Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn seiliedig ar ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf ADY’). Mae’n ategu Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (‘y Cod ADY’). 

Nid yw’n newid egwyddorion na gofynion statudol y ddeddfwriaeth berthnasol. Yn hytrach, mae’n darparu gwybodaeth er mwyn:

  • gwella dealltwriaeth o sut mae’r Ddeddf ADY a’r Cod ADY yn gymwys yn benodol i ddysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) 
  • cryfhau sut mae’r rhain yn cael eu gweithredu’n ymarferol ledled Cymru

Fe’i datblygwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol mewn ymateb i’r adolygiad deddfwriaethol o ADY. Nododd yr adolygiad feysydd lle roedd angen gwella eglurder, cysondeb a dealltwriaeth wrth gymhwyso fframwaith deddfwriaethol ADY.

Gellir diweddaru’r canllawiau hyn neu eu tynnu’n ôl ar unrhyw adeg i adlewyrchu:

  • newidiadau mewn deddfwriaeth
  • datblygiadau polisi
  • tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o ymarfer effeithiol

Pan fo’r canllawiau yn dweud ‘rhiant’, mae hyn yn cynnwys unrhyw berson nad yw’n rhiant ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â dyletswydd gofal dros blentyn.

Ar gyfer pwy mae’r canllawiau hyn

Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer:

  • awdurdodau lleol
  • cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir 
  • pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion
  • sefydliadau addysg bellach yng Nghymru
  • gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY

Gall hefyd fod o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol o sectorau eraill sy’n cefnogi dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn y cartref.

Deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

Trosolwg o leoliadau a darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol

Mae addysg heblaw yn yr ysgol (neu AHY) yn derm ymbarél i ddisgrifio ystod o leoliadau addysgol heblaw ysgolion. Fe’i trefnir gan awdurdodau lleol ac mae’n darparu addysg i ddysgwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol. 

Gellid cyfeirio dysgwyr at ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol am resymau gwahanol ac am gyfnodau amser gwahanol. Mae rhai darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol wedi’u cynllunio ar gyfer cyfnod penodol ac maent yn gweithredu fel trefniant dros dro. Yn yr achosion hyn, mae’r dysgwr:

  • yn mynychu lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol am gyfnod penodol
  • yn parhau i fod wedi’i gofrestru yn ei ysgol
  • yn dychwelyd i’w leoliad gwreiddiol 

Mewn achosion eraill, efallai y bydd angen addysg heblaw yn yr ysgol am gyfnod hirach, er enghraifft, lle mae gan ddysgwr anghenion meddygol cymhleth parhaus. 

Efallai y bydd angen darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol bwrpasol ar rai dysgwyr. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft:

  • pan fo’r dysgwr wedi’i wahardd o’r ysgol
  • pan fo’i anghenion yn gymhleth ac yn gofyn am ddarpariaeth arbenigol bwrpasol
  • pan fo’r awdurdod lleol yn comisiynu neu’n darparu addysg yn uniongyrchol i ddiwallu’r anghenion hynny

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal sydd ag anghenion cymhleth
  • dysgwyr sy’n hysbys i Wasanaethau Troseddau Ieuenctid

Efallai y bydd rhai dysgwyr yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol oherwydd:

  • iechyd meddwl gwael, fel gorbryder
  • problemau iechyd lle mae’r prognosis yn anhysbys

Fodd bynnag, ni ddylai addysg heblaw yn yr ysgol fod y sefyllfa ddiofyn ar gyfer diwallu anghenion dysgwyr â phroblemau iechyd meddwl.

Nodweddion allweddol darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol

Ym mhob lleoliad addysg, gan gynnwys lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol, dylai’r broses o gynllunio’r cwricwlwm fod yn seiliedig ar egwyddorion cynllunio’ch cwricwlwm

Mae dysgwyr sy’n mynychu lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol yn wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu. Maent yn mynychu’r lleoliadau hyn am wahanol resymau. Mae llawer wedi profi heriau yn eu bywydau sy’n fwy na’r rhai sy’n wynebu eu cyfoedion. 

