Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae hosbisau yn chwarae rôl hollbwysig sy’n hynod werthfawr i bobl yng Nghymru, gan ddarparu gofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i’r rhai sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ac ar ddiwedd eu hoes.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sydd angen gofal lliniarol a diwedd oes yn gallu cael mynediad at gymorth amserol, o ansawdd uchel, sy’n diwallu eu hanghenion, eu dewisiadau a’u hamgylchiadau, lle bynnag y bydd ei angen arnynt.
Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi blaenoriaethu rhaglen waith sylweddol i gryfhau gofal lliniarol a diwedd oes, mewn partneriaeth â’r hosbisau, y GIG a’r sector ehangach. Mae hyn wedi cynnwys darparu rhagor o gyllid, cryfhau’r arweinyddiaeth, datblygu’r gweithlu a buddsoddi mewn gwasanaethau profedigaeth.
Heddiw, rwy’n lansio dull o Gomisiynu Gofal Hosbis yng Nghymru a ddatblygwyd gan y Cyd-bwyllgor Comisiynu a’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes.
Er bod hosbisau yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n system iechyd a gofal, gan ddarparu gwasanaethau arbenigol i gleifion mewnol ac yn y gymuned, mae anghysondeb wedi bod yn y modd y datblygodd trefniadau comisiynu dros amser. O ganlyniad, mae dulliau cyllido a chynaliadwyedd hirdymor y ddarpariaeth ledled Cymru, yn ogystal â’r mynediad ati, yn amrywio.
Mae’r canllawiau newydd yn gam pwysig ymlaen. Maent yn nodi’r egwyddorion comisiynu cyffredin, yn egluro’r disgwyliadau o ran ymarfer da ac yn darparu cyfarwyddyd ymarferol i gomisiynwyr a darparwyr dros y tymhorau byr, canolig a hir.
Maent hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer gwneud rhagor o waith, gan gynnwys asesu’r anghenion yn genedlaethol, datblygu manyleb gwasanaeth craidd a symud tuag at fodel comisiynu cenedlaethol mwy cynaliadwy o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Bydd y canllawiau newydd yn sicrhau bod pob gwasanaeth hosbis:
- Yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth fel y’u haseswyd
- Yn uchel eu hansawdd ac yn canolbwyntio ar y canlyniad
- Yn cael eu comisiynu mewn modd teg ar draws y byrddau iechyd
- Yn dryloyw ac yn gymesur o ran eu trefniadau cyllid ac adrodd
- Yn gynaliadwy yn ariannol dros y tymor hir
Rwyf hefyd yn darparu heddiw gymorth ariannol ychwanegol yn ystod y flwyddyn i hosbisau i’w helpu i fodloni’r heriau sy’n cael eu hachosi gan gostau ynni cynyddol, prinder o ran y gweithlu, a’r galw cynyddol am ofal a chymhlethdod cynyddol y gofal hwnnw.
Rwy’n darparu £4.3m yn ychwanegol i helpu i sefydlogi gwasanaethau hosbis i blant ac oedolion ledled Cymru. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi darparwyr i gynnal gwasanaethau hanfodol, gan ddiogelu capasiti o ran staff a sicrhau dilyniant mewn gofal o ansawdd uchel i gleifion a’u teuluoedd ar adeg dyngedfennol. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd blynyddol o £3m yn y cyllid i hosbisau yng Nghyllideb Cymru 2025-26, ac mae’n golygu ein bod wedi darparu rhagor na £25m o gyllid ychwanegol i gefnogi hosbisau yn ystod y Senedd hon.
Gyda’i gilydd, mae’r cyllid sefydlogi a’r dull comisiynu yn becyn cymorth ar gyfer y sector hosbisau – pecyn cymorth sy’n darparu rhyddhad ariannol ar unwaith gan osod llwybr clir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, tuag at gynaliadwyedd a thegwch tymor hwy.
O dan arweinyddiaeth y rhaglen genedlaethol a chan weithio’n agos gyda’r byrddau iechyd, yr hosbisau a phobl sydd â phrofiad bywyd, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau. Wrth fwrw ati, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu gofal lliniarol a diwedd oes o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i bawb sydd ei angen yng Nghymru.
