Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â dynodi cyrsiau celfyddydau perfformio a chyrsiau cysylltiedig a ddarperir gan ddarparwyr heb eu rheoleiddio yn Lloegr dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

O dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae Gweinidogion Cymru yn dynodi cyrsiau ar gyfer cymorth i fyfyrwyr lle gellir dangos sicrwydd rheoleiddiol priodol. Mae hyn yn diogelu myfyrwyr a chyllid cyhoeddus fel ei gilydd. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi hir sefydledig sy’n caniatáu i ddarparwyr heb eu rheoleiddio geisio dynodiad penodol trwy broses diwydrwydd dyladwy a gynhelir gan Medr.

Yn 2025/26, arweiniodd gwendidau gweinyddol rhai darparwyr yn Lloegr ac o fewn y system freiniol ehangach at dderbyn myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau heb eu dynodi trwy gamgymeriad. Roedd angen ymyrraeth frys yn achos y myfyrwyr hynny. Mewn ymateb, mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi cryfhau’r prosesau gweinyddol, ac mae darparwyr heb eu rheoleiddio bellach yn deall nad yw eu cyrsiau breiniol wedi'u dynodi ar gyfer cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, rwyf wedi clywed yn glir iawn sut mae hyn yn effeithio ar ddysgwyr Cymraeg a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cryn nifer o sylwadau gan fyfyrwyr a darparwyr yn sector y celfyddydau perfformio, ynghyd â deiseb i’r Senedd â mwy na 10,000 o lofnodion. Mae llawer o fyfyrwyr eisoes wedi bod i glyweliadau neu wedi derbyn cynigion amodol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, heb sylweddoli'r sefyllfa o ran dynodi.

Yng ngoleuni'r amgylchiadau hyn a chan gydnabod pwysigrwydd galluogi myfyrwyr i gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol lle bo hynny'n briodol, rwyf wedi penderfynu mabwysiadu arfer dynodi dros dro mewn perthynas â chyrsiau celfyddydau perfformio penodol a chyrsiau cysylltiedig darparwyr heb eu rheoleiddio yn Lloegr ar gyfer 2026/27.

Bydd y penderfyniad hwn:

  • Yn helpu myfyrwyr a fyddai fel arall yn gorfod chwilio am ddarpariaeth amgen yn hwyr yn y cylch clyweliadau a recriwtio.
  • Yn caniatáu mynediad dros dro at gyrsiau arbenigol neu niche cyn yr adolygiad ehangach o’r polisi dynodi.
  • Yn sicrhau cydraddoldeb â myfyrwyr darparwyr eraill lle dilynir system dynodi penodol, sy'n derbyn cymorth wedi'i gapio ar y gyfradd ffioedd is (£6,525 yn 2026/27).
  • Yn cyfyngu ar y risg o ran cyllid cyhoeddus trwy gadw at y cap sefydledig ar ffioedd dysgu sy’n gymwys i ddarparwyr heb eu rheoleiddio.

Fodd bynnag, mae'n rhaid imi fod yn glir:

  • Mesur eithriadol dros dro am flwyddyn yw hwn. 
  • Nid yw'n disodli nac yn tanseilio proses diwydrwydd dyladwy Medr, sef y llwybr priodol o hyd ar gyfer dynodi tymor hir.
  • Tra bod y darparwyr perthnasol yn parhau heb eu rheoleiddio a chyrsiau heb eu dynodi, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gallu talu unrhyw ddiffyg ffioedd rhwng y benthyciad ffioedd is a'r ffi dysgu a godir gan y darparwr.
  • Ni ellir ymestyn y dull hwn am gyfnod amhenodol.

Ar gyfer y tymor hwy, bydd angen inni sicrhau nad yw’r sefyllfa hon yn digwydd eto ac rydym yn parhau i weithio gyda Medr, SLC a rhanddeiliaid i osgoi’r sefyllfa hon yn y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau i bolisi dynodi, a bydd angen inni gymryd hynny mewn i ystyriaeth.

Dylai myfyrwyr wneud cais am eu cyllid myfyrwyr yn y ffordd arferol gyda chefnogaeth ar gael gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.