Felly, mae angen cryfhau prosesau cynllunio a gweithredu’r cwricwlwm AHY drwy ddefnyddio’r elfennau canlynol:

  • meithrin a chryfhau iechyd a llesiant pob dysgwr
  • cydweithio systematig rhwng y dysgwr, rhieni neu ofalwyr, yr ysgol a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol
  • mynediad at gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr
  • cefnogi ailintegreiddio neu drosglwyddo dysgwyr sy’n derbyn AHY i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol
  • eu galluogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu’r byd gwaith

Mathau cyffredin o leoliadau AHY yng Nghymru

Unedau cyfeirio disgyblion 

Mae unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn darparu lleoliadau tymor byr neu ganolig i ddysgwyr. Eu bod yw ailintegreiddio dysgwyr i’r ysgol neu eu paratoi ar gyfer addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae UCD yn wahanol iawn i ysgol a gynhelir. Fodd bynnag, at ddibenion y Ddeddf ADY, diffinnir UCDau fel ysgol a gynhelir. Mae hyn yn sicrhau bod gan eu pwyllgorau rheoli yr un swyddogaethau sy’n ymwneud ag ADY â chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir o dan y Ddeddf ADY a’r Cod ADY. 

Tiwtora

Gallai hyn gynnwys darparu addysg un i un:

  • i ddisgybl, yn ei gartref neu mewn lleoliad addas arall
  • fel grŵp bach
  • tiwtora yn y gymuned

Sefydliadau addysg bellach 

Gall dysgwyr sydd wedi cael atgyfeiriad ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol fynychu sefydliadau addysg bellach ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol neu astudiaeth academaidd. 

Ysgolion annibynnol

Gall awdurdodau lleol gomisiynu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer dysgwr mewn ysgol annibynnol. 

Rhaid i ysgolion annibynnol sy’n derbyn dysgwyr sydd â chynllun datblygu unigol (CDU) fod wedi’u cofrestru gyda Llywodraeth Cymru er mwyn darparu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol benodol sy’n cael ei disgrifio yn eu CDU.

Addysg a hyfforddiant cysylltiedig â gwaith

Gall addysg heblaw yn yr ysgol gynnwys gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith sy’n ceisio datblygu sgiliau galwedigaethol. 

Lleoliadau eraill

Gall darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol hefyd ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau eraill hefyd, megis:

  • addysg ar-lein
  • ysgolion ysbyty
  • sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol

Rhaid i ysgolion neu leoliadau addysgol eraill fod wedi’u cofrestru fel ysgol annibynnol os ydynt yn darparu addysg amser llawn ar gyfer un o’r canlynol:

  • 5 neu fwy o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol
  • o leiaf un disgybl o oedran ysgol gorfodol sydd â CDU

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio lleoliadau cofrestredig i ddiwallu anghenion addysgol dysgwyr sydd angen AHY. Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau pan fydd defnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael mewn lleoliadau heb eu cofrestru yn briodol ar gyfer rhan o addysg dysgwr. Os yw lleoliad yn darparu holl addysg y plentyn, rhaid i’r lleoliad fod wedi’i gofrestru.

Gall awdurdodau lleol hefyd gomisiynu darpariaeth AHY mewn lleoliadau y tu allan i Gymru. Gallai hyn gynnwys ysgolion neu leoliadau sydd wedi’u cofrestru gyda’r Adran Addysg (DfE) ac a arolygir gan gorff priodol (megis Ofsted). 

Byddai angen i baneli awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ym mhob achos unigol. Byddai angen iddynt fod yn sicr bod pob lleoliad yn addas i ddiwallu anghenion addysgol, llesiant a diogelu’r dysgwr.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau

O dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas i blant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol am resymau megis:

  • salwch
  • gwaharddiad
  • amgylchiadau eraill lle efallai na fyddant yn derbyn addysg addas yn absenoldeb trefniadau o’r fath

Mae addysg addas yn golygu addysg effeithlon sy’n addas i’r plentyn o ran:

  • oedran
  • gallu
  • dawn
  • unrhyw anghenion dysgu ychwanegol y gall fod gan y plentyn

Mae gan awdurdodau lleol bŵer hefyd i wneud yr un peth mewn perthynas â phobl ifanc (dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 18 oed).

Dyletswyddau

Ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY sy’n derbyn darpariaeth AHY, bydd gan bwyllgor rheoli’r UCD neu’r awdurdod lleol ddyletswyddau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r system ADY. 

Mae Pennod 18 o’r Cod ADY yn esbonio’r cyfrifoldebau hyn yn fanylach (gweler paragraffau 18.9 i 18.16). 

Mae deddfwriaeth berthnasol arall yn cynnwys:

  • Pennod 17 o’r Cod ADY 
  • Rheoliadau 7 i 9 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021
  • Atodlen 1 i Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 

Mae’r rhain yn nodi sut i benderfynu a oes gan berson ifanc nad yw wedi’i gofrestru mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi cofrestru fel myfyriwr mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru:

  • anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant
  • a fydd angen llunio a chynnal, neu barhau i gynnal, CDU ar gyfer y person ifanc

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol

Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r diffiniad yn adran 3 o’r Ddeddf ADY a’i gymhwyso i’r angen a’r amgylchiadau unigol. Nid oes unrhyw ddiffiniad cyfreithiol penodol neu wahanol ar gyfer darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol.

