithasoli Amcanion a Rennir er mwyn llywio'r cyflwyniadau anffurfiol a ffurfiol i'r ddwy lywodraeth.
- Ar bob cam o'r broses o ddatblygu a chyhoeddi'r DoGAG, y DoA a chynllun busnes GBR drwy gydol y broses, bydd “pennod” yn ymwneud yn benodol â Chymru a'r Gororau yn y ddogfen i Brydain Fawr gyfan.
