Heddiw (24 Mawrth) cyhoeddwyd bod £1.6m o gyllid newydd ar gael i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol mewn ysgolion dros y tair blynedd nesaf.
Bydd yn ariannu rhaglen iechyd meddwl a ddatblygwyd gan Anna Freud, elusen iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.
Mae Anna Freud yn defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf i ddylunio dulliau newydd o atal ac ymyrryd o ran salwch meddwl, gan gynnwys mewn ysgolion, mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau.
Bydd y cyllid yn cyflwyno'r rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles, i ddysgwyr ym Mlwyddyn 5 a Blwyddyn 7, i roi gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth iddynt ynghylch iechyd meddwl, diogelwch a sut i gael gafael ar gymorth.
Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles oedd y mwyaf addawol o sawl ymyrraeth iechyd meddwl ar gyfer ysgolion a dreialwyd trwy Education for Wellbeing, cynllun wedi ei reoli drwy neilltuo unigolion ar hap oedd hwn o dan arweiniad Anna Freud ac UCL a oedd yn cynnwys mwy na 30,000 o fyfyrwyr mewn ysgolion ledled Lloegr.
Bydd gwersi yn cael eu cyflwyno gan staff ysgol hyfforddedig a fydd yn cydweithio â dysgwyr ym Mlynyddoedd 5 a 7 i asesu a rheoli eu lles emosiynol a thrafod ble i droi os oes angen help arnyn nhw neu ffrind.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws pob ysgol yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r buddsoddiad hwn yn ychwanegu at gymorth sydd eisoes ar gael mewn ysgolion drwy'r dull ysgol gyfan, sy'n anelu at gefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff mewn ysgolion.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae cefnogi iechyd meddwl a lles ein dysgwyr yn hanfodol, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dod â'r rhaglen hon i ysgolion ledled Cymru.
Mae gan y rhaglen Strategaethau ar gyfer Diogelwch a Lles hanes cryf o helpu dysgwyr i ddeall eu hiechyd meddwl eu hunain ac, yn hanfodol, gwybod ble i droi pan fydd angen cymorth arnynt. Gan ei bod ar gael ym mhob ysgol, rydym yn cymryd cam gwirioneddol ymlaen wrth roi'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar bob plentyn i ffynnu.
Dywedodd Roisin McEvoy, Pennaeth Hyfforddiant Ysgolion a Rhaglenni Cenedlaethol sefydliad Anna Freud:
Rydym yn hynod gyffrous y bydd pob un o ysgolion y wladwriaeth ledled Cymru yn cael mynediad i'r rhaglen hon, sydd wedi'i seilio ar ymchwil ac sydd wedi'i chynllunio i helpu i atal salwch meddwl. Amcangyfrifir bod gan tua 1 o bob 5 o blant yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl y gellir ei adnabod; mae'n bwysicach nag erioed darparu cymorth cynnar mewn ysgolion.
Mae'r dull hwn yn gwella lles dysgwyr trwy normaleiddio emosiynau bob dydd, fel straen a thristwch, ac yn eu helpu i ddatblygu strategaethau ar gyfer rheoli teimladau a chefnogi eraill. Mae hefyd yn dangos ble a sut i gael mwy o help os oes angen. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i gyflwyno hyn mewn ysgolion a chefnogi plant a phobl ifanc ledled y wlad i ffynnu.