Os na all dysgwr dderbyn addysg addas mewn ysgol oherwydd ei allu i ddysgu, yna dylid adlewyrchu’r anghenion hyn yn adran 2A o’r CDU. Gallai hyn gynnwys:

  • ymddygiad
  • anghenion datblygiad emosiynol a chymdeithasol (gweler paragraff 2.37 o’r Cod ADY)

Wrth gwblhau CDU ar gyfer dysgwr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, dylai’r DDdY yn adran 2B gyfateb yn uniongyrchol â’r ADY a ddisgrifir yn adran 2A. Dim ond y DDdY sydd ei hangen i ddiwallu’r ADY a nodwyd y dylid ei disgrifio yn y CDU. 

Gall y DDdY sy’n diwallu ADY y dysgwr orau fod yn wahanol yn dibynnu ar y math o sefydliad y mae’n ei fynychu. Mae lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol yn amrywio, ac felly hefyd y math o addysg y maent yn ei ddarparu. 

Felly, gellir ystyried natur wahanol y lleoliad a’r addysg a ddarperir mewn lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol wrth lunio neu adolygu’r CDU. 

Mae Pennod 23 o’r Cod ADY yn darparu canllawiau pellach ar sut i gwblhau CDU. Mae’n tynnu sylw at yr angen i bob DDdY ganolbwyntio ar ganlyniadau. 

Caniateir adolygu CDUau ar unrhyw adeg, ac mewn achosion pan fo proses bontio yn annisgwyl, gallai fod yn briodol adolygu CDU i ystyried a yw’r DDdY yn parhau i fod yn briodol yn y lleoliad newydd.

Felly, dylai’r corff cyfrifol ystyried adolygu CDU presennol cyn i ddysgwr ddechrau derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol neu yn fuan wedyn. Yna gellir diwygio’r CDU i adlewyrchu’r newid lleoliad neu i gynnwys DDdY ychwanegol neu wahanol (gweler isod am wybodaeth am ba gorff sy’n gyfrifol mewn gwahanol senarios).

Gwahaniaeth rhwng addysg ddewisol yn y cartref ac addysg heblaw yn yr ysgol

Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg a ddarperir neu a gomisiynir gan yr awdurdod lleol. Fe’i darperir i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr sydd, am ba reswm bynnag, yn methu â mynychu ysgol brif ffrwd neu ysgol arbennig. Er bod gan ysgolion a gynhelir bwerau i ariannu neu gyfeirio disgyblion at ddarpariaeth allanol, nid yw hyn yn gyfystyr ag addysg heblaw yn yr ysgol ffurfiol.

Addysg ddewisol yn y cartref yw’r term a ddefnyddir pan fydd rhieni wedi gwneud y penderfyniad i addysgu eu plentyn eu hunain yn hytrach na’i anfon i’r ysgol. Ni fydd plant sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref wedi’u cofrestru mwyach ar gofrestr derbyniadau ysgol. Mae rhieni sy’n dewis addysgu eu plentyn yn y cartref yn derbyn y cyfrifoldeb cyfreithiol am ddarparu ‘addysg addas’. 

Mae’n bwysig bod penderfyniad rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref yn ddewis cadarnhaol. Pan fydd plant yn dechrau ymddieithrio o’u haddysg, disgwylir i awdurdodau lleol weithio gyda’r dysgwr a’i deulu i:

  • ddeall a oes angen cymorth ychwanegol arno 
  • ystyried sicrhau DDdY

A oes angen cynllun datblygu unigol (CDU) ar bob dysgwr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol

Nid oes angen CDU i dderbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. 

Efallai y bydd gan ddysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol ADY. Os caiff ei ddwyn i’w sylw, bydd dyletswydd ar yr UCD neu’r awdurdod lleol i benderfynu a oes gan y dysgwr ADY. Dim ond dysgwyr sy’n bodloni’r prawf cyfreithiol ar gyfer ADY sydd angen CDU. 

Mae canllawiau yn nodi sut y dylai ysgolion a gynhelir (gan gynnwys UCDau) ac awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn gwneud a chyfathrebu penderfyniadau tryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Efallai na fydd dysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol yn gallu mynychu neu gymryd rhan mewn addysg am resymau sy’n gysylltiedig â’u ADY. Dylai’r dysgwyr hyn barhau i gael CDU wedi’i gynnal ar eu cyfer. Mae’n debygol y bydd angen adolygiad cynnar i sicrhau bod ei gynnwys, yn enwedig y DDdY y mae’n ei chynnwys, yn briodol yng nghyd-destun amgylchiadau newydd y plentyn neu’r person ifanc.

Sut mae awdurdodau lleol yn sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysgol, gan gynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY), mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysgol a ddarperir mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw DDdY a ddisgrifir mewn CDU y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn neu berson ifanc ag ADY. 

Fel arfer, bydd y lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarparwr cofrestredig. Mae hyn yn galluogi Estyn i archwilio’r lleoliad a’r addysg y mae’n ei darparu. 

Os yw awdurdodau lleol yn defnyddio lleoliadau heb eu cofrestru i gyflwyno rhan o addysg heblaw yn yr ysgol y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys rhan o DDdY y dysgwyr, maent yn gyfrifol am:

  • sicrhau ei hansawdd
  • cymryd camau i ddarparu’r sicrwydd hwnnw

Canllawiau sicrhau ansawdd addysg heblaw yn yr ysgol

Bydd canllawiau fframwaith comisiynu ac atgyfeirio addysg heblaw yn yr ysgol yn cael eu cyhoeddi yn 2027 a byddant yn cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau ansawdd darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Bydd y canllawiau’n amlinellu’r disgwyliadau ar gyfer unrhyw sefydliad sy’n darparu gwasanaethau i ddysgwyr y mae eu haddysg yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol ynghylch:

  • addysg
  • diogelu
  • llesiant 

Bydd yn:

  • cynnig canllawiau clir i sefydliadau sy’n dymuno darparu gwasanaethau addysg heblaw yn yr ysgol
  • cefnogi awdurdodau lleol yn y broses hon

Addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer dysgwyr dros 16 oed

Mae gan awdurdodau lleol bŵer i ddarparu darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ar gyfer pobl ifanc (dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 18 oed).

Mae adran 19(4) o Ddeddf Addysg 1996 yn datgan:

Y caiff awdurdod lleol yng Nghymru wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg addas heblaw mewn ysgol ar gyfer pobl ifanc yn ardal yr awdurdod na fyddant o bosibl, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, yn derbyn addysg addas am hynod oni bai bod y trefniadau hynny’n cael eu gwneud ar eu cyfer.

Mae adran 53 o’r Ddeddf ADY yn galluogi awdurdod lleol i drefnu i DDdY gael ei gwneud fel addysg heblaw yn yr ysgol. Rhaid i’r canlynol fod yn gymwys:

  • mae’r DDdY ar gyfer plentyn (o oedran ysgol gorfodol)
  • rhaid i’r awdurdod lleol fod yn fodlon y byddai’n amhriodol i’r DDdY gael ei gwneud mewn ysgol

Gall pobl ifanc dros 18 a hyd at 25 oed sydd ag ADY barhau i gael CDU wedi’i gynnal ar eu cyfer. Rhaid i’r awdurdod lleol barhau i gynnal y CDU, oni bai a nes bod unrhyw un o’r amgylchiadau yn digwydd sy’n arwain at y ddyletswydd i’w gynnal yn dod i ben. Nodir y gofynion hyn ym Mhennod 29 o’r Cod ADY. Fodd bynnag, nid oes gan y dysgwyr hyn (18 i 25 oed) hawlogaeth i ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Senarios

Mae plentyn neu berson ifanc yn parhau i fod wedi’i gofrestru gydag ysgol neu sefydliad addysg bellach

Gall plentyn neu berson ifanc barhau i fod wedi’i gofrestru fel disgybl mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach wrth dderbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. Yn y sefyllfa hon, byddai’r ysgol neu’r sefydliad addysg bellach yn parhau i gynnal y CDU oni bai bod yr awdurdod lleol yn penderfynu cymryd cyfrifoldeb am gynnal y CDU neu eisoes yn cynnal y CDU.

Er enghraifft, gall plentyn barhau i fod yn ddisgybl cofrestredig wrth dderbyn hyfforddiant unigol yn y cartref neu yn yr ysbyty, oherwydd salwch. Yn yr enghraifft hon, gall yr awdurdod lleol benderfynu ei bod yn briodol cymryd cyfrifoldeb am gynnal yr CDU.

CDU a gynhelir gan awdurdod lleol

Dysgwr sydd eisoes â CDU cyn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol 

Bydd dyletswydd ysgol neu sefydliad addysg bellach i gynnal CDU ar gyfer dysgwr yn dod i ben os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr cofrestredig. 

Yn yr achos hwn, mae’r awdurdod lleol cyfrifol yn debygol o fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY. Os yw’n penderfynu bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, mae’r dyletswyddau i lunio a chynnal CDU yn debygol o fod yn gymwys. 

Dylai’r awdurdod lleol allu gwneud y pethau hyn yn gyflym yng ngoleuni’r CDU blaenorol. 

Uned cyfeirio disgyblion 

Os yw plentyn neu berson ifanc sydd â CDU a gynhelir gan ysgol yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn UCD ar unwaith, yna bydd pwyllgor rheoli'r UCD yn dod yn gyfrifol am gynnal yr CDU. 

Dysgwr nad oes ganddo CDU eto sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol

Os yw plentyn neu berson ifanc nad oes ganddo CDU yn cael ei addysgu drwy ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (ond nad yw mewn UCD), ac mae’n dod i sylw’r awdurdod lleol perthnasol neu’n ymddangos iddo fel arall y gallai’r plentyn neu’r person ifanc fod ag ADY, rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, oni bai bod eithriad yn gymwys. Yn y senario hon, os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, rhaid iddo lunio’r CDU yn unol â’i amserlenni cyffredinol (yn brydlon neu, sut bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos). 

Cofrestriad deuol

Gall plentyn neu berson ifanc fod yn ddisgybl â chofrestriad deuol, gyda’r ysgol a’r UCD yn darparu addysg. Yn y sefyllfa hon, fel disgybl â chofrestriad deuol, rhaid i’r awdurdod lleol fod yn gyfrifol am gynnal y CDU. Gweler paragraff 28.11 o’r Cod ADY am ragor o wybodaeth.

Geirfa a diffiniadau cyfreithiol

Mae’r adran hon yn cynnwys geirfa a diffiniadau cyfreithiol a ddefnyddiwyd trwy gydol y canllawiau hyn.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

(Adran 2 o’r Ddeddf ADY)

  1. Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p’un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 
  2. Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd:
    1. os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu
    2. os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach
  3. Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn isadran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud. 
  4. Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY)

(Adran 3 o’r Ddeddf ADY)

  1. Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran:
    1. mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru
    2. mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu
    3. mannau yng Nghymru lle darperir addysg feithrin
  2. Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
  3. Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

Addysg heblaw yn yr ysgol

(Adran 19A (1) o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)

Each local authority in Wales must make arrangements for the provision of suitable education at school or otherwise than at school for children within the authority’s area who:

  1. are of compulsory school age, and
  2. by reason of illness, exclusion from school or otherwise, may not receive suitable education for a period unless such arrangements are made for them

Addysg amser llawn

Er nad oes unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o ‘addysg amser llawn’ yng Nghymru, dylai awdurdodau lleol ystyried y ffactorau perthnasol canlynol wrth benderfynu a yw’r addysg sy’n cael ei darparu ar gyfer dysgwr penodol yn addysg ‘amser llawn’.

Mae’r ffactorau yn cynnwys: 

  • nifer yr oriau’r wythnos a ddarperir, gan gynnwys amseroedd egwyl ac amser astudio annibynnol
  • nifer yr wythnosau yn y tymor academaidd neu’r flwyddyn academaidd pan gaiff yr addysg ei darparu
  • yr amser o’r dydd pan gaiff yr addysg ei darparu
  • a yw’r ddarpariaeth addysg yn atal y posibilrwydd o ddarparu addysg amser llawn yn rhywle arall
  • mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys

Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau)

(Adran 10 o’r Ddeddf ADY)

At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol⁠⁠:

  • disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person
  • disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani
  • unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon

Dysgwr

Yn y canllawiau hyn, defnyddir y term ‘dysgwr’ yn gyffredinol i gyfeirio at unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn addysg neu hyfforddiant.

Rhiant

(adran 576 o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)

  1. In this Act, unless the context otherwise requires, “parent”, in relation to a child or young person, includes any person:
    1. who is not a parent of his, but who has parental responsibility for him, or
    2. who has care of him

Disgybl

Yn y canllawiau hyn, ystyr ‘disgybl’ yw person y mae addysg yn cael ei darparu ar ei gyfer mewn ysgol i blentyn neu i berson ifanc nad yw wedi troi’n 19 oed. 

Addysg addas

(Adran 436A o Ddeddf Addysg 1996) (Saesneg yn unig)

In this Chapter, “suitable education” in relation to a child [of compulsory school age], means efficient full-time education suitable to his age, ability and aptitude and to any special educational needs he may have (in the case of a local authority in England) or suitable to the child’s age, ability and aptitude and to any additional learning needs the child may have (in the case of a local authority in Wales).

Manylion cyswllt

Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cymorth i Ddysgwyr
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: YGangenAnghenionDysguYchwanegol@llyw.cymru